Yng Nghymru, mae dau arwydd clir bod y gwanwyn ar y ffordd: cennin Pedr yn blodeuo, a gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Gan ddechrau ar y penwythnos cyntaf ym mis Chwefror, mae’n ornest chwaraeon sydd â lle unigryw yn niwylliant Cymru yn ogystal â bod yn brif ddigwyddiad rygbi Ewrop.

Mae Rygbi’r undeb wedi’i ystyried yn gamp genedlaethol Cymru ers peth amser. Daeth y gêm yn boblogaidd yng Nghymru ar ddiwedd y 19eg ganrif ac mae’n barhau i fod yn agos at ein calonnau heddiw. (Dim ond yn y blynyddoedd diwethaf mae goruchafiaeth rygbi wedi cael ei herio, diolch i berfformiad disglair tîm pêl-droed Cymru ar y llwyfan rhyngwladol - dyna ddadl am ddiwrnod arall!)

Dros ddeufis, mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gweld Cymru'n chwarae yn erbyn timau rygbi cenedlaethol Lloegr, Iwerddon, Yr Alban, Ffrainc a'r Eidal (rhain yw 'chwe gwlad' y twrnament). Tra bod dinasoedd eraill yn anfon cefnogwyr i faestrefi allanol ar gyfer eu gemau, mae ein Stadiwm Principality yng nghanol dinas Caerdydd. Mae diwrnodau gemau rygbi yng Nghaerdydd yn debyg i garnifal sy’n meddiannu’r strydoedd, gyda miloedd o bobl yn gwisgo crysau coch Cymru.

Yn draddodiadol, mae twrnament y dynion wedi cipio'r rhan fwyaf o'r sylw, ond mae hynny'n newid. Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Merched yn dilyn yn ar ei sodlau, gyda gemau cartref yn cael eu chwarae ym Mharc yr Arfau, Caerdydd, drws nesaf i Stadiwm Principality. Mae cystadleuaeth Chwe Gwlad dan 20 oed hefyd, lle gallwch chi wylio sêr rygbi'r dyfodol.

 

Mae pencampwriaeth y chwe gwlad yn tyrru Stadiwm Principality yng Nghaerdydd
Gefnogwyr rygbi Cymru yn y chwe gwlad yng Nghaerdydd
Caerdydd ar ddiwrnod gêm

Sut mae twrnament y Chwe Gwlad yn gweithio

Mae'r bencampwriaeth yn cael ei chwarae dros bum penwythnos, gyda phob tîm yn chwarae pob tîm arall unwaith. Mae penwythnos i ffwrdd yn y canol, i chwaraewyr (a gwylwyr) gael gorffwys haeddiannol. Mae gemau'n cael eu cynnal ddydd Sadwrn a dydd Sul tan y rownd derfynol, pan fydd y tair o'r gemau sy'n weddill yn cael eu penderfynu ar "Sadwrn ‘Sblennydd".

Mewn blynyddoedd sy’n eilrifau, mae Cymru'n chwarae tair o'u pum gêm gartref. Dyma'r rhai yn erbyn Ffrainc, yr Eidal a'r Alban bob amser - hawdd eu cofio, gan mai nhw yw'r tri thîm sy'n chwarae mewn glas. Mewn blynyddoedd sy’n odrifau, dim ond dwy gêm gartref sydd gan Gymru yng Nghaerdydd, sef gemau yn erbyn Lloegr ac Iwerddon.

Nid dim ond yr ennill sy'n cyfri. Ers 2017, mae'r Chwe Gwlad yn defnyddio system sgorio "pwynt bonws" i wobrwyo chwarae cyffrous ar y cae. Nid yw timau'n cael unrhyw bwyntiau am golli, mae dau bwynt am gêm gyfartal a phedwar am fuddugoliaeth. Ond ar ben hynny, bydd tîm sy'n colli yn ennill un pwynt bonws os ydyn nhw'n dod o fewn saith pwynt i sgôr yr enillydd. Mae pwynt ychwanegol yn mynd i unrhyw dîm sy'n sgorio pedwar cais neu fwy mewn gêm.

Mae bonws tri phwynt ychwanegol ar gyfer cyflawni’r Gamp Lawn drwy ennill pob gêm - uchafbwynt y gyfres i unrhyw dîm o'r Chwe Gwlad. Ac er nad yw'n effeithio ar ganlyniad y gystadleuaeth, mae gwobr arall o’r enw’r Goron Driphlyg, sy'n cael ei dyfarnu i unrhyw Genedl Gartref (Cymru, Lloegr, yr Alban neu Iwerddon) sy'n curo'r tri arall.

Pan mae'r pwyntiau'n cael eu cyfrif ar ddiwedd y twrnament, mae un anrhydedd nad oes neb eisiau. Mae’r tîm sy’n dod yn olaf yn ennill y Llwy Bren - peidiwch â chymysgu hon gyda’r Llwy garu Gymreig. Mae'n dynged sydd wedi dod i dîm Chwe Gwlad Cymru unwaith yn unig, yn 2003.

Gornest rygbi ryngwladol hynaf yn y byd

Mae hanes Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn ymestyn yn ôl dros 140 mlynedd. Ei hynafiad uniongyrchol oedd Pencampwriaeth y Gwledydd Cartref, a ddechreuodd ar 16 Rhagfyr 1883 pan chwaraeodd Cymru yn erbyn Lloegr yn Abertawe (a cholli).

Daeth y twrnamaint yn Bencampwriaeth y Pum Gwlad pan ymunodd Ffrainc ym 1910. Byddai’r fformat yn aros fwy neu lai'r un fath am weddill y ganrif, gyda saib am y ddwy ryfel byd - ynghyd â chyfnod yn y 1930au pan gafodd y Ffrancwyr eu diarddel am ddefnyddio chwaraewyr proffesiynol yn yr hyn a oedd bryd hynny'n gêm hollol amatur. Ymunodd yr Eidal yn 2000, gan ddechrau'r oes fodern.

Er ei bod yn llawer iau, mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i Ferched wedi dilyn esblygiad tebyg. Dechreuodd yn 1996 fel y Cenhedloedd Cartref, daeth yn Bum Gwlad yn 1999 gan ymestyn i'w faint presennol yn 2002.

Dros y blynyddoedd, mae ffawd ein tîm cenedlaethol wedi treiddio a llifo. Bydd Cymry o oedran penodol yn mynd yn emosiynol wrth sôn am y 1970au, pan helpodd chwaraewyr fel Gareth Edwards, JPR Williams a Barry John i wneud Cymru’n rym i’w gyfrif. Dilynodd cyfnod yn yr anialwch, ond daeth y dynion mewn coch yn ôl yn 2005 i ennill y cyntaf o bedair Camp Lawn y Chwe Gwlad – dim ond Ffrainc sydd wedi llwyddo i gyflawni hyn hefyd. Mae Cymru wedi ennill y twrnament modern chwe gwaith, gan ein rhoi’n gydradd ail y tu ôl i Loegr.

Torf o gefnogwyr rygbi y tu allan i gastell hanesyddol ynghanol tref brysur
Bachgen ifanc yn gwisgo dillad cefnogwyr rygbi Cymru
Y Chwe Gwlad, Caerdydd

Cyfrif i lawr i’r gic gyntaf

Mae'r awyrgylch arbennig yng Nghaerdydd ar ddiwrnod gêm. Mae'r ffyrdd o amgylch Stadiwm Principality ar gau i draffig, ac yn troi'n afon o gefnogwyr eiddgar wrth i'r gic gyntaf agosáu. Mae'n newyddion da i fasnachwyr stryd a bariau lleol: ni fydd angen i chi edrych yn bell os ydych am brynu sgarff rygbi neu het gennin Pedr, cael eich wyneb wedi'i stensilio â draig goch, neu gael diod neu rywbeth i'w fwyta cyn y gêm.

Y tu fewn i'r stadiwm, mae cefnogwyr cartref ac oddi cartref o bob oed yn eistedd gyda'i gilydd. Mae adloniant cerddorol, gyda chorau mawr a band milwrol yn diddanu’r dorf, nes bod y chwaraewyr yn rhedeg allan i'r cae i ffrwgwd tanllyd fflam taflwr y stadiwm. Ychydig o eiliadau chwaraeon sy'n dod yn agos at y balchder sydd i’w weld pan fydd yr anthem genedlaethol, Hen Wlad fy Nhadau yn atseinio drwy’r stadiwm.

Dyw'r gerddoriaeth ddim yn stopio yno. Beth bynnag fyddai ffawd tîm Cymru ar y diwrnod, ychydig iawn fyddai’n anghytuno mai ein cefnogwyr ni yw'r gorau am gefnogi’r chwaraewyr gyda’u canu byrlymus. Mae'r repertoire clasurol yn cynnwys yr emynau Cymraeg Calon Lân a Chwm Rhondda, y gân werin Sosban Fach ac anthem rygbi Max Boyce Hymns and Arias - gydag ambell ffanffer o'r band Mariachi.

Os ydych chi'n awyddus i gael profiad o gêm Chwe Gwlad yng Nghaerdydd i chi'ch hun, mae'n hanfodol cynllunio ymlaen llaw. Mae tocynnau ar gael o Undeb Rygbi Cymru, ac mae'n werth edrych ar wefan Stadiwm Principality er mwyn sicrhau bod eich ymweliad yn mynd yn llyfn.

Mae llefydd mewn lletyau yn cael eu harchebu ymhell o flaen llaw: ewch i Cyfeiriadur Croeso Cymru am syniadau.

Ar ddiwrnod gêm, mae systemau ciwio arbennig ar waith yn yr orsaf reilffordd, gyda digon o bobl o gwmpas i'ch helpu i ddod o hyd i'r cysylltiadau cywir. Mae'r cyfleusterau parcio a theithio yn syniad da os ydych chi'n aros y tu allan i Gaerdydd ac yn gyrru i’r gêm.

Mae’n syniad da hefyd i gadw lle os ydych chi'n anelu am fariau neu fwytai mwyaf poblogaidd canol y ddinas. Beth bynnag yw'r canlyniad, mae'n sicr y bydd y parti yn mynd ymlaen tan yr oriau mân!

Machlud lliwgar dros ganol dinas brysur wedi'i goleuo'n lliwgar
Caerdydd gyda’r nos

Straeon cysylltiedig