Defnyddio’r wefan hon

Nod Wales.com yw gwasanaethu’r gynulleidfa fwyaf posib, a chafodd ei datblygu drwy ateb

Wales.com sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae’r datblygiad wedi gweithredu dull hollol ymatebol gan sicrhau fod cynnwys yn hygyrch i’w weld ar ddyfeisiadau mor fach â ffonau symudol neu mor fawr â’r sgriniau mwyaf pen desg. Bu’n bwysig i’r datblygiad sicrhau nid yn unig fod testun yn cael ei wneud yn hygyrch ond hefyd bod y profiad o weld yn gyfartal ar draws meintiau sgrin, gan sicrhau fod ffotograffau’n canolbwyntio ar yr ardaloedd perthnasol wrth gael eu hailfeintioli, a bod trawsysgrifiadau ar gael o bob fideo a gomisiynir gennym.

Rydym ni wedi gwneud pob ymdrech i wneud gwefan Wales.com/cy/ yn hawdd i’w dilyn ac yn hygyrch i bawb. Rydym i wedi anelu at gael y safle i lynu wrth y canllawiau canlynol:- 

  • HTML4/5
  • CSS 2/3.0
  • WCAG Version 2.1 (AA)

Ewch i AbilityNet i gael arweiniad ar addasu eich cyfrifiadur ar gyfer eich anghenion hygyrchedd. 

Cydweddu â Phorwyr Rhyngrwyd

Cafodd gwefan Wales.com ei phrofi ar y rhan fwyaf o’r prif borwyr cyfoes.

Cafodd gwefan Wales.com ei phrofi ar y porwyr canlynol:

  • Chrome
  • Firefox
  • Internet Explorer
  • Safari

Ffontiau

I gefnogi’r ymdeimlad o le a’r profiad diwylliannol o Gymru, mae gennym gasgliad o wynebau teip unigryw sy’n cael eu dylanwadu gan dreftadaeth deipograffig y Gymraeg.

Mae’r ffontiau’n gweithredu fel conglfaen i uno hunaniaeth y brand gweledol, gan gynrychioli Cymru gerbron y byd mewn dull gwirioneddol a chreadigol.

Rydym ni wedi adeiladu cyfres o glyffau a diagraffau i’r ffont sy’n cefnogi ymdeimlad o le a chymeriad, yn ôl y galw.

  • Defnyddir Cymru / Wales Sans fel arfer fel ffont pennawd
  • Defnyddir Georgia Sans ar draws copi’r cynnwys
  • Defnyddir Cymru / Wales Serif ar draws copi’r cynnwys

Datblygwyd ein ffontiau ar y cyd ag asiantaeth hygyrchedd i adolygu ac addasu’r ffont yn ôl y galw,

Ffotograffiaeth, Darluniau a Fideo

Ein nod yw cael ein holl asedau cyfryngau sy’n eiddo i ni’n hygyrch, mae hyn yn cynnwys alt text disgrifiadol a chapsiynau ble bo’n addas. Yn aml, dangosir ein fideos drwy YouTube neu Vimeo ble bydd capsiynau ar gael.

Wrth wreiddio cynnwys trydydd parti i’n gwefan, ni allwn sicrhau fod pob parti allanol wedi dilyn yr un dull o weithio.

Beth y dylech ei wneud os na allwch fynd i rannau o’r wefan hon

Os ydych chi angen yr wybodaeth sydd ar y wefan hon ar ffurf arall fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn pen 30 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon

Rydym ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os cewch chi broblem sydd heb ei rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n teimlo nad ydym yn cwrdd â gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â: walesdotcom@llyw.cymru  

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Croeso Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.

Problemau â thechnoleg

 

Problemau â PDFs a dogfennau eraill

Dydi nifer o’n dogfennau PDF hŷn ddim yn diwallu safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai nad ydynt wedi’u marcio fel eu bod yn hygyrch i raglen darllen sgrin.

Mae rhai o’n dogfennau PDF yn bwysig er mwyn darparu gwybodaeth am ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch a hybu Cymru fel cyrchfan, rhai o'r rhain gan bartneriaid. Erbyn mis Ebrill 2022, rydym yn bwriadu trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Sut aethom ati i brofi’r wefan hon

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym Mawrth 2018. Cynhaliwyd y prawf gan Nomensa Cyf. Yn olynol a lansio’r wefan, a cheir ei gynnal gan ein partneriaid datblygu cyfredol BoxUK Cyf.

Gwnaethom brofi’r canlynol:

Beth ydym ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Mae gwneud ein gwefan yn llwyr hygyrch yn broses barhaol ac rydym ni wedi ymrwymo i gynnig profiad o’n gwefan sy’n cydymffurfio a safonau hygyrchedd AA ac yn hawdd i’w ddefnyddio. Ein dull arfaethedig o weithio yw cyfuno grwpiau technoleg a grwpiau ffocws fel ei gilydd sy’n cynnwys defnyddwyr sydd ag anableddau neu sy’n defnyddio technolegau sy’n rhoi cynhorthwy.

Mae datblygiadau parhaol yn cael eu cyflawni gyda safon hygyrchedd AA fel nod craidd gan ein partneriaid datblygu BoxUK.

Rydym hefyd wedi ymgymryd ag adolygiad newydd trwy ddefnyddio cyflenwyr allanol annibynnol ym Mawrth 2021.

Paratowyd y datganiad hwn ar 18 Medi 2020. Diweddarwyd ddiwethaf ar 6ed o Ebrill 2022.

Straeon cysylltiedig