Mae’n hanes sy’n dal i gipio dychymyg arlunwyr, chwedleuwyr a chenedlaethau o Gymry. Sut ddaeth y rhan hon o’r Ariannin i fod yn gornel bell o Gymru? Pam fod 150 o Gymry wedi teithio 8,000 o filltiroedd ar draws yr Iwerydd er mwyn sefydlu cymuned anghysbell yn Ne America? A sut wnaethon nhw oroesi, gan gofio iddyn nhw gyrraedd yno ganol gaeaf 1865, a sylweddoli nad dyma’r tir glas a addawyd iddyn nhw?

Mae’r ateb mewn cydweithio, cyfeillgarwch, gwytnwch a breuddwydwyr uchelgeisiol.

Grŵp o bedwar person yn sefyll gan edrych ar gofeb ar dir Capel Moriah, Trelew. Yn sefyll ar y chwith bellaf mae Robin Gwyndaf.
Grŵp o bedwar person yn sefyll gan edrych ar gofeb ar dir Capel Moriah, Trelew. Yn sefyll ar y chwith bellaf mae Robin Gwyndaf. Rhan o: Casgliad Dwynwen Belsey; ca. 1965

Ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru, teimlai’r Cymry Cymraeg, nifer ohonynt yn Gristnogion anghydffurfiol, eu bod yn cael eu herlyn oherwydd eu hiaith a’u diwylliant. Yn 1847, cyhoeddodd y llywodraeth adroddiad ar addysg yng Nghymru (a ddaeth i gael ei adnabod yn ddiweddarach fel Brad y Llyfrau Gleision), a wnaeth y sefyllfa’n waeth gan ei fod yn llawn o sylwadau oedd yn tramgwyddo’r Gymraeg. Trwy wawdio Cymry Cymraeg a chyflwyno cosbau fel y Welsh Not (darn o bren oedd yn cael ei roi i blant oedd yn siarad Cymraeg yn yr ysgol i’w roi o amgylch eu gwddf), fe arweiniodd hyn at don o ymfudo o Gymru i America. Un gweinidog anghydffurfiol o’r Bala a ymfudodd i Ohio oedd Michael D. Jones oedd yn gwybod yn iawn pa mor anodd oedd hi i’r Gymraeg ffynnu yn ei famwlad. Daeth y syniad o greu iwtopia anghysbell, ymhell oddi wrth ddylanwad y Saesneg, yn obsesiwn ganddo.

Roedd cyhoeddwr ac argraffwr o Gaernarfon, Lewis Jones, yn teimlo’r un fath. Yn 1862, fe deithiodd i ddyffryn Chubut ym Mhatagonia, yng nghwmni’r gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig, Syr Love Parry-Jones (a roddodd enw ei ystâd, Madryn, yn enw ar y porthladd lle glaniodd y mewnfudwyr). Cawsant gynnig tir gan weinidog yn yr Ariannin, er bod yr ardal eisoes yn gartref i lwyth brodorol.

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, cafodd pamffled yn gwerthu manteision Patagonia ei lunio a’i ddosbarthu yng Nghymru gan Gymro arall, Hugh Hughes. Roedd addewidion Hugh Hughes o wlad debyg iawn i Gymru yn dipyn o or-ddweud. Er hynny, fe lwyddodd y pamffled i ddenu 150 o bobl, nifer o gymunedau Aberdâr, Aberpennar ac Abercwmboi yng Nghwm Rhondda, i fentro ar fwrdd llong cario te, y Mimosa. Gan adael Lerpwl ar 28 Mai, eu hamcan oedd sefydlu anheddiad Cymreig newydd, a fyddai’n cael ei alw Y Wladfa.

 

'Trelew 1955 - Hen injan ddyrnu'
Llun o ddyn yn sefyll ar dir garw â thyfiant yno, yn symud darn pren ar i fyny sydd wedi ei gysylltu â bwrdd.
'Trelew 1955 - Hen injan ddyrnu' Hen injan ddyrnu ager, Trelew, ca. 1955. 'Trelew 1955 - David Jones yn dyfrhau, ca. 1955. Llun o ddyn yn sefyll ar dir garw â thyfiant arno, yn symud darn pren ar i fyny sydd wedi ei gysylltu â bwrdd. Y ddau lun yn rhan o: Casgliad Dwynwen Belsey; ca. 1955

Sefydlu Y Wladfa

Ddeufis a phedwar diwrnod wedyn, fe laniodd y Mimosa ym Mhatagonia. Nid dyma’r ddelfryd oedd wedi cael ei addo iddyn nhw. Roedd hi’n ganol gaeaf ac roedd dyffryn Chubut yn grimp wedi cyfnod hir o sychder. Daeth llifogydd i ddilyn gan ddifrodi un o’r aneddiadau Cymreig cynharaf a sefydlwyd yno. Roedd hi hefyd yn anodd dod o hyd i ddŵr ffres yn y blynyddoedd cynnar hyn, cyn i un o’r aelodau, Rachel Jenkins, lunio cynllun i ddyfrhau’r tir. Yn ddiweddarach yn y ganrif, roedd cnydau ŷd yn boblogaidd ac roedd digonedd ar gael.

Cafodd y Cymry hefyd gymorth gan nifer o bobl y Tuhuelche. Fe ddysgon nhw’r Cymry sut i hela, a chyfnewid cig gwanaco am fara Cymreig, gan eu helpu i ymgartrefu yn eu cartref newydd.

Tractor yn tynnu peiriant ffermio.
Tractor yn tynnu peiriant ffermio. Tractor yn tynnu peiriant ffermio, injan ddyrnu o bosibl, ca. 1955. Wedi ei ysgrifennu ar y cefn mae’r geiriau "Rhodd Mr William O Jones i Mr Owen ar ei ymweliad â’r Wladfa Ebrill 10 – 1955." Rhan o: Casgliad Dwynwen Belsey; ca. 1955

Cafodd yr aneddiadau cyntaf eu sefydlu ar yr arfordir dwyreiniol, ac mae nifer ohonynt yn dal yn bodoli heddiw. Mae Puerto Madryn bellach yn ddinas â phoblogaeth o 100,000, yn gartref i ffatri alwminiwm anferth, ac yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid fynd i wylio morfilod. Mae cerflun o ferch o Gymru yn sefyll ger y porthladd, yn wynebu am y mewndir ac yn atgoffa ymwelwyr o ddechrau’r hanes. Hanner can milltir i’r de, mae Trelew (tref wedi ei enwi ar ôl Lewis Jones), sy’n ganolbwynt i’r diwydiant gwlân. Mae’n gartref i Eisteddfod flynyddol yr ardal ac mae yno sawl ysgol ddwyieithog, Sbaeneg a Chymraeg. Mae hefyd oddeutu 30 o gapeli Protestannaidd Cymreig ar wasgar yn yr ardal ag iddynt enwau cyfarwydd fel Moreia a’r Tabernacl.

Naw milltir i fyny’r afon mae’r Gaiman, cartref y Museo Histórico Regional sy’n dathlu’r hanes Cymreig. Mae wedi ei leoli yn yr hen orsaf drenau oedd yn gwasanaethu hen Reilffordd Fictoraidd Chubut (prosiect arall gan Lewis Jones) a fu’n gymorth i’r ardal dyfu. Mae parlyrau te Cymreig yn dal i fod yn boblogaidd yma, lle gallwch flasu fersiwn Patagonia o’r bara brith Cymreig, a elwir yn torta negra yn Sbaeneg, neu ‘cacen ddu’ yn Gymraeg; mae pentref Dolavon hefyd yn agos (enw â tharddiad Cymraeg arall, wrth gwrs).

'Trelew 1955 - Capel Bryngwyn (E.T. Edmunds)'
 'Trelew 1955 - Capel Bryngwyn (E.T. Edmunds)'. Llun o’r tu allan i Gapel Bryngwyn, Trelew, ca. 1955 Rhan o: Casgliad Dwynwen Belsey; ca. 1955

Sefydlwyd aneddiadau eraill rhyw bedwar can milltir i’r gorllewin ddechrau’r ugeinfed ganrif mewn ardal o’r enw Cwm Hyfryd. Roedd mynyddoedd cyfagos yr Andes yn atgoffa’r Cymry o gartref fwy fyth. Mae trefi Esquel a Trevelin yn dal i fod yn rhai prysur heddiw.

Tŷ â mynyddoedd Patagonia yn y cefndir
‘Tŷ â mynyddoedd Patagonia yn y cefndir'. Llun o dŷ un llawr â chopaon mynyddoedd Patagonia dan eira yn y cefndir. Rhan o: Casgliad Dwynwen Belsey; ca. 1955

Heddiw

Mae hanes Patagonia hefyd yn dal yn amlwg iawn yng Nghymru, ac nid drwy’r plac i Lewis Jones yn unig, sydd bellach yn disgleirio yn Stryd y Llyn yng Nghaernarfon, ger safle ei hen gartref. Mae Patagonia wedi ysbrydoli awduron fel Richard Llewellyn, lle mae ei ddilyniannau i How Green Was My Valley yn mynd â chymeriad Huw Morgan i Batagonia (mae’r llyfrau allan o brint, ond mae’n werth chwilota amdanyn nhw: mae Up Into The Singing Mountain a Down Where The Moon Is Small yn sicr yn deitlau deniadol wrth feddwl am grwydro a darganfod gwledydd pellennig).

Fe wnaeth Gruff Rhys o’r Super Furry Animals ffilm am Batagonia yn 2010 o’r enw Separado. Mae’r ffilm yn dangos y cerddor o Gymru yn teithio er mwyn dod o hyd i berthnasau pell. Mae’r daith yr un mor adloniannol a seicadelic â’i albyms gwych. Fe ysgrifennodd y dramodydd Marc Rees hefyd y ddrama 150 ar y cyd â Theatr Genedlaethol Cymru ac S4C yn 2015 am yr ymfudwyr gwreiddiol ar y Mimosa, a’r ddrama wedi ei henwi ar ôl y nifer o bobl a hwyliodd dros y môr. Cafodd ei llwyfannu yn Nhŷ Opera Brenhinol Aberdâr, yn agos at ble arferai nifer o’r ymfudwyr fyw, ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Yr un flwyddyn, aeth Cerddorfa Genedlaethol Cymru a’r delynores, Catrin Finch, ar daith ym Mhatagonia gan ddenu cynulleidfaoedd mawr oedd yn canu ynghyd â’r gerddoriaeth gyda’r un hwyl â’r Cymry’n ôl adref.

'Golygfa o Drelew, Chubut, Yr Ariannin'.
'Golygfa o Drelew, Chubut, yr Ariannin'. Llun o’r awyr o Drelew, Medi 1965, yn dangos amlinell yr adeiladau. Rhan o: Casgliad Dwynwen Belsey; ca. 1965.

Mae’r cysylltiadau rhwng Cymru a Phatagonia yn dal i ddatblygu. Mae Cynllun yr Iaith Gymraeg yn parhau i wneud gwaith ardderchog yn yr ardal, yn hyrwyddo’r Gymraeg mewn ysgolion, gweithdai a gweithgareddau cymdeithasol ar draws dyffryn Chubut ers 1997. Ers hynny, mae cydlynydd addysgu parhaol o Gymru wedi ei leoli ym Mhatagonia, gyda rhwydwaith o siaradwyr Cymraeg brodorol o’r Ariannin yn cynorthwyo â’r gwaith. Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd yn estyn llaw ar draws yr Iwerydd er mwyn cefnogi’r gwaith, gan gynnig tair ysgoloriaeth bob blwyddyn i bobl o Batagonia ddod i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd neu Brifysgol Aberystwyth.

Mae mudiad ieuenctid Urdd Gobaith Cymru hefyd yn cynnal teithiau blynyddol i aelodau’r Urdd a dysgwyr Cymraeg ifanc wirfoddoli ym Mhatagonia ers 2011. Ewch draw i wefan yr Urdd er mwyn dod o hyd i’r manylion am y teithiau diweddaraf a sut y gall swyddogion lleol yr Urdd helpu aelodau i godi arian. Mae cwmnïau fel Teithiau Tango hefyd yn cynnig teithiau Cymraeg i’r ardal, neu fe allech chi deithio yno eich hunan, yn rhydd ac yn wyllt, fel y gwnaeth ein cyndeidiau flynyddoedd mawr yn ôl.

Yn groes i’r disgwyl, nid yw hanes y Wladfa yn syml nac yn rhamantaidd mewn gwirionedd, ond mae’n hanes o lwyddiant sy’n dal i gael ei adrodd a’i gofio heddiw.

Grŵp mawr o bobl wedi ymgynnull o amgylch cofeb tu allan i Gapel Moriah.
'Grŵp mawr o bobl wedi ymgynnull o amgylch cofeb y tu allan i Gapel Moriah’ Rhan o: Casgliad Dwynwen Belsey; ca. 1965

Straeon cysylltiedig