Anelwch am Fae Caerdydd ble gwelwch ddau o adeiladau modern mwyaf trawiadol Cymru ochr yn ochr â’i gilydd: y Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a Chanolfan Mileniwm Cymru, ein canolfan gelfyddydau genedlaethol. Dyma ddarlun hollol briodol o’r modd y mae’r celfyddydau perfformio’n greiddiol i fywyd Cymru.

Mewn mantell o lechi a chopr pefriog, ynghyd ag addurn o farddoniaeth Gymraeg a Saesneg, mae Canolfan Mileniwm Cymru’n cynnal popeth o sioeau cerdd teithiol enfawr a pherfformiadau dawns ffantastig i ddatganiadau rhad ac am ddim dros amser cinio yn y cyntedd. Mae’n gartref parhaol i ystod eang o sefydliadau celfyddydol, gan gynnwys Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Llenyddiaeth Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC - yn ogystal ag Opera Cenedlaethol Cymru, a ddisgrifiwyd gan neb llai na’r New York Times fel un o gwmnïau ensemble operatig gorau Ewrop.



Codi’r llen
Profiad gwefreiddiol yw treulio amser mewn awditoriwm fel Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm, neu Neuadd y Brangwyn yn Abertawe, a’i phaneli blodeuog godidog (a gomisiynwyd yn wreiddiol ar gyfer Tŷ’r Arglwyddi, ond a wrthodwyd am eu bod yn rhy lliwgar). Ond mae’r sîn gelfyddydol yng Nghymru yr un mor ddyledus i berfformiadau ar raddfa tipyn llai mewn lleoliadau mwy agos-atoch.


Mae Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug yn ganolbwynt ar gyfer y celfyddydau yng ngogledd Cymru gan gynhyrchu dramâu nodedig a phantomeim hwyliog a welir gan dros 32,000 o bobl bob blwyddyn. Bydd Venue Cymru yn Llandudno, ar arfordir y gogledd, yn cynnal adloniant byw o bob math, o operâu i grwpiau pop. Ac mae gan Theatr y Sherman yng Nghaerdydd enw da iawn am fentro gyda chynyrchiadau arbrofol. Hon oedd y theatr gyntaf yng Nghymru i dderbyn gwobr Theatr Ranbarthol y Flwyddyn y DU yng ngwobrau The Stage.
Mae gennym hefyd Theatr Genedlaethol Cymru, sy’n cynhyrchu dramâu yn Gymraeg a’i chwaer gwmni Saesneg ei iaith, National Theatre Wales. Eu cenhadaeth yw ymestyn y tu hwnt i leoliadau traddodiadol, gan lwyfannu cynyrchiadau ar glosydd fferm, mewn siediau cadw awyrennau, clybiau nos a neuaddau pentref. A thros yr haf, mae modd manteisio ar y nosweithiau hirion drwy gynnig theatr a ffilm yn yr awyr agored – gan gynnwys digwyddiadau yn ein cestyll mawreddog.


Gwyliau bach a mawr
Mae’r eisteddfod, sy’n rhannol yn ddathliad o ddiwylliant Cymraeg ac yn rhannol yn gystadleuaeth, yn sefydliad unigryw i Gymru. Y mwyaf yw’r Eisteddfod Genedlaethol, sy’n teithio rhwng gogledd a de Cymru am yn ail bob blwyddyn. Dyma’r ŵyl gerddoriaeth a barddoniaeth fwyaf yn Ewrop, a gall olrhain ei gwreiddiau’n ôl at eisteddfod gyntaf yr Arglwydd Rhys yn 1176. Bydd dros 6,000 o gystadleuwyr yn cymryd rhan, a safon y cystadlu a’r perfformio’n eithriadol o uchel.
Drwy gydol y flwyddyn, clywir curiad gwyliau cerddorol yng Nghymru."
Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd hefyd yn teithio o gwmpas Cymru, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc o dan 25 brofi gwefr y cystadlu. Ond aros yn ei hunfan – o ran lleoliad, o leiaf – fu hanes yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol, a gynhaliwyd yn Llangollen er 1947, gan ddenu perfformwyr o dros 50 o wledydd y byd. Ymysg yr enwogion a ddringodd i ben ei llwyfan mae Luciano Pavarotti, Y Fonesig Kiri Te Kanawa a Syr Bryn Terfel.
Drwy gydol y flwyddyn, clywir curiad gwyliau cerddorol yng Nghymru. Gŵyl y Dyn Gwyrdd yw hanfod gŵyl dda - cymysgedd o gerddoriaeth, comedi, barddoniaeth a chwmni braf sy’n addas ar gyfer y teulu cyfan, wedi’i leoli yn harddwch dramatig Bannau Brycheiniog. Os ydych chi’n caru cerddoriaeth glasurol, Gŵyl Gregynog yw’r lle i fod, ym mhlasty deniadol Neuadd Gregynog ger y Drenewydd ym Mhowys: digwyddiad a gynhaliwyd gyntaf yn 1933.

Mae gan Gottwood, gŵyl cerddoriaeth ddawns electronig, leoliad anarferol ar lan llyn heddychlon - fel arfer - ger Caergybi ar Ynys Môn, a lleoliad gyda’r harddaf ar gyfer unrhyw ŵyl yn y Deyrnas Unedig yn ôl The Independent. Bob mis Hydref, wrth i’r nosweithiau dywyllu, mae gwyl Sŵn yn dod i Gaerdydd, gyda phedwar diwrnod o gigs ledled y ddinas.
Ond, wrth gwrs, does dim angen aros am ŵyl benodol i glywed cerddoriaeth fyw, boed hynny’n sêr rhyngwladol enfawr neu’n dalent ar ei brifiant. Waeth beth sydd at eich dant, yn jazz, gwerin, roc tanddaearol neu gerddoriaeth siambr, mae modd canfod sîn bywiog a ffyniannus yng Nghymru.


Gair a gweithred
Mae adrodd straeon yn rhan o wead bywyd Cymru. Erbyn hyn, sefydlwyd Gŵyl y Gelli – 'Woodstock of the mind', yn ôl Bill Clinton – fel dathliad llenyddol pennaf Ewrop. Daw tref farchnad fechan y Gelli Gandryll, sy’n adnabyddus eisoes fel ‘tref y llyfrau’, yn weriniaeth y gair ar glawr, ble gallwch glywed rhai o awduron a meddylwyr mwyaf y byd yn siarad a thrafod.
Cynhelir cyfoeth o ddigwyddiadau llai, mwy agos-atoch ymhob cwr o Gymru. Pwrpas Beyond the Border, a gynhelir bob dwy flynedd yng ngerddi Castell San Dunwyd ym Mro Morgannwg, yw diogelu a throsglwyddo straeon gwerin o bob diwylliant yn y byd. Ar y llaw arall, pwrpas Merthyr Rising yw talu teyrnged fywiog i ddiwylliant dosbarth gweithiol y dref ble codwyd y faner goch fel symbol o wrthryfel am y tro cyntaf erioed.



Ac yna, chwaraeon. Mae gan rygbi le arbennig iawn yng nghalon y genedl. Gallwch fynd i Stadiwm Principality i weld cyngherddau roc a ralïau tryciau enfawr yn ogystal â gemau rygbi, ond yn ôl llawer does yr un sŵn a all gystadlu â’r rhu sy’n codi wrth i dîm rygbi Cymru ymddangos ar y cae ar gyfer gêm yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad. Rydym ni wedi cynnal 21 gêm yn ystod pedwar twrnamaint Cwpan Rygbi’r Byd yn ogystal.
Cynyddodd poblogrwydd hirhoedlog pêl-droed yn ddiweddar o ganlyniad i lwyddiant y tîm cenedlaethol, enwogrwydd byd-eang seren Cymru a Real Madrid, Gareth Bale, a’r ffaith fod gan Gymru dîm yn yr Uwch-gynghrair (er nad yr un tîm bob tymor, cofiwch). Prin y cewch chi ddiwrnod gêm lawer yn fwy na Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn 2017.

Os nad yw hynny wedi bodloni eich chwaeth, mae gan Gaerdydd faes criced rhyngwladol yng Ngerddi Soffia, a lle i bron i 16,000 o bobl wylio gemau prawf. Yn 2010, daeth Cwpan Ryder y byd golff i westy’r Celtic Manor. Ac mae hyn oll heb i ni ddechrau sôn am Rali GB Cymru, Grand Prix y Speedway, bocsio yn Stadiwm Principality… mae’r calendr chwaraeon yn orlawn gydol y flwyddyn.
Waeth beth fo’r achlysur, bydd cynulleidfaoedd Cymru’n clecian gan ynni – ac rydym ni’n hael iawn ein cymeradwyaeth.