Does unman yn debyg i gartref
Gan fy mod yn byw yma, dwi’n cymryd hygyrchedd popeth yn ganiataol. Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i gael teithio i wledydd prydferth o gwmpas y byd ond does unman yn debyg i gartref.
Mae’n wych gallu cyrraedd Bannau Brycheiniog mewn awr yn y car ac yn y gaeaf, cerdded Pen y Fan. Gallai’r tywydd fod yn eithaf mwyn yng Nghaerdydd, ond wrth gyrraedd Aberhonddu, mae fel paradwys aeafol - aer oer ac eira. Mae mor brydferth.
Mae rhai o fy hoff leoedd yn y gorllewin. Dwi wrth fy modd yn mynd i’r Gŵyr a Sir Benfro am benwythnos. Bob tro dwi’n mynd yno dwi’n cael fy rhyfeddu gan y prydferthwch – mae arfordir anhygoel gennyn ni ac mae’r cyfan o fewn dwy awr yn y car o ble dwi’n byw. Rydyn ni mor lwcus!
Yr hynaf dwi’n mynd a’r mwyaf o brofiadau dwi’n eu cael, y mwyaf arbennig dwi’n meddwl yw Cymru.

Stadiwm o’r radd flaenaf
Mae’n anodd mynegi fy nheimladau ynghylch Stadiwm y Principality. Bob tro dwi’n cerdded drwy ei drysau, daw emosiwn yn don drosof.
Fel cefnogwr, roeddwn i’n arfer breuddwydio am gael bod yn y stadiwm. Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael bod yno fel chwaraewr, yn sefyll o flaen 75,000 o gefnogwyr.
Mae gwrthgyferbyniad llwyr rhwng y teimladau yn yr ystafelloedd newid â’r teimlad ar y cae.

Mae’r cae fel crochan – yn ferw o sŵn, cyffro, trydan ac emosiwn. Dyma’r stadiwm orau yn y byd o ran awyrgylch, yn ddi-os. Mae sŵn y dorf, gwres y fflamau ac edrych i fyny ar y tri eisteddle yn anhygoel.
Mae’r ystafelloedd newid mor wahanol. Ymhell o’r cyffro, chlywch chi ddim smic. Mae wastad yn deimlad eithaf rhyfedd ac yna mewn chwinciad rydych chi’n cerdded allan o’r twnnel ac yn dechrau clywed murmur. Mae’r drysau dwbl yn agor ac mae fel cerdded i mewn i bopty poeth – mae’n eich bwrw chi. Mae’n anhygoel.


Pan fo Cymru yn chwarae – mae calon y genedl yn curo. Mae pawb yn cefnogi’r tîm
Ni ellir gwadu bod y stadiwm yn un o rai gorau’r byd – dyma arena dan do fwyaf Ewrop pan fo’r to ar gau. Mae hynny’n gallu bod yn dipyn o bwysau ar dimau sy’n chwarae yno oddi cartref, credwch chi fi!
Wedi dweud hynny, mae pob chwaraewr sydd wedi chwarae oddi cartref yn y Stadiwm yn dweud mai dyna un o’u profiadau gorau.
Mae’r lleoliad yn amhrisiadwy. Gallwch chi gamu allan o’r Stadiwm i mewn i fywyd nos, bariau a bwytai Caerdydd ac mae’r orsaf drenau dafliad carreg i ffwrdd.
Mae’n berffaith. Bachgen Caerdydd ydw i felly mae cael y cyfan ar fy stepen ddrws yn golygu cymaint i fi.
Mae rygbi yn rhan enfawr o beth sydd wedi fy ngwneud i’r hyn ydw i heddiw a dechreuodd cynifer o fy mhrofiadau anhygoel yn y stadiwm. Dwi’n teimlo’n lwcus iawn.
Mae fy nghalon yng Nghymru
Er fy mod i’n dwlu teithio o gwmpas Cymru, does dim byd gwell na mynd â fy nghi am dro o gwmpas fy ardal leol, Coed y Wenallt. Er ei bod ond bedair milltir o Ganol Dinas Caerdydd… mae’n gallu teimlo fel byd arall.
Dwi’n teimlo llonyddwch yno – dyna fy lle preifat ble gallaf i feddwl, myfyrio ac ymlacio. Pan oeddwn i’n chwarae rygbi, roedd yn cadw fy nhraed ar y ddaear.
Pan dwi’n mynd am dro yn y Wenallt, dwi wrth fy modd bod y goedwig yn edrych dros Gaerdydd. Gallaf weld nenlinell y Stadiwm ac mae hynny’n anhygoel - y gorau o fy nau fyd.
Dwi’n hynod o falch o fod yn Gymro ac mae pawb sy’n fy adnabod yn gwybod hynny.
Dwi’n cario’r lleoedd hyn yn fy nghalon. Dwi wedi teithio’r byd ond mae fy nghalon yng Nghymru. Cymru fydd fy nghartref am byth.

