Y tro cyntaf yr es i i’r sinema, fe welais i Teen Wolf yn Aberhonddu
Hwnna a Karate Kid 2 yw’r ddwy ffilm y mae gen i atgof clir ohonyn nhw o fy mhlentyndod. Byddai fy ffrindiau a minnau’n arfer jocan ein bod ni’n ail-wneud Fist of Fury neu Big Trouble in Little China. Roedd gen i uchelgais i fod yn actor – ro’n i eisiau bod yn Jackie Chan neu Bruce Lee.

Pan adewais y brifysgol, fe ges i’r syniad gwyllt yma o anelu am Hollywood
Yn hytrach, fe laniais mewn swydd naw tan bump yng Nghaerdydd, yn creu CD ROMs addysgol. Ond ro’n i’n creu ambell fideo hefyd, ac roedd y bos yn gefnogol iawn o’r uchelgais oedd gen i i wneud ffilmiau – gan adael i mi gymryd cwpl o fisoedd i ffwrdd o’r gwaith er mwyn i mi wneud fy ffilm hir gyntaf, y gwnes i ei hariannu fy hun.
Fe wnes i dynnu ar fy mhrofiad o adael Cymru pan oedden ni’n gwneud Merantau
Mae’r ffilm yn ymdrin â bachgen ifanc sy’n gadael ei gartref i fynd i arfer ei grefft yn Jakarta, i geisio dod yn adnabyddus. Byddai’n siarad yn llawn teimlad wrth hiraethu am ei frawd, ac fe wnes i dynnu ar y profiad hwnnw, am fod fy mrawd a minnau wedi mwynhau perthynas agos iawn erioed.
Fe saethon ni’r rhan fwyaf o’r ffilm Apostle ym Mharc Margam – ystâd wledig dawel, heddychlon
Roedd yna un olygfa ble roedd gennym groesbren enfawr ar dân – trawiadol iawn. Roedden ni wrthi’n profi’r offer technegol yn ystod y dydd, ac yn llythrennol wrth i ni weiddi "Dewch i ni roi’r tân ar y groesbren," fe ymddangosodd grŵp o blant ysgol ar y llwybr gerllaw. Rhaid bod hynny wedi bod yn agoriad llygad iddyn nhw!

Roedd gweithio ar Apostle gyda’r cawr o actor o Gymru, Michael Sheen, yn anhygoel
Mae ganddo fe’r fath enw da yn rhyngwladol, ac o fewn y diwydiant ffilm yng Nghymru hefyd. Fe wnaeth e gyflawni mewn ffordd ryfeddol o ran ei ymwneud ag Apostle. Fe wnaeth gymaint i wella’r sgript gan gyfoethogi a grymuso’r sgript mewn sawl ffordd. Fe ddaeth â llawer iawn o wybodaeth a phrofiad yn ei sgil. I mi, fel gwneuthurwr ffilm oedd yn dysgu’i grefft roedd hynny’n brofiad amhrisiadwy.
Gareth EvansMae gennym ni fynyddoedd, dyffrynnoedd a bryniau anhygoel heb sôn am arfordir rhyfeddol."
Yn bendant, mae yna gyffro creadigol yng Nghymru
Dwi’n gweld Cymru fel lle sy’n gyforiog o gyfleoedd di-ben-draw, gyda chyfleusterau stiwdio sy’n tyfu ac sy’n agored i bawb. Yn fy marn i, mae cymaint o gyfleoedd nawr i wneuthurwyr ffilm sydd ar eu prifiant i fynd ati i ddweud eu stori yma. Mae gennym ni fynyddoedd, dyffrynnoedd a bryniau anhygoel heb sôn am arfordir rhyfeddol. Mae gennym hefyd ddinasoedd gwych, a modd tynnu ar dair dinas fawr i’w defnyddio fel lleoliadau. Mae yna gymaint wrth law i ni. Mae’n rhywbeth y mae [cynhyrchydd Apostle] Ed Talfan a minnau wir yn ceisio’i gefnogi sef creu mudiad gwneud ffilmiau yma yng Nghymru. Y gobaith yw y gallem ni roi cyfle i rywun sydd wedi graddio o un o brifysgolion Cymru fynd a gwneud ei ffilm hir ei hun yma, rhyw ddiwrnod.

Rwy’n fythol ddiolchgar i Indonesia, ond dwi gartref i aros erbyn hyn
Roedd Indonesia yn gyfnod bendigedig i mi a’m gwraig. Roedd caredigrwydd a chyfeillgarwch cynhenid ymysg y bobl. Doedd dim ots ble roeddech chi, boed mewn ardal ddinesig brysur, neu yn un o’r trefi mwy gwledig. Ac rydw i’n teimlo’r un cynhesrwydd a naws yn union pan fydda i’n dod yn ôl i Gymru. Ro’n i’n ffodus iawn i allu creu ffilmiau yn fanna, ond roedd darn ohonof wastad eisiau dychwelyd er mwyn gwneud rhywbeth yn y DU – ac yn benodol i wneud rhywbeth yng Nghymru.