Es i i goleg celf, ond peirianneg yw fy nghrefft
Fy niddordeb mawr cynharaf oedd peintio a cherflunwaith, ond treuliais fy mywyd gwaith yn beiriannydd. Nid yw celf a pheirianneg mor wahanol â hynny – edrychwch ar Leonardo da Vinci. Mae dyluniad diwydiannol da yn seiliedig ar egwyddorion gweledol yn ogystal â rhai cwbl swyddogaethol. Ac mae seidr yn estheteg cwbl newydd. Caeais fy nghwmni peirianneg yn 2012, felly mae gwneud seidr megis hobi ymddeol.

Rydym yn gwerthu popeth a gynhyrchwn
Mae yna derfyn naturiol absoliwt i’r hyn y gall y fferm hon ei gynhyrchu, sef 100,000 litr y flwyddyn. Dyna’r holl sudd y gallwn ei storio. Mae’r cwmnïau mwy o faint yn prynu surop i mewn ac yn ei ail-hydradu i wneud seidr, ond ni awn ni ar hyd y trywydd hynny. Dim ond sudd afal a ddefnyddiwn. Rydym yn ceisio cadw gonestrwydd i’n seidr. Rydym ar fferm ar fryn, felly rydym yn cynhyrchu cymaint ag y gallwn, fwy neu lai.
Mae gennym wyth erw o ryw 1,200 o goed afalau
Pan fyddant yn eu llawn gynhyrchiant, byddant yn cynhyrchu tua 30 neu 40 tunnell o afalau. Ond, i bob pwrpas, fferm fryn yw hon wedi’i chynllunio ar gyfer defaid: ar 1,000 troedfedd, dim ond hyn a hyn y gallwn ei dyfu, felly byddwn yn prynu afalau i mewn o dyfwyr lleol eraill. Dim ond afalau Cymreig a ddefnyddiwn.



Dechreuais wneud seidr fel hobi
Pan oeddem yn blant, byddai fy mrawd a minnau’n gwneud cwrw cartref a gwin y gwrych. Dros y blynyddoedd, roeddech yn casglu llawer o wybodaeth isymwybodol. Un dydd, daeth cymydog draw â hanner tunnell o afalau a dweud, “Rydyn ni’n mynd i wneud seidr ”. Felly i ffwrdd â ni i’m gweithdy a dod o hyd i hen jac mawr 10 tunnell a gynlluniwyd i osod trenau’n ôl ar reilffyrdd, ac aethom ati i wneud gwasg. Yn y math o beirianneg y bues i’n ei gwneud, fe ddewch chi’n eithaf dyfeisgar. Yn y pen draw, roedd gennym ryw 80 litr o seidr yr un. Ar y pryd, wyddwn i ddim sut flas oedd i fod ar seidr da, ond rwy’n ei hoffi’n sych iawn ac ychydig yn siarp, felly roedd at fy nant i’n llwyr.
Dechreuom ennill gwobrau – ac fe drodd yr hobi’n swydd
Cafodd hen ffrind flas ar fy seidr ac roedd wedi gwirioni, felly gyda’n gilydd fe wnaethom ychydig rhagor. Awgrymodd rhywun y dylem roi ein seidr mewn cystadleuaeth genedlaethol yng Nghymru. Enillodd wobr, felly sylweddolais ei fod yn eithaf da, mae’n rhaid. Roedd ein hobi’n dechrau datblygu ychydig mwy o ffocws. Rydych yn magu eich arbenigedd ac yn dod â phethau newydd i’r tîm.

Gweithiwn law yn llaw â’r tymhorau
Rydym yn gwneud ein seidrau sychach â ffrwythau cynnar a, gyda’r ffrwyth diweddarach, arafwn yr eplesu er mwyn cael ychydig bach o felyster. Byddwn yn aeddfedu ein holl afalau Dabinett amrywiaeth sengl am fwy na blwyddyn, gan gadw’n ôl tua 15,000 o litrau. Dyma ein trysor – a byddwn yn ei ddefnyddio i’w gymysgu â phob math o wahanol bethau.
Aeddfedwn hefyd rywfaint o seidr mewn casgenni derw
Defnyddiwn gasgenni chwisgi, brandi, rym neu sieri. Caiff y seidr wahanol flas gan bob un ohonynt. Nid ydym am gael blas y gwirod - dim ond y nawsau sydd o ddiddordeb i’r yfwr. Weithiau mae’r casgenni hyn yn 100 mlwydd oed. Efallai eu bod wedi cynnwys madeira, yna port, yna chwisgi Scotch, cyn i ni gael gafael arnynt o’r diwedd. Maent wedi cael bywyd egsotig a dweud y lleiaf.


Mae cymysgu'n dipyn o grefft
Mae fel bod yn beintiwr. Mae gennych balet ac arno dri lliw sylfaenol, ond gallwch wneud miloedd ar filoedd o liwiau o’r rheini, a’r holl nawsau bach hynny sy’n gwneud y cynnyrch gorffenedig. Daw o’r enaid. Mae’n ffurf ar gelf mewn ffordd, fel unrhyw beth – os ydych chi eisiau ei wneud yn dda, rhaid ichi ymarfer.
Brand syml yr olwg sydd gennym, ond mae’n ffrwyth meddwl mawr
Rwy’n credu bod y diwydiant seidr wedi hen ddihysbyddu motiff y ffermdy coeden afalau rhosynnaidd. Felly dyma ni’n meddwl: gadewch inni roi rhywbeth ar y farchnad y bydd pobl am gael eu gweld yn ei ddal. Mae’n bwrpasol o soffistigedig. Ni chynhyrchwn ar raddfa fawr o gwbl, ac mae’r cynnyrch yn wirioneddol arbenigol, felly nid ydym yn dwyn ffrwyth mawr. Ac ni ddefnyddiwn unrhyw frandio sy’n ormodol o Gymreig, ychwaith. Dim baneri na dreigiau. Dywed ‘Caerffili’ ar gefn y botel, ond dyna’r cyfan.


Mae fy enw i ar y botel – wel, mewn ffordd...
Pam mae fy enw i’n cynnwys dau ‘T’, a’r seidr un yn unig? Roeddem yn eistedd yn swyddfa’r asiantaeth, yn edrych ar y dyluniadau, cyn meddwl, ‘Mae bron iawn yno, ond nid yw’n taro deuddeg.’ Dyma nhw’n tynnu un T allan ac medden ni, ‘Dyna ni.’ Rhaid ichi fod yn ymarferol am y peth. Os nad yw’n gweithio, ni allwch fod yn sentimental. Symudwch ymlaen.
Y genhedlaeth nesaf fydd yn bwrw ymlaen ag ef
Os byddwn yn tyfu’n fwy o faint, bydd yn newid organig. Rhaid inni gadw’n onest. Mae wedi cymryd amser i ennyn y parch sydd gennym, a byddai’n well gennyf fod yn frand moethus na brand archfarchnad. Ymunodd ein mab Andrew a’r busnes ddwy flynedd yn ôl ac erbyn hyn mae yntau’n hyfedr iawn am wneud seidr. Nid wyf yn gwthio fy null i arno, mae’n gwneud ei benderfyniadau ei hun. A dweud y gwir, ef a gynhyrchodd y rhan fwyaf y llynedd. Mae’n ei gymryd o ddifrif ac yn gwneud gwaith da, a braf yw gweld olyniaeth yn y busnes.
