Bangor
Poblogaeth: 18,000
Ystyr: ‘Ffens bleth’ (wedi’i enwi ar ôl mynachlog o’r 6ed ganrif ar y safle a oedd yn cynnwys ffens bleth)



Bangor yw dinas hynaf Cymru ac yn un o’r dinasoedd lleiaf yn y DU. Derbyniodd statws dinas yn swyddogol gan Frenhines Elizabeth II yn 1974, ond mae safle’r gadeirlan yn dyddio yn ôl i’r 6ed ganrif.
Mae’r ddinas wedi’i lleoli yng Ngwynedd yng Ngogledd-orllewin Cymru, wrth ymyl dyfroedd hyfryd Afon Menai. Mae ganddi bier gyda chyfaredd glan y môr, plasty dramatig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o’r enw Castell Penrhyn a’r hyn a gredir yw’r Stryd Fawr hiraf yng Nghymru.
Er bod ganddi boblogaeth o bron i 20,000 mae dros hanner ohonynt yn fyfyrwyr Prifysgol Bangor. Mae’r brifysgol yn cyrraedd safleoedd uchel am foddhad myfyrwyr ac ansawdd addysgu, gyda’r cyn-fyfyrwyr yn cynnwys yr awdur, y cyfarwyddwr a’r cynhyrchydd Danny Boyle a’r bardd R S Thomas. Ganed y cantorion enwog Aled Jones a Duffy ym Mangor, ynghyd â’r cerflunydd Gwobr Turner, Richard Deacon.
Caerdydd
Poblogaeth: 362,750
Enw Saesneg: Cardiff
Caerdydd, yn Ne Cymru, yw prif ddinas Cymru. Mae’n ddinas gryno, fywiog ac amlddiwylliannol sy’n cynnal digwyddiadau chwaraeon ac adloniant o bwys wrth gadw ei theimlad cymunedol a chyfeillgar.
Mae’n hawdd teithio o amgylch y ddinas. Yn ychwanegol at wasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus fwy traddodiadol, mae cynllun arloesol rhannu beiciau yn golygu y gallwch chi deithio ar hyd y ddinas ar feic. Os oes yn well gennych chi gerdded mae’n hawdd gweld y golygfeydd ar droed.
Yng nghanol dinas Caerdydd y mae Castell Caerdydd, a adeiladwyd yn y 19eg ganrif gan y pensaer William Burges. O’r tu allan, mae’n amddiffynfa ganoloesol gyda muriau Rhufeinig trwchus. Y tu mewn, mae’r ystafelloedd wedi’u haddurno’n gain, gyda nenfydau goreurog, gwydr lliw, cerfiadau pren a manylion cymhleth.


Y tu ôl i’r castell y mae Parc Bute, yr hyn a elwir yn “ysgyfaint gwyrdd” canol y ddinas, ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae’r amgueddfa yn gartref i’r casgliad gorau o gelf Argraffiadol y tu allan i Baris, ynghyd ag arddangosfeydd am hanes Cymru a sioeau teithiol.
Mae canol y ddinas yn gyrchfan o bwys ar gyfer siopa, bwyta, adloniant, bywyd nos a chwaraeon, gyda lleoliadau megis Stadiwm Principality yn cynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol a chyngherddau gan artistiaid o’r siartiau. Mae gan Fae Caerdydd, cyn ardal y dociau a chwaraeodd rôl hanfodol yn y Chwyldro Diwydiannol, Ganolfan Mileniwm Cymru – lleoliad ar gyfer popeth yn ymwneud â’r celfyddydau, cerddoriaeth, llwyfan a diwylliant.

Mae dwy brifysgol yng Nghaerdydd, sef Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, y mae’r ddwy yn uchel eu parch – y cyntaf am ei hymchwil a’i rhagoriaeth academaidd, a’r llall am ei rhaglenni creadigol.
Casnewydd
Poblogaeth: 151,500
Enw Saesneg: Newport
Mae Casnewydd yn ddinas yn Ne-ddwyrain Cymru, i’r gogledd o Gaerdydd. Unwaith, roedd ganddi borthladd allforio glo mwyaf y wlad, ac mae’n parhau yn ardal ddiwydiannol.
Gellir dadlau mae’i thirnod mwyaf adnabyddus yw Pont Gludo Casnewydd, un o ddim ond chwe phont gludo yn y byd. Gallwch hwylio oddi tani ar gondola neu ddringo’i thyrau a cherdded ar draws y dramwyfa. Mae selogion trafnidiaeth yn mwynhau ystafell yr injan a chanolfan i ymwelwyr, ynghyd â Chanolfan i Ymwelwyr Fourteen Locks gerllaw.


Mae Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yn atyniad i feicwyr. Mae gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd arddangosfeydd ar y Siartwyr, ac mae gweddillion Rhufeinig i’w gweld yng Nghaerllion. Mae’r sin celfyddydau tanddaearol yn tyfu, gyda sioeau pop-yp a chynyrchiadau theatr.
Llanelwy
Poblogaeth: 3,500
Enw Saesneg: St Asaph
Llanelwy yw’r ail ddinas leiaf yng Nghymru ac yn y DU. Mae wedi’i lleoli yn Sir Ddinbych, rhwng tref Dinbych a chyrchfan arfordirol y Rhyl.
Cadeirlan Llanelwy, sy’n dyddio yn ôl i’r 13eg ganrif, yw’r gadeirlan hynafol leiaf ym Mhrydain Fawr. Dyna lle y mae Beibl William Morgan yn cael ei gadw – fersiwn gyntaf o’r Beibl cyfan i gael ei gyfieithu i’r Gymraeg o Roeg a Hebraeg.
Bob blwyddyn, mae amryw leoliadau ar draws Llanelwy yn cynnal Gŵyl Cerddoriaeth Rhyngwladol Gogledd Cymru.


Tyddewi
Poblogaeth: 1,840
Enw Saesneg: St Davids
Tyddewi yn Sir Benfro yw dinas leiaf y DU. Mae wedi’i henwi ar ôl Dewi Sant, nawddsant Cymru, a gafodd ei eni a’i gladdu yno. Roedd Dewi Sant (c. 500 – c. 589) yn esgob a helpodd i ledaenu Cristnogaeth o amgylch Ewrop, gan adeiladu 12 o fynachlogydd yn ei enw ac addysgu miloedd o bobl.
Adeiladwyd Cadeirlan Tyddewi rhwng y 12fed a’r 14eg ganrif ar gyn safle capel o’r 6ed ganrif yn y ddinas. Mae wedi’i chuddio mewn pant yn y mynyddoedd, ond mae’n sicr yn drawiadol. I fyny ym mhrif ran y ddinas, mae llawer o siopau bach, tafarndai a llefydd bwyta. Mae’r traethau gerllaw, megis Traeth Whitesands, yn berffaith.
Oherwydd ei lleoliad arfordirol (mae’n disgyn o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro), defnyddir Tyddewi fel man cychwn a gorffen ar gyfer teithiau cwch i edrych am fywyd gwyllt. O’r fan honno, gallwch ymweld ag Ynys Dewi, Ynys Sgomer a llawer mwy, gyda’r posibiliad o weld adar y pâl, morfilod, dolffiniaid a llamhidyddion. Cafodd arfordira ei ddyfeisio yn Nhyddewi, felly mae’n lle da i sgramblo a neidio i’r môr gyda thywysydd.


Abertawe
Poblogaeth: 245,480
Enw Saesneg: Swansea
Abertawe yw ail ddinas fwyaf Cymru. Mae’r ddinas prifysgol drefol yn ne’r wlad, ar yr arfordir, a chanddi ffocws cryf ar dreftadaeth Cymru.
Mab enwocaf y ddinas yw’r bardd Dylan Thomas (1914-53); mae amgueddfa wedi’i chyflwyno iddo, Canolfan Dylan Thomas, a Llwybr Dylan Thomas o amgylch rhai o dirnodau ei fywyd a’i weithiau. Ymhlith yr amgueddfeydd eraill y mae Oriel Gelf Glynn Vivian ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sy’n cynnwys hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru.


Rhan bertaf Abertawe yw Penrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf ym Mhrydain. Mae’n ardal hynod brydferth sy’n cynnwys traethau hyfryd, llwybrau arfordirol a mynyddoedd tonnog. Mae llawer o fannau golygfaol i ddewis ohonynt, megis Pen Pyrod a Bae Rhosili.
Wrecsam
Poblogaeth: 65,359
Enw Saesneg: Wrexham
Roedd cais Wrecsam i gael ei gwneud yn seithfed dinas Cymru yn 2022 yn llwyddiannus. Mae Cyngor Wrecsam hefyd ar restr fer Dinas Diwylliant 2025 y DU.