Os oes gennych gwestiwn am Gymru, ewch i’n tudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Aml.

 

Beth yw Wales.com?

Wales.com yw prif wefan porth rhyngwladol Cymru – mae’n ffynhonnell ysbrydoliaeth a gwybodaeth i bawb sy’n awyddus i ddysgu mwy am Gymru fel lle i fuddsoddi, gweithio ac astudio ynddo, neu i ymweld ag ef.

Mae rhagor o wybodaeth fanwl am ymweld â Chymru ar wefan Croeso Cymru; a gwybodaeth am fuddsoddi a gweithio yng Nghymru ar wefan TradeandInvest.Wales.

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru am wybodaeth ynghylch Llywodraeth ddatganoledig Cymru.

Ar gyfer pwy mae Wales.com?

Mae Wales.com i bawb sy’n awyddus i ddysgu mwy am Gymru fel gwlad – ac fel lle i fuddsoddi, gweithio ac astudio ynddo, neu i ymweld ag ef.

Anelwyd y wefan hon yn bennaf at gynulleidfaoedd rhyngwladol a’i bwriad yw rhoi cyflwyniad cynnes ac eang o Gymru, gyda CroesoCymru.com a TradeandInvest.Wales yn darparu llawer mwy o fanylion i’r rhai hynny sydd eisiau dysgu mwy.

Ariennir Wales.com gan Lywodraeth Cymru, a’i rôl yw arddangos Cymru ar ei gorau ar ran busnesau, sefydliadau a phobl. Bydd y wefan weithiau’n cyflwyno gwybodaeth am Lywodraeth Cymru neu bolisi penodol, ond bydd yn gwneud hynny yng nghyd-destun adrodd stori ehangach am Gymru.

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru am wybodaeth am Lywodraeth ddatganoledig Cymru.

Ai gwefan newydd yw hon?

Mae Wales.com yn borth sydd wedi’i hen sefydlu ar gyfer hyrwyddo Cymru. Diweddarwyd y wefan yn ddiweddar fel rhan o brosiect Porth Digidol Cymru, sef cam presennol rhaglen o wella parhaus i gryfhau ein seilwaith marchnata digidol a’n cynnwys ar gyfer y dyfodol.

Mae fersiwn ddiweddaraf Wales.com ar lwyfan technegol newydd, a rennir gyda CroesoCymru.com. Mae’r wefan fwy ar ffurf cylchgrawn erbyn hyn – yn rhoi llwyfan i straeon am bobl a sefydliadau o bob rhan o Gymru y gellir eu rhannu hefyd drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r wefan yn y cam BETA ar hyn o bryd, a gallwch ddisgwyl gweld nifer o welliannau yn ystod y misoedd nesaf, gan gynnwys: defnydd mwy rhagweithiol o’r cyfryngau cymdeithasol; mwy o erthyglau byr ar agweddau amrywiol ar fywyd Cymru; fersiynau iaith newydd o’r safle; a gwelliannau technegol i’r profiad a gynigiwn i ddefnyddwyr ar y safle.

Pa ieithoedd sydd wedi’u cynnwys?

Mae’r fersiwn hon o Wales.com ar gael yn Gymraeg, Saesneg, Almaeneg, Ffrangeg a Sbaeneg. Bydd ymwelwyr o Ogledd America yn cael fersiwn lleoledig o’r safle. Mae yna wefannau Japaneeg a Tsieineeg annibynnol am Gymru hefyd. Caiff fersiynau o Wales.com mewn ieithoedd eraill eu datblygu yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd, mae Wales.com yn debyg iawn ymhob iaith, ond dros y flwyddyn sydd i ddod, byddwn yn symud at baratoi cynnwys sy’n gweddu’n benodol i ddiddordebau’r sawl sy’n defnyddio fersiynau gwahanol o’r safle.

Pwy sy’n cynnal y wefan?

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddatblygu a rheoli gwefan Wales.com a’i sianeli cyfryngau cymdeithasol cysylltiedig.

Sut mae’n wahanol i wefan Llywodraeth Cymru?

Wales.com yw prif wefan porth rhyngwladol Cymru sy’n edrych tu hwnt i Gymru.

Nod y wefan yw hybu Cymru fel gwlad yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r prif ffocws ar Gymru fel gwlad ac fel lle i fuddsoddi, gweithio ac astudio ynddo ac i ymweld ag ef. Bydd y safle’n cynnwys straeon am fusnesau, sefydliadau a phobl Cymru, yn aml yn eu geiriau eu hunain.

Ariennir y wefan gan Lywodraeth Cymru. Bydd y wefan weithiau’n cyfeirio at Lywodraeth Cymru – a’i pholisïau penodol – ond bydd yn gwneud hynny yng nghyd-destun adrodd stori Cymru i gynulleidfaoedd rhyngwladol.

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru am wybodaeth am Lywodraeth ddatganoledig Cymru.

Pam fod y wefan yn sôn am fusnesau unigol?

Bwriedir i  Wales.com fod yn ffenestr siop i Gymru mewn ffordd sy’n berthnasol ac yn ddiddorol i gynulleidfaoedd newydd. Er mwyn dod â stori Cymru’n fyw, byddwn yn sôn am bobl, busnesau a sefydliadau unigol – i helpu i ddarlunio stori Cymru ac nid i hybu buddiannau unigol.

Dydy’r pwyslais ddim ar hyrwyddo unrhyw fusnesau unigol. Bydd pob cyfeiriad at fusnesau bob amser yng nghyd-destun nod ehangach y wefan i ddweud rhywbeth am Gymru fel lle i fuddsoddi, gweithio ac astudio ynddo ac i ymweld ag ef. Nid oes unrhyw fudd ariannol i’r busnesau a nodir.

Wrth reswm, nifer cyfyngedig o bobl, busnesau a sefydliadau a fydd yn cael sylw mewn erthyglau ar Wales.com yn y lle cyntaf, ond bydd hynny’n ehangu yn y blynyddoedd i ddod. Mae Wales.com hefyd yn rhan o rwydwaith ehangach o wefannau rhyngwladol i Gymru, fel CroesoCymru.com a TradeandInvest.Wales – ac maen nhw hefyd yn cynnig dolenni i wefannau busnesau pwysig eraill Cymru – lle mae sôn am gannoedd o fusnesau o bob rhan o Gymru.

Mae’n bosibl rhestru pob busnes twristiaeth yng Nghymru ar CroesoCymru.com – ac mae’n bosibl rhestru pob busnes yng Nghymru hefyd ar wefan Busnes Cymru. Mae dolenni i’r ddwy wefan ar Wales.com.

Mae erthygl wedi tynnu fy sylw’n ddiweddar, a hoffwn ysgrifennu erthygl ar eich cyfer. Beth sy’n rhaid i mi ei wneud?

Dylech gofrestru ar GwerthwchiGymru.llyw.cymru os ydych yn fusnes sy’n cynhyrchu cynnwys a bod diddordeb gennych mewn gweithio gyda Llywodraeth Cymru.

Rwy’n ffotograffydd/yn paratoi gwaith ffilm ac rwyf eisiau i Cymru.com ddefnyddio fy lluniau/fideos.

Dylech gofrestru ar GwerthwchiGymru.llyw.cymru os ydych yn fusnes sy’n paratoi cynnwys a bod diddordeb gennych mewn gweithio gyda Llywodraeth Cymru.

Straeon cysylltiedig