Pan oeddwn i’n saith mlwydd oed, cawsom dasg yn adran gelf eisteddfod yr ysgol – oedd yn digwydd ar Ddydd Gŵyl Dewi bob blwyddyn.

“Tynnwch lun o’r hyn y mae Cymru’n ei olygu i chi,” meddai ein prifathro. Tynnodd fy ffrind Sara lun cenhinen bedr. Llun olwyn weindio pen pwll glo dynnodd fy nghyfeilles Carol. A fi? Llun o Mervyn Davies, capten tîm rygbi Cymru yn 1976, wnes i.

Wales v South Africa, Wales rugby line up
Cymru v De Affrica - cyfres Under Armour

Doeddwn i ddim yn gallu gwahanu fy hunaniaeth Gymreig oddi wrth 15 crys coch a phêl hirgrwn bryd hynny, ac ni allaf o hyd - hyd yn oed os oes chwaraeon eraill yn hedfan baner Cymru ar lwyfan rhyngwladol â’r un balchder. Pwy all anghofio Geraint Thomas, enillydd y Tour de France, yn codi’r ddraig goch ar lwyfan Paris? A does bosib fod teitl y Cymro Enwocaf ar y Blaned yn eiddo i Gareth Bale, wrth iddo ef a’i gyd-chwaraewyr greu argraff annileadwy wrth gyrraedd rownd gynderfynol Ewro 2016.

Ond fe fyddwn i’n dadlau fod y ffordd y cafodd rygbi ei lapio mewn cenedligrwydd Cymreig yn annhebyg i’r un gamp arall. Fe allech ddadlau mai rygbi helpodd i greu cenedligrwydd Cymru. Pan afaelodd y gêm yn ystod blynyddoedd olaf y 19eg ganrif, a ffynnu yn ystod blynyddoedd cyntaf yr 20fed ganrif, cofleidiodd Cymru’n gamp gymharol newydd hon, am ei bod hi’n rhoi cyfle i genedl fach fod ar frig y byd.

Doeddwn i ddim yn gallu gwahanu fy hunaniaeth Gymreig oddi wrth 15 crys coch a phêl hirgrwn bryd hynny, ac ni allaf o hyd."

“Dyma gamp a ddeilliodd yn ysgolion bonedd Lloegr a symud i Gymru gan ddod yn obsesiwn y dosbarth gweithiol,” esbonia’r hanesydd, yr Athro Gareth Williams. “O’r 1890au ymlaen, rydym ni’n dechrau gweld torfeydd mawr o 30,000 i 40,000 mewn gemau. Mae’r sylw yn y wasg yn cynyddu, mae pobl yn teithio’n bell i wylio’r gemau, ac mae holl isadeiledd y clybiau’n datblygu.

“Fe wnaethon ni ennill y Goron Driphlyg [gan guro Lloegr, yr Alban ac Iwerddon], y tro cyntaf yn 1893, ac yna daeth Oes Aur yn 1900, wrth i Gymru ennill y Goron Driphlyg chwe gwaith dros yr 11 mlynedd nesaf. Ac, wrth gwrs, y fuddugoliaeth fawr – ac un o achlysuron allweddol hanes diwylliannol Cymru – curo Seland Newydd yn 1905.”

Mae pencampwriaeth y chwe gwlad yn tyrru Stadiwm Principality yng Nghaerdydd
Gefnogwyr rygbi Cymru yn y chwe gwlad yng Nghaerdydd
Y dorf mewn gêm rygbi'r chwe gwlad, Stadiwm Principality, Caerdydd

Roedd y fuddugoliaeth honno dros Grysau Duon Seland Newydd yn sicr yn gêm enfawr, ac yn gêm a adawodd ei hôl – yn rhannol oherwydd mai dyma ddechrau’r traddodiad o ganu anthemau cenedlaethol mewn gornestau chwaraeon. Cyflwynodd Cymru’r arferiad corawl hwn i’r byd ar ôl penderfynu canu’r Anthem Genedlaethol fel ymateb tactegol i ddawns ryfel frawychus Seland Newydd, yr Haka.

Aeth rygbi i waed y Cymry tua’r un adeg â’r holl elfennau eraill a ffurfiodd gymeriad y Gymru ddiwydiannol. “Daw Undeb Rygbi Cymru’n sefydliad cenedlaethol fel rhan o’r ymgais i greu cyrff cenedlaethol ar ddiwedd y 19eg ganrif,” meddai’r Athro Williams. “Mae URC yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â Phrifysgol Genedlaethol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol, yr Amgueddfa Genedlaethol. Roedd y mathau hyn o gyrff yn cynrychioli ymdeimlad newydd o ymwybyddiaeth genedlaethol, a gwelai URC ei hun fel rhan hanfodol o’r ymdeimlad cenedlaethol newydd hwnnw.”

Rygbi dorf, Stadiwm y Principality, Caerdydd
Y dorf mewn gêm rygbi'r chwe gwlad, Stadiwm Principality, Caerdydd

Yn ystod y 1970au, cafodd rygbi Cymru gyfnod arall o lwyddiant syfrdanol, a sicrhaodd fod y gêm yn dod yn gyfystyr â Chymreictod y tu allan i’n gwlad. Cymaint oedd gafael y gamp gartref nes peri fod cerflun o Gareth Edwards – chwaraewr mwyaf y ddegawd honno – wedi cael ei chodi er clod iddo yng Nghaerdydd, brin bedair blynedd ar ôl iddo droelli’i bêl olaf o fôn y sgrym.

A daeth yr unfed ganrif ar hugain a’r un math o lwyddiant i Gymru sy’n dal i ieuo’r gêm wrth ein cenedligrwydd - o lwyddiannau’r Gamp Lawn a phencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005, 2008, 2012 a 2013 i rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn 2011.

Cymru v Seland newydd-o dan arfwisg gyfres-Josh Navidi Cymru
Josh Navidi o Gymru, Cymru v Seland Newydd - cyfres Under Armour

Yn ystod y bencampwriaeth olaf honno y gwelwyd Ken Owens yn codi i amlygrwydd. Dyma chwaraewr sy’n hanu o Gaerfyrddin, ac sy’n dwlu ar y cyfrifoldeb sy’n dod yn sgil cynrychioli’i wlad, ac sy’n llawn parch at hynny. Mae wedi gwisgo’r crys coch 60 o weithiau, ond daw’n fwy gwerthfawr iddo bob tro y bydd yn ei gwisgo.

“Lleiaf o amser sy’n weddill i wisgo’r crys, mwyaf rydych chi’n gwerthfawrogi gwneud,” meddai ef. “Mae hanes y crys yn dyddio’n ôl bron i 140 o flynyddoedd. Nid eich crys chi yw hi byth: crys y genedl. Dim ond am ryw gymaint o amser fyddwch chi fel chwaraewr ynddi hi. Rydych chi’n gwerthfawrogi hynny ac yn gorfod sicrhau eich bod chi’n gwneud eich marc ynddi hi cyn ei phasio hi mlaen.”

Cymru v De Affrica-o dan arfwisg gyfres 2017-cyffredinol barn Cymru yn rhedeg i'r cae.
Tîm rygbi Cymru yn rhedeg allan ar y cae o flaen, Cymru v De Affrica - cyfres Under Armour 2017

I Ken, mae’r cyswllt rhwng rygbi a chenedligrwydd ar ei gryfaf pan fydd y chwaraewyr ar y cae yn uno gyda’r cefnogwyr yn yr eisteddle drwy gyfrwng geiriau a cherddoriaeth. Meddai ef: “Mae canu’r anthem yn arbennig. Mae gyda ni anthem unigryw, i ddechrau. Mae’r geiriau mor wahanol i’r rhan fwyaf o anthemau.

“Nage sôn am deyrn neu frwydrau mae hi – mae’n sôn am y bobl a’r wlad. Felly rydw i’n teimlo ei bod hi’n rhoi grym i ni hefyd. Pan fyddwch chi’n canu’r geiriau gyda’r miloedd o bobl yn y stadiwm, dyna eu cyfle nhw i fod yn un gyda’r chwaraewyr. Maen nhw’n teimlo’n rhan ohonom ni yn lle dim ond bod yn gefnogwyr, fel y maen nhw yn ystod gweddill y gêm. Mae’n brofiad anghredadwy.”

Cymru v Awstralia, o dan arfwisg gyfres 2018-Ken Owens o Gymru
Cymru v Awstralia, o dan arfwisg gyfres 2018-Ken Owens o Gymru
Ken Owens o Gymru, chwarae a dathlu'r fuddugoliaeth, Cymru v Awstralia - cyfres Under Armour 2018

Mae Ken, y mae’i chwaer Vicky hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn rygbi, yn cofio’r tro cyntaf iddo sylweddoli’n llawn gymaint mae’r gêm yn ei olygu i’w wlad.

Meddai ef: “Ro’n i newydd gael lle yn y sgwad pan darodd mawredd y peth fi. Des i mas o’r tŷ un bore, a dyma boi’r biniau, oedd erioed wedi siarad â fi o’r blaen yn dweud, ‘Pob lwc penwythnos ’ma.’ A dyna’r tro cyntaf i fi ddeall beth oedd ystyr rygbi i bobl Cymru, a chymaint maen nhw’n becso amdano fe.

“Mae’n wych. Mae’n gyfrifoldeb chwarae dros eich gwlad – ar ba bynnag lefel, mae cyfrifoldeb gyda chi i wneud eich gorau dros y genedl – ond dyw e ddim yn faich. Mae’n rhywbeth i’w fwynhau fel pencampwr.”

Straeon cysylltiedig