Castell Aberteifi
Adeiladwyd y castell carreg cyntaf yn Aberteifi gan yr Arglwydd Rhys (Rhys ap Gruffydd, 1132-1197) ac i ddathlu cwblhau’r gwaith yn 1176, fe gynhaliodd gyfarfod ar gyfer beirdd a cherddorion yno. Dyma’r Eisteddfod Genedlaethol gyntaf oll, traddodiad sy’n para hyd heddiw. Aeth y castell a’r plas Sioraidd sydd o fewn ei furiau yn adfail hyd nes i gynllun adfer gwerth £12m ddiogelu dyfodol y safle fel atyniad treftadaeth, bwyty, llety a lleoliad ar gyfer digwyddiadau.



Castell Dinefwr
Dinefwr oedd canolfan grym Teyrnas Deheubarth, oedd yn teyrnasu dros dde-orllewin Cymru am bron i 300 o flynyddoedd rhwng y ddegfed a’r ddeuddegfed ganrif. Dyma brif orsedd Hywel Dda, y cyntaf i roi trefn ar ddeddfau brodorol y Cymry. Mae adfeilion y castell mewn gwarchodfa natur goediog ar godiad tir sy’n edrych dros afon Tywi. Gerllaw, mae’r castell ‘newydd’, a adeiladwyd yn y 1600au, ac sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gellir cyrraedd y ddau safle’n hawdd ar daith gerdded gylchynol o Landeilo.
Castell y Bere
Roedd Castell y Bere, a adeiladwyd gan Llywelyn Fawr yn y 1220au, yn gadarnle diarffordd ar ffin ddeheuol teyrnas Llywelyn. Ei swyddogaeth oedd gwarchod ei diroedd amaethyddol, diogelu calon Gwynedd, a thra-arglwyddiaethu dros arglwyddiaeth gyfagos Meirionnydd. Cafodd y castell ei gipio gan y Normaniaid yn 1283 a’i adael yn wag; saif yr adfeilion mewn dyffryn heddychlon a hardd yn ne Eryri.

Castell Caeriw
Saif Castell Caeriw ar lan cilfach o’r môr wrth ochr hen felin lanw yn Sir Benfro. Dyma diroedd hynafiaid y Dywysoges Nest, a oedd yn enwog yn ystod yr 11eg ganrif am ei harddwch. Roedd hi’n perthyn i linach y Deheubarth a reolodd dde-orllewin Cymru rhwng 920 a 1197. Cafodd Nest o leiaf naw o blant gyda phum bonheddwr gwahanol. Hyd heddiw, gall sawl teulu amlwg olrhain eu hachau yn ôl ati hi: yn eu plith George Washington, JFK a’r Dywysoges Diana.
Castell Powis
Adeiladwyd y Castell Powis gwreiddiol gan y Tywysog Gruffydd ap Gwenwynwyn yn ystod y 1280au, ond mae'r diolch i deulu Clive am urddas a mawredd y gaer-â-gerddi bresennol. Yn 1784, priododd merch Arglwydd Powis ag Edward Clive, a etifeddodd, maes o law, deitl y teulu a chyfoeth sylweddol ei dad, sef yr Uwch-Gadfridog Robert Clive, a oedd yn fwy adnabyddus fel Clive o India. Gan Amgueddfa Clive y castell y mae’r casgliad preifat mwyaf yn y DU o greiriau o’r India a’r Dwyrain Pell.


Castell Talacharn
Codwyd Castell Talacharn i warchod aber Taf, ac mae’n un o’r cestyll y bu mwyaf o frwydro drosto yng Nghymru gyfan. Cafodd y castell Normanaidd gwreiddiol ei gipio gan Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth yn 1189 a’i ddinistrio; cipiwyd y castell eto, ar ôl iddo gael ei ailadeiladu, gan Llywelyn Fawr yn 1215. Bu ar ddwy ochr y frwydr ddwywaith yn ystod y Rhyfel Cartref cyn cael ei gipio a’i ddinistrio’n rhannol gan luoedd y Brenhinwyr. Paentiwyd yr adfeilion gan yr artist JMW Turner, ac fe dreuliodd y bardd Dylan Thomas gyfnodau’n ysgrifennu yno, yn y gerddi o oes Fictoria.


Castell Caerdydd
Yng nghanol ein prifddinas, mae gan Gastell Caerdydd waliau Rhufeinig, tŵr Normanaidd o’r 11eg ganrif, amgueddfa filwrol a phlas Fictoraidd sylweddol a addurnwyd gan y Trydydd Ardalydd Bute (1847-1900), dyn cyfoethocaf y byd ar y pryd. Bute hefyd oedd yn gyfrifol am drawsnewid Castell Coch, ychydig filltiroedd i’r gogledd, yn gastell stori dylwyth teg moethus.



Castell Caerffili
Castell Caerffili yw’r ail gastell mwyaf ym Mhrydain, a’r un â’r amddiffynfeydd dŵr mwyaf cymhleth. Cafodd ei godi gan yr arglwydd Eingl-Normanaidd Gilbert de Clare yn y drydedd ganrif ar ddeg er mwyn ceisio cipio Morgannwg o ddwylo’r tywysog brodorol Llywelyn ap Gruffudd. Mae atyniadau modern y castell yn cynnwys peiriannau gwarchae sy’n gweithio, antur Drysfa Gilbert a Ffau’r Dreigiau.



Castell Cas-gwent
Cas-gwent yw’r cadarnle carreg hynaf ar ôl cyfnod y Rhufeiniad drwy Brydain gyfan, a drysau 800 mlwydd oed y castell yw’r drysau hynaf yn Ewrop hefyd. Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu’r castell yn 1067 – flwyddyn yn unig ar ôl i’r Normaniaid lanio yn Hastings. Ymestynnodd y castell yn raddol ar hyd crib gul pen y clogwyn, gan warchod un o fannau croesi pwysicaf afon Gwy.

Castell Conwy
Mae Castell Conwy mewn cyflwr anarferol o dda o ystyried mai castell o’r drydedd ganrif ar ddeg sydd yma. Mae waliau gwreiddiol y dref hefyd yn gyfan fwy neu lai. Cafodd y gwaith adeiladu ei wneud gan Master James of St.George, pensaer milwrol gorau’i gyfnod. Ynghyd â’r cestyll yn Harlech, Caernarfon a Biwmares, mae’r cadarnleoedd hyn o eiddo Edward I wedi eu nodi’n Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.


Castell Caernarfon
Bu Caernarfon, ar lan y Fenai, yn safle strategol pwysig erioed. Enw’r Rhufeiniaid ar y lle oedd Segontium, ac adeiladwyd caer yma ganddyn nhw yn 77OC. Adeiladwyd y castell presennol gan Edward I yn ystod y 1280au, ac mae ganddo dyrrau amlochrog anarferol a gwaith cerrig sy’n creu patrwm o liwiau. Ganwyd Tywysog Cymru (Edward II yn ddiweddarach) yng Nghastell Caernarfon yn 1284; yma hefyd y cafodd Tywysog Charles yr un teitl yn 1969.


Castell Harlech
Roedd gan Gastell Harlech, sydd mor amlwg ar lan Bae Ceredigion, ran allweddol i’w chwarae yn y chwyldro cenedlaethol a arweiniwyd gan Owain Glyndŵr. Cipiwyd y castell gan ei filwyr yn 1404, a dyma oedd cartref a phencadlys Glyndŵr yn ystod ei gyfnod mewn grym. Dyma hefyd safle’r gwarchae hiraf yn hanes Prydain, sef 7 mlynedd o hyd, yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau yn y pymthegfed ganrif. mae dewrder yr amddiffynwyr hynny yn cael eu cofio yn un o ganeuon enwocaf Cymru, Gŵyr Harlech.


