Mae ein lleoliad yn yr arcêd yn denu’r torfeydd

Ffenestri yw blaen y siop i gyd. Am fod gan yr arcêd nenfwd gwydr uchel mor hyfryd, mae bron fel bod mewn eglwys gadeiriol. Pan fydd cerddoriaeth fyw gyda ni, bydd y sain yn teithio lawr yr arcêd gan ddenu pobl. Byddan nhw’n aml yn crynhoi tu fas ac edrych drwy ffenestri’r siop i weld beth sy’n digwydd, er mawr syrpreis i’n perfformwyr.

Y peth hyfryd yw bod cerddoriaeth mor gynhwysol

Bydd pobl o bob oedran yn dod i’r siop. Er enghraifft, pan ddaeth y band Idles i chwarae yn y siop, daeth merch saith oed i mewn ar ysgwyddau’i thad i’w gweld nhw. Mae llawer o’n cwsmeriaid yn dod atom yn rheolaidd, ac rydyn ni wedi’u hadnabod nhw ers amser maith. Mae un dyn sydd wedi bod yn siopa yma ers dros ddeugain mlynedd. Bydd e’n archebu dros e-bost wedyn yn dod ar gefn ei feic o Ben-y-bont ar Ogwr, 20 milltir i ffwrdd, i’w casglu nhw. Mae cerddoriaeth ar gyfer pawb.

Golwg o’r tu allan o ffenest siop recordiau liwgar
Menyw’n edrych ar record mewn siop recordiau
Dyn yn edrych drwy recordiau finyl mewn siop recordiau
Spillers Records, Caerdydd

Mae cerddoriaeth fyw yn y siop yn rhan hanfodol o’r hyn rydym ni’n ei wneud

Mae Cymru’n wlad ynddi’i hun gyda’i hiaith a’i sîn gerddoriaeth ei hun, sy’n mynd o nerth i nerth. Mae rhychwant cerddoriaeth o Gymru’n ffynnu go iawn. I ni, mae cefnogi’r sîn honno’n golygu i ddechrau ein bod ni’n cefnogi perfformio byw yn y gymuned. Dylai unrhyw un sy’n byw ger siop recordiau sy’n cynnig cerddoriaeth fyw yn rhad ac am ddim fynd draw yno!

Bydd pobl yn dewis dod yma yn hytrach na siopa ar lein

Y penderfyniad ymwybodol hwnnw i fynd i rywle ble rydych chi’n ymwneud â phobl, yn gallu pori, derbyn gwasanaeth cwsmeriaid… mae’r holl bethau hynny’n bwysig i mi ac i’n cwsmeriaid ni. Mae’n wir fod digon o ddewis o ran prynu ar lein y dyddiau hyn. Ond pan ddechreuais i, roedd llawer mwy o gystadleuaeth gan siopau recordiau eraill ar strydoedd Caerdydd. Yn y pen draw, nid ffanatig manwerthu ydw i ­– ffanatig cerddoriaeth ydw i. Dwi’n caru bod ymhlith cerddoriaeth, ac mae’n ymwneud â’r cyswllt personol yna.

Bydd pobl o bob oedran yn dod i’r siop. Er enghraifft, pan ddaeth y band Idles i chwarae yn y siop, daeth merch saith oed i mewn ar ysgwyddau’i thad i’w gweld nhw.

Mae cefnogi diwydiant Cymru’n arbennig o bwysig

Daw ein bagiau oddi wrth gwmni annibynnol o Gymru, ac rydyn ni wedi cael yr un cyflenwr ers dros 20 mlynedd. Bydd ein nwyddau’n cael eu hargraffu gan gwmni annibynnol arall o Gymru, ac rydyn ni wedi bod yn eu defnyddio nhw yr un mor hir. Pan fyddwn ni’n prynu technoleg neu’n cael trwsio ein cyfrifiaduron, boi o lawr yr heol sy’n gwneud hynny.

Fy nhad oedd yn rhedeg y busnes o’r 1970au tan i mi ei brynu ganddo yn 2010

Mae e’n rhyfeddu mod i wedi llwyddo, ond heb awgrymu ei fod e’n meddwl na faswn i ddim yn gallu gwneud. Mae e’n gwybod o brofiad personol mor anodd a chystadleuol y gall manwerthu cerddoriaeth fod. Mae’n farchnad enfawr, ond mae’n farchnad sy’n crebachu. Mae e’n meddwl na ddylwn i ddim gweithio mor galed. A dweud y gwir, mae fy nghymar hyd yn oed yn dweud fod tri o bobl yn ein perthynas ni – fi, fe a’r siop!

Menyw’n pori drwy recordiau finyl mewn siop recordiau
Spillers Records, Caerdydd.

Dydw i ddim eisiau concro’r byd

Mae gwerthiant cerddoriaeth dros-y-cownter wedi bod yn dal ei dir yn gyson ers i mi gymryd awenau’r busnes gan fy nhad yn 2010. Does gen i ddim awydd o gwbl i. ymestyn na gwneud dim byd i wneud arian mawr, heblaw am gynnal busnes Spillers am lawer o flynyddoedd i ddod. Dwi mond eisiau rhedeg siop recordiau hyfryd, gynaliadwy yng Nghaerdydd ar gyfer pobl sy’n gweld gwerth yn hynny.

Straeon cysylltiedig