Ond mae gormod o lawer i’w wasgu i un diwrnod, felly ry’n ni wedi creu pedwar diwrnod llawn pethau da i chi. Gwledd ddigidol i’r llygad, y dychymyg a’r glust i ddathlu ein cenedl gyda’r byd i gyd.
O Gaerdydd i Ganberra, o Gaernarfon i Galiffornia, ymunwch â ni ar lein. Bydd croeso cynnes fel cwtsh Cymreig yn eich disgwyl chi.
Sut i ymuno â ni
Byddwn ni’n fyw ar draws yr holl brif sianeli cymdeithasol. Dilynwch ni nawr gan ddefnyddio’r lincs isod, fel na fyddwch chi’n colli dim!
Beth sy’ mlaen
Cymrwch gip ar ein hamserlen Gŵyl Dewi 2021, gosodwch larwm, a mwynhewch.
Ymunwch yn yr hwyl
Rhannwch, ail-drydarwch, hoffwch a gadewch sylw wrth i’r wledd o straeon, ffilmiau a cherddoriaeth fynd yn fyw.
A chofiwch roi gwybod i ni sut rydych chi’n dathlu Gŵyl Dewi ac ymhle.
Ychwanegwch #GwylDewi at eich negeseuon, fideos, straeon ac wrth drydar.
Da Da Digidol Dewi
Ry’n ni wedi creu casgliad o bethau da o Gymru i chi eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Er na allwn ni ddod â chi adre os oes gennych hiraeth am Gymru, gallwn ni wneud eich galwadau Zoom a’ch cefndiroedd ffôn yn fwy diddorol.
Dewiswch eich rhestrau chwarae
Mae rhestrau chwarae Spotify misol Cymru Greadigol yn rhoi platfform i gerddoriaeth Gymreig gan artistiaid o bob genre.
Rhestr chwarae Ymlacio ar Spotify.
Rhestr chwarae Ysbrydoliaeth ar Spotify.
Rhestr chwarae Goreuon ar Spotify.
Dilynwych rhestr chwarae Cymru Creadigol ar Spotify i ddarganfod yr artistiaid newydd mwyaf addawol o Gymr.