Dyma brototeip sy’n cyfuno technoleg werdd â pheirianneg ceir moethus. Mae’r enw’n cyfeirio at yr ymadrodd Lladin tabula rasa, a gyfieithir fel arfer i olygu 'llechen lân', ond mae amlinell y car hwn yn ddyledus iawn i geir rasio clasurol y gorffennol. Mae ganddo ddrysau sy’n codi fel adenydd hyd yn oed, gan adlewyrchu modelau eiconig fel y Mercedes-Benz 300SL a’r DeLorean DMC-12 a anfarwolwyd yn Back to the Future.
Gobaith Hugo Spowers, sylfaenydd a phrif beiriannydd Riversimple, yw dechrau chwyldro mewn moduro cynaliadwy o’i bencadlys yn Llandrindod, Powys. Meddai ef: "Mae’r diwydiant ceir wedi bod yn llwyddiannus iawn ers dros 100 mlynedd, ond dyw’r car modur ddim yn ffit i’w bwrpas mwyach. Fe wnaethon ni ddechrau â dalen lân o bapur, gan ddychmygu pwynt cynaliadwyedd yn y dyfodol, a gweithio’n ôl o’r fan honno."


Mae’r Rasa’n gynnyrch Cymreig balch, a’r car cyntaf i ddeillio’n llwyr o Gymru ers i’r coupés Gilbern slic olaf ddod oddi ar y llinell gynhyrchu ym Mhontypridd ar ddechrau’r 1970au. Mae’n addas bod y dechnoleg sy’n sail i’r car hwn yn gallu olrhain ei achau i waith Syr William Grove, y gwyddonydd a anwyd yn Abertawe a gynhyrchodd drydan â chell hydrogen am y tro cyntaf yn yr 1840au.
Dadorchuddiwyd y Rasa cyntaf i’w gynhyrchu yn 2016, ac mae rhediad cychwynnol o 20 Rasa wedi bod yn cael eu profi. Er mai ar gyfer y ddinas yn hytrach na’r gefnffordd agored y bwriadwyd y car, mae modd gwneud tua 480km (300 milltir) ar danc llawn o hydrogen, a does dim byd dioglyd amdano. Gall y Rasa gyrraedd ei gyflymder uchaf o 95km/h (60mph) mewn naw eiliad a hanner.


Efallai na ddylai fod yn sioc fod perfformiad y car yn danllyd. Dechreuodd Hugo’i yrfa yn y byd rasio ceir, gan gystadlu yn ras 24 awr Le Mans unwaith. "Mae’n llawer o hwyl ar y ffyrdd cefn gwlad hyn," meddai. "Mae’n gar hawdd a llyfn i’w yrru, heb ddim gêrs, a theimlad ysgafn ganddo. Does dim angen llyfr cyfarwyddiadau arnoch chi."
Cynlluniwyd y Rasa i fod yn ysgafnach na char batri, ac mae’n gofyn am lai o ynni. "Rwy’n rhoi’r clod i Elon Musk am roi ysgydwad i’r diwydiant gyda Tesla, ond ateb dros dro yw ceir trydan mewn gwirionedd," meddai ef.


Y bwriad yw codi at lefel gynhyrchu flynyddol o 5,000 Rasa o 2021 ymlaen, a gobaith y cwmni yw cyflogi rhyw 220 o bobl – a phob un bron o’r gymuned leol. Ac i unrhyw un sydd ddim yn gallu aros i gael ei ddwylo ar y llyw, mae’n werth gwybod fod Riversimple yn rhoi cynnig ar ddull amgen o werthu’r cerbydau.
Bydd prynwyr yn arwyddo cytundeb gwasanaeth, gan dalu swm misol (tua £370) a ffi fechan am bob milltir a deithir. Mae disgwyl y bydd rhedeg y Rasa yr un mor economaidd â bod yn berchen ar gar diesel salŵn bach.
Nod hirdymor Hugo yw dileu effaith amgylcheddol niweidiol gyrru, nid cyfrannu at leihad cymedrol yn unig. Mae’n tynnu sylw at y ffaith fod y diwydiant ceir wedi bod yn araf i gofleidio newidiadau, wrth i gerbydau trydan gyfrif am lai na 2% o bob car newydd a werthir. Ond wrth i’r DU a Ffrainc gyhoeddi’u bwriad i ddwyn i ben gwerthu ceir petrol a diesel newydd erbyn 2040, mae newid mawr ar y gweill – ac, yn ei farn ef, dyma gyfle i Gymru arwain y byd.
Yn gyffredinol, un rhan yn unig o weledigaeth fawr Hugo am ddyfodol cynaliadwy i drafnidiaeth ar raddfa eang yw’r Rasa. Meddai ef: "Mae gormod o geir, gormod o dagfeydd a dim digon o fuddsoddi mewn trafnidiaeth ar raddfa eang. Ond nid gwahardd ceir yw’r ateb – mae’n ymwneud â meithrin mwy o gyfle i gynnig sawl ateb gwahanol."
