Beth ddenodd chi i Gymru?

Fe ddois i i Brifysgol Bangor gyda fy nghariad ar y pryd – fy ngŵr bellach – David, ddeugain mlynedd yn ôl. Fe wnaethon ni ychwanegu at ein hincwm fel myfyrwyr drwy dyfu wystrys a chregyn gleision, a datblygodd hynny’n fusnes cyfanwerthu bwyd môr. Byddai pobl yn arfer prynu cimychiaid byw oddi wrthym, ac roedd diddordeb ganddyn nhw mewn edrych arnyn nhw yn y tanciau, felly fe sefydlon ni acwariwm a drodd yn ei dro’n Sw Môr Môn. Fe wnaethon ni hynny’n ddigon dedwydd am 15 mlynedd.

Alison a David Lea-Wilson a chŵn yn sefyll wrth ymyl glas a gwyn sied â â chwn infront o'r afon Menai
Alison a David Lea-Wilson, Halen Môn

Sut ddechreuodd y gwaith o wneud halen?

Mae’r busnes ymwelwyr yn dymhorol iawn. Roedden ni’n gwneud yn dda iawn dros fisoedd yr haf, ond roedden ni eisiau parhau i gyflogi’r staff y byddem ni’n gorfod eu diswyddo dros y gaeaf fel arall. Felly fe ddechreuon ni edrych am bethau eraill i’w gwneud gyda dŵr y môr, ac fe feddylion ni am halen o’r môr.

Yn 2007 fe werthon ni’r sw i ganolbwyntio ar halen, ac yn 2015 fe adeiladon ni ein ffatri halen newydd a’r ganolfan ymwelwyr. Fe wnaethon ni gynllunio’r ffatri â choridor gwylio, ac rydym ni’n cynnal sesiynau blasu gyda thiwtor hefyd. Rydym ni’n gwerthu llawer o halen yn y siop, ynghyd â chynnyrch sy’n defnyddio ein halen ni’n gynhwysyn ynddo fe, a llawer o grefftau hyfryd o Gymru.

 

Pam fod Afon Menai gystal am wneud halen?

Mae’n lân iawn. Roedden ni’n gwybod fod y dŵr yn bur iawn am ein bod ni’n magu ceffylau dŵr, ac maen nhw’n greaduriaid bregus a ffysi iawn. Does dim diwydiant trwm na llongau mawr yma. Ac mae gennym ni lanw grymus iawn sy’n golchi drwodd ddwywaith y dydd, felly mae ’na ddŵr glân i dynnu arno bob amser. Mae gennym drwydded i dynnu dŵr o’r môr, ac rydym ni’n talu rhent i’r Frenhines am hwnnw.

Deganau'n hongian yn ffatri Halen Môn
Halen Môn, cynhyrchu halen
Cynhyrchu Halen Môn

Sut fyddwch chi’n troi’r dŵr yn halen?

Byddwn ni’n pwmpio’r dŵr i mewn i’n hystafell beiriannau ac mae’n cael ei dewychu drwy’i gynhesu mewn gwactod. Yna rydym ni’n rhoi’r heli mewn tanciau crisialu ac mae rhagor o’r dŵr croyw’n cael ei yrru allan ar ffurf ager. Pan fydd yr heli’n mynd mor gryf nad yw’n gallu dal rhagor o halen, mae’r halen yn dechrau troi’n grisialau. Bob bore bydd y cynaeafwyr halen yn dod i mewn ac yn codi’r crisialau allan, yn eu golchi, eu sychu a’u pacio, felly mae popeth yn cael ei wneud â llaw. Mae’r rhan fwyaf o’n staff ni’n bobl leol sy’n siarad Cymraeg; rydym ni’n gweld ein hunain fel rhan o’r gymuned. Rydym ni’n prynu’n lleol gymaint ag y gallwn ni, i dorri’n ôl ar ei hôl troed carbon. Rydym ni’n ceisio gwastraffu cyn lleied â phosib, ac ailgylchu cymaint â phosib. Fe wnaethon ni dderbyn Gwobr y Frenhines am gynaliadwyedd ac roedd hynny’n brofiad ardderchog.

Ond, halen yw halen, na?

Mae ein halen ni’n blasu’n wahanol iawn i unrhyw fath arall o halen. Rydym ni’n golchi ein halen ni mewn dŵr hallt, gan dynnu’r calsiwm ychwanegol, sef yr hyn sy’n rhoi blas chwerw ar ôl i chi flasu halen heb ei olchi weithiau. Mae’n golygu fod gan Halen Môn flas sydd bron yn felys. Rydym ni hefyd yn gwneud ein gorau glas i sicrhau fod y plu halen yn aros mor gyfan â phosib.

blasu powlenni o halen sbeislyd
Powlenni blasu Halen Môn

Ydy hi’n bwysig cael plu mawr, felly?

Mae cogyddion yn hoffi crisialau mawr am nad ydyn nhw’n toddi i fwyd poeth a throi’n bwll o ddŵr hallt. Ac rydych chi’n cael y blas hallt, crensiog, hyfryd yna pan fyddwch chi’n ei frathu. Ond rydym ni’n gwneud plu manach hefyd, a gallwn ni falu’r halen yn fewnol ar gyfer cleientiaid sy’n ei ddefnyddio ar gyfer pethau fel creision neu fenyn. Mae siocled Green & Blacks yn hoffi pluen benodol iawn, sy’n ddigon i roi ychydig o grensian rhwng y dannedd, ond dim gormod.

Ble rydych chi’n gwerthu eich halen?

Mae’n cael ei ddefnyddio ledled y byd. Rydyn ni’n gwerthu i’r Undeb Ewropeaidd, Gogledd America, Awstralia, Japan, y Dwyrain Canol – ble bynnag y bydd pobl yn gwerthfawrogi cynhwysion da. Rydym ni’n gweithio gyda chogyddion enwog fel Heston Blumenthal a Gordon Ramsay, a bwytai lleol fel Marram Grass a Dylan’s hefyd. Ein cigydd lleol ym Mhorthaethwy oedd ein cwsmer cyntaf, ac mae’n dal yn gwsmer, sy’n hyfryd.

Halen wedi’i becynnu ar silffoedd mewn storfa
Staff yn siop anrhegion Halen Môn
Halen môr gwyn pur, brandio a phecynnu
Halen Môn o'r warws i'r siop.

Chi yw’r PDO (Protected Designation of Origin / Enw Tarddiad Gwarchodedig) cyntaf o Gymru…

Ni yw’r halen PDO Prydeinig cyntaf hefyd. Mae’n eithriadol o bwysig i ni am ei fod yn nod ansawdd a dilysrwydd. Mae’n dangos nad oes yr un halen yn debyg i’n halen ni. Mae’n cael ei wneud â llaw yng Nghymru, felly rydych chi’n bwyta rhan o dirwedd forol Cymru. Rydym ni’n gynnyrch o safon uwch sy’n gallu cael ei werthu am bris uwch. A dydyn ni ddim yn ymddiheuro am y pris: dyma’r halen gorau yn y byd, yn ein barn ni, a rhaid i chi dalu am hynny.

Taith traeth stribed glas a gwyn ar Afon Menai
David Lea-Wilson yn casglu halen
Afon Menai, Ynys Môn

Beth arall ydych chi’n ei gynhyrchu?

Dros y blynyddoedd rydym ni wedi cyflwyno ystod o halen â blasau gwahanol. Mae gennym bethau blasus hallt a melys i’w taenu ar fara neu fisgedi, sawsiau a chynnyrch wedi’i fygu. Rydym ni wedi bod yn cyflenwi Heston Blumenthal yn y Fat Duck ers blynyddoedd, a gofynnodd i ni a allen ni fygu dŵr iddo. Doedden ni ddim yn meddwl ei bod hi’n bosib, ond mae hi. Dyna syndod! Dyfarnwyd mai ein Dŵr wedi’i Fygu dros Dderw oedd y ‘Cynhwysyn Gorau’ yng Ngwobrau Arloesi Bwyd y Byd 2017.

Cynnyrch siop anrhegion Halen Môn
Siop anrhegion Halen Môn

Sut beth yw’r byd bwyd yn lleol?

Mae wedi datblygu’n syfrdanol, yn enwedig dros y pum mlynedd ddiwethaf. Bellach mae gyda ni lawer iawn o fwytai ym Môn y gallwn ni eu hargymell wrth bobol, gan gynnwys bwyty â seren Michelin ym Mhorthaethwy, Sosban & The Old Butchers. Mae’r cynnyrch lleol yn rhagorol hefyd: rydym ni’n hoff iawn o’r cig oen ac eidion lleol, ac mae’r môr yn rhoi cregyn gleision, wystrys, draenogiaid y môr gwyllt, cimychiaid a chrancod hyfryd i ni hefyd.

Sut le yw Môn i fyw a gweithio ynddo?

Mae David a minnau wedi byw yma ers dros ddeugain mlynedd, a dyma ein cartref. Mae Cymru’n lle sy’n eich cofleidio, yn eich meithrin chi. Gallwch fod yn chi eich hun yng Nghymru. Does neb yn eich mesur yn ôl faint rydych chi’n ei ennill, pa gar rydych chi’n ei yrru na’r dillad rydych chi’n eu gwisgo. Mae’n lle gwych i fyw a gwneud busnes ynddo.

Straeon cysylltiedig