Mae gennym ni enw anwes ar ein hynys fwyaf, Môn: Mam Cymru. Yr ynys oedd cadarnle olaf y derwyddon yn ystod goresgyniad y Rhufeiniaid, bu’n rhan o Norwy am gyfnod byr o dan frenhiniaeth Magnus Droednoeth, a’i chaeau ffrwythlon oedd ffon fara Cymru’r Oesoedd Canol.

Mae Môn – a’r Fenai sy’n gwahanu’r ynys oddi wrth y tir mawr – yn dal i fwydo Cymru, gydag arlwy anhygoel o ddanteithion, meddai Alison Lea-Wilson: “Mae’r cynnyrch lleol yn wych: rydym ni wrth ein bodd gyda’r cig oen a’r eidion lleol, ac mae’r môr yn rhoi cregyn gleision, wystrys, draenogiaid y môr gwyllt, cimychiaid a chrancod rhagorol i ni.”

Ac wrth gwrs, halen: Alison a’i gŵr David sy’n gwneud Halen Môn, yr halen gourmet sydd bellach yn cael ei allforio i bedwar ban byd. Mae’r halen, a wneir o ddyfroedd pur y Fenai, wedi ennill statws ‘Protected Designation of Origin’ (PDO).

“Mae’n nodi ansawdd a dilysrwydd,” meddai Alison. “Mae’n dangos nad oes yr un halen yn debyg i’n halen ni. Mae’n cael ei wneud â llaw yng Nghymru, felly rydych chi’n bwyta rhan o dirwedd forol Cymru. Dyma’r halen gorau yn y byd, yn ein barn ni.”

Pure white sea salt, branded and packaged
Halen môr gwyn pur, Halen Môn, Afon Menai

Mae Afon Menai’n lle rhyfeddol. Llinell ffawt ddaearegol ydyw, a sgwriwyd gan y llenni ia dros 20,000 mlynedd yn ôl, a’i llenwi gan drobyllau a llanw rhyfedd: mae’r môr yn rhuthro i mewn o’r gwaelod ac yna, wrth i’r llanw godi o gwmpas Ynys Môn, mae’n dechrau llenwi’r Fenai o’r pen uchaf, gan wyrdroi'r llif.  

Mae’n ffynhonnell arbennig o gyfoethog o fwyd môr, rhywbeth y sylwyd arno gan ein cyndeidiau. Adeiladwyd goredi a maglau pysgod yma o leiaf fil o flynyddoedd yn ôl. Hyd yn oed heddiw, mae’r Fenai’n cynhyrchu 10,000 tunnell o gregyn gleision bob blwyddyn – ryw hanner o holl gynnyrch y DU.

“Mae’n lle rhagorol ar gyfer cregyn gleision,” meddai James Wilson o Menai Mussels. “Maen nhw’n anifeiliaid arbennig o effeithlon ar fwydo wrth hidlo, ac yn Afon Menai, mae ’na fwyd dihysbydd iddyn nhw.”

Yr allwedd i’r Fenai yw’r blas y mae’n ei roi i’r bwyd môr,"

Yn bendant, mae digon i’w rannu gyda’r wystrys y mae Shaun Krijnen yn eu ffermio gerllaw. “Yr allwedd i’r Fenai yw’r blas y mae’n ei roi i’r bwyd môr,” meddai Shaun. “Mae gennym ni algâu sy’n blaguro yma, sy’n rhoi blas melys hyfryd i’r cregyn. Mae hwnnw’n unigryw i’r Fenai – dyna sut y mae’r holl system yn gweithio”

Mae system arall ar waith yma hefyd – math o gylch bendithiol: mae cynhyrchwyr yn defnyddio’r amgylchfyd perffaith, boed dir pori neu wely’r môr, i greu cynhwysion o’r radd flaenaf, ac mae cenhedlaeth newydd o gogyddion yn eu defnyddio i wneud bwyd o’r safon uchaf. Mae pawb wedi codi’i safon.

Shaun Krijnen sifting through oysters
Trays of oysters
Shaun Krijnen yn ffermio wystrys.

Mae gan Borthaethwy’i bwyty seren Michelin ei hun, Sosban & The Old Butchers, ac mae’n lle mor boblogaidd nes bod angen cynllunio ymlaen llaw er mwyn archebu bwrdd. Ceir ton newydd o dafarndai bwyd da ac ambell brasserie ar hyd y Fenai ac ar draws Ynys Môn, a phob un yn falch o gyhoeddi eu bod yn defnyddio cynnyrch eithriadol o leol.

Yna, mae The Marram Grass, a redir gan dri brawd a gymerodd drosodd awenau’r hyn oedd yn ei hanfod yn gaffi seimllyd ar faes carafanau’u rhieni. Dros y naw mlynedd ddiwethaf, maen nhw wedi’i drawsnewid yn raddol yn fwyty bwyd moethus sydd wedi derbyn canmoliaeth hael gan y beirniaid.

Yn ôl y cogydd Ellis Barrie, ysbrydolwyd y cyfan gan yr hyn a geir ar garreg eu drws: “Y cynnyrch sy’n gyfrifol am wneud y lle hwn mor llwyddiannus,” meddai. “Hyd yn oed pan oedden ni ond yn cynnig brecwast a byrgyr, roedd defnyddio beth oedd ar gael yn lleol yn bwysig. Dyw newid y fwydlen ddim yn wyddor lansio rocedi. Mae bron fel pe bai’n cael ei ysgrifennu drosoch chi. Defnyddio cynnyrch lleol, cefnogi cyflenwyr lleol, mae’n gwneud synnwyr. Rwy’n dwlu ei ddefnyddio, ac rwy’n dwlu cefnogi’r bobl yna, ac rwy’n caru’r ffaith fod y bwyty hwn yn gadarnle ar gyfer cynnyrch lleol. Dyna sy’n fy nhanio i.”

Mae gan fwyty'r Marram Grass ei ardd ei hun ar draws y ffordd, ble tyfir llysiau, ac mae moch yn cael eu cadw. Maen nhw hyd yn oed yn rhedeg rhywbeth a elwir yn Gyfnewidfa Gnydau – bydd pobl leol yn dod â’u ffrwythau a llysiau dros ben o’u gerddi a’u rhandiroedd, ac yn eu cyfnewid am dalebau i fwyta yn y bwyty.

Allotment bed of veg
Fresh potatoes pulled up from the ground
Chef-owner Ellis Barrie picking fresh produce
Cynnyrch stepen drws, Marram Grass

“Rwy’n eithriadol o ffodus,” meddai Ellis. “Dim ond tafliad carreg sydd rhyngof ag Afon Menai, ble mae'r halen, yr wystrys, y cregyn gleision, cimwch a chranc rhagorol. Dyma’r dŵr puraf, yn ôl rhai pobl. A bod yn onest, dwn i ddim am hynny, ond dwi’n gwybod wrth i mi goginio’r cynnyrch mai dyma’r bwyd gorau.”

Mae yna beth arall y mae cynhyrchwyr a chogyddion glannau’r Fenai’n gytûn yn ei gylch: mae’n lle rhagorol i fyw. “Mae gynnon ni amgylchedd naturiol ffantastig,” meddai Shaun Krijnen. “Does dim diwydiant trwm, mae popeth yn troi o gwmpas llecynnau glas agored a golygfeydd rhagorol. Fe allech chi fod yn hwylio ar y Fenai yn y bore ac yn dringo’r Wyddfa yn y prynhawn.”

Mae Ellis Barrie’n cytuno: “Mae’n lle hardd, mae’n ysbrydoliaeth. Os ydych chi’n teimlo ychydig yn ddigalon, dim ond codi eich pen sydd raid, anadlu anadl ddofn, a bwrw iddi gyda’ch diwrnod. Pam na fyddech chi eisiau byw fan hyn? Mae’n berffaith.”