O Gregyn Gleision Bangor, ble mae pysgotwyr yn casglu'r bwyd môr gorau o ddŵr y Fenai, i weithwyr hynod sgilgar Ffatri Injans Toyota ar Lannau Dyfrdwy, ble mae cynhyrchir 1,300 injan bob dydd, mae pobl dda’n gwneud gwaith da yng Nghymru.
Does dim prinder o ran uchelgais. Ystyriwch Marine Power Systems – cwmni o Abertawe sy’n creu Systemau Pŵer Morol. Maen nhw wrthi’n datblygu’r WaveSub, dyfais sy’n gallu troi symudiad y tonnau’n ynni glân, fforddiadwy.
“Yn y dyfodol, pan fydd pobl yn holi pwy yw’r cwmnïau mwyaf yng Nghymru, rydym ni eisiau bod yn eu plith,” meddau cyd-sylfaenydd y cwmni, Dr Gareth Stockman. “Rydym ni eisiau darparu miloedd o swyddi sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol carbon isel. Rydym ni’n grediniol fod hyn yn hollol bosib.”


Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwydiannol falch, a seiliwyd ar lo, gweithgynhyrchu a diwydiant trwm. Yn ystod y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Abertawe oedd prifddinas copr y byd, ac ar ei anterth roedd 90 y cant o allu smeltio copr Prydain yn digwydd o fewn 20 milltir o “Copperopolis”, fel y llysenwyd y dref. Gerllaw, yr enw am Lanelli oedd “Tinopolis” am resymau tebyg – ffaith a gofir hyd heddiw gan y sosbenni alcam sy’n dal i goroni pyst rygbi maes enwog y dref, Parc y Scarlets.


Mae’r ymdeimlad o arloesi a yrrodd dwf diwydiannol Cymru’n dal mor fyw ag erioed. Mae allforion ar gynnydd: £16.6 biliwn yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2018, cynnydd o £700 miliwn ar y flwyddyn flaenorol. Mae cyfraddau cyflogaeth yn 74.2 y cant ar hyn o bryd – 1.6 pwynt canrannol i fyny ers blwyddyn. Daeth cwmnïau rhyngwladol fel Airbus, Sony a General Dynamics i ddibynnu ar ein gweithlu dawnus, a dderbyniodd yr hyfforddiant gorau.
Bu denu a datblygu’r doniau hyn yn flaenoriaeth i Gallagher – cwmni yswiriant, rheoli risg ac ymgynghori sy’n gweithredu mewn 33 o wledydd. Denodd ei swyddfa yn Llantrisant glod (a gwobrau’r diwydiant) ar gyfer ei raglenni addysg a phrentisiaeth, gyda chymorth grant sylweddol gan y llywodraeth.
Mike Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol, GallagherMae gennym ni bwll rhagorol o dalent ar garreg y drws'
“Mae gennym ni bwll rhagorol o dalent ar garreg y drws,: meddai’r cyfarwyddwr rhanbarthol Mike Jones. “Diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru, gallwn ddenu gweithlu cydwybodol sy’n meddu ar agwedd egwyddorol iawn at waith, sy’n nodweddiadol o Gymru, ac sy’n cyd-fynd yn llwyr â’n gwerthoedd ni.”
Mae gan Gymru isadeiledd drafnidiaeth dda, sy’n gwella. Cyfrifoldeb Trafnidiaeth Cymru yw mynd â phobl o A i B, ac mae’r corff wrthi’n gweithredu cynlluniau uchelgeisiol i adfywio’r rhwydwaith reilffyrdd. Erbyn 2023 bydd modd prynu tocynnau clyfar, mynd ar hyd llinellau newydd a manteisio ar gynnydd 29% mewn gwasanaethau yn ystod yr wythnos waith.

Mae Llywodraeth Cymru’n rhagweithiol wrth gefnogi menter ar draws pob sector. Seilir y Cynllun Gweithredu Economaidd ar yr egwyddor y dylai buddsoddi cyhoeddus gael pwrpas cymdeithasol – nid dim ond symbylu twf a chynhyrchiant, ond creu Cymru decach a mwy cystadleuol ar gyfer busnes.
Mae bod yn wlad fach yn gallu bod yn fanteisiol hefyd. Mae hi’n haws cael mynediad i’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau mewn llywodraeth, a gellir gwneud penderfyniad yn gyflym. Mae mentrau fel y Ganolfan Gwyddorau Bywyd ym Mae Caerdydd yn helpu i ddod â’r bobl gywir ynghyd mewn un lle, er budd y sector gyfan.



“Roedd yn agoriad llygad go iawn i mi,” meddai Mike Moran, Prif Weithredwr Proton Partners a leolir yng Nghasnewydd - cwmni sy’n darparu gofal cancr arloesol. “Fe es i i’r ganolfan a ches fy rhyfeddu gan faint o sgyrsiau sy’n digwydd o gwmpas y peiriant coffi neu hyd yn oed rhwng y desgiau. Mae’r ffaith fod Llywodraeth Cymru’n mynd yno, yn gweithredu oddi yno, ac yn agored i sgyrsiau, yn tanlinellu’r cyfle hwnnw i gydweithio.”

Mae cynaliadwyedd wrth wraidd yr holl arloesi hyn, hyd yn oed i’r graddau ei fod wedi’i gorffori yn y ddeddf. Cymru oedd y Genedl Fasnach Deg drwyddedig gyntaf, a hefyd y gyntaf yn y byd i basio deddfwriaeth sy’n cydnabod Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Mae’n gosod Cymru fel cenedl sy’n barod i wynebu heriau’r 21ain ganrif – ac sy’n barod i weithio gyda phob busnes i greu dyfodol economaidd teg, cynhwysol a chynaliadwy.