Wrth archwilio trefi a dinasoedd Cymru heddiw, fe welwch fod gennym lawer iawn o gaffis a pharlyrau hufen iâ Eidalaidd. Yn ogystal â bod yn llefydd gwych i stopio am goffi a danteithion melys, mae’r bwytai hyn yn etifeddiaeth o’n cyswllt hanesyddol â’r Eidal – wedi inni groesawu ton o fewnfudwyr yma a ddaeth â’u bwyd a’u diwylliant gyda nhw.
Blas ar bethau i ddod
Y mwyaf nodedig o’r rhain oedd Giacomo Bracchi, y tyfodd ei ymerodraeth o gaffis yng Nghymru mor fawr fel mai ei enw oedd y term cyffredinol am unrhyw gaffi Eidalaidd. Erbyn dechrau’r 1900au, gellid dod o hyd i “Bracchis” ledled cymunedau cymoedd y de, yn gweini coffi ffres a physgod a sglodion, ac yn rhoi lle i gymdogion a ffrindiau gwrdd, gan feithrin perthnasoedd lleol ac ysbryd cymunedol.
Digwyddodd y rhan fwyaf o’r mewnfudo o’r Eidal i Gymru yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, gyda Giacomo Bracchi ymhlith y rhai oedd yn awyddus i ddechrau bywyd newydd yn y DU. Cyrhaeddodd Lundain yn 1881 a dechreuodd weithio fel tröwr organ – cerddor stryd a chwaraeai’r organ gasgen. Roedd swydd y tröwr organ yn un boblogaidd yn yr Eidal; a oedd, ar y pryd, yn gartref i rai o weithgynhyrchwyr organau casgen gorau’r byd.
Yn ôl llenyddiaeth hanesyddol, llenwyd strydoedd Llundain â pharlyrau hufen iâ a thröwyr organ Eidalaidd tua’r adeg hon, felly dechreuodd Bracchi chwilio am rywle newydd, lle gallai ddod â rhywbeth gwahanol i ardal hollol newydd. Daeth i Gymru drwy Gasnewydd, ac ar ôl symud o gwmpas am rai blynyddoedd, yn y pen draw agorodd ei gaffi a’i siop hufen iâ Eidalaidd. Er mai Bracchi yw’r mwyaf adnabyddus o’r grŵp newydd yma o berchnogion caffi, roedd ei ddyfodiad yn cyd-fynd â’r mudiad dirwest yng Nghymru. Dyma fudiad cymdeithasol oedd yn erbyn yfed alcohol, ac o ganlyniad agorwyd nifer o ‘fariau’ dirwest gan Eidalwyr tua’r adeg hon.
Roedd Bracchi wedi dod o hyd i’w faes arbenigol poblogaidd ei hun, ac arweiniodd hyn at fwy o gyffeithyddion ac arlwywyr Eidalaidd yn symud i Gymru ac yn agor eu busnesau bwyd eu hunain dros y blynyddoedd nesaf. Yn ogystal â chaffis, byddai nifer o deuluoedd yn gyrru certi hufen iâ drwy’r strydoedd, gan ddarparu danteithion oer, melys i gymunedau ledled y wlad. Yn sydyn, de Cymru oedd y lle gorau i gael gelato y tu allan i’r Eidal!
Heddiw, un o frandiau hufen iâ enwocaf Cymru yw Sidoli’s, a sefydlwyd gan Benedetto Sidoli ar ddechrau’r 20fed ganrif. Daeth Benedetto Sidoli i Gymru o ardal Bardi, yr un rhan fechan o’r Eidal â Giacomo Bracchi. Mae’r Caffe Sidoli gwreiddiol yng Nglynebwy, ac mae’n dal i weini hufen iâ, coffi Eidalaidd a byrbrydau eraill.
Mae nifer o’r caffis a’r parlyrau hufen iâ Eidalaidd gwreiddiol yn dal i fodoli ledled Cymru, ac maen nhw’n atgoffâd anarferol o orffennol diwydiannol Cymru. Mae ymweliad â Pharc Treftadaeth Cwm Rhondda bob amser yn werth chweil – pan ewch chi yno, gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio Caffe Bracchi, teyrnged i’r teuluoedd o fewnfudwyr Eidalaidd a ddaeth â’u diwylliant caffi i Gymru.
Efallai fod y rheini sy’n hoff o’u bwyd hefyd wedi clywed am rai o’n cogyddion enwog yng Nghymru sydd â chefndir Eidalaidd: Michael Bonacini a Michela Chiappa, a’r perchennog bwyty Giovanni Malacrino.
Gwledydd y gân
Mae Cymru a’r Eidal yn angerddol am gerddoriaeth. Er mai’r corau meibion sydd fwyaf adnabyddus yng Nghymru fwy na thebyg, rydym hefyd yn angerddol am y ffurf gerddorol sy’n nodweddiadol Eidalaidd, sef opera. Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn gwmni teithiol sy’n perfformio i gynulleidfaoedd yng Nghymru ac yn rhyngwladol, gan lwyfannu cynyrchiadau’n rheolaidd gan gyfansoddwyr Eidalaidd fel Verdi a Puccini. Bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio Trioleg Verdi, cyfres o weithiau mwyaf poblogaidd y cyfansoddwr, drwy gydol 2021 a 2022. Gan ddyfnhau’r cysylltiadau rhwng ein dwy wlad ymhellach, mae Llysgennad yr Eidal i Gymru yn gwasanaethu fel noddwr y Drioleg.

Ni ellir trafod opera Gymreig heb sôn am Bryn Terfel. Ganwyd Bryn Terfel ym Mhantglas yn yr hen Sir Gaernarfon. Mae’r canwr adnabyddus hwn sydd â llais bas-bariton wedi dod yn un o’r lleisiau mwyaf adnabyddus yn y sîn opera ryngwladol – yn enwedig am ei berfformiadau fel Scarpia yn Tosca Puccini. Ac nid dyna’r cyfan o’n cysylltiadau operatig. Treuliodd y canwr opera Eidalaidd o’r 19eg ganrif, Adelina Patti ei gyrfa yn perfformio ledled y byd, cyn ymddeol yng Nghwm Tawe yng Nghastell Craig-y-Nos. Fe wnaeth hi hyd yn oed anrhegu adeilad Gardd y Gaeaf o’i hystâd i’r ddinas – a ailenwyd yn Bafiliwn Patti. Mae bellach yn un o’r lleoliadau cerddoriaeth mwyaf poblogaidd yn Abertawe.
Gelynion ym myd chwaraeon
Yn ogystal â mynd benben â’i gilydd yng nghamau grŵp rowndiau terfynol Ewro 2020, mae Cymru a’r Eidal yn cwrdd yn rheolaidd ar y cae rygbi. Ymunodd yr Eidal â phencampwriaeth flynyddol y Chwe Gwlad yn 2000 ac maen nhw wedi cymryd rhan mewn sawl gêm gofiadwy yn Stadiwm Principality Caerdydd a Stadio Olimpico yn Rhufain. Mae Cymru wedi tueddu i ddod i’r brig, ond cafodd yr Eidal fuddugoliaethau pwysig gartref yn 2003 a 2007.

Mae yna hefyd nifer o Gymry ym myd chwaraeon proffesiynol sydd â chefndir Eidalaidd (fel y gallech ddyfalu o’u henwau): y bocswyr Joe Calzaghe ac Enzo Maccarinelli, y pêl-droedwyr David D’Auria a Donato Nardiello, a’r chwaraewyr rygbi Robert a Peter Sidoli.