Rydw i am i bobl deithio i Ynyshir o bob cwr o Ewrop
Fy mreuddwyd yw gwneud Ynyshir yn fwyty y bydd pobl yn teithio iddo’n unswydd er mwyn cael profiad hollol unigryw. Mae’r rhan hon o’r byd, y rhan hon o Gymru, yr adeilad hwn – mae popeth amdano’n haeddu bod ar y lefel uchaf oll, a wna i ddim gorffwys nes i ni gyflawni’r nod.
Doeddwn i erioed wedi bod i Gymru o’r blaen
Y tro cyntaf erioed i mi ddod i Gymru oedd ar gyfer y cyfweliad yn Ynyshir. Cefais fy syfrdanu’n llwyr gan y golygfeydd, y dirwedd, yr adeilad, holl naws y lle. Fe wnes i’n siŵr fy mod i’n cael y swydd yna.

Does gennym ni ddim rheolau
Dwi’n dod yn wreiddiol o ogledd-ddwyrain Lloegr, ac roeddwn i wedi gweithio mewn sawl bwyty seren Michelin o’r blaen, felly ro’n i’n gwybod sut i goginio. Erbyn i mi ddod i fan hyn, roedd fy nychymyg wedi cael ei ddatgloi. Does dim rheolau, dim canllawiau. Cyhyd â bod y peth yn blasu’n anhygoel, yna fe rown ni gynnig arno. Dyna sy’n ein gwneud ni’n wahanol.



Rydym ni mor ffodus i fod wedi ein lleoli mewn man mor anhygoel
Mae’n lleoliad anarferol: mynyddoedd ar un ochr, a’r môr yr ochr arall, ac rydym ni mewn cwm. Mae digonedd o bethau ar gael i’w casglu o’r bryn, ac yna gallwch fynd i lawr i’r traeth, ac mae ’na gyflenwad di-baid o stwff anhygoel yno, yn rhad ac am ddim. Yn ystod y gwanwyn, fe wnaethon ni gau’r gegin a chynaeafu 200 kilo o graf y geifr, garlleg gwyllt, mewn un diwrnod, a’i droi’n olew, coesynnau wedi’u piclo, a phowdrau a fydd yn para’r flwyddyn gron i ni. Mae gyda ni goed bedw sy’n rhoi dŵr bedwen i ni, mil o litrau o’r stwff, ac rydym ni’n ei dewychu i greu pedwar litr o sudd bedwen.


Dim ond bwydlenni blasu fyddwn ni’n eu cynnig
Pan fyddwch chi’n bwyta yma, rydw i am i chi eistedd i lawr am deirawr a chael rhyw 20 profiad gwahanol o ran blasau. Er mwyn gwneud hynny, rhaid i chi ailfeddwl am eich dull o goginio’n llwyr. Allwch chi ddim â defnyddio llwythi o hufen a menyn, am fod hynny’n rhy drwm. Os byddwn ni’n ei ddefnyddio, bydd yn cael ei feithrin er mwyn peri’i fod yn cael ei dreulio’n gynt. Dydyn ni ddim yn gwneud stoc anifeiliaid. Rydym ni’n defnyddio llawer o ddresins soy neu ddresin wedi’i wneud o sudd wedi’i eplesu. Mae pob cwrs yn fach iawn, un neu ddau lond ceg, felly dydych chi ddim yn llenwi’n rhy gyflym. Ond rhaid i bob cegaid fod yn ffrwydrad o flasau, er mwyn eich syfrdanu.
Cynhwysion yn arwain, blas yn gyrru, braster yn tanio, cig yn obsesiwn
Fe wnes i ddweud na fyddwn i byth yn rhoi cig eidion ar y fwydlen, am fod hwnnw ar gael ymhobman. Ond fe ddaeth ffermwr o’r enw Ifor Humphreys, o Drefaldwyn, yn y Canolbarth, â sampl o’i Wagyu Cymreig i mi, ac fe ges fy syfrdanu’n llwyr. Rydym ni’n defnyddio cymaint â phosib o gynnyrch lleol: cig oen o Aberystwyth, hwyaid o Abergwaun, mefus ac wyau o lawr y ffordd. Rydym ni’n cael llawer o’n llysiau gan Medwyn o Fôn. Mae e’n tyfu erfin maint peli criced ar ein cyfer, ac maen nhw’n anhygoel.


Dydw i ddim yn credu mewn bwytai gwledda crand rhodresgar
Dwi am i bobl ddod yma i ymlacio a chael hwyl. Does dim staff arlwyo gyda ni. Y cogyddion sy’n gweini’r bwyd. Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae’r cwsmeriaid wrth eu boddau. Fe ges i wared ar y sommelier, hefyd. Cynlluniwyd ein dewislen win gan Amelia [partner Gareth]. Mae ganddi ryw 60 o winoedd, ac mae hi’n gwybod popeth am bob un ohonyn nhw. Maen nhw i gyd ar gael fesul gwydraid, felly gallwch fwynhau profi gwinoedd gwahanol yn ystod y pryd bwyd. Does dim rheolau yma: gwledda hwyliog, nid gwledda ymhongar.
Find out more: