Mae bwyd da’n dechrau gyda chynhwysion da. Ac mae cynhyrchu bwyd a diod rhagorol yn rhywbeth y gwyddom ni gryn dipyn amdano. Rydym ni wedi bod yn gwneud hyn ers canrifoedd, am genedlaethau, mewn tir sy’n berffaith ar gyfer tyfu, codi a dal cynnyrch o’r radd flaenaf: yn ddolydd, mynyddoedd a choedwigoedd, ac arfordir 870 milltir (1,400km) yn fur i’r hoff bau.
Dyma sydd gan Amelia Eiríksson, cyd-berchennog Ynyshir, y bwyty â’r mwyaf o wobrau yng Nghymru, i’w ddweud. “Mae’r diwylliant ffermio a physgota’n gryf iawn: mae modd cael popeth sydd ei angen o’r lle ble rydych chi. Am flynyddoedd, mae Cymru wedi cael y cynnyrch gorau yn y byd.”



Mae mwy na dwsin o’r pethau gorau a wnawn bellach wedi derbyn statws PGI (Protected Geographical Indication) neu PDO (Enw Tarddiad Gwarchodedig). Ymunodd ein cig oen ac eidion, ein halen a’n seidr, ac eog a ddaliwyd mewn cwrwgl ag enwau mawrion fel caws Parmesan a Champagne.
Gellir dyrchafu’r cynhwysyn mwyaf distadl fel halen yn un o brif ddanteithion y byd pan fo hwnnw’n Halen Môn, medd sylfaenydd y cwmni Alison Lea-Wilson: “Fe’i gwneir â llaw yng Nghymru, felly rydych chi’n bwyta rhan o forlun Cymru. Dyma’r halen gorau yn y byd yn ein barn ni.”

Maen nhw’n defnyddio dŵr a dynnwyd o’r Fenai. “Mae’r cynnyrch lleol yn rhagorol,” meddai Alison. “Rydym ni wrth ein bodd gyda’r cig oen ac eidion lleol, ac mae’r môr yn darparu cregyn gleision, wystrys, draenog y môr (sea bass) gwyllt, cimychiaid a chrancod.”
Mae crefftwyr o gynhyrchwyr yn gwneud pethau rhyfeddol â’r deunydd crai hyn. Ymysg y detholiad o gawsiau a gynhyrchir yng Nghaws Teifi gan John Savage-Onstwedder - sy'n dod o’r Iseldiroedd yn wreiddiol - mae Celtic Promise, y caws Prydeinig sydd wedi ennill y nifer fwyaf o wobrau. “Am ein bod ni’n gwneud caws â llaeth amrwd, rhaid i ansawdd y llaeth fod y gorau posib, neu byddai’n amhosib gwneud dim,” meddai John.


Mae tarddiad lleol yn hanfodol bwysig yng Nghymru. Hywel Griffith yw’r pen cogydd yn y Beach House ar Benrhyn Gŵyr, Bwyty’r Flwyddyn yr AA yng Nghymru yn 2017. Holwch Hywel o ble y daw ei bysgod, ac mae’n dangos y cychod a welir allan ym Mae Oxwich, ganllath o’i deras. Mae’n defnyddio porc a fagwyd yng Nghymru, cig oen morfa heli Gŵyr, a llysiau a ffrwythau tymhorol o ffermydd cyfagos. Bydd yn casglu sampier, eurllys penfelyn a garlleg gwyllt ei hun ar hyd y glannau.
Mae fforio am fwyd yn ffasiynol iawn erbyn hyn, ond fel y dywed Danny Cameron o Ddistyllfa Dyfi, bu’n rhan o fywyd gwledig ei filltir sgwâr ef ger Machynlleth erioed. “Roedd erwain yn cael ei ddefnyddio i roi blas ar gwrw 3,000 o flynyddoedd yn ôl – cyn i Gwydion ei ddefnyddio i greu Blodeuwedd, hyd yn oed – ac mae’n un o’r llysiau a fforiwyd yn ardal Dyfi ers cenedlaethau,” meddai Danny.


Rhaid cyfaddef fod Danny wedi mynd â phethau gam ymhellach: mae’r jin Pollination a gynhyrchir ganddo’n cynnwys rhyw 20 o berlysiau a fforiwyd yn lleol. “Mae yma’r fath amrywiaeth o lysiau a blodau, a chyn lleied o lygredd. Dyma baradwys y fforiwr,” meddai.
Yn ogystal â bod yn wlad lân, rydym ni’n dwt hefyd – sy’n golygu bod pob un o’r cynhyrchwyr bwyd a diod gorau’n nabod ei gilydd. Mae hyn yn arwain at gydweithio tipyn yn anarferol weithiau. Coffi Coaltown o Rydaman yw un o gynhwysion allweddol Marmalêd Espresso Martini’r cwmni Rogue Preserves o’r Rhondda.

Ac yna mae Bragdy Monty yn Nhrefaldwyn, ble mae’r pen-bragwr Pam Honeyman wedi canfod ateb clyfar i waredu cwrw sy’n wastraff: “Bob tro y byddwn ni’n bragu, mae rhyw un neu ddwy gasgen dros ben, felly mae’r rheiny’n mynd i fferm gyfagos ble mae Ifor Humphreys yn magu gwartheg Wagyu Cymreig, ac maen nhw’n yfed dau neu dri pheint y dydd,” meddai hi.
Dyma’r unig eidion y bydd Gareth Ward, Cogydd y Flwyddyn y Good Food Guide 2019, yn ei ddefnyddio yn Ynyshir. “Fe ddywedais na fyddwn i byth yn rhoi eidion ar y fwydlen, oherwydd mae’n rhywbeth gewch chi ymhobman. Ond yna daeth Ifor â’i Wagyu Cymreig i mi ei drïo, ac roedd yn syfrdanol o dda.”
Mae’r un math o egwyddor yn gweithredu ledled Cymru. Mae cenhedlaeth newydd o gogyddion, bragwyr, pobyddion, distyllwyr (heb sôn am wneuthurwyr caws, jam a siocled) yn chwilio am gynhwysion rhagorol er mwyn gwneud pethau anhygoel â nhw – ac maen nhw’n eu canfod ar garreg y drws. Ble buon nhw erioed.