Diffinnir De Cymru gan ei gymoedd sy’n ysgythru ei dirwedd, ac mae gan bob un ei bersonoliaeth unigryw ei hun. Y cymoedd diwydiannol traddodiadol, sydd eto’n wyrdd gyda pharciau gwledig a choedwigoedd, yw canolbwynt y rhanbarth croesawgar hwn. Ar un ochr mae Dyffryn Gwy deiliog, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ar yr ochr arall fe welwch dir fferm hyfryd Bro Morgannwg, wedi’i ymylu gan glogwyni ysblennydd Arfordir Treftadaeth Morgannwg.
Mwynhau yn y ddinas
Mae arfordir y de yn gartref i ddwy o ddinasoedd mwyaf a bywiocaf Cymru. Gallwch chi ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (rhad ac am ddim) a gweld amrywiaeth eclectig o arddangosfeydd o baentiadau meistrolgar Van Gogh i graig a gafodd ei chasglu o’r lleuad yn ystod taith Apollo 12 yn 1969. Ar ôl hynny, ewch i gaffi yn un o arcedau hanesyddol dan do’r ddinas, lle mae blancedi ar gael i’ch cadw chi’n gynnes a chacennau cri ffres yn cael eu gweini’n syth o’r radell.
Tua 10 milltir (16km) i'r dwyrain, atyniad seren fwyaf newydd Casnewydd yw ei marchnad oes Fictoria a gafodd ei hadnewyddu’n ddiweddar. Mae bellach yn gartref i glwstwr o fwytai a siopau unigryw, wedi’u gosod o dan nenfwd gwydr cromennog trawiadol. I ffwrdd o ganol y ddinas brysur, mae Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion, un o ddim ond tair caer Rufeinig barhaol a gafodd eu hadeiladu ym Mhrydain. Gyda’r nos ewch i Bar Bragdy Tiny Rebel lle maen nhw’n gweini brand cwrw poblogaidd a gafodd ei ddatblygu yn wreiddiol gan ddau dyn lleol yn eu garej.


Haearn, glo … a beicio mynydd
Mae Merthyr Tudful, “prifddinas haearn y byd” ar un adeg, wedi ailddyfeisio ei hun fel y prif le ar gyfer beicio mynydd. Mae Bike Park Wales, a adeiladwyd “gan feicwyr ar gyfer beicwyr”, yn cynnig y profiad beicio mynydd llawn gyda gwasanaethau lifft i fyny, llogi beiciau, gwersi a chaffi. Ceir mwy o feicio ym Mharc Coedwig Afan ychydig filltiroedd i ffwrdd, lle mae chwe llwybr o’r radd flaenaf wedi’u creu ar ochr bryniau mewn ardal a fu unwaith yn llawn pyllau glo.
Peidiwch ag anghofio eich clybiau
Profwch eich hun yn erbyn golffwyr gorau’r byd gyda gêm ar y cwrs Twenty Ten yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor yng Nghasnewydd, a adeiladwyd yn arbennig ar gyfer Cwpan Ryder 2010. Neu ewch i’r cwrs golff yng Nghlwb Brenhinol Porthcawl, sydd wedi cynnal sawl Pencampwriaeth Agored Uwch.

Ar y dŵr
Ewch ar ganŵ ar afonydd Wysg neu Wy, sy’n nadreddu drwy gymoedd hardd, llawn coed. Gall padlwyr profiadol fynd i’r afael â rapids dŵr gwyn, tra gall y rhai y mae’n well ganddynt aros yn sych fynd ar daith hamddenol ar ddarnau hir o ddŵr gloyw, llonydd wrth fwynhau’r golygfeydd.


Troi’n wyrdd
Mae Cymoedd De Cymru, a fu unwaith yn llawn diwydiant, wedi dychwelyd i’w lliwiau naturiol. Ewch ar daith ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, lle mae llynnoedd, rhaeadrau a llwybrau cerdded bellach yn meddiannu safleoedd hen lofeydd.
Cefn Gwlad ac Arfordir
Cewch ddau am bris un ym Mro Morgannwg. Archwiliwch ddarn hyfryd o gefn gwlad, gyda’i bentrefi a’i drefi gwledig hardd. Neu blaswch yr awyr iach hallt gyda thaith gerdded ar hyd Arfordir Treftadaeth Morgannwg, sef 14 milltir/23km o glogwyni garw a childraethau diarffordd sydd â golygfeydd eang o’r môr.

Darn o gelf
Mae glan yr afon a choetiroedd toreithiog Dyffryn Gwy wedi bod yn ysbrydoliaeth i arlunwyr a beirdd ers canrifoedd (roedd William Wordsworth a JWM Turner yn hoff iawn o’r ardal). Cewch weld beth sydd mor arbennig am y lle gyda thaith i fyny Pulpud y Diafol, sy’n cynnig golygfeydd syfrdanol o adfeilion rhamantus Abaty Tyndyrn.
Caerau Carreg
Cestyll yw arbenigedd Cymru. Yn y de, fe welwch Gaerffili, yr ail gastell mwyaf yn y DU. Mae’r mawreddog Gastell Rhaglan yma hefyd – a adeiladwyd am ei olwg yn hytrach nag fel amddiffynfa – a Chastell Cas-gwent. Y castell hwn sy’n eistedd ar glogwyn uwchben afon Gwy, y cyntaf o’i fath, yw’r gaer gwaith maen hynaf sydd wedi goroesi yng Nghymru.


Mae’r gair ar led
Mae’r Gelli Gandryll yn enwog ledled y byd fel y “dref lyfrau” ac fel lleoliad Gŵyl y Gelli, dathliad rhyngwladol o lenyddiaeth sy’n denu llu o enwogion.


Cymru wrth ei gwaith
Archwiliwch ein treftadaeth ddiwydiannol gydag ymweliad ag Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Pwll Mawr ym Mlaenafon, hen fwynglawdd sydd wedi’i droi’n atyniad hanesyddol rhyngweithiol ac sy’n rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Gwisgwch helmed glöwr a defnyddio’r lifft swnllyd i fynd i “waelod y pwll” 300 troedfedd / 91 metr o dan y ddaear i brofi bywyd yn y pwll glo du. Neu arhoswch ar yr wyneb yng Nghastell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful, plasty mawreddog a adeiladwyd gan gyfoeth o’r fasnach haearn sydd bellach yn gartref i amgueddfa ac oriel gelf.
Canllaw lleol
- Y wledd orau. Dywedir mai Gŵyl Fwyd y Fenni, a gynhelir bob mis Medi, yw’r dathliad bwyd gorau yn y DU.
- Wisgi Cymreig. Mae Penderyn, wrth droed Bannau Brycheiniog, yn cynhyrchu wisgi brag sengl arobryn. Gallwch ei flasu ar daith o’r ddistyllfa.
- Beth am ddal trên ar Reilffordd Mynydd Brycheiniog o Ferthyr Tudful am olygfeydd eang o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
- Gallwch ail-fyw hanes hynafol yng Nghaerllion ger Casnewydd, un o drefi Rhufeinig mwyaf ei maint a mwyaf cadwedig Prydain.
- Ymgollwch ym mywyd Cymru yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ger Caerdydd, lle mae casgliad syfrdanol o adeiladau hanesyddol o bob rhan o’r wlad.
- Allwedd arian a egyr pob clo. Darganfyddwch sut mae arian yn cael ei greu yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant.