Gwybodaeth Hawlfraint

© Hawlfraint y Goron

Mae’r rhan fwyaf (ond nid y cyfan) o’r deunydd a welir ar y wefan hon yn ddarostyngedig i ddiogelwch hawlfraint y Goron.

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio’r wybodaeth hawlfraint y Goron a nodir ar y wefan hon (ac eithrio logos ac unrhyw ddelweddau) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau Trwydded Agored y Llywodraeth. Am nad yw pob cynnwys o dan hawlfraint y Goron, rhaid i chi gysylltu â enquiries.wales@gov.wales cyn i chi ddefnyddio unrhyw asedau.

Rhaid i chi atgynhyrchu ein deunydd yn gywir a pheidio â’i ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Pan fydd unrhyw rai o eitemau hawlfraint y Goron ar y wefan hon yn cael eu hailgyhoeddi neu’u copïo at eraill, rhaid cydnabod ffynhonnell y deunydd a chydnabod statws yr hawlfraint (e.e. Hawlfraint y Goron © Wales.com). Rydym ni hefyd yn eich annog i sefydlu dolenni hyperdestun i’r wefan hon. Wrth ddefnyddio cynnwys hawlfraint y Goron ar lein, rhaid i chi ddefnyddio tag canonaidd sy’n cyfeirio at ffynhonnell wreiddiol yr wybodaeth.

Nid yw’r caniatâd i atgynhyrchu deunydd hawlfraint y Goron yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y wefan hon ble dangosir fod yr hawlfraint yn berchen i drydydd parti. Bydd angen ceisio caniatâd i atgynhyrchu deunydd o’r fath gan ddeiliad hawliau’r trydydd parti.

Oni nodir yn wahanol, mae pob delwedd yn © hawlfraint y Goron.

Gwaherddir defnyddio Wales.com neu unrhyw logo arall o eiddo Llywodraeth Cymru heb ein caniatâd ysgrifenedig clir. Er mwyn gwneud cais am ganiatâd i ddefnyddio unrhyw logo o eiddo Llywodraeth Cymru, a fyddech cystal ag e-bostio: brandingqueries@.gov.wales.

 

Ymwadiad Gweithgaredd

Nid yw Wales.com yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros y ffaith eich bod chi’n cymryd rhan yn unrhyw rai o’r gweithgareddau sy’n derbyn sylw ar y wefan hon. Byddwch chi’n cymryd rhan yn y gweithgareddau hynny ar eich risg eich hun a chi sy’n gyfrifol am wneud y gwirio angenrheidiol i sicrhau fod gweithgaredd yn unol â’ch anghenion penodol a bod darparwr y gweithgaredd yn ddigonol abl a / neu wedi’i achredu a’i fod yn meddu ar yswiriant addas. Efallai nad yw gwybodaeth ar y wefan hon a ddarperir gan ddarparwyr gweithgareddau’n gywir, yn gyflawn na’n gyfredol ac mae Wales.com yn eithrio pob atebolrwydd o fath yn y byd o ran pob hawliad, boed mewn contract neu gamwedd (gan gynnwys esgeulustra) neu fel arall a all godi o, neu mewn cyswllt â, chynnwys y wefan hon.

Cynnwys Trydydd Parti

Ni all Wales.com warantu cywirdeb na dibynadwyedd y delweddau a ddangosir oddi wrth sefydliadau trydydd parti ar y wefan hon. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau fod Cymru’n cael ei chynrychioli’n gywir. Rydym drwy hyn yn ymwadu â phob cyfrifoldeb dros wall, hepgoriad neu gamgynrychioliad.

Tynnir delweddau o gyfryngau cymdeithasol drwy apiau’r safleoedd cymdeithasol perthnasol ac nid ydynt wedi cael eu cadw’n gorfforol gan Wales.com. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu os dymunwch i ddelwedd gael ei dileu, cysylltwch os gwelwch yn dda â enquiries.wales@gov.wales

Telerau ac Amodau

Mae’r telerau defnyddio hyn (ynghyd â’r dogfennau y cyfeirir atynt yma) yn amlinellu’r telerau y gallwch chi ddefnyddio ein gwefan www.wales.com (y “Safle”) danynt.

1. Y GWASANAETH

1.1 Rydym ni’n darparu gwasanaeth sy’n gadael i unigolion gael mynediad i wybodaeth a ddarparwyd gan rai trydydd parti (“Busnesau’) a phori drwyddo, i ofyn am lyfrynnau gan Fusnesau, a gwneud archebion (o ran prynu llety, gwasanaethau neu nwyddau) gan Fusnesau drwy gyfrwng y Safle o bryd i’w gilydd drwy gyfrwng ein canolfan gyswllt Wales.com (y “Gwasanaeth”).

Os ydych chi’n dymuno defnyddio’r Gwasanaeth, rhaid i chi gytuno â’r Telerau Defnyddiwr.

1.2 Rydym ni’n cytuno i ddarparu’r Gwasanaeth i chi ar yr amod eich bod chi’n derbyn y Telerau Defnyddiwr. Drwy ddefnyddio’r Gwasanaeth, bernir eich bod wedi derbyn y Telerau Defnyddiwr.

1.3 Gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth i adnabod ac archebu gyda Busnesau. Bydd unrhyw gytundeb a wneir yn digwydd rhyngoch chi a’r Busnes ble gosodwyd yr archeb gennych, a bydd yn ddarostyngedig i delerau ac amodau’r Busnes hwnnw. Rhaid i chi ddarllen holl delerau ac amodau’r busnes cyn myned i gytundeb ag unrhyw Fusnes. Ni fyddwch chi’n mynd i gytundeb â Llywodraeth Cymru na Wales.com pan fyddwch chi’n archebu gyda Busnes ac nid ydym ni’n derbyn unrhyw gyfrifoldeb o ran unrhyw archeb o’r fath.

1.4 Pan fydd cytundeb yn cael ei wneud rhyngoch chi a Busnes, bydd gennym ni hawl i drosglwyddo eich manylion personol i’r Busnes hwnnw a thrwy roi archeb i ddefnyddio’r Gwasanaeth, rydych chi’n derbyn ac yn cydsynio i gael pasio’r manylion hynny. Mae Gwybodaeth Bersonol a pheth gwybodaeth arall amdanoch chi yn ddarostyngedig i’n Polisi Preifatrwydd.

1.5 Mae diogelwch a phreifatrwydd pob defnyddiwr y Safle’n bwysig i ni; yn enwedig plant ac oedolion ifanc. Am y rheswm hwn, os ydych chi dan 18 oed, cewch gael mynediad i’r Safle, a phori ynddi, ond nid oes gennych hawl i wneud archebion gan ddefnyddio’r Gwasanaeth.

2. EICH RHWYMEDIGAETHAU

2.1 Yn gyfnewid am adael i chi ddefnyddio’r Gwasanaeth, gofynnwn i chi gytuno i: (a) ddarparu gwybodaeth wir, gywir, gyfredol a llawn amdanoch chi eich hun (gan gynnwys unrhyw wybodaeth ar gerdyn credyd neu ddebyd); a (b) cynnal a diweddaru’n brydlon yr wybodaeth a ddarperir i ni i’w gadw’n wir, cywir, cyfredol a llawn.

2.2 Os byddwch chi’n darparu unrhyw wybodaeth sy’n anwir, yn anghywir, yn anghyfredol neu’n anghyflawn, neu os oes gennym sail resymol i amau fod gwybodaeth yn anwir, anghywir, anghyfredol neu anghyflawn, mae gennym hawl i oedi neu derfynu eich defnydd chi o’r Gwasanaeth.

2.3 Chi sy’n gyfrifol am wneud pob trefniant sy’n angenrheidiol er mwyn i chi gael mynediad i’r Safle a / neu’r Gwasanaeth.

2.4 Chi hefyd sy’n gyfrifol am sicrhau fod pob person sy’n cael mynediad i’r Safle drwy eich cyswllt Rhyngrwyd chi yn ymwybodol o’r Telerau Defnyddiwr ac yn cydymffurfio â nhw.

3. DEFNYDDIO’R GWASANAETH

3.1 Rydych chi’n gwarantu i ni na fyddwch chi’n defnyddio’r Gwasanaeth ar gyfer unrhyw bwrpas sy’n anghyfreithlon neu’n waharddedig gan y Telerau Defnyddiwr. Yn enwedig, rydych chi’n cytuno i beidio â defnyddio’r Gwasanaeth er mwyn:-

3.1.1 trin neu newid mewn modd arall y teclynnau adnabod er mwyn celu tarddiad unrhyw gyfathrebiad a drosglwyddir drwy’r Gwasanaeth;

3.1.2 torri ar draws neu amharu ar weithrediad y Gwasanaeth, y Safle neu unrhyw weinydd neu rwydwaith sy’n gysylltiedig â’r Safle;

3.1.3 mynd yn groes i unrhyw ddeddf boed o’r DU neu ryngwladol;

3.1.4 atgynhyrchu, dyblygu, copïo, gwerthu, ailwerthu neu ecsbloetio i unrhyw bwrpasau masnachol unrhyw ran o’r Gwasanaeth, unrhyw ddefnydd o’r Gwasanaeth, neu unrhyw fynediad i’r Gwasanaeth; na

3.1.5 chasglu na storio data personol am ddefnyddwyr eraill y Gwasanaeth.

3.2 Deellwch y gall prosesu a throsglwyddo technegol y gwasanaeth gynnwys (a) drosglwyddo dros rwydweithiau amrywiol; a (b) newidiadau i gydymffurfio ac addasu i ofynion technegol rhwydweithiau neu ddyfeisiadau sy’n cysylltu.

3.3 Rydym ni’n cadw’r hawl ar unrhyw bryd ac o bryd i’w gilydd, yn llwyr dan ein doethineb ein hunain a gyda rhag-hysbysiad neu hebddo, i amnewid neu ddod i ben, dros dro neu’n barhaol, y Gwasanaeth (neu unrhyw ran ohono) neu eich defnydd unigol chi o’r Gwasanaeth. Rydych chi’n cytuno na fyddwn ni’n atebol i chi nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw amnewid, oedi neu atal o’r Gwasanaeth.

3.4 Mae ein hawliau ni o dan yr adran hon yn ychwanegol at ein holl hawliau a datrysiadau eraill, a hynny’n ddiragfarn.

4. PERCHNOGAETH A DEFNYDDIO HAWLIAU PERCHNOGOL

4.1 Mae pob nodwedd o’r Gwasanaeth hwn (gan gynnwys, heb gyfyngiad, ddyluniad y wefan, pob logo, testun a graffig ar y Safle) yn ddarostyngedig i hawlfraint y Goron neu hawliau eiddo deallusol a berchnogir gennym ni; oni bai am nodweddion o’r fath sy’n eiddo i drydydd parti (gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i Fusnesau Twristiaeth, Manwerthu a gwasanaethau ar lein).

4.2 Gallwch atgynhyrchu nodweddion o’r Gwasanaeth nad ydyn nhw’n eiddo i drydydd parti yn unol â’r wybodaeth hawlfraint a amlinellwyd ar ddechrau’r ddogfen hon.

4.3 Ni sydd biau a / neu wedi ein trwyddedu i ddefnyddio’r holl feddalwedd a ddefnyddir mewn cyswllt â’r Gwasanaeth (“y Feddalwedd”).

4.4 Rydym ni drwy hyn yn rhoi hawl a thrwydded bersonol, na ellir mo’i throsglwyddo, ac anecsglwsif (neu is-drwydded yn achos hawliau trydydd parti a drwyddedwyd i ni) i ddefnyddio’r Feddalwedd i bwrpas cael mynediad i’r Gwasanaeth, ar yr amod nad ydych chi’n (ac nad ydych chi’n caniatáu i unrhyw drydydd parti) gopïo, addasu, creu gwaith sy’n deillio, peiriannu am yn ôl, adeiladu am yn ôl na cheisio mewn ffordd arall ddarganfod unrhyw god ffynhonnell yn y Feddalwedd na chwaith werthu, priodoli, is drwyddedu, rhoi diddordeb diogelwch i neu drosglwyddo mewn unrhyw fodd arall unrhyw hawl ar y Feddalwedd.

5. YMWADIAD

5.1 Rydych chi’n deall yn ffurfiol ac yn cytuno mai ar eich perwyl eich hun yr ydych chi’n defnyddio’r Safle a / neu’r Gwasanaethau. Darperir y Safle a’r Gwasanaeth (gan gynnwys y Feddalwedd) ac unrhyw wybodaeth trydydd parti, cynnyrch a gwasanaethau ar sail ‘fel y maent’ ac ‘yn ôl argaeledd’, heb wneud unrhyw gynrychioliad na chymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath boed ffurfiol neu awgrymedig, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i unrhyw warantau a awgrymir o ran ansawdd addas, addasrwydd i bwrpas arbennig, diffyg torri rheolau, cyfaddasrwydd, diogelwch a chywirdeb.

5.2 Yn enwedig, nid ydym ni’n gwarantu: (i) y bydd y gwasanaeth yn cwrdd â’ch gofynion; (ii) y bydd eich defnydd o’r Safle a / neu’r Gwasanaeth yn ddi-dor, amserol, diogel na’n rhydd o wallau; (iii) y bydd y deunyddiau sy’n cael sylw ar y Safle a’r canlyniadau y gellir eu cael drwy eich defnydd chi o’r Gwasanaeth yn gywir na dibynadwy; (iv) y bydd ansawdd unrhyw gynnyrch, gwasanaethau, gwybodaeth neu ddeunydd arall a brynwyd neu a gafwyd gennych chi drwy’r Gwasanaeth yn cwrdd â’ch disgwyliadau; (v) y bydd unrhyw namau neu anghywirdebau’n cael eu cywiro; na (vi) y bydd y Safle a / neu’r Feddalwedd yn rhydd o firysau neu unrhyw beth a all fod â nodweddion dinistriol.

5.3 Mae unrhyw gynnwys sy’n cael ei lawr lwytho neu’i gael fel arall drwy ddefnyddio’r Gwasanaeth yn cael ei wneud ar eich perwyl a’ch menter eich hun ac rydych chi’n deall ac yn cytuno mai chi’n unig fydd yn gyfrifol am unrhyw niwed i’ch system gyfrifiadurol neu unrhyw golli data sy’n deillio o’r lawr lwythiad hwnnw o unrhyw gynnwys gennych chi.

5.4 Ni fyddwn ni, mewn unrhyw achos, yn atebol am unrhyw golled neu niwed, gan gynnwys, heb gyfyngiad, golled neu niwed anuniongyrchol neu o ganlyniad, nac unrhyw golled neu niwed o gwbl sy’n deillio o ddefnyddio neu fethu â defnyddio, data, neu elw, sy’n deillio o neu sydd mewn cyswllt â defnyddio’r Safle a / neu’r Gwasanaeth.

6. CYFYNGIAD AR ATEBOLRWYDD

6.1 Mae eich cyfathrebu neu ymwneud (busnes neu fel arall), â busnesau trydydd parti neu hysbysebwyr a ganfuwyd ar neu drwy’r Gwasanaeth, neu unrhyw gymryd rhan a wnewch mewn hyrwyddiadau ganddynt, gan gynnwys talu a chyflenwi nwyddau neu wasanaethau cysylltiol (gan gynnwys heb gyfyngiad lety), ac unrhyw delerau, amodau, gwarantau neu gynrychioliadau a gysylltir â thrafodion o’r fath, yn llwyr rhyngoch chi a busnesau neu hysbysebwr o’r fath. Rydych chi’n cytuno na fyddwn ni’n gyfrifol nac yn atebol am unrhyw golled neu niwed o unrhyw fath a ddaw i’ch rhan o ganlyniad i unrhyw ymwneud o’r fath, neu o ganlyniad i bresenoldeb busnesau neu hysbysebwyr o’r fath ar y Gwasanaeth.

6.2 Hyd yr eithaf posib a ganiateir gan y gyfraith, rydym ni drwy hyn yn eithrio pob amod, gwarant, cynrychioliad neu delerau eraill a all fod yn berthnasol i’r Safle neu’r Gwasanaeth, boed wedi’i nodi neu’i awgrymu.

6.3 Ni fyddwn yn atebol i unrhyw ddefnyddiwr y Safle na’r Gwasanaeth am unrhyw golled neu niwed, boed mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), toriad mewn dyletswydd statudol neu fel arall, hyd yn oed pe gellid ei ragweld, a oedd yn codi mewn cysylltiad â (a) defnydd o’r Safle neu’r Gwasanaeth, neu anallu i wneud hynny; neu ddefnydd o neu ddibyniaeth ar unrhyw gynnwys a arddangoswyd ar y Safle neu sy’n ffurfio rhan o’r Gwasanaeth.

6.4 Ni fyddwn dan unrhyw achos yn atebol am unrhyw iawndal o gwbl sy’n codi o’ch defnydd chi o’r Gwasanaeth gan gynnwys iawndal am golli data, colli elw neu golled sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gwasanaeth neu’i berfformiad, neu am oedi neu anallu i ddefnyddio’r Gwasanaeth neu ar gyfer cynnyrch gwybodaeth neu wasanaethau a gafwyd drwy gyfrwng y Gwasanaeth.

6.5 Yn ogystal, ni fyddwn ni’n atebol am unrhyw rai o’r canlynol a allai godi o ganlyniad i ddefnyddio’r Safle a / neu’r Gwasanaeth: (a) colli elw, gwerthiant, busnes neu refeniw; (b) toriad mewn busnes; (c) colled mewn cynilon a ddisgwylid; (ch) colli cyfle am fusnes, ewyllys da neu enw da; neu (d) unrhyw golled neu niwed anuniongyrchol neu ganlyniadol.

6.6 Ni fyddwn ni’n atebol am unrhyw golled neu niwed a achoswyd gan firws neu ddeunydd technolegol niweidiol arall a allai heintio eich offer cyfrifiadurol, eich rhaglenni cyfrifiadurol, data neu ddeunydd perthynol arall oherwydd eich defnydd chi o’r Safle, y Gwasanaeth neu’r Feddalwedd, neu am i chi lawr lwytho unrhyw gynnwys neu ddeunyddiau. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd diogelu rhag firws eich hun.

6.7 Rydych chi’n cytuno na fydd gennym ni ddim cyfrifoldeb nac atebolrwydd am ddileu neu fethu â storio unrhyw negeseuon na chyfathrebiadau eraill a gynhelir neu a drosglwyddir gan y Gwasanaeth.

6.8 Er mwyn osgoi amheuaeth, nid oes dim yn y Telerau Defnyddiwr a fydd yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd am unrhyw ddatganiad twyllodrus nac yn achos anaf personol neu farwolaeth a achoswyd gan ein hesgeulustod ni.

6.9 Nid yw pob awdurdodaeth yn caniatáu eithrio rhai gwarantau, neu gyfyngu neu eithrio atebolrwydd ar gyfer iawndal achlysurol neu ganlyniadol ac mae cyfreithiau’r awdurdodaethau hynny’n mynd y tu hwnt i unrhyw ymrwymiadau cytundebol sy’n hawlio cyflawni hyn. O ganlyniad, efallai na fydd rhai o’r cyfyngiadau uchod yn berthnasol i chi.

7. INDEMNIAD

7.1 Rydych trwy hyn yn cytuno’n llawn i indemnio, cadw mewn indemniad a’n cadw ni neu unrhyw rai o’n swyddogion, cyflogeion, asiantwyr, isgontractwyr a chwmnïau cysylltiedig yn ddianaf rhag ac yn erbyn unrhyw a phob cost, hawl, colled, iawndal neu atebolrwydd a threuliau (gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i, ffioedd cyfreithiol) a wneir gan unrhyw drydydd parti mewn unrhyw awdurdodaeth oherwydd neu mewn cyswllt â’ch defnydd chi o’r Gwasanaeth, eich cyswllt â’r Gwasanaeth, eich gweithred chi o dorri’r Telerau Defnyddiwr neu unrhyw doriad gennych chi ar unrhyw hawliau trydydd parti.

8. DOLENNI TRYDYDD PARTI

8.1 Fe all y Gwasanaeth gynnwys dolenni i wefannau a weithredir gan bartïon heblaw ni. Darperir y dolenni hyn er cyfleustra’n unig i chi. Nid oes gennym reolaeth dros, ac nid ydym ni’n honni unrhyw gyfrifoldeb am, gynnwys y gwefannau a gysylltir â’r Safle. Drwy gynnig y dolenni hyn i chi, nid ydym ni’n cymeradwyo, boed hynny’n ffurfiol neu drwy awgrym, unrhyw beth a gynhwysir ar wefannau o’r fath ac nid oes gennym unrhyw gyswllt â gweithredwyr gwefannau o’r fath. Ni fyddwn ni’n atebol am unrhyw golled neu niwed a all godi o’ch defnydd chi wefannau a gysylltir drwy ddolen. Rydym ni hefyd yn ffurfiol yn eithrio atebolrwydd am unrhyw ddeunydd anghywir, tramgwyddus, difenwol neu anllad a all ymddangos ar y gwefannau hynny.

9. NEWIDIADAU I’R SAFLE A’R GWASANAETH

Gall y byddwn ni’n diweddaru’r Safle o bryd i’w gilydd, a gallwn altro’r cynnwys (gan gynnwys y Gwasanaeth) ar unrhyw adeg. Fe allwn hefyd adolygu’r Telerau Defnyddiwr ar unrhyw adeg. Fe allwn ddarparu hysbysiad o newid i’r Telerau Defnyddiwr neu i faterion eraill drwy arddangos hysbysiadau neu ddolenni i hysbysiadau ar eich cyfer yn gyffredinol ar y Safle. Gwiriwch y Safle a’r Telerau Defnyddiwr yn rheolaidd os gwelwch yn dda, a nodwch unrhyw newidiadau a wnaed, am eu bod yn eich ymrwymo chi. Drwy barhau i ddefnyddio’r Safle rydych chi’n cytuno ag unrhyw newidiadau a wnaed.

10. CYFFREDINOL

10.1 Gellir gwneud hysbysiadau atoch naill ai dros e-bost neu bost cyffredin.

10.2 Ni ystyrir unrhyw ildiad gennym ni o unrhyw doriad i’r Telerau Defnyddiwr gennych chi yn ildiad yn achos unrhyw doriad olynol o’r un ddarpariaeth neu unrhyw ddarpariaeth arall.

10.3 Os di-rymir unrhyw ddarpariaeth o’r Telerau Defnyddiwr hyn, neu unrhyw ran ohonynt, am ba bynnag reswm, bernir fod y geiriau tramgwyddus wedi’u dileu a bydd y ddarpariaeth sy’n weddill yn parhau i fod mewn grym ac ar waith yn llwyr.

10.4 Mae eich hawliau a’ch dyletswyddau o dan y Telerau Defnyddiwr yn bersonol i chi ac rydych chi’n ymgymryd i beidio â, nac i honni, rhoi, llogi, codi ar, is-drwyddedu neu drosglwyddo mewn modd arall, hawliau a dyletswyddau o’r fath yn gyfan neu’n rhannol.

10.5 Nid oes dim yn y Telerau Defnyddiwr hyn a all greu unrhyw hawl na mantais i unrhyw drydydd parti o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Parti) 1999.

10.6 Ni fyddwn ni’n gyfrifol am unrhyw golled a ddioddefir gennych chi, na chael ein barnu i fod yn gyfrifol am unrhyw oedi neu fethiant mewn perfformiad trwy hyn sy’n ganlyniad i weithredoedd neu achosion sydd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol ni, nac oherwydd unrhyw weithred gan Dduw, gweithredoedd neu reoliadau unrhyw awdurdod llywodraethol neu goruwch genedlaethol neu os nad yw ein gweinyddion yn gweithio.

10.7 Cynhwyswyd penawdau adran er cyfleustra’n unig ac ni ddylid eu hystyried yn rhan o’r Telerau Defnyddiwr, na’u defnyddio wrth eu dehongli.

11. CYFRAITH AC AWDURDODAETH

11.1 Os ydych chi’n ddefnyddiwr, nodwch os gwelwch yn dda fod y Telerau Defnyddiwr, eu deunydd crai a’u fformatiad, yn ddarostyngedig i lywodraethiant cyfreithiau Lloegr a Chymru. Rydych chi a ninnau ein dau’n cytuno ar y cyd i ymostwng i awdurdodaeth anghyfyngedig llysoedd barn Lloegr a Chymru.

11.2 Os ydych chi’n fusnes, neu’n gweithredu ar ran busnes, bydd y Telerau Defnyddiwr, eu deunydd crai a’u fformatiad (gan gynnwys unrhyw anghydfod neu hawliad), yn ddarostyngedig i lywodraethiant cyfreithiau Lloegr a Chymru. Rydych chi a ninnau ein dau’n cytuno ar y cyd i ymostwng i awdurdodaeth gyfyngedig llysoedd barn Lloegr a Chymru.

12. DEHONGLI

12.1 Bydd gan y geiriau a’r ymadroddion canlynol yr ystyron canlynol yn y Telerau Defnyddiwr:

(i) Mae “ni” ac “ein” yn golygu Wales.com, adain weinyddol o Lywodraeth Cymru sy’n hybu Cymru. Prif leoliad busnes Llywodraeth Cymru yw Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(ii) Mae “chi” a “chi eich hunan” yn golygu chi, yr unigolyn sy’n dymuno defnyddio’r Safle a / neu’r Gwasanaeth; boed hynny ar eich rhan eich hin neu ar ran busnes.

13.1 CYSYLLTU Â NI

Gellir cysylltu â Wales.com drwy e-bost ar enquiries.wales@gov.wales

 

Straeon cysylltiedig