Gwrando ar radio hwyr y nos wnaeth fy nenu i at gerddoriaeth
Dwi’n cofio clywed DJs fel Steve Lamacq, Jo Whiley a John Peel, a meddwl: "Waw – mae hyn yn wych." Roedd hi’n adeg cyffro’r holl fandiau rhagorol o Gymru yng nghanol y 90au. Roedd gyda ni Catatonia, Stereophonics, Manic Street Preachers, Super Furry Animals, Feeder a bandiau mawr eraill ar garreg ein drws.

Roedd y cyfan mor gyffrous
Ro’n i’n 15 ac roedd gen i sioe ar Rookwood Sound, gorsaf radio ysbyty yng Nghaerdydd, a byddwn i’n chwarae recordiau gan bob un o’r bandiau hynny. Ar yr un pryd fe ddechreuais i gylchgrawn o’r enw Caws Heb Dost. Peidiwch â gofyn pam wnes i roi’r enw hwnnw arno fe!
Roedd hi’n teimlo fel pe bawn i yn y lle iawn ar yr adeg iawn
Roeddwn i wedi ymddiddori mewn cerddoriaeth leol erioed, ac rydw i’n meddwl y byddai hynny wedi bod yr un mor wir ble bynnag y byddwn i wedi cael fy magu. Ond roeddwn i’n ddigon ffodus i gael fy ngeni mewn gwlad â ganddi ddiwylliant creadigol cyfoethog a chymaint o ddoniau. Dyma’r swydd orau yn y byd, i allu ymollwng i'r diwylliant hwnnw a chyfrannu at ei gofnodi.



Dwi wrth fy modd mewn gig yng Nghaerdydd
Fe ges i fy magu ar aelwyd Clwb Ifor Bach – y clwb Cymraeg enwog ar Stryd Womanby. Dyna oedd fy ail gartref pan o’n i’n 18 ac yn dechrau mynd i gigs yn rheolaidd yn y ddinas. Yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny fe welais i fandiau fel Coldplay a The Strokes. Yn fwy diweddar, mae ambell noson anhygoel wedi cael eu cynnal yn y Clwb gyda Stella Donnelly a Boy Azooga.
Ar ben arall y sbectrwm, rydw i wedi gweld ambell gig anhygoel mewn lleoliad mawr yng Nghaerdydd fel Arena Motorpoint a Neuadd Dewi Sant. Mae pob lleoliad cerddorol y bydda i’n mynd iddo’n atseinio gan atgofion. Yn Neuadd Dewi Sant fe welais i’r Bootleg Beatles, Elvis Costello a Gorky’s. Mi fydda i’n cerdded heibio i’r Motorpoint a chofio mai dyna ble gwelais i Blur, Oasis a The Prodigy – cymaint o nosweithiau rhagorol.

Y gig gorau erioed yng Nghaerdydd
Pe bai rhywun yn gofyn i mi pa un oedd y gig gorau erioed yng Nghaerdydd, byddai’n rhaid i mi ddweud mai gig y band o Gymru, Gorky’s Zygotic Mynci, gyda chefnogaeth Yo La Tengo yn Neuadd Dewi Sant yn 2004, oedd hi. Dyna’r tro olaf i mi weld Gorky’s yn chwarae. Fe chwalon nhw’n fuan wedyn.
Gŵyl Sŵn
Fe wnaethon ni sefydlu Gŵyl Sŵn yn 2007. Roedden ni’n teimlo bod angen hynny ar Gaerdydd ac ar Gymru. Roeddem ni eisiau adlewyrchu’r sîn gerddoriaeth gynnes, gefnogol yn y ddinas, a’i chadw’n llawn cyffro. Ond nid unig fwriad yr ŵyl oedd cael dathliad mawr o’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru. O’r dechrau’n deg, roedden ni hefyd eisiau gwahodd artistiaid rhyngwladol i chwarae.


Bydd perfformiadau’n digwydd mewn lleoliadau niferus ar draws y ddinas
Gallwch grwydro o gig i gig a dod ar draws rhywbeth na fyddech chi erioed wedi’i glywed o’r blaen. Mae’n fformiwla sydd wedi cydio yn nychymyg pobl, gan droi Sŵn yn un o hoff wyliau cerddoriaeth Cymru. Rydym ni wrth ein bodd mai Clwb Ifor Bach sy’n ei rhedeg bellach – mae hynny’n cau’r cylch yn grwn i mi. Rwy’n siŵr y byddan nhw’n gofalu’n dyner am yr ŵyl ac yn ei helpu i fynd o nerth i nerth yn y dyfodol.
Mae Sŵn yn darparu ffocws ar gyfer cerddoriaeth fyw, ac mae’n ffordd wych o ddenu pobl i mewn i’r sîn o’r tu allan i Gymru. Mae hefyd yn gyfle i gofio na ddylen ni gymryd sîn cerddoriaeth fyw fywiog Caerdydd yn ganiataol, oherwydd gallwn ni weld yn glir gymaint fyddai’n cael ei golli wrth beidio â chefnogi ein lleoliadau perfformio.
Mae Sŵn yn darparu ffocws ar gyfer cerddoriaeth fyw, ac mae’n ffordd wych o ddenu pobl i mewn i’r sîn o’r tu allan i Gymru."
Gwobr Cerddoriaeth Cymru
Fe wnaethon ni lansio Gwobr Cerddoriaeth Cymru yn 2011 fel llwyfan i ddathlu’r albyms anhygoel oedd yn cael eu creu yma gan artistiaid o Gymru. Roedden ni’n clywed cynifer o recordiadau rhagorol yn Gymraeg ac yn Saesneg bryd hynny. Mae wedi datblygu’n ffordd arall o ddod â phawb ynghyd a’u cael i siarad am y gerddoriaeth newydd orau o Gymru.
Pan fydda i’n gwneud fy swydd, bydda i’n dod ar draws cymaint o ewyllys da tuag at y sîn gerddorol yng Nghymru – a gyda digwyddiadau fel Gwobr Cerddoriaeth Cymru a Sŵn gallaf weld dyfodol disglair o’n blaenau.
