Mae ‘na ddywediad yn y Gymraeg, cenedl heb iaith, cenedl heb galon - ac mae'n deg dweud fod ein hiaith ni'n dal i fod wrth galon ein diwylliant cenedlaethol. Mae’r iaith Gymraeg yn eiddo i bob un yng Nghymru, p’un ai ydyn nhw’n ei siarad hi ai peidio; mae’n rhan o’n hetifeddiaeth gyffredin, o’r enwau llefydd a welwn o’n cwmpas bob dydd, i’n hanthem genedlaethol.


Siaredir yr iaith gan dros hanner miliwn o bobl ac mae llawer mwy na hynny yn medru ei deall hi. Ychydig o flynyddoedd yn ôl, mi wnes i gyfres deledu i weld be fase’n digwydd petawn i'n teithio ar hyd a lled Cymru gan siarad Cymraeg yn unig. Arbrawf ieithyddol oedd hwn, ond mi ges i fy siomi ar yr ochr orau. Gwelais fod llawer o bobl yn medru mwy o Gymraeg nag oedden nhw wedi tybio (hyd yn oed mewn ardaloedd oedd yn bennaf Saesneg eu hiaith, fel y Fenni neu Wrecsam), ac yn bwysicach na hynny, bod nhw’n fodlon defnyddio’u Cymraeg hefo mi, hyd yn oed os mai ychydig o eiriau’n unig oedd ganddyn nhw.
Mae 19% o’r boblogaeth gyfan yn medru’r Gymraeg, ond wrth gwrs mewn sawl ardal yn y gorllewin, hi yw prif iaith y gymuned, yr iaith a glywir yn y siopau a’r bysus, ac ar y stryd. (Mae yna hefyd gymunedau alltud pur sylweddol yn Lloegr - a chefais innau fy magu yn y gymuned Gymraeg yn Llundain, lle mae un ochr o 'nheulu wedi byw ers y 1880au.)
Mae'r Gymraeg yn ymddangos ochr yn ochr â'r Saesneg ym mhob maes erbyn hyn, ac mae ganddi'r un statws yn gyfreithiol."
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu cynlluniau i sicrhau y bydd gan ein hiaith filiwn o siaradwyr unwaith yn rhagor, erbyn 2050. Bellach, mae pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i ddysgu’r iaith ac mae’r galw am addysg gyfrwng Cymraeg wedi tyfu’n gyson, yn enwedig yng Nghaerdydd a’r De-ddwyrain.
O ganlyniad, mae'r iaith yn cael ei siarad gan bobl o sawl cefndir ethnig erbyn hyn, gyda siaradwyr o dras Asiaidd ac Affricanaidd yn ogystal â rhannau eraill o Ewrop. Ond mae'r Gymraeg wedi bod yn iaith gynhwysol erioed. Mae'n cynnwys geiriau wedi eu benthyg o Ladin, o'r Wyddeleg, Norseg, Ffrangeg Normanaidd ac wrth gwrs, o'r Saesneg.


Mae'r gwreiddiau'r iaith serch hynny, yn ein cysylltu ni â'r teulu Celtaidd. Mae'r Llydaweg a'r Gernyweg yn chwaer-ieithoedd i'r Gymraeg; mae'r Wyddeleg, Gaeleg yr Alban a'r Fanaweg yn gyfnitheroedd iddi.
Gellir dyddio'r farddoniaeth gyntaf yn y Gymraeg yn ôl i'r 6ed ganrif – rhyw 800 o flynyddoedd cyn i Chaucer ddechrau ysgrifennu yn y Saesneg! Ac mae beirdd Cymru yn dal i gael eu hanrhydeddu yn flynyddol gennym yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yr ŵyl gelfyddydau fwyaf o'i math yn Ewrop. Mae Eisteddfod yr Urdd hithau yn un o brif wyliau Ewrop hefyd, gan ddenu 40,000 o gystadleuwyr ifanc bob blwyddyn. Mae Matthew Rhys, Bryn Terfel, Cerys Matthews, ac Ioan Gruffydd ymhlith y rhai sydd wedi ymelwa o'u profiadau cynnar yn yr eisteddfod hon.


Fel mae'r enwau uchod yn awgrymu, dyw'r iaith ddim yn rhwystro diwylliant Cymru rhag gwneud ei farc tu hwnt i'r ffin. Mwng gan y Super Furry Animals oedd yr albym Gymraeg gyntaf i gyrraedd 20 uchaf y siartiau Prydeinig, ac mae'r ffilmiau Hedd Wyn a Solomon a Gaenor ill dwy wedi cael eu henwebu ar gyfer Oscar. Ar S4C y gwelwyd rhaglenni plant fel Sam Tân gyntaf, er iddyn nhw gael eu gwerthu wedyn i wledydd ar draws y byd. Yn fwy diweddar, mae'r gyfres ddrama Y Gwyll wedi mwynhau llwyddiant tebyg. Ond yn bwysicach na hynny, mae S4C a Radio Cymru yn cynnig ffenest Gymraeg ar ein byd ar gyfer y gwylwyr a'r gwrandawyr nôl adre, boed hynny yn Llandeilo neu yn Llundain.
Mae'r Gymraeg wedi bod yn barod erioed i fanteisio ar y cyfryngau diweddaraf. Argraffwyd y llyfrau cyntaf yn Gymraeg yn ôl yn y 1540au, a chan mlynedd yn ôl roedd 'na 25 papur newydd wythnosol yn cael eu cyhoeddi yn ein hiaith. Mae'r traddodiad hwnnw yn parhau hyd heddiw, gyda chyhoeddiadau fel Y Cymro a Golwg mewn print, ond hefyd drwy wefannau newyddion, fel BBC Cymru Fyw a Golwg 360.
Mae'r Gymraeg yn ymddangos ochr yn ochr â'r Saesneg ym mhob maes erbyn hyn, ac mae ganddi'r un statws yn gyfreithiol. A fedrwn ni gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050? Pam stopio'n fanno?
Mae'r Gymraeg a'r Saesneg wedi cyd-fodoli yng Nghymru ers canrifoedd bellach - ac efallai fod ein profiad hir o ddwyieithrwydd yn rhywbeth y byddai'n fuddiol inni rannu hefo gwledydd eraill o'n cwmpas, wrth i ni hawlio ein hetifeddiaeth yn ôl.