Beth yw cwcis?

Ffeiliau data yw cwcis, sy’n cael eu storio ar gyfrifiadur defnyddiwr gwe pan fydd e’n ymweld â gwefan sy’ gofyn am ddefnyddio cwcis. Mae cwcis yn cofnodi manylion sylfaenol sy’n ymwneud ag ymweliadau i wefannau, ac yna defnyddir yr wybodaeth hon mewn sawl ffordd gan gynnwys teilwra cynnwys ar gyfer defnyddwyr pan fyddan nhw’n ymweld eto, mesur perfformiad gwefannau ac ymgyrchoedd marchnata.

Gosodir cwcis parti cyntaf ar gyfrifiadur defnyddiwr gwe gan y wefan y mae e’n ymweld â hi. Gosodir cwcis trydydd parti ar borwr defnyddiwr gwe gan rywun arall â chaniatâd perchennog y wefan honno.

Nodwch os gwelwch yn dda nad yw’r cwcis a ddefnyddir gan Wales.com yn cofnodi gwybodaeth sensitif fel enw neu gyfeiriad ymwelydd.

Rheoli cwcis

Gellir blocio cwcis yn llwyr gan borwr gwe, neu’n ddewisol drwy gyfrwng rheolwr cwcis y porwr gwe.

I ddysgu mwy am gwcis yn gyffredinol eu sut i’w rheoli, ewch i: www.aboutcookies.org

Os ydych chi’n dymuno peidio â derbyn hysbysebion ar lein, gallwch optio allan o gwcis drwy fynd i wefan y Network Advertising Initiative.

Sut mae Wales.com yn defnyddio Cwcis i fesur

Mae Wales.com yn defnyddio Google Analytics i ddarparu ystadegau ar drafnidiaeth i’r wefan a’i ffynonellau. Mae hyn yn cynnwys data am ymweliadau dyddiol, sawl tro y gwelir tudalen, y dudalen fynediad, tudalen lanio, faint o amser a dreulir ar y safle, pwy sy’n cyfeirio, math o drafnidiaeth, cliciadau, cyfradd clicio drwodd, cymhareb gadael y dudalen a chyfradd bowns.

Mae Wales.com yn defnyddio’r data hwn i ddeall sut y bydd ymwelwyr yn rhyngweithio gyda’i gwefan er mwn gwella profiad ar gyfer defnyddwyr.

Cwcis a ddefnyddir ar Wales.com

Enw'r Cwci

Pwrpas y Cwci

animations_agreed Mae'r cwci yma yn cofnodi pryd mae defnyddwyr yn diffodd yr animeiddiadau ar y wefan.
date_policy_accepted Mae'r cwci yma'n cofnodi pryd mae defnyddwyr yn derbyn y polisi.
privacy_and_settings_agreed Mae'r cwci yma'n cofnodi os yw defnyddwyr yn derbyn y polisi preifatrwydd a gosodiadau.
DSID IDE Dadansoddeg
ckid cktst dph fbh0 gcma ph rmxc Marchnata
_gat_UA-** _gcl_au _gid Mae'r cwcis yma'n cael ei defnyddio ar gyfer dadansoddeg - i'n helpu ni i ddeall sut mae defnyddwyr yn defnyddio'n gwefan.
_fbp Mae'r cwcis yma'n cael eu defnyddio i gofnodi ac olrhain ymweliadau i'n gwefan.
timed_popup_{langcode} Mae'r cwci hwn yn cofnodi os yw’r pop-up amserol wedi’i dderbyn neu wrthod.

 

Technolegau olrhain

  • Google Analytics
  • Google AdWords
  • Twitter
  • DotMailer
  • Pinterest
  • DoubleClick
  • Facebook
  • Bing
  • Outbrain
  • Youtube
  • Tik Tok
  • Yahoo
  • Bing
  • Snapchat

Straeon cysylltiedig