Symudodd Dr Alan Parker i Fro Morgannwg gyda’i wraig a dau o blant yn 2014. Bob diwrnod o’r wythnos waith, bydd yn cymudo i Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, ble mae’n ymwneud ag ymchwil arloesol i ymladd canser gyda firysau a amnewidiwyd yn enetig. "Mae De Cymru’n lle croesawgar a fforddiadwy i fyw ynddo, gydag ansawdd bywyd rhagorol," meddai ef. “Mae cynifer o leoedd awyr agored hyfryd o’n cwmpas, a threfi prysur fel y Bontfaen a Phenarth ar garreg y drws."


"Pan symudon ni yma, fe wnaethon ni hynny i gael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith," medd Julian Rollins – newyddiadurwr, darlledwr ac awdur canllawiau cerdded o gwmpas Sir Benfro a Cheredigion. "Ro’n i yn Birmingham, a byddai’r daith i’r gwaith ar hyd yr M6 yn gallu cymryd hyd at ddwy awr yn llawn straen. Fyddwn i ddim adre tan i’r plant fod wedi hen fynd i’r gwely."
Mae’r teulu’n byw bellach ym mhentref Abercych, ym mherfeddion Sir Benfro. "Y peth gorau am fod yma yw mai dim ond 20 munud i ffwrdd y mae’r môr; gallwch chi fynd i’r traeth bob dydd. Pan oedd y plant yn iau, bydden ni’n gallu’u casglu nhw ar ôl ysgol a mynd i nofio neu syrffio."


Dychwelodd Lowri Williams i Fangor, ei dinas enedigol, i gymryd swydd fel uwch-swyddog polisi i Gomisiynydd y Gymraeg. "Mae’r Gymraeg yn ganolog i fy mywyd a’m hunaniaeth," meddai hi, “ac roedd hi’n bwysig i fi allu symud yn ôl i’r ardal ble cefais fy magu, er mwyn magu fy mab fy hun, ac er mwyn cyfrannu at y gymuned a’i dyfodol.
"Mae’n rhagorol bod cynifer o weithgareddau awyr agored o’n cwmpas ym Môn ac Eryri – gallwn fod wrth fy nesg drwy’r dydd, ac ar ben mynydd gyda’r hwyr, a golygfeydd godidog o’m cwmpas i bob cyfeiriad."


Mae gallu cydbwyso gyrfa fuddiol a bywyd sy’n llawn o ysbrydoliaeth y tu allan i’r gweithle yn uchelgais y gellir ei gyflawni’n hawdd yng Nghymru. Mae’r daith ddyddiol i’r gwaith hyd yn oed yn gallu bod yn donic yn lle niwsans.
Mae pobl sy’n gyrru ddwywaith y dydd drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’i olygfeydd godidog yn gweld rhywbeth llawer mwy ysbrydoledig na thu mewn i dwnnel y Tiwb yn Llundain. Ac mae’n anodd dychmygu gwell olygfa foreuol na dynesu at Lanelli ar yr hyn a elwid gan y Guardian yn ‘reilffordd fwyaf deniadol Ynysoedd Prydain’. Mae ein cysylltiadau trafnidiaeth yn dda, ac maen nhw’n gwella. Ar rwydwaith y rheilffyrdd, bwriad rhaglen o welliannau o’r bôn i’r brig dros y blynyddoedd nesaf yw cwtogi ar amserau teithio, cynyddu gwasanaethau’r wythnos waith a chyflwyno trenau a gorsafoedd newydd.


I lawer sy'n symud i Gymru, mae’r posibilrwydd o gael gwell bywyd teuluol yn selio’r fargen. Mae ysgolion lleol wrth wraidd pob cymuned yma. Mae gan y wlad ei system addysg ei hun, sy’n wahanol i weddill y DU, a dyfarnodd Estyn – y corff sy’n cynnal safonau – fod 77% o bob ysgol yn 'dda' neu’n 'rhagorol'.
Bydd pob plentyn yn cael cyfle i ddysgu Cymraeg, neu i gael eu haddysg gyfan drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae digon o gyfleoedd i oedolion gael crap ar y Gymraeg hefyd, drwy gyfrwng cyrsiau preswyl, dosbarthiadau nos a sesiynau ‘picio i mewn’ anffurfiol mewn caffis lleol, ble gellir mireinio sgiliau sgwrsio.

Mae Cymru’n lle amrywiol a chosmopolitaidd. Ein dathliad LGBT+ enwocaf yw Pride Cymru, wedi’i seilio ar ‘Y Penwythnos Mawr’ yng Nghaerdydd. Mae’n gymysgedd bywiog a lliwgar o gerddoriaeth a gorymdeithiau stryd, gyda’r faner enfys yn hedfan yn falch o’r Castell i’r Bae. Mae Gŵyl Gwobr Iris - un o ddigwyddiadau ffilm LGBT+ mwyaf sefydledig Ewrop – yn ŵyl chwe diwrnod yn ein prifddinas yn ogystal â chynnal digwyddiadau allgymorth drwy gydol y flwyddyn ar draws y wlad.



Mae pob un o’n wyth prifysgol yn ymddangos yn gyson yn agos at frig tablau’r DU am fodlonrwydd myfyrwyr, ac maen nhw’n adnabyddus ledled y byd am ragoriaeth academaidd ar draws ystod eang o bynciau"
Mae pob un o’n wyth prifysgol yn ymddangos yn gyson yn agos at frig tablau’r DU am fodlonrwydd myfyrwyr, ac maen nhw’n adnabyddus ledled y byd am ragoriaeth academaidd ar draws ystod eang o bynciau. Mae hyn yn denu myfyrwyr o dramor i astudio yma, gyda'r nifer bellach dros 19,000 o fyfyrwyr, a hynny o fwy na 170 o wahanol wledydd.



Yn wir, rydym ni’n genedl sy’n edrych allan i’r byd yn hy, diolch i gysylltiadau addysgol, busnes a diwylliannol hirhoedlog â chenhedloedd a rhanbarthau ledled y byd.
Mae ein prifddinas yn glytwaith o ddiwylliannau gwahanol. Dyma etifeddiaeth y cyfnod pan oedd glo a haearn yn tra-arglwyddiaethu, a Chaerdydd yn un o borthladdoedd mwyaf y byd. Byddai masnachwyr a morwyr o bob cenedl forwrol yn y byd yn dod i Tiger Bay i ennill bywoliaeth. Dewisodd miloedd ohonynt beidio â gadael wedyn, gan ddod yn falch o’u Cymreictod – ond gan drosglwyddo eu harferion a'u diwylliant unigryw i’w plant hefyd.


Ceir cymunedau sefydlog yng Nghymru o bobl o sawl gwlad, a’r grwpiau amlycaf yw pobl o India, Iwerddon a China. Mae’n gyfnewidfa ddiwylliannol ddeuol: bydd dathliadau Dydd Gŵyl Dewi bellach yn digwydd yn Chongqing, yn yr un modd ag y nodir Blwyddyn Newydd China yn ein gwlad ni.
Mae Cymru’n lle i fyw ynddo, nid i ddod ar wyliau’n unig: cenedl fodern â thirwedd amrywiol o ran economi, diwylliant a hamdden, gan wneud gweithio, gorffwyso a chwarae’n beth hawdd iawn i’w fwynhau.