Sut gawsoch chi’r syniad o wneud jin ym mherfeddion Cymru?

Symudodd fy mrawd Pete i Ddyffryn Dyfi 35 mlynedd yn ôl i astudio bioleg amgylcheddol. Mae e wedi bod yn fforio yma byth ers hynny, a ffermio mynydd a chadw gwenyn am 25 mlynedd. Felly mae gan Pete gyswllt agos iawn â’r dirwedd hon. Rydw i wedi treulio fy mywyd yn y diwydiant gwin a gwirodydd, ac fe feddylion ni y byddai’n werth chweil cyfuno ein sgiliau ni’n dau. Jin oedd y llwybr amlwg, am fod gan y ddau ohonom ddiddordeb mewn cynhyrchu rhywbeth sy’n blasu fel y lle o ble mae’n dod.

Ffedogau hongian yn Distyllfa Dyfi
Danny Cameron, cynhyrchu jin- Ddistyllfa Dyfi
Diagram llif Dyfi Gin, dangosir ar y Bwrdd DU
Distyllfa Dyfi

Pam fod Bro Ddyfi mor arbennig?

Mae ’na amrywiaeth fotanegol anhygoel yma, a lefelau isel iawn o lygredd. Mae’n cael ei chydnabod gan UNESCO bellach fel gwarchodfa fiosffer y byd, oherwydd amrywiaeth y bywyd gwyllt, a’r ymwneud sydd gan ddyn â’r amgylchedd hwnnw. Mae’n baradwys i unrhyw fforiwr.

Danny Cameron hela am fwyd
Danny Cameron, sylfaenydd Dyfi Gin, yn hela am fwyd

Pa blanhigion fyddwch chi’n eu defnyddio?

Cyfuniad o blanhigion jin clasurol, a byddwn ni’n priodi’r rhain â’r elfennau a gafodd eu fforio. Dyfi Original yw’r jin a wnawn ni sydd fwyaf tebyg i jin cyffredin. O’r 10 planhigyn a ddefnyddir gennym, rydym ni’n defnyddio tri sydd wedi’u fforio: helygen Mair, blaenau conwydd a blodau’r eithin. Mae gan helygen Mair a meryw hanes cyfun o ran cynhyrchu diodydd sy’n deillio’n ôl dros fil o flynyddoedd, felly mae’u blasau’n cyd-fynd yn dda iawn.

Corsydd myrtlyd a phibwr a geir yn ffres
Crensian hadau
Helygen Mair a meryw botanegol

Beth am Pollination Gin?

Mae Pollination yn fwy cymhleth o ran y planhigion. Byddwn ni’n defnyddio 29 o blanhigion, ac mae 20 ohonynt wedi’u fforio.

Mae gan Pollination fwy o ddylanwad blodau gwylltion a dail gwyrddion. Fe ddaeth ymwelydd yma’n ddiweddar a ddywedodd fod blasu’r jin hwn yn cyfateb i gerdded drwy ddôl o flodau gwylltion, sy’n ffordd hyfryd o’i ddisgrifio.

Y prif blanhigion yw afalau surion bach gwyllt, mwyar a llus. Mae’n ychwanegu blas crwn a chyfoethog, ac mae’r gasgen yn darparu dyfnder o ran blas."

A Hibernation Gin?

Hibernation yw ein jin sydd wedi’i heneiddio mewn casgen. Dyma’r jin cyntaf yn y byd i gael ei heneiddio mewn casgen port gwyn 100 mlwydd oed, ac rydym ni wedi datblygu’r planhigion i briodi â chymeriad y gasgen. Y prif blanhigion yw afalau surion bach gwyllt, mwyar a llus. Mae’n ychwanegu blas crwn a chyfoethog, ac mae’r gasgen yn darparu dyfnder o ran blas.

Fyddwch chi byth yn mynd am dro a meddwl, “Ww, dyna ychydig o erwain – tybed sut flas fyddai ar hwnnw?"

A dweud y gwir, mae erwain yn y jin Pollination. Enw arall arno’n lleol yw blodau’r mêl, ac mae’n gynhwysyn rhagorol. Roedd erwain yn cael ei ddefnyddio i roi blas ar gwrw 3,000 mlynedd yn ôl, ac mae’n blanhigyn sy’n cael ei fforio gryn dipyn ym Mro Ddyfi. Bydd llawer sydd wedi byw yma ers cenedlaethau’n ei gasglu a’i sychu i wneud te ohono.

Jin pacio mewn meinwe
Danny Cameron yn dewis botanegol
Byrddau yn disgrifio blasau
Cynhyrchu yn Distyllfa Dyfi

Oes ’na unrhyw flodau neu blanhigion nad ydyn nhw'n addas?

Roedden ni’n mynd am dro ar hyd lôn gefn ac fe welsom wyddfid yn ei flodau. Roedd ganddo arogl hyfryd yn ei gynefin. Yn naturiol, roedden ni’n dychmygu y gallai fod yn gonglfaen gwych i’n jin ni. Ond pan aethon ni ati i’w ficro-ddistyllu, a cheisio’i gyfuno â chynhwysion blodeuog eraill, roedd yn tarfu gormod. Doedd e ddim yn gweithio o gwbl.

Roedd erwain yn cael ei ddefnyddio i roi blas ar gwrw 3,000 mlynedd yn ôl, ac mae’n blanhigyn sy’n cael ei fforio gryn dipyn ym Mro Ddyfi."

Ble alla i gael gafael ar jin Dyfi?

Mae gennym ni siop fach yn y ganolfan ymwelwyr, ac rydym ni hefyd yn gwerthu ar lein drwy ein gwefan. Mae gyda ni ryw 40 partner manwerthu ledled y DU. Yn un pen, rydym ni’n gwerthu yn Selfridges a Fortnum & Mason, ac ym mhen arall y farchnad, drwy fasnachwyr gwin a gwirodydd annibynnol o safon.

Pam trafferthu â chanolfan ymwelwyr? Onid yw hynny’n tynnu gormod o’ch sylw?

Mae’r ganolfan ymwelwyr yn rhan mor bwysig o’r hyn rydym ni’n ei wneud. Wrth gwrs, gallem ni gadw ein trwyn ar y maen a chynhyrchu jin drwy’r amser. Ond alla i ddim â rhoi pris ar y cyfle i ddod wyneb yn wyneb â’n cwsmeriaid. Dydyn ni ddim yn cynnal teithiau ffurfiol, ond mae croeso mawr iawn yn cael ei roi i bobl sy’n galw: gallan nhw gael sgwrs a blasu’r jin, felly gobeithio fod hynny er budd pawb. Yn ddiweddar, daeth dyn yma o Brisbane yn Awstralia. Roedd e wedi treulio dwy flynedd yn cynllunio’i wyliau cyfan o gwmpas gallu ymweld â Distyllfa Dyfi.

Pa rai yw eich hoff leoedd yn lleol?

Mae unrhyw le sy’n dathlu cynnyrch lleol a tharddiad yn mynd i’m gwneud i’n llawen iawn. Os ydych chi yn yr ardal, dringwch i ben Cader Idris, ewch i ymweld â Phrosiect Gweilch Dyfi, ac ewch i weld dolffiniaid Bae Ceredigion. Mae’n lle mor fendigedig, ac mae hynny’n cynnwys y bobl sy’n byw yma yn ogystal â’r amgylchedd. Dyma mor agos ag y dewch chi at baradwys.

golwg tirwedd
Biosffer Dyfi

Straeon cysylltiedig