Mae Gorllewin Cymru diwylliannol ac arfordirol yn gartref i’n hail ddinas, Abertawe. Mae hen chwedlau'n ysbrydoli creadigrwydd cyfoes – ac mae pentrefi glan môr lliwgar yn arwain at rai o draethau gorau'r DU. Mae Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, ac Abertawe o fewn rhanbarth Gorllewin Cymru.

Ar y môr

Daliwch y tonnau yn Llangynydd yng Ngŵyr, un o fannau geni syrffio ym Mhrydain. Mae Sir Benfro yn arloeswr arall. Mae ei chlogwyni garw yn cynnig yr amodau perffaith ar gyfer arfordira, y gweithgaredd llawn adrenalin sy’n eich gweld yn dringo creigiau ac yn llamu i’r tonnau sy’n chwalu islaw. Os ydych chi am gael golwg agos o’r arfordir, mae Sir Benfro yn cynnig cyfleoedd i gaiacio ar y môr.

Grŵp o ddynion yn Arfordira ger Tŷ Ddewi, Sir Benfro
Grŵp o bobl yn caiacio yn y môr ar arfordir sir Benfro
Arfordira a chaiacio ar y môr, Sir Benfro

Ymlwybro

Mae’r llwybrau golygfaol, didraffig ym Mharc Arfordir y Mileniwm yn Llanelli yn berffaith ar gyfer antur ar ddwy olwyn. Dilynwch Lwybr 4 o Rwydwaith Beicio Cenedlaethol ar hyd yr arfordir am olygfeydd o Fae Caerfyrddin a Gŵyr, ynghyd â Chanolfan Gwlyptir Ymddiriedolaeth Natur y Byd – sy’n llawn dop o adar – yn Llanelli, y tywod euraid ym Mae Machynys, a’r marina hardd ym Mhorth Tywyn.

Siclwyr ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm
Llun o’r awyr o Barc Arfordirol y Mileniwm.
Parc Arfordirol y Mileniwm, De Cymru

Hwylio

Ewch ar antur forol i ynysoedd Dewi a Sgomer oddi ar arfordir Sir Benfro. Sylwch ar fywyd gwyllt morol cyfoethog ac amrywiol, gan gynnwys dolffiniaid, llamhidyddion, morloi a phalod (ynghyd â llu o adar môr eraill).

Pâl ar Ynys Sgomer, Sir Benfro.
Golygfa dros Ynys Sgomer, Sir Benfro
Pâl a golygfa dros Ynys Sgomer, Sir Benfro

Bywyd y parc

Fel unig barc cenedlaethol arfordirol y DU, mae’r disgrifiad canoloesol o Sir Benfro fel ‘gwlad hud a lledrith’ yn dal i fod yn berthnasol ar ei chyfer heddiw. Ochr yn ochr ag ynysoedd, clogwyni garw, cildraethau diarffordd a thraethau tywodlyd arobryn, fe welwch drefi glan môr perffaith fel Saundersfoot a Dinbych-y-pysgod gyda’i chasgliad o dai amryliw wrth yr harbwr.

Golygfa draw i Draeth yr Harbwr, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro.
Harbwr Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

Gwyrdd ac aur

Mae Sir Gaerfyrddin yn cael ei hadnabod fel “gardd Cymru”, ac mae’n cael ei dŵr o afon Tywi wrth iddi nadreddu ei ffordd i’r môr. Mae’n dirwedd sy’n cynnwys mannau gwyrdd fel Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac Aberglasney (yr “ardd a gollwyd mewn amser” sy’n rhychwantu canrifoedd) ynghyd â thraethau tywodlyd Bae Caerfyrddin – ymhlith y rhai hiraf yng Nghymru.

Tu fewn i'r Tŷ Gwydr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Gerddi Aberglasney, Sir Gaerfyrddin.
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Gerddi Aberglasney, Sir Gaerfyrddin

Gwlad a thref

Archwiliwch Abertawe, ein dinas ger y môr, cyn teithio ymlaen i odidogrwydd Penrhyn Gŵyr. Dyma Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig gyntaf y DU, ac mae ei harfordir amrywiol o glogwyni calchfaen creigiog, twyni sy’n symud, traethau a morfeydd heli yn ysblennydd.

Yr olygfa dros Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Cerddwr ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro
Cerddwr ar Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Gwead bywyd

Fel un o’n diwydiannau pwysicaf a mwyaf cyffredin, mae gwlân wedi’i wau i hanes Cymru. Darganfyddwch ei stori yn Amgueddfa Wlân Cymru yn harddwch Dyffryn Teifi. Mae’r traddodiad yn parhau, gyda thro cyfoes, ym Melin Tregwynt ger Abergwaun, sy’n gwerthu cynnyrch gwlân Cymreig i’r byd.

Dinas y Sant

Diolch i’w heglwys gadeiriol fawreddog (sydd wedi’i chysegru i’n nawddsant), Tyddewi – yn swyddogol – yw’r ddinas leiaf yn y DU. Mae’n dal i fod yn un o’r mannau cysegredig pwysicaf ym Mhrydain, gan ddenu pererinion o bob cwr o’r byd. Mae Tyddewi wedi’i lleoli ar benrhyn godidog, ac mae ganddi ddiwylliant caffi ymlaciol ac awyrgylch artistig sy’n atyniad mawr hefyd.

Golygfa o Gadeirlan Tyddewi, Sir Benfro
Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi, Sir Benfro

Treftadaeth o bwys

Dechreuwch wrth siambr gladdu Pentre Ifan, a wnaed o’r un “cerrig gleision” a ddefnyddiwyd yng Nghôr y Cewri. Yna ewch i mewn i un o’n cestyll niferus – rhai rhamantus fel Carreg Cennen, sy’n eistedd ar graig yn Sir Gaerfyrddin; neu rai mawreddog fel Castell Penfro, man geni Harri VII, y Cymro a ddaeth y cyntaf o frenhinoedd y Tuduriaid.

Golygfa o Gastell Carreg Cennen, Sir Gaerfyrddin.
Siambr Gladdu Pentre Ifan, Sir Benfro.
Pentre Ifan a Charreg Cennen, Sir Gaerfyrddin

Arwr lleol

Ganwyd a magwyd Dylan Thomas yn Abertawe, lle gwelwch ganolfan ymwelwyr er cof amdano ynghyd â chartref ei deulu, sydd bellach yn amgueddfa. Yna, teithiwch ymlaen i’r dref glan môr gysglyd, Talacharn, a galwch heibio’r Boat House, lle ysgrifennodd Dylan lawer o’i weithiau enwocaf.

 

Boathouse Dylan Thomas, Talacharn, Sir Gaerfyrddin.
Tu fewn i sied ysgrifennu Dylan Thomas, Talacharn, Sir Gaerfyrddin,
Tu fewn i sied ysgrifennu Dylan Thomas, Talacharn, Sir Gaerfyrddin,

Canllaw lleol

  • Teimlwch y gwres. Mae’r tymheredd yn drofannol o dan y tŷ gwydr anferth, siâp deigryn sy’n ganolbwynt i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ger Caerfyrddin.
  • Traeth arobryn. Mae Rhosili, ar drwyn Penrhyn Gŵyr, wedi ennill bron pob gwobr am “y traeth gorau” y gallwch feddwl amdani. Mae traethau eraill Gŵyr yn eithaf da hefyd.
  • Peidiwch â cholli’r tri man pwysig hyn, sy’n agos i’w gilydd ar arfordir deheuol Sir Benfro – Llynnoedd Bosherston, “Pont Werdd Cymru” a Staciau’r Heligog (ill dau wedi’u cerfio gan y môr).
  • Teithiwch drwy 300 mlynedd o ddiwydiant ac arloesedd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Chwarter Morwrol steilus Abertawe.
  • Dod i adnabod Arberth. Gyda’i siopau annibynnol, ei bwytai a’i awyrgylch ffynci, mae’r dref farchnad hon, a fu unwaith yn gysglyd, bellach yn baradwys cosmopolitaidd i siopwyr.

Straeon cysylltiedig