Porthcawl yw fy nghartref, ble ces i fy magu, a ble mae llawer o’r teulu’n dal i fyw
Mae ambell aelod o’r teulu’n dal i fynd i fy hen ysgolion i, ac i’r eglwys ble cawson ni i gyd ein bedyddio. Mae ’na deimlad hyfryd o barhad ynghylch hynny. Mae un o fy ffrindiau gorau’n byw ym mhentref Newton, ger yr eglwys Normanaidd. Dw i’n dwlu ar yr ardal honno am ei bod wedi newid cyn lleied, ac mae’n fy atgoffa’n fawr am fy mhlentyndod.


Rwy’n ffodus i fod yn gallu mynd adre i Borthcawl yn rheolaidd
Mae’n lle mor hardd – saith o draethau, cofiwch! Dw i’n dwlu cerdded ar y comin lan i Fae Rest, a dw i’n meddwl bod y dref yn fendigedig yn y gaeaf pan fydd y llanw’n uchel a’r tonnau’n taro ewyn dros y prom. Mae gen i gymaint o atgofion hapus o gael fy magu yno. Ro’n i’n ffodus iawn.
Ruth JonesDyna’r peth am draethau Cymru – fe gewch chi eich sbwylio, yn enwedig os yw’r haul yn gwenu."
Mae naws lle’n hanfodol yn fy ngwaith i
Dw i’n meddwl taw’r ymdeimlad ’na o gymuned yw’r peth, teimlad sy’n deillio o lefydd fel y Barri, ble mae llawer o Gavin & Stacey wedi'i leoli, neu Lynrhedyn ble ffilmiwyd Stella. Mae gan y ddau le eu harddwch unigryw. Ro’n i’n arfer bod wrth fy modd yn ffilmio ar ‘stryd’ Stella yng Nglynrhedyn, yn rhannol oherwydd yr olygfa odidog ar draws y cwm, ond hefyd oherwydd bod y gymuned mor gyfeillgar yno, a sut y byddai pobl yn aml yn sefyll ar garreg y drws i gael sgwrs.

Yn y Barri, dw i’n dwlu ar gaffi Marco’s a’r ehangder mawr yno ar lan y môr
Mae’n ddigon tebyg i Borthcawl, sydd mor ddramatig yn y gaeaf. Mae’r Cnap a thraeth y Barri’n draethau bendigedig hefyd. Mae un yn dywodlyd, y llall yn garegog, ac mae’r ddau’n lân iawn. Fe wnaethon ni ffilmio pennod Gŵyl y Banc o Gavin & Stacey ar draeth y Barri, ac roedd y tywydd yn berffaith. Dyna’r peth am draethau Cymru – fe gewch chi eich sbwylio, yn enwedig os yw’r haul yn gwenu. Fe wnes i gyd-awduro drama radio rai blynyddoedd yn ôl hefyd, o’r enw The Cyhiraeth, a ysbrydolwyd gan y synau arallfydol y byddai morwyr yn ei glywed, mae’n debyg, oddi ar yr arfordir ger Trwyn Sgêr ac Ynys Tusker. Roedd y sŵn i fod i’w rhybuddio am stormydd peryglus gan eu siarsio i fynd yn ôl i’r tir mawr cyn gynted ag y gallen nhw!


Mae cefn gwlad gwyllt Cymru yn gymaint o ysbrydoliaeth
Yn 1996, roeddwn i’n actio mewn drama gyfnod ar y teledu o’r enw Drover’s Gold ar y BBC – roedd yn cael ei hyrwyddo fel Western o Gymru, ac roedd yn adrodd stori gyrru gwartheg o orllewin Cymru i Lundain. Ro’n i wrth fy modd gyda’r jobyn hwnnw. Fe es i am y tro cyntaf i lefydd fel Llanbedr Pont Steffan a Llandeilo, yn ogystal â’r Fenni a Chrucywel. Fe wnes i gwympo mewn cariad â phob un lle. Roedd rhywbeth mor ddigyffwrdd amdanyn nhw, a dw i wedi dychwelyd droeon ers hynny.

Does dim prinder llefydd ble gallwch chi fynd i ddianc a chael heddwch
Pan oeddwn i’n blentyn, fe es i i Benrhyn Gŵyr am y tro cyntaf, i garafán fy Modryb Lynne yn Llangennydd. Allwch chi ddim â churo edrych mas dros Fae Rhosili a golygfa Pen Pyrod, boed hi’n ganol gaeaf neu’n hirddydd haf. Dyna ble byddwn i’n ymgilio iddo fe pe bai angen i mi guddio. Mae gen i atgofion arbennig iawn o adeg gwyliau fy mhlentyndod o oleudy Ynys Lawd ym Môn, ac eglwys fechan yng Ngheredigion, o’r enw Mwnt. A rhaid i mi ddweud, am fy mod i bob amser yn argymell y dylai pobl ymweld â’r lle, mae Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ger Caerdydd yn hollol ryfeddol.


Pe bawn i eisiau argymell un llwybr i ddangos harddwch Cymru, byddwn i’n dechrau yn y de
Ar ôl i chi groesi Pont Hafren, byddwn i’n argymell dilyn heol yr arfordir (rhan o Lwybr Arfordir Cymru) sy’n dilyn ymylon Cymru. Byddwn i’n eich annog i ymweld â phob un o’r ynysoedd, gan gynnwys Ynys Bŷr a Thorne Island, ble treuliais i benwythnos gyda’r merched yn 1993 ar gyfer parti plu fy chwaer yng nghyfraith – roedd angen mynd mewn cwch pysgota bychan i gael mynediad i’r lle. Ar ôl hynny, mwynhewch hyfrydwch Aberaeron ac Aberystwyth a Phen Llŷn

Byddwn i’n bendant yn dweud wrthych am fynd i Bortmeirion hefyd: fe wnes i dreulio deuddydd hyfryd yno gyda fy nhad ryw dair blynedd yn ôl, a chefais fy syfrdanu gan y bensaernïaeth ddeniadol, eiconig.


Ar ôl mynd o gwmpas yr ymyl, byddwn i’n anelu’n ôl am y de eto. Mae’n debygol y byddwn i’n dilyn Ffordd Cambria ar hyd yr A470, gan ddefnyddio fy llyfryn Welsh Rarebits sy’n dweud wrthych am yr holl leoedd gwely a brecwast a gwestai bychain sydd yng Nghymru. I orffen, byddwn i’n cerdded yn ôl i’r gogledd eto ar hyd Clawdd Offa. Fe wnaeth fy mrawd Julian hynny’n ddiweddar – am arwr!