Hysbysiadau Preifatrwydd
Mae Wales.com a Llywodraeth Cymru’n parchu ac eisiau diogelu preifatrwydd defnyddwyr ein gwasanaethau. Mae’r hysbysiadau preifatrwydd isod yn amlinellu’r manylion o ran gwybodaeth a gesglir ar y wefan hon.
Marchnata Twristiaeth Defnyddwyr Wales.com
Yma yn Wales.com rydym ni’n cymryd preifatrwydd o ddifri. Wales.com yw adran farchnata cyrchfan Llywodraeth Cymru.
Os ydych chi’n cofrestru i dderbyn cylchlythyr Wales.com yna byddwn ni ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i weinyddu eich cyfrif e-bost ac i ddarparu’r cynnyrch a’r gwasanaethau y bu i chi ofyn amdanynt gennym ni.
Byddwn ni’n anfon newyddion a gwybodaeth atoch sydd, yn ein barn ni, o ddiddordeb i chi o bryd i’w gilydd, yn seiliedig ar eich diddordeb a’ch dewisiadau cwmpeini ar wyliau neu eich lleoliad daearyddol.
Os ydych chi hefyd yn cydsynio i dderbyn cyswllt ar gyfer pwrpasau ymchwil, yna efallai y byddwch yn cael eich dewis i dderbyn holiadur ymchwil sy’n seiliedig ar dwristiaeth o bryd i’w gilydd, a gwirfoddol yw cwblhau’r holiadur arolwg blynyddol.
Mae gennych ryddid bob amser i ddad-danysgrifio unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen i ddad-danysgrifio mewn unrhyw neges e-bost a dderbyniwch gennym ni neu gallwch anfon e-bost atom ar enquiries.wales@gov.wales
Gan ddilyn arfer safonol y diwydiant, pan fyddwch chi’n dad-danysgrifio, cedwir eich cyfeiriad e-bost ar restr fygu system i sicrhau na fyddwch chi’n derbyn negeseuon e-bost gan Croeso Cymru mwyach. Byddwn ni’n adfywio ein rhestr bostio’n rheolaidd, a byddwn ni’n eich dileu oddi ar ein system os na fyddwch chi’n agor unrhyw neges e-bost a anfonwyd gennym atoch chi dros gyfnod o dair blynedd.
Os oes gennych unrhyw ofidiau o ran sut y mae eich data personol yn cael ei brosesu, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
Cyfeiriad e-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales
Gallwch hefyd gyflwyno cwyn gerbron Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef yr awdurdod sy’n goruchwylio diogelu data yn y DU:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn – Llinell gymorth 029 2067 8400 (Llinell gymorth Cymru) neu 0303 123 1113 (Llinell gymorth y DU)
Gwefan: www.ico.org.uk
Marchnata Twristiaeth Defnyddwyr Wales.com. Hysbysiad Preifatrwydd Cylchlythyr
Yma yn Wales.com rydym ni’n cymryd preifatrwydd o ddifri. Wales.com yw adran farchnata cyrchfan Llywodraeth Cymru.
Wrth gwblhau’r arolwg ailgyfeirio ar wefan Croeso Cymru, bydd eich data’n cael ei storio tan ddiwedd y flwyddyn ac yna caiff ei ddefnyddio i weinyddu’r raffl (Raffl Wobrau Arolwg Gwefan Wales.com – Telerau ac amodau). Rhennir yr wybodaeth a ddarperir ar yr arolwg â chwmni ymchwil a gontractiwyd er mwyn ei werthuso ar ein rhan ac os ydych chi wedi rhoi eich caniatâd i rywun gysylltu â chi i bwrpasau ymchwil yna gellir eich dethol i dderbyn holiaduron ymchwil sy’n gysylltiedig â thwristiaeth o bryd i’w gilydd; mae cwblhau’r holiaduron arolwg hyn yn wirfoddol.
Os dewiswch chi dderbyn cylchlythyron Wales.com, a fyddech cystal â chyfeirio at Hysbysiad Preifatrwydd eGylchlythyr yma os gwelwch yn dda.
Mae gennych ryddid bob amser i ddad-danysgrifio unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio mewn unrhyw neges e-bost a dderbyniwch gennym ni neu gallwch anfon e-bost atom ar enquiries.wales@gov.wales