Ynglŷn â Chymru

A yw Cymru’n wlad?

Er bod Cymru’n rhannu ffin â Lloegr, ac yn rhan o Brydain Fawr, mae Cymru’n wlad ynddi’i hun.  

Ar 18 Medi 1997, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid datganoli yng Nghymru. Rhoddodd hyn yr hawl i Gymru wneud is-gyfreithiau eilaidd sy’n effeithio arnom yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru 1998.  Yn 2006, rhoddodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 bwerau ychwanegol i Gymru.

Darllenwch fwy am Gymru yn adran 'Ynglŷn â' y wefan.

 

Ymweld â Chymru

Beth ydy’r gwahanol ffyrdd o gyrraedd Cymru?

Mae cysylltiadau da rhwng Cymru a gweddill y DU yn ogystal ag Iwerddon a thir mawr Ewrop, boed hynny ar y ffordd, y rheilffordd, ar y môr neu drwy’r awyr.

Darllenwch ein canllaw i dderbyn gwybodaeth gynhwysfawr ynglŷn â theithio i Gymru.

Os ydych yn byw tu allan i’r DU mae’n bosib y byddwch angen fisa o’r DU er mwyn ymweld a Chymru. Mae Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig ac o’r system visa a mewnfudo sy’n gweithredu ar draws y DU. Ewch i wefan Llywodraeth y DU am wybodaeth bellach, lle gewch ganllawiau uniongyrlchol ynglŷn ag ymweld a’r DU ar ôl Brexit.

Rwyf yn byw dramor fel arfer ond ar hyn o bryd rwy’n gweithio/astudio yn Lloegr/yr Alban a hoffwn ddod i Gymru ar daith diwrnod/am wyliau - a oes angen visa ychwanegol arnaf?

Nid oes angen visa ychwanegol. Gallwch ymweld â Chymru cyn belled â bod dyddiadau eich visa yn ddilys. Caiff visas eu rhoi i’r Deyrnas Unedig gyfan. Nid oes rheolau croesi ffiniau rhwng Lloegr a Chymru.

Os ydych yn bwriadu hedfan i Gymru o rannau eraill o’r DU, bydd angen i chi ddangos dogfen adnabod gyda ffotograff cyn gallu mynd ar eich taith.

Darllenwch fwy am ymweld â Chymru yn adran 'Ymweld' y wefan.

Byw, Gweithio ac Astudio yng Nghymru

Rwyf eisiau astudio yng Nghymru. Alla i wneud cais?

Ewch i Astudio yng Nghymru am ragor o wybodaeth am brifysgolion yng Nghymru.

Alla i ddod i fyw yng Nghymru?

Mae Cymru yn wlad groesawgar a gobeithiwn fod y wefan hon yn cynnig ysbrydoliaeth a gwybodaeth i chi ynghylch byw a gweithio yng Nghymru, yr economi, ein diwylliant a gwybodaeth am ein cymunedau unigryw.

Os ydych yn byw tu allan i’r DU mae’n bosib y byddwch angen fisa o’r DU er mwyn ymweld a Chymru. Mae Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig ac o’r system visa a mewnfudo sy’n gweithredu ar draws y DU. Ewch i wefan Llywodraeth y DU am wybodaeth bellach, lle gewch ganllawiau uniongyrlchol ynglŷn ag ymweld a’r DU ar ôl Brexit.

Rydw i eisiau sefydlu Busnes yng Nghymru / ehangu fy musnes yng Nghymru – allwch chi helpu?

Mae yna nifer o resymau gwych dros sefydlu neu ehangu eich busnes yng Nghymru.

Mae gwybodaeth bellach ar gael ar ein gwefan o fewn yr adran ar yr Economi. Dewis arall fyddai mynd i wefan Trade and Invest Wales am fanylion pellach.

Hoffwn gymorth ariannol personol – allwch chi helpu?

Ewch i dudalennau we Ysgoloriaethau Astudio yng Nghymru am fanylion o’r math o gymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol.

Os ydych yn rhedeg busnes, efallai eich bod yn gymwys am gymorth busnes; ewch i wefan Busnes Cymru am ragor o fanylion.

Hoffwn wneud cais am swydd yng Nghymru, beth sydd angen i fi ei wneud?

Mae yna amrywiaeth eang o swyddi yng Nghymru, o gwmnïau amlwg ym maes Gwyddorau Bywyd a Thechnoleg, i arloeswyr ym maes Ynni a’r Amgylchedd a Thwristiaeth. Mae mwy o wybodaeth am ein diwydiannau allweddol ar wefan Trade Invest Wales.

Os ydych yn byw tu allan i’r DU, efallai y bydd arnoch angen visa i’ch galluogi i weithio yng Nghymru.

Mae Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig ac o’r system visa a mewnfudo sy’n gweithredu ar draws y DU. Ewch i wefan Llywodraeth y DU am wybodaeth bellach, lle gewch ganllawiau uniongyrlchol ynglŷn ag ymweld a’r DU ar ôl Brexit.

Darllenwch fwy am fyw a gweithio yng Nghymru ar adran 'Bywyd' ac 'Economi' y wefan.

I gofrestru anhawster neu broblem gyda’r wefan

Os ydych chi wedi cael anhawster wrth ddefnyddio ein gwefan, cysylltwch â ni dros e-bost os gwelwch yn dda, gan gynnwys disgrifiad o’r broblem, dolen i’r dudalen benodol, enw a fersiwn eich porwr gwe a system gweithredu eich dyfais.

Straeon cysylltiedig