Chwaraeais fy holl golff bron ym Mhontypridd nes fy mod yn 20 oed

Roedd gennym ni glwb proffesiynol gwych a oedd yn fy addysgu ac yn fy annog ac roedd gennym ni chwaraewyr da o safon sirol a oedd ychydig yn hŷn na fi, a wir helpodd fi i ddatblygu fy ngêm.

Roedd yn glwb golff da iawn ac yn lle gwych i dyfu. Roedd ganddo adran iau wych a llawer o aelodau o Gymoedd y de. Roedd yn glwb prysur a chymdeithasol iawn. Roeddwn i'n gallu cerdded yno mewn 25 munud felly roeddwn i yno trwy'r amser.

Y dyddiau hyn, mae cyrsiau gwych i'w cael ledled Cymru. Pan fyddaf gartref byddaf fel arfer yn chwarae yng Nghlwb Golff Casnewydd. Rwy'n byw bum munud i ffwrdd, mae fy mab yn chwarae yno ac mae gen i lawer o ffrindiau yno felly mae'n lle mwy hamddenol i chwarae pan nad oes cystadlaethau mawr yn digwydd. Mae'n glwb aelodau go iawn.

Mae gan Gymru bedigri chwaraeon gwych

Rydw i hefyd yn aelod yn y Celtic Manor, er nad ydw i’n chwarae yno'n aml. Rydw i wastad wedi cael profiadau da mewn cystadlaethau fel Pencampwriaeth Agored Cymru ac mae'n dal ei dir yn erbyn nifer o'r prif gyrsiau golff rydw i wedi chwarae arnyn nhw ledled y byd. Mae hefyd yn gyrchfan wych y tu hwnt i'r golff, gyda chyfleusterau gwych a llawer o bethau i'r rhai nad ydyn nhw'n chwaraewyr eu gwneud tu hwnt i’r tri chwrs rhagorol. I'r golffwyr sy'n ymweld, mae'r cyfle i chwarae ar y Cwrs Dwy Fil a Deg enwog yn atyniad mawr hefyd.

Roeddwn i yno yn 2010 ar gyfer Cwpan Ryder. Y tywydd gwael oedd yn y penawdau ar yr ychydig ddyddiau cyntaf, ond cawson nhw ddiweddglo cystal nes iddi orffen yn gystadleuaeth gofiadwy iawn. Bob tro mae Ewrop yn ennill Cwpan Ryder mae'n ddigwyddiad arbennig, ac roedd ei gael yng Nghymru yn ei wneud hyd yn oed yn fwy cyffrous.

Golygfa ar draws cwrs golff Gwesty'r Celtic Manor, Casnewydd, De Cymru
Golygfa ar draws cwrs golff gwesty'r Celtic Manor, Casnewydd, De Cymru

Pe bai'n rhaid i mi ddewis hoff gwrs yng Nghymru, Royal Porthcawl fyddai hwnnw

Roedd chwarae yn y Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn yno yn 2017 yn brofiad da iawn. Rydw i wedi aros am amser hir i chwarae twrnamaint mawr yno. Roedd llawer o ffrindiau a theulu yno, ac roedd yn wych gwneud yn dda. Roedd yn Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn lwyddiannus iawn ac roedd y cyfle i'r cyhoedd weld chwaraewyr proffesiynol fel Monty (Colin Montgomerie), Corey Pavin, Bernhard Langer ac Ian Woosnam yn ardderchog.

Mae Porthcawl yn gwrs lincs cyffredinol gwych (cwrs golff arfordirol, sy'n tueddu i fod yn agored i'r elfennau). Yn ystod Pencampwriaeth Agored Hŷn 2017 cawsom ni ambell ddiwrnod gwyntog. Rwy’n cofio chwarae’r naw blaen a meddwl ‘dyma beth yw golff lincs go iawn’. Gyda gwyntoedd cryfion mae'n rhaid i chi daro ergydion da. Mae'n golff lincs traddodiadol go iawn ac os nad ydych chi'n chwarae'n dda rydych chi'n mynd i lawer o drafferth. Roedd ambell chwaraewr na oroesodd y tywydd gwael a gawsom ni ar y dydd Gwener.

Chwaraeais Daith y Pencampwyr y llynedd ac mae gan lawer o'r cyrsiau ffyrdd clir lle gallwch yrru mor galed ag y dymunwch a lleiniau gwyrdd eang i anelu atyn nhw, ond mae Royal Porthcawl yn wahanol iawn. Mae'r cwrs yn dynnach ac mae'r gwynt yn chwarae rhan mor fawr, fel y gall daflu llawer o chwaraewyr da iawn oddi ar eu hechel.

Golygfa yn yr awyr agored o ddynion yn chwarae golff wedi ei osod yn erbyn awyr las gyda'r môr yn y cefndir
Golygfa yn yr awyr agored o sgrîn golff wedi ei osod yn erbyn awyr las gyda'r môr yn y cefndir
Golffwyr yn chwarae yng Nghlwb Golff Royal Porthcawl, De Cymru

Mae nifer o gyrsiau gwych eraill yng Nghymru

Gyda'n milltiroedd o arfordir, mae golff lincs yn amlwg yn bwynt gwerthu mawr. Rydw i wrth fy modd yn chwarae Royal St David's yn Harlech, sy'n her golff go iawn. Rydw i wedi chwarae yno dipyn o weithiau ac mae bob amser yn sialens. Mae'n berl o gwrs golff, efallai nad sy’n cael y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu gan ei fod ychydig yn ddiarffordd. Mae pobl yn aml yn ei ddisgrifio fel par 69 anoddaf y byd, ac rwy'n credu bod hynny'n eithaf cywir. Mae'r garw’n greulon, felly mae'n rhaid i chi fod yn wirioneddol graff.

Mae Ashburnham a’r Pîl a Chynffig yn gyrsiau lincs pleserus iawn sydd â’r potensial i herio unrhyw chwaraewr. Mae lleoedd llai adnabyddus fel Borth ac Ynyslas hefyd, sy'n gwrs eithaf anghyffredin. Byddwn i hefyd yn argymell Aberteifi. Nid yw'n un o'n cyrsiau lincs mwyaf adnabyddus, ond dwi wedi chwarae yno lawer ac mae'n werth ymweld ag ef.

Pe bawn i'n rhoi argymhelliad i unrhyw un sy'n dod i chwarae yma yng Nghymru, byddwn i'n dweud y dylid rhoi cynnig ar rai o'r cyrsiau llai enwog hyn. Bydd llawer o ymwelwyr yn aros yn y Celtic Manor ac yn chwarae lleoedd fel Royal Porthcawl, ond os ydych chi'n barod i grwydro ychydig, mae digon o leoedd eraill â golff gwych.

 

Cwrs golff golygfaol gyda chastell mawr ar fryn yn y cefndir
Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant, Harlech

Straeon cysylltiedig