Ers oeddwn yn 12 oed, roeddwn i’n gwybod mai cogydd y byddwn i

Wn i ddim pam hyd heddiw. Doedd o ddim yn beth ffasiynol bryd hynny. Es i i’r coleg i astudio arlwyo a dywedodd y darlithydd, ‘Iawn te, rwyf am dy anfon i Lundain am yr haf’. Dair wythnos yn ddiweddarach, roeddwn yn gweithio yn y Lanesborough Hotel ar Hyde Park Corner.

Y pen-cogydd Hywel Griffith yn ei fwyty yn y Gŵyr, Beach House.
Y pen-cogydd Hywel Griffith yn cwblhau saig yn Beach House

Roedd Llundain yn sioc ddiwylliannol anferth

Hogyn diniwed iawn o gefn gwlad oeddwn i yn 17 oed. Rwy’n dod o ardal ddigon gwledig. Cefais fy magu’n siarad Cymraeg â’m rhieni a’m ffrindiau. Roedd fy Saesneg yn ofnadwy. Dros y blynyddoedd, siaradais Saesneg bob dydd ac fe ddaeth yn well.

Os bydd rhywun yn honni nad allaf i wneud rhywbeth… mi wnaf

Rwyf wrth fy modd ar Benrhyn Gŵyr. Ond pan welais y lle am y tro cyntaf roedd ar gau ers chwe mis. Allwch chi ddim dibynnu ar fasnach yr haf yn unig. Rwy’n ofnadwy o ystyfnig a phengaled. Os bydd rhywun yn honni nad allaf wneud rhywbeth, byddaf yn benderfynol o’i wneud. Roedd y perchenogion yn credu ynof fi, a dyma nhw’n dweud, iawn, awn ni amdani a gweld beth ddaw ohoni.

Tu allan bwyty Beach House yng Ngŵyr gyda'r môr yn y cefndir.
Yr olygfa o fwyty Beach House: planhigyn gyda'r môr yn y cefndir.
Mae gan Beach House un o'r lleoliadau glan môr gorau yng Nghymru

Enillom wobr Bwyty’r Flwyddyn AA i Gymru yn ein blwyddyn gyntaf

Mae gwobrau’n dda am ennyn diddordeb. Bydd pobl yn teithio 50-60 milltir i roi cynnig arnoch. A mwy byth o bwysau arnoch wedyn i gynhyrchu hynny bob un diwrnod. Mae’r sianeli cyfryngau cymdeithasol yn sbarduno llawer o fusnes. Mae pobl yn cymryd cymaint o luniau o fwyd. Mae’n beth da fod ganddynt y diddordeb a’u bod yn dal ati i dynnu lluniau, am fod hynny’n helpu i ledu’r gair.

Rwyf wedi dod o hyd i’r cig oen gorau yn y byd

Dim brodor o’r ardal ydw i, felly mae’n cymryd amser i ddysgu pwy yw’r cynhyrchwyr i gyd a magu perthynas â nhw. Mae fel rhwydwaith fechan. Cefais wybod am Gower Salt Marsh Lamb ac es i yno i weld eu gwaith. Mae ansawdd y cig yn rhagorol. Ac rwy’n caru’r ffaith bod y fferm bum milltir i ffwrdd ar draws gwlad. Mae popeth yn lleol ac yn hawdd iawn ei olrhain.

Mae cig oen a chig eidion Cymru ymhlith y gorau yn y byd. Mae ffordd o fyw unigryw Gower Salt Marsh Lamb yn ei wneud yn wahanol i weddill y praidd.

Mae ein pysgod yn fwy lleol byth

Gallwch weld o ble ddaw’r pysgod o’ch sedd yn y bwyty. Welwch chi’r cwch glas yna? Cwch Jim yw hwnnw. Cwch Paul yw’r un coch. Pysgotwyr cimwch yw’r ddau ohonynt, ac mae Jim hefyd yn pysgota am ambell ddraenogiad y môr. Kevin sydd piau’r cwch melyn, ac yntau hefyd yn pysgota am ddraenogiaid y môr. Fe gawn ni fecryll a morleisiaid gan Andrew, sydd hefyd yn bysgotwr cwrwgl sy’n pysgota am benllwydion ar Afon Tywi.

Llaw cogydd yn coginio cig mewn padell ffrio ar stôf mewn cegin.
Platiaid o fwyd a gwydryn o ddŵr ar fwrdd pren.
Mae'r cynhwysion a ddefnyddir yn y bwyty yn 'lleol ac yn hawdd eu holrhain'

Byddai’n well gen i weini dim bwyd na bwyd gwael

Rwy’n cael cig moch arbennig o foch Cymreig brodorol o Dŷ Siriol yn Llandeilo. Byddaf yn gofyn o hyd am ragor, ond maen nhw’n mynnu gadael i’r moch dyfu gan bwyll. Mi fues yno, ac maen nhw’n gwneud pethau yn y ffordd hen ffasiwn. Nid ffermio dwys mohono lle rydych yn colli pob ansawdd. Os byddaf yn methu â chael gafael ar eu porc nhw, ni fydd porc ar y fwydlen.

Pan fydd yn dymhorol, bydd ar ei orau

Yn ystod yr haf, pysgod yw mwyafrif y fwydlen am fod pysgod yn addas i brydau bwyd ysgafnach. Does dim diben rhoi cig eidion brwysiedig trwm ar y fwydlen os yw pobl am gael pryd ysgafn hyfryd o ddraenogiad y môr. Mae’n gwneud synnwyr. Rwy’n dwlu ar gig gêm hefyd. Mae gennym bryd petrisen hyfryd a fydd yn ôl ar y fwydlen erbyn yr hydref hefyd.

Y pen-cogydd Hywel Griffith yn ei fwyty Beach House gyda'r môr yn y cefndir.
Y pen-cogydd Hywel Griffith yn mwynhau'r olygfa o'i fwyty

Straeon cysylltiedig