Does unman yn debyg i gartref
Dwi wedi byw yng Nghymru ar hyd fy oes, yn Nyffryn Aman. Er ei fod yn gartref, rwy’n dal i’w ystyried yn un o fy hoff lefydd i fynd iddo yng Nghymru. Rwy’n mwynhau’r ffaith ei fod yn heddychlon a thawel – mae’r Mynydd Du ar un ochr a Mynyddoedd Betws ar yr ochr arall. Pan edrychwch o’ch cwmpas, rydych chi'n ddwfn yn y dyffryn ac mae rhywbeth eithaf arbennig am hynny i mi.


Mae'n debyg fy mod wrth fy modd oherwydd cefais fy magu gyda chymaint i'w wneud gartref. Rwy’n mynd allan ar y beic ac yn beicio draw i Langadog neu Lanymddyfri ac oherwydd mai ychydig iawn o draffig sydd, mae’n teimlo mor ddiogel, sy’n gwneud mwynhau’r golygfeydd hyd yn oed yn haws. Ac os nad yw hynny’n ddigon, dwi’n byw ugain munud i ffwrdd o’r môr – boed yn Abertawe neu’r Mwmbwls. Fel plentyn roeddwn i'n arfer mynd i lawr yno i gael hufen iâ hyfryd, waeth beth oedd y tywydd. Rwy'n dal i ymweld â'r arfordir yn aml gyda fy nheulu. Rwy’n meddwl ei fod yn hawdd ei gymryd yn ganiataol ond rydw i wrth fy modd yn ei gael ar garreg fy nrws.
Cymru, ein diwylliant cyfoethog ac wrth gwrs rygbi Cymru – mae bron fel stori a chwedl. Rwy’n Gymro balch iawn (fel y gallwch ddweud!) ac i mi, does dim unman yn debyg i gartref, mae hynny’n sicr.

Harddwch hyfryd
Rydw i wedi teithio llawer ac yn sicr wedi gweld rhai o’r lleoedd mwyaf prydferth yn y byd a byddwn yn dweud bod Cymru yn bendant ymhlith y goreuon.
Mae wastad rhywle i fynd ar daith ffordd neu daith feic gyda’r teulu. Rydw i wrth fy modd yn pacio picnic a bwrw iddi i ddod o hyd i lecyn mewn parc cenedlaethol wedi'i amgylchynu gan filltiroedd a milltiroedd o wyrddni. Gallwch chi fod ar eich pen eich hun a pheidio â gweld person arall am oriau, ond dal i deimlo’n ddiogel a theimlo croeso.
Mae cymaint o bethau i'w gwneud, ond weithiau yr heddwch a'r tawelwch rydw i'n ei fwynhau fwyaf. Wrth fynd am dro a chymryd amser i mi fy hun, y peth gwych yw bod digon o leoedd i'w crwydro.
Un o fy hoff lefydd i ymweld yn ddiweddar yw Dinbych-y-pysgod. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i fod wedi cwblhau cwpl o gystadlaethau Ironman yno ac rydw i wedi dod i adnabod yr ardal yn dda iawn. Mae’n dref bysgota brydferth iawn, gydag un o’r traethau glanaf yn y byd. Er fy mod yn mynd yno’n rheolaidd nawr, rwy'n dal i feddwl ei fod fel cerdded ar leoliad cerdyn post. Mae mor brydferth.


Cymru a'r byd
Un peth a’m trawodd oedd, does dim ots ble rydych chi’n mynd yn y byd, byddwch chi’n cwrdd â rhywun sydd â chysylltiad â Chymru. Efallai nad ydyn nhw wedi teithio eu hunain, ond byddan nhw'n gwybod enw tref neu frand sy'n cael ei gynhyrchu yma.
Pan oeddwn yn Japan, byddwn yn mynd â photeli bach o Wisgi Penderyn gyda mi i bobl eu blasu. Roeddwn i eisiau helpu pobl i ddeall Cymru a’n diwylliant… ac er mawr syndod i mi, roedd rhai o’r bobl leol eisoes wedi clywed amdano! Mae'n dangos ein bod ni, mewn gwlad fach, yn uchelgeisiol iawn.
Y peth mae pobl bob amser yn gwneud sylwadau arno yw pa mor gyfeillgar a chroesawgar yw Cymru. Rydw i wrth fy modd â hynny. Rwy’n hoffi meddwl ein bod ni’n hamddenol ond wrth ein bodd ag ychydig o letygarwch! Mae’n union fel crwydro Cymru – gallwch fod yng nghanol unlle i gael tawelwch llwyr neu roi cynnig ar weithgaredd llawn adrenalin i gyd yn yr un lle. Does dim llawer o wledydd eraill rydw i wedi ymweld â nhw ar draws y byd yn cynnig hynny…
