Canolbarth Cymru yw calon werdd Cymru. Mae moroedd clir, harbyrau llachar a childraethau cudd arfordir Ceredigion yn ildio i awyr llawn barcudiaid, trefi marchnad prysur a llwybrau cerdded dramatig ar y bryniau. O fewn rhanbarth Canolbarth Cymru, fe welwch Geredigion a Phowys.
Gyrru a chwilio
Ar ddwy olwyn gallwch feicio llwybrau beicio mynydd trawiadol ar draws Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria. Neu drwy goedwigoedd gwyrddion ar hyd llwybrau beic pwrpasol. I fyny yn y mynyddoedd heb fod ymhell o Aberystwyth, mae Bwlch Nant yr Arian yn cynnig traciau sengl hir pwrpasol a gynlluniwyd i brofi’r beicwyr mwyaf profiadol. Mae llwybrau beic heriol fel Llwybr Syfydrin yn 22 milltir o hyd gyda’i olygfeydd ysblennydd o Fynyddoedd Cambria a Bae Ceredigion.
Cyfle i gerdded
Gallwch ymgolli’n llwyr yng Nghwm Elan, y Bannau neu geunentydd Bro’r Sgydau. Neu ddilyn Llwybr Clawdd Offa, sy'n cysgodi'r ffin swyddogol gyntaf, a grëwyd yn ôl yn yr 8fed ganrif, rhwng Cymru a Lloegr. Ar yr arfordir, does dim byd mwy ysbrydoledig na cherdded y llwybr i Ynys Lochtyn sef y pentir dramatig sy'n gwthio allan i'r môr o dan fryngaer o'r Oes Haearn.
Dilyn y sêr
Mae ein hawyr nos, heb unrhyw lygredd golau, yn ddu fel y fagddu. Mae Bannau Brycheiniog yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol – lle perffaith ar gyfer y rhai ohonoch sy’n dilyn y sêr, ynghyd â Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll fel Mynyddoedd Cambria (beth am ddilyn y Llwybr Astro-dwristiaeth sy’n 50 milltir/80km?)
Y Bannau a thu hwnt
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn llifo ar draws y tirwedd gyda thon ar ôl ton o fynyddoedd gwyrdd o ffin Cymru/Lloegr i gyrion Abertawe. Dyma gefn gwlad eang, agored - a gwyllt - sy’n nodweddiadol iawn o Ganolbarth Cymru.
Ymhellach i'r gogledd mae Mynyddoedd Cambria – ‘asgwrn cefn’ gwyllt Cymru - yn ymestyn i Barc Cenedlaethol Eryri gan gwrdd â chopa chwedlonol Cader Idris uwchben Dolgellau. Mae’r wlad ger y ffin yn dawelach, yn frith o drefi marchnad prydferth fel Tref-y-clawdd a'r Trallwng (mwynhewch y golygfeydd o Lein Fach y Trallwng a Llanfair Caereinion).
Lawr yn y Bae
Mae Bae Ceredigion yn ymestyn 180 milltir/290km ac yn cynnig popeth o aberoedd â mynyddoedd yn gefn iddyn nhw i draethau tywodlyd, o drefi glan môr i borthladdoedd bach pysgota. Mae’r cyfan wedi'i fendithio ag awyrgylch hamddenol Canolbarth Cymru.
Byd celf
Beth am alw heibio Amgueddfa Celf Fodern Machynlleth i weld goreuon celf gyfoes Cymru? Mae canolfan gelfyddydau fwyaf Cymru yn Aberystwyth, a gallwch greu eich taith artistig eich hun ar Lwybr Celf Ceredigion, a mwynhau arddangosfeydd a digwyddiadau, stiwdios a gweithdai.
Mae’r gorffennol yn fyw
Gallwch ymweld â chestyll, eglwysi ac abatai. Mae Castell Harlech, un o gaerau Treftadaeth y Byd, yn safle unigryw. Mae’r castell yn sefyll yn falch ar graig gadarn sy’n edrych draw i’r mynyddoedd ac arfordir Eryri. Ym Mhontrhydfendigaid, mae Abaty Ystrad Fflur a chwaraeodd ran hynod ddylanwadol ym mywyd canoloesol Cymru, gan ddenu beirdd a thywysogion yn ogystal ag offeiriaid.
Canllaw lleol
- Mae dolffiniaid wrth eu boddau yma. Mae dyfroedd crisial Bae Ceredigion yn gartref i boblogaeth dolffiniaid fwyaf Ewrop. Ewch i chwilio am ddolffiniaid (a llamhidyddion a morloi) o Gei Newydd.
- Beth am fwynhau taith hamddenol ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, dyfrffordd ddeiliog, hyfryd trwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog?
- Mae Cymru yn enwog am ei chyrsiau golff. Mae cyrsiau Aberdyfi a’r Royal St David’s Harlech ymhlith y goreuon.
- Palas Powis. Mae'n anodd credu bod plasty moethus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Castell Powis ger y Trallwng wedi dechrau ei hanes fel caer ddigon garw ar y ffin.
- Croeso i Lanwrtyd. Mae tref fach fwyaf mwyaf ecsentrig Prydain yn cynnal digwyddiadau anarferol fel snorclo cors ynghyd â rasys “dyn yn erbyn ceffyl” a rasio cerbydau.
- Aberystwyth yw cartref Llyfrgell Genedlaethol Cymru, trysorfa o ddiwylliant a threftadaeth.