Mae distyllfa Penderyn wedi ennill llu o wobrau rhyngwladol am chwisgi Cymreig, tra bo distyllfa Dyfi ymysg cenhedlaeth newydd o gynhyrchwyr jin yng Nghymru

Mae enwau rhai o wirodydd mwyaf yr Unol Daleithiau — Jack Daniels ac Evan Williams — yn datgelu eu gwreiddiau Cymreig. Ond tra bu alltudion Cymru yn ysbrydoli diwydiant chwisgi a bwrbon America, roedd pethau’n fwy lletchwith yn ôl yng Nghymru. Roedd mudiad dirwest y 19eg ganrif yn gwgu ar wirod cryf. Dilëwyd distyllfeydd lleol gan ddeddf yn 1823 a waharddodd ddistyllbeiriau bychain, a hwythau’n rhy anodd eu rheoleiddio, a rhy anodd eu trethu.

Ar wahân i ambell smyglwr chwisgi (anghyfreithlon) mewn ysguboriau, selerau a siediau, aeth gwirodydd Cymru i’r gwynt pan aeth distyllfa chwisgi Frongoch i’r wal o’r diwedd yn 1910. Nid tan ddiwedd y 1990au y penderfynodd criw o ffrindiau wneud rhywbeth ynglŷn â’r peth.

casgenni o chwisgi Penderyn. Mae pob casgen yn cynnwys y frawddeg ‘Penderyn. The Welsh Whisky Company’
Gweithiwr gwrywaidd wedi’i amgylchynu gan bibellau yn ardan gynhyrchu Distyllfa Penderyn
Y broses gynhyrchu yn Nistyllfa Penderyn

“Ffrwyth sgwrs mewn tafarn oedd Penderyn,” meddai Stephen Davies, rheolwr gyfarwyddwr distyllfa chwisgi fwyaf a mwyaf adnabyddus Cymru. “Penderfynodd criw o ffrindiau ddod â chrefft distyllu chwisgi yn ôl i Gymru. Mae’n beth heriol i’w wneud. Rhaid ichi ei aeddfedu am dair blynedd o leiaf i’w alw’n chwisgi’n gyfreithlon – a rhagor eto os ydych am greu gwirod o’r radd flaenaf un.”

Ond dyna’n union a wnaethant. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, gwna Penderyn ddewis o chwisgi eithriadol mewn amrywiaeth o orffeniadau casgen – madeira, port, bwrbon, sieri, mawn – sydd wedi ennill clod rhyngwladol ac sy’n cael eu hallforio bellach i 33 o wledydd.

Penderfynodd criw o ffrindiau ddod â chrefft distyllu chwisgi yn ôl i Gymru. Mae'n beth heriol i'w wneud. Rhaid ichi ei aeddfedu am dair blynedd o leiaf i'w alw'n chwisgi'n gyfreithlon - a rhagor eto os ydych am greu gwirod o'r radd flaenaf."

Chwisgi pur Gymreig ydyw hefyd, yn ôl rheolwraig y ddistyllfa Laura Davies. “Ni fyddwn yn ceisio copïo neb: rydym yn cynhyrchu chwisgi Cymreig,” meddai. “Mae gennym ddau ddistyllbair sy’n gweithio’n hollol wahanol i unrhyw beth y byddech yn ei weld yn yr Alban. Maen nhw’n rhoi gwirod ysgafn, cryf, pur iawn inni, a chanddo lawer o ffrwyth a blas. Cawn wirod gwych i ddechrau, a dim ond gwella y gall o hynny ymlaen pan fydd yn mynd i gasgen.”

Mae Penderyn hefyd yn gwneud fodca a jin (a hwythau’n dda iawn, hefyd). Ond ni laciwyd y gyfraith tan 2009 er mwyn i ddistyllbeiriau llai o faint weithredu – ac o’r diwedd gadawyd i gynhyrchwyr jin arbenigol ffynnu.

dyn yn pwyso ar beiriant yn arogli chwisgi wrth i ddynes ddal y gwydryn iddo
Cynhyrchu poteli o chwisgi
Laura Davies, prif ddistyllwr yn nistyllfa chwisgi fwyaf Cymru

Mae Pete Cameron yn twrio am fwyd, ffermio a chadw gwenyn yn nyffryn Dyfi ers 25 mlynedd. Arbenigwr rhyngwladol yn y diwydiant gwin a gwirodydd yw ei frawd, Danny. “Roedden ni’n meddwl y byddai’n ddiddorol iawn gweld a allem gyfuno ein sgiliau priodol,” meddai Danny. Ac felly ganwyd Distyllfa Dyfi.

“Jin oedd y llwybr amlwg, am fod y ddau ohonom am gynhyrchu rhywbeth â blas yr ardal arno,” meddai Danny. “Mae yma amrywiaeth fotanegol anhygoel. Paradwys fforwyr.”

Ceir 20 o gynhwysion botanegol a helwyd yn lleol yn jin Pollination Dyfi, a enillodd wobr jin gorau’r DU yn y Great British Food Awards yn 2017 – a hwnnw oedd y jin cyntaf hefyd i gadw’r teitl yn 2018. Er hynny, mae’r brodyr yn cyfaddef yn siriol na fydd ganddynt byth frand byd-eang. “Distyllwyr crefft arbenigol bach go iawn ydyn ni, a’n proses ni’n faith iawn,” meddai Danny. “Nid ydym yn fasnachol effeithlon yn hynny o beth. Rydym yn 60:40 o ddistyllwyr a fforwyr bwyd. Rwy’n credu mai methu y byddem petaem yn canolbwyntio’n llwyr ar dyfu’r busnes yn enfawr a chymryd drosodd y byd. Nid yw hynny’n cyd-fynd go iawn â’n gwerthoedd ni fel teulu, nac fel busnes. Yn hytrach, rydym am hyrwyddo cynaliadwyedd yn ei holl ffurfiau.”

Danny Cameron yn dewis botanegol
Danny Cameron, cynhyrchu jin- Ddistyllfa Dyfi
Jin pacio mewn meinwe
Pete Cameron yn Nistyllfa Dyfi

Mae’r rhestr o jin Cymreig arbennig yn tyfu drwy’r amser: Eccentric, Gower, Clwydian, Cygnet, Anglesey-Môn, LlanfairPGin, North Star, Hot Wood, Coles, Blue Slate. Gallwch hyd yn oed roi cynnig ar greu eich cymysgedd fotanegol unigryw eich hun yn nistyllfa In the Welsh Wind yn Nhresaith, ar arfordir Ceredigion.

Sefydlodd yr amryddawn John Savage-Onstwedder, sy’n gwneud y Caws Teifi arobryn, ddistyllfa DàMhìle ar ei fferm yng Ngheredigion, yn gwneud amrywiaeth o jin ynghyd â chwisgi grawn sengl organig. Ei fwriad bellach yw datblygu’r chwisgi ‘ystâd sengl’ cyntaf ym Mhrydain: “Byddwn yn tyfu haidd organig ar y fferm, yn ei gynaeafu ac yn gwneud y bragu ein hunain,” meddai. “Bydd popeth – o’r tyfu i’r distyllu i’r potelu a’r labelu – yn cael ei wneud yma. Does neb arall yn gwneud hynny.”

Bydd popeth – o’r tyfu i’r distyllu i’r potelu a’r labelu – yn cael ei wneud yma. Does neb arall yn gwneud hynny.”

 thap chwisgi Cymru wedi’i hen agor erbyn hyn, mae’r gwirod yn llifo’n ddi-baid. Bydd y casgenni cyntaf o ddistyllfa newydd Aber Falls, ar Afon Menai yng Ngogledd Cymru, yn barod i’w hyfed yn 2021.

Dyna rywbeth i edrych ymlaen ato.

Straeon cysylltiedig