A ble allwch chi sefyll ar gopa uchel a gweld golygfeydd o bedair gwlad, caiacio trwy ddyfroedd yr Iwerydd gyda dim ond morloi chwilfrydig yn gwmni, a mwynhau gwledd seren Michelin cyn cerdded adref dan awyr glir yn llawn sêr – a hyn i gyd o fewn yr un diwrnod?

Croeso i Gymru. 

Croeso i Gymru, gwlad ar ymyl gorllewinol Prydain. Mae gennym hanes hir, tirwedd hardd a baner heb ei hail – yr un gyda’r ddraig goch arni. Rydym yn bobl eithaf cyfeillgar hefyd, ac rydym wrth ein bodd yn estyn croeso twymgalon. (Ac mae ein croeso yn enwog – pa bryd bynnag y bydd awduron teithio yn sôn am Gymru wrth grynhoi’r cyrchfannau gorau, caiff ein lletygarwch ei ganmol i’r un graddau â’n tirwedd hardd.) I’r bobl hynny sy’n aros yn hwy, cânt gyfle i fwynhau cydbwysedd bendigedig rhwng bywyd a gwaith, mewn cymuned gref a chanddi opsiynau di-rif i lenwi eu hamser hamdden.

Er bod Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig, rydym yn wahanol i’n cyfeillion yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Rydym yn siarad iaith farddonol sy’n wahanol i’r Saesneg, ac yn llawer hŷn – sef Cymraeg. Iaith a chanddi harddwch telynegol sy’n mynegi gwir enaid Cymru. Byddwn yn defnyddio rhywfaint o Gymraeg ar y safle hwn, ond byddwn yn cyfieithu popeth i’r Saesneg er mwyn ichi allu dechrau gwerthfawrogi hyfrydwch barddonol y Gymraeg.

Mae Cymru yn wlad falch. Rydym yn rhan o’r Deyrnas Unedig, a hefyd rydym yn wlad yn ein rhinwedd ein hunain, gyda llywodraeth ddatblygedig a Senedd sy’n pasio ei chyfreithiau ei hun. Mae oddeutu 3.1 miliwn o bobl yn byw yma, mewn gwlad sy’n llawn o amrywiaeth ddaearyddol anhygoel. Mae oddeutu chwater Cymru, o’r mynyddoedd i’r môr, yn Barciau Cenedlaethol neu’n Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Yng Nghymru mae gennym ddwediad. Gwnewch y pethau bychain.

Gwneud pethau da — i'n gilydd, i'n gwlad, i'r byd. Tydi gwneud pethau da erioed wedi bod mor bwysig. Mae pobl ledled y byd yn dyheu am ffyrdd gwell, mwy cynaliadwy o fyw, gweithio, teithio, dysgu a gwneud busnes.

Credai Dewi Sant, nawddsant Cymru, mai gwneud y pethau bychain oedd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Dyw'r ymadrodd hwn erioed yn fwy perthnasol, ac mae wedi cymryd ystyr sylweddol o arbennig i gynulleidfaoedd ledled y byd yn ystod y pandemig coronafeirws, gyda llawer o bobl yn gwneud pethau da i helpu eraill, a dod o hyd i lawenydd a hapusrwydd ym mhleserau symlaf bywyd.

Rydym yn eich gwahodd i ‘Addo’.  Mae ein diwydiannau, ein cymunedau a'n rhanbarthau yn paratoi i sicrhau bod Cymru'n ddiogel. Rydym yn gofyn i bobl fuddsoddi'n emosiynol yng Nghymru a dangos eu bod nhw, fel ni, eisiau gofalu ac ein bod ni i gyd yn chwarae’n rhan i ofalu am ein hunain ac am eraill.

Bydd gwneud y pethau bach pwysig yn gwneud gwahaniaeth mawr i'ch croeso yn ôl i Gymru pan fydd hi’n ddiogel i ni wneud hynny.

Os ydych yn ystyried teithio’n rhyngwladol fel grŵp pan fydd hi’n ddiogel i chi wneud hynny, gallwch ymweld â'n gwefannau Masnach Deithio a Digwyddiadau Busnes am fwy o wybodaeth a chefnogaeth, ac wrth i'ch cleientiaid baratoi i archwilio Cymru, rydym yn eich annog i rannu'r addewid hwn gyda nhw, i ofalu am ein gilydd a'r lle arbennig hwn rydym yn galw'n gartref.

cefn pennau pump o bobl wedi'i hamlapio mewn blanced liwgar gyda'r môr yn y cefndir.
Portmeirion, Gwynedd, Gogledd Cymru

Mae creadigrwydd wrth wraidd bywyd Cymru. Beirdd a chantorion yw’r rhai cyntaf i gael eu henwi yn ein hanthem genedlaethol, wedi’r cyfan. Ac atebwyd y gymwynas honno wrth i’r llenorion a’r cantorion hynny fynd ag enw Cymru i bedwar ban byd. Does ond angen crybwyll Dylan Thomas, Roald Dahl a Jan Morris – neu Shirley Bassey, Bryn Terfel, Rebecca Evans a’r Manic Street Preachers.

Ac nid dyna ddiwedd y gofrestr gelfyddydol. Ni roddodd brintiau blodeuog Laura Ashley i’r byd, adfywiad Russell T Davies o Doctor Who, tirluniau Kyffin Williams a pherfformiadau sgrin fawr Anthony Hopkins, Luke Evans, Michael Sheen a Catherine Zeta-Jones.

Tad a mab yn archwilio gyda'i gilydd ar draeth creigiog
Luke Evans yn cerdded i blanhigyn bach ar ddiwedd ponŵn trwy niwl
Richard Parks-ar feic yn Abermaw wrth i'r haul ddechrau gosod
Anturiaethau yng Nghymru

Mae Cymru’n llawn busnes – ac mae gan greadigrwydd ran i’w chwarae yn hynny o beth hefyd. Rydym ni wedi bod yn genedl ble mae arloesi a menter wedi mynd law yn llaw erioed, ac ni fydd syniadau’n oedi ar y papur yn hir. Ymysg dyfeisiadau o Gymru mae peli traul neu ‘ball-bearings’, y meicroffon, ffotograffiaeth ym mhellafoedd y gofod a’r gell danwydd hydrogen – heb sôn am y cysyniad o ‘gyfnewid pecynnau’ a’i gwnaeth hi’n bosib dyfeisio’r rhyngrwyd, a hyd yn oed yr arwydd hafal mewn mathemateg. Heddiw, mae gennym ni brifysgolion o safon ryngwladol a gweithlu sgilgar: mae 30 y cant o’r boblogaeth yn meddu ar radd.

Mae gallu elwa ar y pwll doniau hwn yn un rheswm pam y bydd busnesau’n dod i Gymru i dyfu a gwireddu’u potensial. Rheswm arall yw ei bod hi’n hawdd cael mynediad i’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau. Ac mae cynaliadwyedd ar frig yr agenda fusnes. Ni oedd y genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau plastig un defnydd. Mae ein polisïau economaidd yn hybu ac yn gwobrwyo arferion amgylcheddol da, ac mae gennym dargedau uchelgeisiol o ran lleihau gwastraff ac ôl troed carbon diwydiant.

Jack Abbot yn gorwedd ar fwrdd syrffio wrth i haul osod yn aros i ddal ton
Jack Abbott syrffio

Mae’r Gymraeg yn rhan o fywyd beunyddiol. Mae dros hanner miliwn o bobl yn ei siarad, mae’n cael ei dysgu mewn ysgolion ac yn cael ei dathlu mewn gwyliau fel eisteddfodau, sy’n uchafbwyntiau diwylliannol y calendr Cymreig. Fe welwch y Gymraeg mewn enwau lleoedd ac ar arwyddion stryd, a’i chlywed ar y radio a’r teledu. Mae sin gerddorol ffyniannus yn y Gymraeg, ac mae ffilmiau a rhaglenni teledu Cymraeg yn gadael eu hôl ymhell y tu hwnt i ffiniau’r wlad.

Mae’n rhan o’n treftadaeth fyw – ac yng Nghymru, mae treftadaeth yn rhywbeth sy’n gwrthod cael ei gyfyngu y tu mewn i waliau amgueddfeydd neu rhwng cloriau hen lyfrau. Ble bynnag y trowch chi, fe welwch chi arwyddion sy’n eich cyfeirio at hanes cyfoethog a chymhleth, o olion gwersylloedd Rhufeinig i ystadau gwledig syfrdanol o fawreddog a adeiladwyd gan fonedd a meistri diwydiant. Cymru oedd pwerdy’r Chwyldro Diwydiannol, crud y mudiadau hawliau i weithwyr, a man geni’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae’r cyfan yn destun balchder enfawr.

Golwg agos o'r ARWYDDBOST Cymraeg yn pwyntio at yr atyniadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Caerydd flame sculpture arch outside the Millenium Centre, Cardiff Bay
Cyfnod yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Eisteddfod Genedlaethol, Caerdydd, 2018

Rydym ni’n adnabyddus iawn am ein cestyll, sy’n fawr o syndod o ystyried bod dros 600 ohonynt yma. Adeiladwyd rhai, fel Cricieth a Charreg Cennen, gan y tywysogion brodorol; sefydlwyd eraill, fel ‘cylch dur’ grymus Edward I ym Miwmares, Harlech, Caernarfon a Chonwy, gan luoedd goresgynnol. Mae yma ddigon o gestyll ffug hefyd, a adeiladwyd i greu sioe yn hytrach nag i amddiffyn. Gellid dadlau mai’r mwyaf o’r rheiny yw Castell Coch oes Fictoria, â’i dyrrau tylwyth teg.

Mae traddodiadau a dathliadau’n clymu Cymru gyfoes â’i gorffennol. Ar y cyntaf o Fawrth, daw’r wlad ynghyd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, wrth i blant wisgo mewn dillad traddodiadol neu siwmper goch ein timau chwaraeon cenedlaethol. Ac erbyn i gariadon mannau eraill gyfnewid cardiau ar Ddydd Sant Ffolant, rydym ni wedi hen selio’r serch â'r Santes Dwynwen sy'n digwydd bron i dair wythnos ynghynt, ar 25 Ionawr.

Tu allan i Gastell Caerdydd yn y nos
Tu allan i Gastell Caerdydd yn y nos

Ac yn fwy na hynny oll, mae diwylliant poblogaidd yn brofiad a rennir yng Nghymru. Mae hynny i'w weld wrth aros y prif berfformiwr yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, neu yn y cynnwrf cyn gêm fawr y Chwe Gwlad yn Stadiwm Principality Caerdydd. Dyma deimlad a grynhoir yn dwt yn slogan ein tîm pêl-droed, pan fu troed Gareth Bale yn gymaint o gymorth iddynt daranu i rownd gynderfynol Ewro 2016: Gorau Chwarae Cyd Chwarae, a’r Saesneg cyfatebol: Together Stronger.

A bu’n gyfnod go euraid o ran llwyddiant ym myd y campau, rhaid cyfaddef. Allwn ni sôn am fedalau aur Jade Jones mewn taekwondo yn y Gemau Olympaidd, buddugoliaeth Geraint Thomas yn y Tour de France a chapteiniaeth ragorol Sam Warburton dros y Llewod?

Gareth Bale yn gweithredu Cymru v Iwerddon cynrychiolydd
Gareth Bale

Pa un a ydych chi’n byw yma neu’n ymweld â’r wlad, byddwch yn siŵr o ddotio ar Gymru. Dyna pam mae gadael y wlad yn deffro rhyw ymdeimlad o hiraeth. Rydym yn genedl fodern â chalon hynafol, a dyma yw ein hunaniaeth.

Rydym yn caru ein gwlad ac yn falch iawn ohoni, ond rydym hefyd yn falch o fod yn ddinasyddion y byd. Mae’r Cymry Alltud wedi teithio fwy neu lai i bedwar ban byd, ac wedi ymgartrefu yno. Ein prifddinas, Caerdydd, oedd cymuned amlddiwylliannol gyntaf y DU. Rydym yn teimlo’n rhan o gymuned ehangach y byd hefyd, ac rydym yn benderfynol o fod yn ddinasyddion byd-eang da. Wedi’r cwbl, mae pob un ohonom yn rhannu’r un blaned ac yn wynebu’r un heriau.

Mae gan wledydd blaengar fel ni syniadau mawr a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Felly croeso i Gymru.

Straeon cysylltiedig