Yr Athro Julie Williams CBE yw un o ffigurau amlycaf y byd ym maes ymchwil clefyd Alzheimer. Hi yw cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU ym Mhrifysgol Caerdydd, a agorodd yn 2018 yn rhan o fenter £250m i astudio clefydau niwrolegol. Hi oedd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru rhwng 2013 a 2017.

Mae Prifysgol Caerdydd yn arwain ym maes ymchwil dementia. Dysgwch sut mae Cymru wedi ymrwymo i helpu cenedlaethau'r dyfodol drwy wyddoniaeth.

Roeddwn i wrth fy modd pan agorodd Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU yng Nghaerdydd

Roedden ni’n gwybod bod angen sefydliad o’r fath. Tua 2009, dechreuodd rhai canlyniadau diddorol iawn ddod i'r amlwg mewn geneteg, a dechreuwyd meddwl am glefydau fel clefyd Alzheimer mewn ffordd wahanol. Roedd yr ymchwil hwn yn cysylltu'r system imiwnedd yn gryf i achosion y mathau hyn o ddementia. Y cam nesaf yn yr ymchwiliad gwyddonol hwnnw yw darganfod sut yn union mae'r prosesau sy'n gysylltiedig ag imiwnedd yn cyfrannu at glefyd Alzheimer. Dyna un o'r prif gwestiynau y cafodd y Sefydliad Ymchwil Dementia yng Nghaerdydd ei sefydlu i'w ateb.

Prifysgol Caerdydd Hadyn Ellis adeiladu
Tu mewn i'r adeilad Prifysgol Caerdydd Hadyn Ellis
Y Sefydliad Ymchwil Dementia, a leolir yn adeilad Hadyn Ellis, ar gampws Arloesi Prifysgol Caerdydd

Dementia yw her iechyd fwyaf ein hoes

Rydyn ni'n gwybod mai dyma'r achos mwyaf cyffredin o farwolaeth yn y DU erbyn hyn - ond o'i gymharu â chanser, er enghraifft, ychydig iawn o ddealltwriaeth sydd gennym ohono. Y rheswm am hwn yw adnoddau. Dechreuodd ymchwil canser ddenu llawer o arian 30 mlynedd yn ôl, ac mae'r lefel wedi cael ei gynnal ers hynny. Rydym bellach yn gweld canlyniadau, a bydd llai na 50% o bobl sy'n cael diagnosis o ganser yn marw o’r clefyd hwnnw. Gyda dementia, mae'n rhaid i ni fuddsoddi mewn ymchwil. Mae'n cymryd amser ac arbenigedd, ond dyma'r unig ffordd o gael yr atebion a dod o hyd i driniaethau newydd.

Mae'n cymryd amser ac arbenigedd, ond dyma'r unig ffordd o gael yr atebion a dod o hyd i driniaethau newydd.”

Mae gwyddonwyr yng Nghymru ymysg y mwyaf cynhyrchiol, arloesol ac ysbrydoledig yn y byd

Maen nhw’n gweithredu ar lefel uchel iawn, ac mae angen mwy ohonyn nhw. Pan oeddwn i'n Brif Gynghorydd Gwyddonol, roeddwn yn benderfynol o dyfu nifer y gwyddonwyr yng Nghymru. Buom yn cynnal cynllun Sêr Cymru i recriwtio sêr gwyddonol y dyfodol a dod â nhw yma, gan sefydlu cadeiriau ymchwil a chymrodoriaethau newydd uchel eu bri ar eu cyfer yn ein prifysgolion. Llwyddom ddod o hyd i gyllid ar gyfer dros 200 o'r unigolion hyn a'u timau, ac mae'r cynllun yn dal yn weithredol. Mae'n llwyddiant mawr, ac yn ein galluogi i lenwi bylchau yn ein hymchwil ac adeiladu ar ein cryfderau presennol yng Nghymru.

Mae gweddill y DU wedi dilyn ein harweinyddiaeth

Rwy'n falch iawn bod y model Cymreig wedi cael ei fabwysiadu ar lefel y DU cyfan. Bellach, mae Ymchwil ac Arloesi'r DU, y corff ariannu ymchwil canolog, yn rhedeg cynllun cymrodoriaeth tebyg i Sêr Cymru, i ddod â thalent i brifysgolion ym Mhrydain. Mae'n adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd gennym yng Nghymru. Gweithiais gyda nhw i helpu i'w ddylunio.

Yr Athro Julie Williams ar adeilad Prifysgol Caerdydd Hadyn Ellis
Yr Athro Julie Williams yn Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae cymuned wyddonol gref yn golygu economi gref

Drwy gynyddu ein sylfaen wybodaeth yng Nghymru, rydym hefyd yn cynyddu'r potensial o ran arloesedd a gweithgareddau sy’n deillio o'n hymchwil. Mae hyn yn bwydo'n uniongyrchol i ddatblygiad economaidd. Cyn bo hir bydd tua 150 o bobl yn gweithio i sefydliad Ymchwil Dementia'r DU, gyda'r mwyafrif ohonynt yn cael eu hariannu gan grantiau cystadleuol.

Yn wir, mae pob swydd sy'n cael ei hariannu gan y brifysgol wedi denu tua 10 swydd ychwanegol i Gymru. Rydyn ni wedi gallu dod â phobl yn ôl sydd wedi gweithio mewn swyddi sy'n talu'n dda iawn yn yr Unol Daleithiau dros y saith neu wyth mlynedd diwethaf. Pan fyddant yn cynhyrchu syniadau ar gyfer triniaethau a ffyrdd newydd o ddiagnosio clefyd, bydd y rhain yn arwain at arloesiadau, therapïau newydd a chwmnïau newydd. Gallai hyn i ddod â budd economaidd enfawr.

Yr Athro Julie Williams gyda'r gwyddonydd benywaidd, Prifysgol Caerdydd Hadyn Ellis adeiladu
Myfyrwyr benywaidd yn y labordy, Prifysgol Abertawe
Gwyddonwyr benywaidd yn cynnal ymchwil yng Nghaerdydd a Phrifysgol Abertawe

Mae cael mwy o ferched yn cymryd rhan mewn gwyddoniaeth yn hanfodol i'n llwyddiant

Yn y gorffennol, mae nifer y merched wedi gostwng wrth iddyn nhw fynd ar hyd y llwybr gyrfa - yn enwedig yn y blynyddoedd pan mae pobl yn dechrau teuluoedd. Allwn ni ddim fforddio colli'r holl dalent yma o'n gweithlu academaidd a diwydiannol. Comisiynais adroddiad a fu'n helpu i wneud gwahaniaeth i gydbwysedd rhwng y rhywiau mewn pynciau STEMM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth) ym mhrifysgolion Cymru. Mae'r gwaith hwn yn parhau. Rwyf hefyd yn ymwneud â gweithgor sy'n cymryd camau i gynyddu'r cyfleoedd i fenywod gyflawni eu llawn botensial ym myd diwydiant.

Straeon cysylltiedig