Roedd y Wal Goch, sef yr enw a roddwyd ar y fyddin luosog o gefnogwyr Cymru yn eu crysau replica, deuddegfed dyn eu tîm allan yn Ffrainc, yn creu argraff ar bawb wrth iddyn nhw brofi haf gorau’u bywydau. A thra bo’r tîm pêl-droed yn saethu fel seren lachar ar hyd y llwybr i gêm gynderfynol Ewro 2016, cafodd y cefnogwyr eu gwobrwyo am eu holl entente cordiale â gwobr arbennig oddi wrth UEFA.
Bu’n ffordd hir, anodd a hesb i chwaraewyr, cefnogwyr a Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Doedden nhw ddim wedi llwyddo i gyrraedd twrnamaint rhyngwladol mawr ers 1958 – a cholli o drwch blewyn sawl gwaith yn y blynyddoedd rhwng hynny a 2016 wedi creu digalondid di-ben-draw i bawb oedd yn gysylltiedig â’r gêm.
Dyna pam fod Ffrainc yn gymaint o freuddwyd i gefnogwyr oedd wedi disgwyl am flynyddoedd am yr eiliad hon.
Ond roedd llwyddiant Ewro 2016 wedi bod yn ffrwtian yn y crochan ers blynyddoedd, yn seiliedig ar slogan oedd wedi deffro’r tîm rhyngwladol – ‘Gorau Chwarae, Cyd Chwarae / Together Stronger’, y sail yr adeiladwyd y Wal Goch arno.
Roedd gwaith wedi dechrau y tu ôl i’r llenni i Gymdeithas Bêl-droed Cymru sawl blwyddyn ynghynt wrth iddyn nhw chwilio am weledigaeth ac arwyddair a fyddai’n cynrychioli’r hunanhyder cynyddol oedd yn dechrau cyniwair ym mhêl-droed Cymru, ac yn ysbrydoli’r cefnogwyr a’r chwaraewyr. Eu slogan gwreiddiol oedd ‘Amser Credu / Time to Believe’, ond pan gollodd tîm Cymru i Serbia o 6-1 ym mis Medi 2012 mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2014, rhoddwyd hwnnw o’r neilltu.
Roedd yr hyn roedden nhw wedi bod yn chwilio amdano wedi bod o flaen eu llygaid drwy’r amser ar grysau’r chwaraewyr. Bathodyn Cymru, gyda’r arwyddair ‘Gorau Chwarae Cyd Chwarae’ arweiniodd at ‘Gyda’n Gilydd yn Gryfach / Together Stronger’. Pawb yn cyd-dynnu – swyddogion, chwaraewyr, cefnogwyr – a arweiniodd at ailddeffroad anhygoel i bêl-droed Cymru a llwyddiant gefn wrth gefn i gyrraedd Pencampwriaethau Ewrop.
Ymdeimlad ‘Gyda’n Gilydd yn Gryfach / Together Stronger’ newidiodd ddelwedd gyhoeddus y gêm, gan arwain at hunanhyder diwylliannol newydd. Ond blociau adeiladu’r Wal Goch, a osodwyd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a’r tîm diwrnod-gêm y tu ôl i’r llenni, a drawsnewidiodd y profiad i gefnogwyr oedd yn frwd i flasu esblygiad trawiadol y gêm yng Nghymru.


Yn ei dro, bu i chwyldro dan arweiniad cefnogwyr – cymysgedd pwerus o hunanhyder newydd, balchder ac angerdd, law yn llaw â hunaniaeth ddiwylliannol gref – drawsnewid sylfaen y cefnogwyr. Dyma Glwb Cymru – cynhwysol, dwyieithog, cosmopolitaidd a rhyngwladol ei olwg.
Mae’r ddegawd ddiwethaf wedi gweld trawsnewidiad syfrdanol ym myd pêl-droed rhyngwladol Cymru – ar y cae ac oddi arno. Bydd llwyddiant yn magu llwyddiant, gan ddenu cefnogwyr, ond mae profiad y cefnogwr ar ddiwrnod gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ffactor allweddol mewn ennyn teyrngarwch, gan danlinellu ethos ‘Gorau Chwarae Cyd Chwarae’, sy’n rhan mor bwysig o DNA cefnogwr Cymru.
Un o’r pethau cyntaf roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisiau’i gael yn iawn oedd canu’r anthem genedlaethol cyn gemau. Ond nid tasg syml mo hynny, a threuliodd y Gymdeithas a’r tîm diwrnod-gêm flynyddoedd lawer yn ceisio perffeithio’r ennyd allweddol hon.
Rhoddwyd cynnig ar ddod â chantorion i mewn i berfformio’r anthem cyn gemau, defnyddio traciau cefndirol wedi’u recordio, rhoi’r geiriau ar sgrin fawr ac mewn rhaglenni er budd cefnogwyr, a bu pob un o’r rhain yn llwyddiant i ryw raddau, ond y brif broblem oedd bod y dorf yn methu â chadw’r un curiad â’r anthem.
Mewn eiliad o ysbrydoliaeth, sylweddolodd y Gymdeithas a’r tîm diwrnod-gêm nad y canu oedd y broblem, ond y gerddoriaeth ei hun. O ganlyniad, aethant ati i dynnu’r rhan fwyaf o’r anthem allan o’r broblem, gan chwarae’r tri bar cyntaf i roi cychwyn i’r cefnogwyr, ac wedyn ymddiried yn y Wal Goch i fwrw iddi wedyn.
Roedd yn syniad penigamp. Bellach, dyma’r paratoad perffaith cyn y gêm i godi blew eich gwar, yr anthem gyffrous yn cael ei chanu â brwdfrydedd a balchder gan leng cytûn y Wal Goch.
Mae cerddoriaeth yn rhan enfawr a phwysig o brofiad diwrnod gêm, o lwyfan Ysbryd ’58 (a enwyd ar ôl y cwmni dillad sy’n gyfystyr â’r hetiau bwced nodweddiadol a fabwysiadwyd gan gefnogwyr Cymru), sydd wedi gweld goreuon doniau Cymru’n perfformio islaw Eisteddle Treganna o flaen cefnogwyr brwdfrydig dros ben, i geidwaid calonnau cefnogwyr Cymru – The Barry Horns. Mae’r band pres hoff wedi dod yn drac sain i’r genhedlaeth euraid newydd hon, yn drefnwyr rhestr gerddoriaeth mor glodforus ac amrywiol, nad yw’n perthyn o gwbl nac yn deg ei gymharu â dyddiau hesb y degawdau diweddar yna.
Cafodd y band, a ffurfiodd yn 2011, pan chwaraeon nhw y tu allan i Stadiwm y Mileniwm cyn i Gymru chwarae yn erbyn Lloegr mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd, a’u henwi ar ôl cyn-gapten Cymru Barry Horne, eu mabwysiadu ar fyrder gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i ddarparu cyfeiliant cyffrous i siantiau unigryw’r cefnogwyr sydd bellach yn atseinio o gwmpas Stadiwm Dinas Caerdydd. Bu’u dehongliad o’r newydd o ganeuon poblogaidd ddoe yn gyfeiliant cyffrous ac addas i ragoriaeth ar y cae. Gweler ‘Ain’t Nobody’ gan Chaka Khan (Joe Ledley), ‘Push It’ gan Salt n Pepa (Hal Robson Kanu), ‘Give It Up’ gan KC and the Sunshine Band (Gareth Bale nawr Kieffer Moore), ‘No Limits’ gan 2 Unlimited (Ashley a Jonny Williams nawr Neco a Jonny), ‘Gimme Hope Joanna’ gan Eddy Grant (Joe Allen), i enwi ambell un. Pan gyfrwch chi alawon thema’r Wal Goch, ‘Don’t Take Me Home’ a ‘Zombie Nation’, dyna dipyn o repertoire!
Un o agweddau mwyaf boddhaus y profiad o fod yn ddilynwr fu cymaint o ganeuon Cymraeg sydd bellach yn cael eu canu yn y stadiwm, a’r cefnogwyr yn cofleidio balchder cenedlaethol a hunaniaeth ddiwylliannol. 'Mae tîm pêl-droed Cymru yn ffordd i mewn i ddysgu am hanes a diwylliant Cymru,' meddai Fez. 'Dyna sut y dois i ato fe. Bod o gwmpas pobl sydd ar dân dros dîm pêl-droed Cymru, sydd yn sefydliad annibynnol, ddim yn atebol i neb. Yr anrhydedd fwyaf oll yw cael chwarae dros Gymru. Nid chwarae i’r Llewod Prydeinig neu Team GB, ond chwarae i Gymru. A dwi’n dwlu ar hynny, mae pawb ohonon ni’n caru hynny.'


Dyna deimlad a rennir gan y cyhoeddwr yn y stadiwm ar ddiwrnodau’r gemau, Rhydian Bowen-Phillips. “Dwi’n caru’r Wal Goch – gall unrhyw un a phawb fod yn rhan ohoni,” meddai. “Rydyn ni’n llysgenhadon balch dros y genedl bêl-droed annibynnol hon ac roedd hi’n gwbl addas ein bod wedi cael y wobr arbennig yna nôl yn 2016. Y peth sy’n arbennig yw hyn: waeth pa mor fawr neu fach yw’r dorf, y Wal Goch yw hi bob tro. Roedd Albania y noson o’r blaen yn teimlo fel ailosod y sylfeini gyda phrin ychydig filoedd, ond nhw oedd y Wal Goch. Mae’r cyswllt rhwng y tîm a’r cefnogwyr yn arbennig. Mae Chris Gunter fel ein cynrychiolydd ni yn y tîm.”
O ran dod â’r Gymraeg i amlygrwydd mewn gemau, a gynrychiolir ym mrandio’r tîm a’r cynnydd mewn caneuon Cymraeg a genir mewn gemau, mae Rhydian yn dweud bod yn rhaid talu teyrnged i Gymdeithas Bêl-drod Cymru. “Mae hynny am nad oes gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ofn pwy ydyn ni fel gwlad, beth yw ein treftadaeth ieithyddol ni, a rhoi Cymraeg heb unrhyw gywilydd a heb ymddiheuriad ar y blaen ble bynnag a phryd bynnag allan nhw, boed hynny ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn cynadleddau i’r wasg, neu ‘Diolch’ ar grysau’r chwaraewyr. Mae hynny yn ei dro wedi cael ei fabwysiadu gan y cefnogwyr, yn yr ystyr fod ‘Calon Lân’ yn gallu cyd-fodoli’n hapus gyda ‘Zombie Nation’ yn eisteddle Treganna a bod bandiau fel Candelas yn gallu dilyn Feeder ar restr chwarae’r stadiwm. Mae popeth fydda i’n ei ddweud ar feic y stadiwm yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg gyntaf bob tro. Dwi wastad wedi byw bywyd dwyieithog ac mae hynny wastad wedi cael ei dderbyn yn y Wal Goch.”
Cofleidiwyd y syniadaeth lachar hon yn llwyr gan y cefnogwyr. Mae ail-ddychmygu pêl-droed Cymru fel hyn hefyd yn mynd i dalu ar ei ganfed i dîm y menywod, gobeithio, sy’n teimlo eu bod ar fin cael yr un math o wawr y mae’u cyd-chwaraewyr gwrywaidd eisoes wedi’i brofi. Mae’r sylfeini wedi’u gosod, fel yr oeddent ar gyfer tîm y dynion yn 2014. Mae gyda chi rai chwaraewyr gwych, carfan dda, mae yna agosatrwydd, ond dydyn nhw ddim wedi llwyddo i groesi’r llinell i ennill lle eto.
Ond gyda’r newidiadau a wnaed gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, a rheolwr newydd, mae’r bobl sy’n deall sut mae adeiladu timau sy’n ennill yn cydnabod y gall hwn fod yn dîm benywaidd llwyddiannus iawn – un a gofleidiwyd yn llawn gan y Wal Goch.