Sut ddechreuoch chi ffermio?

Fy mrawd Dan a fi yw’r drydedd genhedlaeth o deulu Pritchard i ffermio yn Weobley Castle, ond mae’r teulu’n ffermio o gwmpas Penrhyn Gŵyr ers cenedlaethau cyn hynny. Mae’n lle prydferth i fyw a gweithio. Cafodd Gŵyr ei enwi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain yn ôl yn 1956. Mae’r castell yn fonws ychwanegol: maenordy ag amddiffynfeydd ydyw o’r 14eg ganrif. Daw ymwelwyr i edrych ar y castell, ac yn aml byddan nhw’n prynu ychydig o gig oen o’r siop ar eu ffordd allan.

Farmer Will Pritchard with Gower countryside in the background
Weobley Castle, Gower, with a blue sky in the background
Y ffermwr Will Pritchard a Weobley Castle, sydd uwchben y morfeydd heli lle mae'r defaid yn pori

Sawl dafad sydd gennych erbyn hyn?

Erbyn hyn, byddwn yn cynhyrchu tua 1,000 o ŵyn y flwyddyn, gan ddechrau ym mis Gorffennaf a dal ati tan y Nadolig. Mae ychydig bach yn y Gogledd ac yn Sir Benfro, ond gan ein fferm ni mae’r praidd mwyaf o ddefaid morfa heli yn y DU, a hynny o bell ffordd. Rydym yn prosesu’r rhan fwyaf o’r ŵyn ar y fferm.

Ffermwyr ydym i gyd, yn y bôn, ond rydym oll wedi gwneud cyrsiau cigyddiaeth a thorri, er mwyn gallu gwneud y cyfan ein hunain.

Sheep grazing on the salt marshes of Weobley Castle Farm, Gower
Defaid yn pori ar forfeydd heli fferm Weobley Castle ar arfordir gogleddol Penrhyn Gŵyr

Ac ymhle fyddwch chi’n ei werthu?

Yma yn siop y fferm, ond y rhan o’n busnes sy’n tyfu gyflymaf yw postio’r cig drwy gludwyr at gwsmeriaid ledled y DU. Mae llawer o’r tafarndai a’r bwytai ar Benrhyn Gŵyr yn prynu’n lleol hefyd os oes modd, felly rydym yn gwerthu llawer iddyn nhw. Mae Hywel Griffith yn y Beach House ym Mae Oxwich [Bwyty’r Flwyddyn AA 2017 yng Nghymru] yn defnyddio ein cig oen. Mae e’n dwlu ar y ffaith bod y cig mor lleol ac mor hawdd ei olrhain.

Mae Hywel Griffith —pen-cogydd Beach House — yn defnyddio cig oen morfeydd heli. Mae ffordd o fyw unigryw Gower Salt Marsh Lamb yn ei wneud yn wahanol i weddill y praidd.

Pam mae’r gallu i olrhain mor bwysig?

Dyna un o’r pethau allweddol sy’n rhoi ei statws PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) i gig oen a chig eidion Cymru. Gellir olrhain yr holl gig oen a chig eidion Cymreig a brynwch i’r fferm. Ar ryw adeg, byddai’n dda cael statws PGI ar wahân i’n cig oen morfa heli.

Beth sy’n ei wneud mor arbennig?

Ei flas unigryw. Mae iddo flas melysach, ychydig yn gryfach. Yn syml, mae’n blasu o’r hyn y maen nhw’n ei fwyta – sef llawer o berlysiau a llysiau maethol i lawr ar y morfa heli. Does dim angen ychwanegu halen a phupur ato hyd yn oed, yn fy marn i. Peidiwch â tharfu ar y blas. Mae’n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch, o’r cychwyn cyntaf.

Sheep grazing on Gower salt marshes
Farmer Will Pritchard driving his car on Gower salt marshes
Will Prichard yn trin ei braidd ar y morfeydd heli

Pam nad yw cig oen morfa heli yn fwy adnabyddus?

Bu’r agneau de pré-salé (cig oen dôl heli) yn beth mawr gan y Ffrancod erioed - mae’n ddanteithfwyd yno. Felly dyma ni’n meddwl pam na ddylai cig oen morfa heli Cymreig gael yr un math o statws premiwm? Yn ôl yn 2004 sylweddolom beth oedd gennym yma, a beth allai fod. Felly daeth fy nhad Roland a’n cymydog Colin Williams at ei gilydd i ffurfio Gower Salt Marsh Lamb ac fe ddechreuon ni farchnata a gwerthu ein cig oen yn uniongyrchol.

Sut fywyd sydd gan y defaid yma?

Eithaf da! Mae’n syndod o sych dan droed pan fydd y llanw allan, felly chawn ni ddim gymaint o broblemau gyda’u hiechyd. Mae’r defaid yn treulio bron eu bywydau cyfan ar y morfeydd heli. Byddan nhw’n dod i mewn i wyna a chneifio, a byddwn ni’n dod â nhw i fyny pan fydd y llanw’n uchel. Ond ar wahân i hynny, dyma eu cartref. Mae cryn dipyn o breiddiau, ond mae pob un yn adnabod ei filltir sgwâr, a’r defaid yn dysgu cadw at hwnnw.

Close-up of plants on Gower salt marshes
Close-up of a plant on Gower salt marshes
Close-up of grasses on Gower salt marshes
Mae'r amrywiaeth o blanhigion ar y morfeydd heli yn rhoi'r blas arbennig i'r cig oen

Beth maen nhw’n ei fwyta?

Ceir amrywiaeth helaeth o blanhigion ar y morfeydd. Ar borfeydd uwchdirol, dim ond ychydig rywogaethau o laswellt sydd ar gael fel rheol. Ond yma mae ganddynt bethau fel llyrlys, suran, lafant y môr, clustog Fair a seren y morfa. Dyna beth sy’n rhoi cystal blas iddyn nhw.

Related stories