Mae dros 135,000 o fyfyrwyr wedi cofrestru yn ein 8 prifysgol a 14 coleg a sefydliad addysg bellach. Yn eu plith ceir cynrychiolaeth o dros 170 o wledydd, a phawb wedi’u denu gan ddiwylliant o ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil.

Mae prifysgolion Cymru’n cynnig ystod eithriadol o arbenigeddau. Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd yw’r hynaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae cyn-fyfyrwyr mewn ystafelloedd newyddion o Los Angeles i Sydney yn falch o ddefnyddio’r hashnod '#CardiffTrained' ar Twitter.

Ym Mhrifysgol Bangor, mae’r Ganolfan Ymchwil Dwyieithrwydd sydd mor uchel ei pharch ledled y byd yn gymydog i’r Ysgol Gwyddorau Môr, un o’r adrannau gwyddor môr mwyaf yn Ewrop.

Mae gan ddarganfyddiadau ymchwil o Gymru effaith genedlaethol, byd-eang a hyd yn oed rhyng-ofodol. Er enghraifft, mae Prifysgol Bangor wedi bod yn arloesi ym maes ymchwil i Therapi Gwybyddol Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT) i drin iselder, gan arbed arian ac amser i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ac ym Mhrifysgol Abertawe, bwriad Canolfan Wybodaeth ac Arloesi SPECIFIC yw trawsnewid adeiladau’n bwerdai bach fydd yn gallu cynhyrchu a storio’u hynni solar eu hunain, gan ryddhau unrhyw warged yn ôl i’r grid cenedlaethol.

Mae gan ddarganfyddiadau ymchwil o Gymru effaith genedlaethol, byd-eang a hyd yn oed rhyng-ofodol."

Draw ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Grŵp Ymchwil Roboteg Gofod Gwyddorau Cyfrifiadurol wedi bod yn helpu i chwilio am fywyd ar y blaned Mawrth. Pan fydd yr ExoMars 2020 Rover yn glanio i ddechrau archwilio’r Blaned Goch, bydd yn cynnwys technoleg a ddatblygwyd ac a raddnodwyd yng Nghymru.

Welsh research breakthroughs have a national, global and even interplanetary impact."

Over at Aberystwyth University, the Computer Science Space Robotics Research Group has been helping in the search for life on Mars. It has worked on projects including Beagle2 and the ExoMars 2020 Rover and continues to work on future Mars missions.

Addysgu ar gyfer y 21ain ganrif

Mae ysgolion a cholegau Cymru hefyd yn derbyn her addysgu ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae yma ryddid mawr i arloesi a bod yn wahanol. Datganolwyd polisi addysg Cymru, a Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddeddfu yn y maes. Mae’n golygu fod system addysg Cymru’n wahanol i rai Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Un gwahaniaeth mawr yw’r cyfle i siarad Cymraeg yn yr ysgol. O gylchoedd meithrin a grwpiau Ti a Fi, mae’r dull trwytho’n helpu plant bach i ddysgu’r iaith, a dysgir Cymraeg fel pwnc i bawb hyd at 16 oed. Mae nifer gynyddol o rieni’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n rhugl. Bellach, mae bron i chwarter o holl blant oedran cynradd Cymru’n derbyn addysg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Golwg agos o'r ARWYDDBOST Cymraeg yn pwyntio at yr atyniadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Merch yn astudio ar fainc ym Mharc Bute, Caerdydd
Astudiaethau Cymraeg

Mae Cymru’n enwog am farddoniaeth a cherddoriaeth, ac mae creadigrwydd yn greiddiol i addysg. Ceir yma ddiwylliant celfyddydol ffyniannus, yn gerddorfeydd ysgol a grwpiau drama llawr gwlad i gwmnïau mawr eu bri fel Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Cymru, a sefydlwyd yn 1945, y gyntaf o’i math yn y byd. Cynhelir eisteddfodau mewn ysgolion yn flynyddol, i annog plant i berfformio, boed drwy ganu, llefaru, dawnsio neu actio.

Efallai fod digon o gestyll yma yng Nghymru, ond does dim tyrrau ifori. Mae addysg yn rhywbeth i’w werthfawrogi er ei les ei hun ac er budd y gymdeithas."

Yr un yw’r hanes gyda chwaraeon. Bydd ysgolion yn annog pawb i gymryd rhan, gan feithrin rhagoriaeth pan ddaw i’r amlwg – weithiau’n rhyfeddol o lwyddiannus. Ni ellir peidio â chrybwyll Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, hen ysgol pêl-droediwr dewiniaidd Cymru a Real Madrid, Gareth Bale, enillydd y Tour de France, Geraint Thomas, a chyn-ghapten tîm rygbi Cymru a'r Llewod, Sam Warburton.

Gareth Bale yn gweithredu Cymru v Iwerddon cynrychiolydd
Gareth Bale ar y bêl

Mae gan Gymru dreftadaeth addysgol falch. Y geiriau a gerfiwyd ar garreg sylfaen Llyfrgell Ganolog Caerdydd yw: 'Libraries gave us power'. Dyma linell agoriadol cân y Manic Street Preachers, A Design for Life, ac mae’n adleisio’r ffaith fod addysg yn bwysig i bawb yma.

Myfyrwyr yn cerdded yn y coridor, Prifysgol Bangor
Myfyrwyr yn Llyfrgell Prifysgol Bangor
Prifysgol Bangor

Yn wir, i lyfrgell Sefydliad y Gweithwyr yn Nhredegar y rhoddodd neb llai nag Aneurin Bevan, tad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y clod am ei addysg gynnar. A phan gynlluniwyd prifysgol ym Mangor am y tro cyntaf, codwyd yr arian yn rhyfeddol o gyflym drwy gyfraniadau gwirfoddol pobl leol, chwarelwyr a ffermwyr yn eu plith.

Efallai fod digon o gestyll yma yng Nghymru, ond does dim tyrrau ifori. Mae addysg yn rhywbeth i’w werthfawrogi er ei les ei hun ac er budd y gymdeithas.

Learn even more about higher education in Wales at Study in Wales.

Straeon cysylltiedig

Syrffwyr a van, Rest Bay

Cwestiwn o gydbwysedd

Mae taith i’r gwaith gyda golygfeydd, syrffio ar ôl gwaith a gwyliau penwythnos yn ei gwneud hi'n bosibl dod o hyd i'r cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith yng Nghymru.

Pynciau: