Sut ddechreuoch chi fragu?
Rwy’n hoffi coginio, ac i mi, mae hyn yn debyg i goginio, ond gyda phethau gwahanol. Roeddwn i’n chwilio am newid gyrfa, ac rwy’n mwynhau yfed cwrw, felly 10 mlynedd yn ôl es i ar gwrs bragu. Dim ond 26 bragdy oedd yng Nghymru ar y pryd, ac erbyn hyn mae dros gant. Mae ’na rai bragdai rhagorol yma. Mae gennym ni fwy o gwrw sydd wedi ennill gwobrau i bob pen o’r boblogaeth yng Nghymru nag unrhyw le arall yn y byd, dwi’n meddwl. Rydym ni’n bur dda am wneud hyn!
Sut beth oedd eich cynnig cyntaf ar wneud cwrw?
Ro’n i eisiau creu cwrw oedd yn hawdd i’w yfed, gydag alcohol o tua 4.2%, er mwyn rhoi digon o swmp a blas iddo. Ro’n i eisiau iddi fod yn ddiod y byddech chi eisiau mynd yn ôl am yr ail beint. Mae modd creu cwrw ardderchog, sy’n llawn o flasau cyfoethog… ond ar ôl yfed un, dyna ddigon. Enw fy nghwrw cyntaf oedd Sunshine. Dyw e ddim wedi newid ers i mi ei greu, a dyma fy ngwerthwr gorau o gasgen hyd heddiw.


Beth sy’n achosi i un cwrw flasu’n wahanol i un arall?
Bydd mathau gwahanol o furum yn rhoi ystodau rhyfeddol o wahanol o flas. Yna, mae gyda chi eich bragau. Mae gan bob un ei nodweddion ei hun, o rai fel pridd a phorfa, i’r rhai sy’n meddu ar flasau aeron tywyll, sitrws neu ffrwythau trofannol, hyd at flas gwaddod coffi a thost wedi llosgi. Felly byddwch chi’n mynd ati i’w cymysgu i gael y lliw a’r blas o’ch dewis. Ac yna gallwch chi ychwanegu unrhyw beth ddymunwch chi, a gweld a fydd e’n gweithio. Fe wnaethon ni greu cwrw arbrofol diweddar gan ddefnyddio leim a lemonwellt. Ac rydym ni wedi treialu un â syltanas, sudd masarn a sinamon i greu cwrw yn arddull pwdin Dolig. Ac rwyf wrth fy modd pan ddaw hi’n hydref – mae ein cwrw masarn Maple yn gwtsh cysurlon, cyfoethog mewn gwydr.
Oes gennych chi eich ffefryn o blith cwrw Monty’s?
Os yw hi’n ddiwrnod poeth, does dim i guro gwydraid da o Desert Rat: mae’n oer, mae’n adfywiol, mae’n hawdd ei yfed. Ond os ydw i’n teimlo yn y felan neu angen rhywbeth i godi’r ysbryd, yna Dark Secret yw’r cwrw bob tro. Rydw i wrth fy modd ag amrywiaethau tymhorol: dwi’n dwlu ar Maple yn yr hydref, ac yna Ding Dong adeg y Nadolig.
Sut fyddwch chi’n meddwl am yr enwau?
Rydym ni’n ymdrechu i roi enw addas iddyn nhw. Mae Mischief yn 5% ABV – y cwrw cryfaf oedd gennym ni bryd hynny, ond roedd yn yfed fel pe bai ond yn gwrw 4% – felly roedd ychydig yn ddireidus os oeddech chi’n yfed gormod. Enwyd Old Jailhouse ar ôl tafarn ein bragdy, y Sportsman yn y Drenewydd, a arferai fod yn garchar y dref. Mae Desert Rat yn eithriadol o sych. Best Offa yw cwrw swyddogol Llwybr Clawdd Offa, ac rydym ni’n cyfrannu 3c y peint i’w gynnal. Mae Dark Secret a Masquerade yn ddau gwrw di-glwten sydd gennym. Felly maen nhw’n cymryd arnynt i fod yn gwrw, ond maen nhw’n digwydd bod yn ddi-glwten.
Pam ddechreuoch chi wneud cwrw di-glwten?
Ro’n i’n gwneud arddangosfa fasnachol ac roedd pob yn ail ymwelydd â’r stondin yn sôn eu bod nhw’n methu â goddef glwten neu’n seliag. Pe bawn i byth yn cael diagnosis o fethu â goddef glwten, ac felly’n cael gwybod na chawn i ddim yfed cwrw ar ôl hynny, byddwn i braidd yn ypset, felly fe wnes i ymchwilio i ddulliau gwahanol o wneud cwrw di-glwten oedd yn dal i flasu’n dda. Ni oedd y cyntaf yng Nghymru i wneud hynny, ac mae’n farchnad enfawr sy’n tyfu. Rydym ni’n gwerthu llawer yn Sgandinafia, ble maen nhw’n ymwybodol iawn o’u hiechyd.



Sut ddaeth pobl y Ffindir i glywed am Monty’s?
Trefnodd Llywodraeth Cymru daith bwyd a diod i’r Ffindir a Sweden yn 2015, ac erbyn hyn rydym ni’n gwerthu yn y gadwyn archfarchnadoedd fwyaf yn y Ffindir. Mae hynny wedi bod yn wych i ni. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn hynod gefnogol. Gallan nhw weld fod hybu cynhyrchwyr llai, sy’n gwneud rhywbeth yn dda, yn ffordd o gael Cymru i gystadlu mewn marchnad fyd-eang. Allwn ni ddim â chystadlu â chynnyrch rhad sy’n cael eu cynhyrchu ar raddfa eang, ond rydym ni’n gwneud pethau crefftus yn arbennig o dda.
Ydy hi’n wir fod gwartheg yn mwynhau cwrw Monty’s hefyd?
Ydy! Mae ’na fferm tua thair milltir i ffwrdd ble mae Ifor Humphreys yn magu eidion Wagyu Cymreig. Pan fyddwn ni’n rhoi’r cwrw yn y gasgen neu’r botel, mae’r darn cyntaf yn cynnwys gormod o furum i bobl ei yfed, ac mae’r darn olaf yn cynnwys gormod o waddodion. Felly, pryd bynnag y byddwn ni’n bragu, bydd dwy neu dair casgen dros ben, a bydd y rheiny’n mynd at Wagyu Cymreig Ifor, a byddan nhw’n cael dau neu dri pheint y dydd. Mae’r eidion yn blasu’n anhygoel.
