O ran hanes pêl-droed Cymru, mae Wrecsam yn lle addas i ddechrau. Stadiwm y ddinas, Y Cae Ras, yw lle chwaraeodd Cymru eu gêm gartref ryngwladol gyntaf (colli 2-0 i'r Alban; 1877), ac fe gafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), corff llywodraethu pêl-droed y wlad, ei sefydlu yma yng Ngwesty'r Wynnstay Arms (sy'n dal i sefyll heddiw).

Oherwydd y dreftadaeth bêl-droed yma y bydd y ddinas yn safle Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn 2025 - prosiect rydw i’n helpu i’w gydlynu ar hyn o bryd. Bydd yr amgueddfa yn ddathliad o saga’r gêm yng Nghymru, gan gynnwys arddangosfeydd ac arteffactau o’r gorffennol a’r presennol.

Tu mewn i ystafell llys yr amgueddfa.
Tu allan i adeilad brics brown.
Safle Amgueddfa Bêl-droed Cymru sydd ar y gweill

Ar ben hynny, mae’n ffaith mai CPD Wrecsam yw’r clwb pêl-droed hynaf yng Nghymru. Mae eu hanes yn mynd yn ôl i 1864, pan chwaraeodd y tîm yn erbyn yr orsaf dân leol. Dyma oedd dechrau go iawn pêl-droed Cymru, lle’r oedd gweithwyr yn chwarae mewn timau amatur fel Clwb Pêl-droed y Waun a’r Derwyddon, gan frwydro i ennill Cwpan Cymru, cystadleuaeth sy'n dal i ddigwydd heddiw. Lledaenodd y gêm drwy ogledd Cymru yn gyntaf, cyn cyrraedd y de (yn ôl pob tebyg oherwydd poblogrwydd rygbi yn y rhanbarth – un arall o hoff chwaraeon Cymru), gyda chlybiau adnabyddus fel Dinas Caerdydd, Dinas Abertawe a CPD Sir Casnewydd yn ffurfio mwy na deng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach (rhwng 1899 a 1912).

O ran y tîm cenedlaethol, ni ddechreuodd pethau tan 1876, pan roddodd cyfreithiwr o’r enw Llewelyn Kenrick o ardal Wrecsam hysbyseb yn y papur newydd, i weld a oedd yn gallu recriwtio chwaraewyr i gynrychioli Cymru mewn gêm ryngwladol yn erbyn yr Alban. Roedd yn llwyddiannus, gan fynd â thîm o ddynion oedd yn cynnwys saer maen, glöwr ac ysgubwr simneiau i fyny i Glasgow lle cawsant eu trechu 4-0 gan y tîm cartref. Aeth Cymru ymlaen i golli eu saith gêm nesaf.

Drwy golli’r gemau cynnar yma, fe osodwyd y cynsail i raddau helaeth ar gyfer gêm ryngwladol y dynion yng Nghymru am y 100 mlynedd nesaf. Ac eithrio eu taith, sydd bellach bron yn chwedlonol, i gyrraedd y rownd gogynderfynol yng Nghwpan y Byd 1958 (lle collodd y tîm o drwch blewyn i dîm Brasil, yn cynnwys Pele 17 oed), a cholli 3-1 yn y rownd gogynderfynol yn erbyn Iwgoslafia yn Ewro 76, methodd Cymru â chymhwyso ar gyfer unrhyw dwrnameintiau mawr. Perfformiadau truenus a gafodd eu gweld yn bennaf, gyda llond llaw o adegau dirdynnol 'beth os', a'r tîm yn methu yn y camau olaf o gymhwyso - yn aml mewn ffordd ddramatig.

Mae methiannau agos nodedig yn cynnwys gêm gymhwyso ddadleuol Cwpan y Byd 1977 yn erbyn yr Alban, lle dyfarnwyd cic gosb dyngedfennol i chwaraewr o’r Alban (Joe Jordan) er iddo gyffwrdd y bêl â’i law, a’r gêm yn erbyn Romania yng Nghaerdydd i gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 1994, gyda Paul Bodin yn cael cic gosb – a fyddai wedi selio’r fuddugoliaeth i Gymru – a’r bêl yn hedfan dros y croesfar.

Dyn yn gwenu at y camera yn ei gap a’i grys pêl-droed Cymru.
Tyrfa fawr o bobl yn dathlu
Cefnogwyr Cymru

Ar yr un pryd, roedd pethau'n waeth byth i gêm y merched. Daeth y gêm i Gymru gyda Chlwb Pêl-droed Merched Prydain o Lundain, un o dimau merched cyntaf y byd, a deithiodd o gwmpas Cymru nifer o weithiau yn ystod diwedd y 19eg ganrif gan ddenu torfeydd mawr. Tyfodd y diddordeb yma yn y gêm yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan gafodd timau eu ffurfio gan ferched a oedd yn gweithio mewn ffatrïoedd arfau rhyfel yn lle’r dynion a oedd wedi mynd i ymladd. Cafodd nifer o gemau merched eu cynnal (gemau elusennol fel arfer i godi arian ar gyfer ymdrechion y rhyfel) ar y Cae Ras yn Wrecsam, gan gynnwys gêm yn erbyn y tîm enwog o Preston, Clwb Pêl-droed Dick, Kerr Ladies, a fyddai’n mynd ymlaen i chwarae o flaen 53,000 o gefnogwyr yn stadiwm Goodison Park Everton ar Ŵyl San Steffan, 1920.

Yna daeth y gwaharddiad. Wedi’i gyflwyno’n wreiddiol gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr ac yna’n cael ei fabwysiadu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ym 1922, roedd y rheol newydd yn gwahardd merched rhag chwarae pêl-droed mewn unrhyw gae neu stadiwm yn gysylltiedig â CBDC, gan ei gwneud yn anodd iawn i drefnu gemau a lleihau’r gêm lewyrchus i weithgaredd lleiafrifol. Y rheswm a roddwyd am y gwaharddiad oedd bod pêl-droed yn cael ei ystyried yn anaddas (‘rhy gorfforol’) i ferched, ond bu amheuaeth erioed nad oedd y dynion oedd yn rhedeg y gêm ar y pryd yn hoffi gweld poblogrwydd pêl-droed merched yn tyfu. Cafodd pêl-droed merched ei wahardd yng Nghymru tan 1970.

Tri o bobl yn gwenu at y camera.
Laura McAllister yn cael cap Cymru gan Robbie Savage (chwith) a Dean Saunders (dde).

Diolch byth, gwelwyd newid yn ddiweddar yn ffawd pêl-droed dynion a merched Cymru.

Roedd penodi Gary Speed yn rheolwr tîm rhyngwladol y dynion yn 2011 wedi rhoi hwb i gyfnod o lwyddiant digynsail, gyda’r tîm (a oedd wedi disgyn i’r 117fed safle o blith gwledydd y byd, yr isaf erioed iddynt - yn is na Gogledd Corea ac Ynysoedd Ffaro) yn cymhwyso ar gyfer Ewro 2016. Yma fe wnaethon nhw fwynhau taith syfrdanol, o dan olynydd Speed, Chris Coleman – i rownd gynderfynol y gystadleuaeth, oedd yn cynnwys buddugoliaeth anhygoel 3-1 yn erbyn Gwlad Belg. Mae’n haf a newidiodd y rhagolygon ar gyfer pêl-droed yng Nghymru, a bu’r tîm – sy’n cynnwys enwau adnabyddus fel Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen – yn gorymdeithio drwy strydoedd Caerdydd mewn bws agored.

Roedd golygfeydd y gorfoledd yn dangos pa mor bell roedd pêl-droed Cymru wedi dod ers Cwpan y Byd 1958, lle, yn ôl y sôn, y gofynnodd arweinydd trên yng Ngorsaf Abertawe yn ddiniwed i un o’r chwaraewyr a oedd yn dychwelyd, a oedd o wedi bod yn unrhyw le braf ar ei wyliau.

Tyrfa o bobl yn cymeradwyo tîm Pêl-droed Cymru ar eu bws.
Tîm Pêl-droed Cymru yn dychwelyd i Gymru

Bellach o dan arweinyddiaeth Rob Page, mae’r tîm wedi dilyn stori lwyddiant yr Ewros yma gan gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022, gan guro’r Wcráin i gadw eu lle yn y twrnamaint, am yr eildro’n unig mewn hanes, yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Yn dilyn codi’r gwaharddiad chwarae yn 1970, mae tîm rhyngwladol y merched hefyd wedi mwynhau cyfnod o lwyddiant diweddar, gan golli’r cyfle o drwch blewyn i gymhwyso ar gyfer Cwpanau’r Byd 2019 a 2023 (yr olaf oherwydd iddynt golli yn erbyn y Swistir yn y munud olaf o amser ychwanegol), ond yn dal i ddringo i'w safle FIFA uchaf erioed (29ain yn y byd). Heb os, mae’r llwyddiant cynyddol yma ar y cae wedi cyfrannu at dwf y gêm ar lawr gwlad, gyda Chymru’n gweld cynnydd o 50% yn nifer y genethod a’r merched sy’n chwarae pêl-droed yn y wlad o 2017-2020.

Mae’r gêm clwb yng Nghymru mewn sefyllfa dda hefyd, gyda Dinas Caerdydd a Dinas Abertawe wedi mwynhau ymgyrchoedd diweddar yn rhannau uchaf system gynghrair Lloegr, tra bod wyth tîm merched yn cystadlu bob tymor yn Uwch Gynghrair ddomestig yr Adran.

Ond, ar ôl dechrau yn ninas Wrecsam, mae'n teimlo'n addas i orffen pethau yno hefyd.

Yn un o’r penodau mwyaf swreal yn hanes pêl-droed Cymru, cafodd clwb pêl-droed y ddinas, Clwb Pêl-droed Wrecsam, lawer o sylw yn y penawdau yn 2020 yn dilyn cais llwyddiannus i’w brynu gan y ddau ddyn o Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Er bod llawer wedi diystyru’r syniad i ddechrau bod dau actor eisiau rhedeg tîm pêl-droed Cymreig (ar hyn o bryd yn chwarae yn y gwaelodion, ym mhumed haen cynghrair pêl-droed Lloegr) yn dipyn o jôc, roedd y perchnogion newydd yn gwbl ddifrifol ynglŷn â’u huchelgeisiau i helpu'r clwb i adennill hen ogoniannau. O ganlyniad, mae tîm hanesyddol Wrecsam wedi cael ei wthio i sylw’r byd, gan fwynhau nawdd gan enwogion, mwy nag erioed o docynnau’n cael eu gwerthu a llawer iawn o hyrwyddo ar sianeli cyfryngau cymdeithasol poblogaidd eu perchnogion newydd byth ers hynny.

Mae’r datblygiad yn ychwanegu pennod arall at dreftadaeth bêl-droed chwedlonol y ddinas, a’r tro (syfrdanol) diweddaraf ym mherthynas hir Cymru â’r bêl gron – gyda llawer mwy o hanes i’w gyflawni eto.

Chwaraewyr pêl-droed yn codi llaw o’u bws.
Chwaraewyr pêl-droed yn codi llaw o’u bws.

Straeon cysylltiedig