Gaf i ofyn cwestiwn digywilydd ichi? Ydych chi erioed wedi bod i Gymru - ac os na, tybed, pam lai? Efallai eich bod wedi clywed bod gennyn ni fynyddoedd, tywod a môr, ychydig o law a digon o ddefaid. Cenedl ddwyieithog o straeon a chwedlau di-ri, gyda’r stryd fwyaf serth a’r enw lle hiraf yn y byd. Efallai eich bod hefyd wedi clywed hefyd mai ni yw gwlad y gân, lle cewch groeso mor gynnes â ‘chwtsh’. A byddech chi'n llygad eich lle ar bob cyfrif. Rydyn ni'n hyfryd. Ac yn brydferth. Ond a fyddai’n syndod ichi wybod, mewn termau gastronomig, mai Cymru yw un o’r cyrchfannau bwyta mwyaf cŵl yn y byd?
Rydw i newydd ddychwelyd o daith gourmet o amgylch Cymru, a gallwn i ddim fod wedi dewis amser gwell o’r flwyddyn ar gyfer gwibdaith fwyd. Ar ôl cyffro'r gwanwyn a'r haf, mae'r hydref a'r gaeaf yn cynnig seibiant i'w groesawu. Mae'r tymor o ddigonedd yn cychwyn mewn lliwiau ysblennydd, cyn aeddfedu, piclo, eplesu, a swyno gyda blasau anarferol. Mae’n amser tawelach, yn gyfle i fyfyrio a buddsoddi mewn ymdrechion mwy ystyrlon. Yn wir, mae moethusrwydd Cymru yn y gaeaf yn gyfuniad o amser a llonyddwch - hefyd, rydych chi wir yn teimlo bod gennych chi'r lle i chi'ch hun.
Nawr, mae hynny'n berffaith os ydych chi'n casglu sêr Michelin, oherwydd mae wedi bod yn flwyddyn wych i Gymru. Am y tro cyntaf erioed, gwobrwywyd naw bwyty â sêr – gan gynnwys dwy seren ‘werdd’. Ac er bod pedwar wedi cadw eu gwobrau blaenorol, a dau wedi lansio yn ystod y pandemig Covid, cafodd un – Ynyshir – ei ddyrchafu i ddwy seren, y tro cyntaf erioed i hynny ddigwydd yma yng Nghymru.
Felly beth sy'n digwydd? Mae'n gymysgedd o bethau. Mae bwyd cyfoes Cymreig yn dymhorol yn yr eithaf, a’n hinsawdd ni yw’r rhodd sy’n parhau i roi. Rydyn ni'n cystadlu â’r goreuon o ran bwyd a diod o'r radd flaenaf, gan gynnwys cig, caws a micro-fragdai. Ac er na all ein cenedl hawlio traddodiad bwyd ‘mawreddog’, fel y gwelwyd yn Ffrainc neu Rwsia, mae ein dull o goginio yn ddilys ac yn ddiymhongar ac yn cofleidio syniadau a blasau ‘tramor’.
Mae gwlad o ‘fynydd, tywod a môr’ yn cyfateb i gynnyrch gwych o’r tir a’r môr, ac mae hynny bob amser wedi cynnwys deialog â diplomyddiaeth ryngwladol. Mae ein pryd cenedlaethol, cawl, yn enghraifft wych o hyn; weithiau fe welwch gyfeiriadau ato, neu ei weld wedi’i dynnu wrth ei gilydd, ar fwydlenni blasu cyfoes. Mae’n botes gaeafol swmpus, o gig a gwraidd lysiau; mae gan y rhan fwyaf o deuluoedd Cymru eu rysáit eu hunain, naill ai wedi'i hysgrifennu i lawr, neu wedi'i throsglwyddo yn y traddodiad llafar, yn debyg iawn i'n cerddoriaeth werin a'n barddoniaeth. Mae fersiwn ranbarthol o gawl, lobscows, yn gysylltiedig â’r pryd Norwyaidd lapskaus, gan adlewyrchu cyfnewid syniadau ac ysbrydoliaeth sydd wedi bod yn digwydd ers cenedlaethau – ymhell cyn dylanwad byd-eang bwyd ‘Nordig Newydd’.
Ond dyna ddigon am y Scandis! Dechreuais daith dymhorol o amgylch Cymru, yn Sir Fynwy yn y de-ddwyrain. O ran bwyd, dyma’r porth i Gymru, gan ei bod yn gartref i ŵyl fwyd flynyddol y Fenni. Mae hefyd yn gartref ysbrydol i’r dafarn gastro Gymreig, ac mae’n hawlio dau fwyty gwych â seren Michelin.
Dechreuais yn un o’r ffefrynnau teuluol, The Walnut Tree yn Llanddewi Ysgyryd, lle mae’r Cogydd Shaun Hill yn ei ddisgrifio’n gymedrol fel ‘ochr arw Michelin’. Mae’n fistro gwledig o safon gyda’r croeso cynhesaf, a bwydlen o fwydydd o’r farchnad sy’n llawn blasau tymhorol cysurus.
Roedd gan y bwyd llyffaint a'r girolles ar dost surdoes ysgeintiad hael o dryffl du Cymreig. Tra bod y tryffls yn dod o Monkswood, nid nepell o Frynbuga, daeth fy ffiled o gig eidion moethus wedi’i weini â stwnsh cig eidion halen o’r Welsh Venison Centre, Bwlch ger Aberhonddu. Gobeithio eich bod yn gwneud nodiadau, gan y byddwch yn pasio’r enwau lleoedd hyn ar eich taith eich hun. I orffen? Tarten afalau a Calvados gynnes. Sôn am gyfarchion y tymor! Fel y disgrifiodd y chef ei hun ei bwdinau tymhorol cysurus; ‘mae angen rhywbeth sy’n glynu at eich asennau dros y gaeaf’. Iawn, Chef! Mae’n werth cofio mai bwydlen ginio The Walnut Tree (dau gwrs £40, tri chwrs £45) yw’r fargen seren Michelin orau sydd i’w chael yng Nghymru y gaeaf hwn.
Ymlaen, tuag at Drefynwy, ac ar hyd Dyffryn Gwy mae’r hafan coetir diarffordd sef The Whitebrook. Rhaid i mi fynnu eich bod yn pacio’ch esgidiau cerdded ar gyfer y daith hon, gan fod taith gerdded cyn swper yn gwbl hanfodol, cyn cael eich swyno gan weledigaethau’r Chef Chris Chown. A waeth i chi ddod yn gyfarwydd â chwedlau’r Mabinogi, gan fod profi un o fwydlenni blasu The Whitebrook (£68) fel cwrdd â Myrddin y dewin.
Rydych chi'n llythrennol yn gyrru heibio i ffrwyth chwilota'r fwydlen ar eich ffordd yno; fel yr eglura’r chef, ‘Rwy’n ceisio cymryd popeth sydd allan yna a’i roi ar y plât’. Mae’r rhan fwyaf o gynhwysion, o’r hadau pelydr Ysbaen, a’r betys croeslys i’r mecryll wedi’i halltu ag erwain, yn cynnwys yr hyn y mae’r chef yn cyfeirio atynt fel ‘hen flasau anghofiedig.’ Mae pob plât ffres a bywiog yn datgelu dimensiwn pellach o lawenydd a rhyfeddod. Wir, pa mor aml allwch chi hawlio pryd o radish fel llwyddiant ysgubol? Ac fel cigysydd pendant, dydw i erioed wedi syllu mewn cymaint o ryfeddod ag y gwnes yr hydref hwn ar bleserau bwyd planhigion bwydlen lysieuol fy nghydymaith. Mae The Whitebrook yn hollol flaengar.
Tra eich bod yn yr ardal, ewch i’r gogledd-ddwyrain ar hyd afon Gwy tuag at dref y Gelli Gandryll, sy’n llawn siopau llyfrau, ar odre Bannau Brycheiniog. Yng nghanol y dref, archebwch fwrdd i gael swper yn Chapters, bwyty a agorodd ychydig cyn y pandemig ac a enillodd seren werdd Michelin eleni. Mae'r wobr weddol newydd hon yn cymeradwyo ymrwymiad i arferion cynaliadwy yn ogystal â chyfrifoldeb cymdeithasol; mae'r chef Mark Mchugo a'i bartner Charmaine Blatchford ym mlaen y tŷ yn canu clodydd cynhwysion hynod dymhorol a chynhyrchwyr lleol.
Mae'r fwydlen gyda'r nos yn brofiad blasu pum cwrs (£52) sy'n wirioneddol yn ddathliad o flasau lleol. Dechreuais y noson gyda jin a thonic Penodau y tŷ, gyda nodweddion efwr ac erwain - cynhwysion y darganfyddais hefyd oedd yn sail i’r Sorbed eirin duon ac afalau coch y rhwd, yn ogystal â the’r tŷ a ddaeth â’r pryd i ddiwedd cofiadwy. Ac er mai fy hoff bryd yn bendant oedd y porc Huntsham Farm Middle White, mwynheais yn fawr yr amrywiaeth o brydau wedi’u seilio ar blanhigion sy’n denu cymysgedd o fwytawyr chwilfrydig, ystyriol i Chapters.
Mae awr a hanner brydferth mewn car tua’r de yn dod â chi i brifddinas Caerdydd. Arhoswch yn y ganolfan, a mwynhewch bopeth sydd gan Gaerdydd i’w gynnig. Yna ewch ar daith ddeng munud ar y trên i dref glan môr Fictoraidd Penarth i un o atyniadau seren Michelin newydd sbon Cymru.
Mae'r dirgelwch sy'n amgylchynu Home yn creu awyrgylch o ddisgwyliad; yn wir, dim ond gwesteion sy'n canu cloch y drws sy'n cael gweld beth sydd tu ôl i'r llenni llwyd moethus! Dyma drydedd ymgyrch Sommerin i ennill cydnabyddiaeth Michelin, ond y tro hwn mae’n bartneriaeth gyfartal rhwng y tad James a’i ferch Georgia – ateb Cymru i Juan Mari ac Elena Arzak o Wlad y Basg.
Does dim bwydlen yn Home – dim ond profiad bwyta wyth cwrs ar gyfer swper (£110) neu ginio syrpreis pedwar cwrs (£60, Gwener-Sadwrn), sy’n darparu ar gyfer pob angen dietegol. Ar noson dywyll o Hydref, gwnes i fwynhau blasau umami cyfoethog o fadarch, artisiog a phwdin bara menyn tryffl, yn ogystal â draenogiad moron a sinsir bywiog a chynnes, cyn gorffen gyda thoesenni cwstard eirin sych a chnau cyll Georgia. Bob pum wythnos mae'r elfennau'n newid, ac eithrio un pryd parhaol. Pryd neilltuol James ‘ravioli pys’ - y peth agosaf at ‘gwtsh mewn powlen’. Ymlaciwch, dadflinwch, a chymerwch gyngor gan yr arwydd tu allan; wrth ymyl cloch y drws, mae’n dweud, ‘You’re almost home.’
Ar ôl noson dda o gwsg, fe fyddwch chi’n ysu am chwa o awyr iach, felly ewch ymlaen i’r gorllewin ar hyd arfordir de Cymru i Oxwich. Y tu hwnt i Abertawe mae Penrhyn Gŵyr – ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae’n daith i’w blasu, yn debyg i’ch cyrchfan serol, sef bwyty seren Michelin y Chef Hywel Griffith, Beach House. Ar ddiwrnod braf, heulog, Beach House yw fy syniad o nefoedd, ond hyd yn oed ar noson dywyll a stormus fe welwch ei fod yn hafan fwyta berffaith. Rydw i wastad yn rhyfeddu at y sylw a roddir i fanylion yn y bwyty cyfoes hwn ar lan y môr, o gynhwysion o Benrhyn Gŵyr a bwydlenni dwyieithog i’r dodrefn lliw tapestri Cymreig cyfoethog a’r fwydlen o moctêls tymhorol i yrwyr.
Er mwyn cofleidio'r profiad Beach House yn llwyr, rwy'n argymell yn fawr y fwydlen flasu (£80-110); mae'r fwydlen wyth cwrs wastad yn dechrau a gorffen gyda dau bryd Cymreig clasurol a hiraethus. Rydych chi'n dechrau gyda'r bara lawr hyfryd ac yn gorffen gyda soufflé bara brith gwych. Rydw i’n eich rhybuddio, fodd bynnag; rhwng y ddau angor hwnnw, paratowch i gael eich rhyfeddu! Yn ystod yr hydref a’r gaeaf, gallwch ddisgwyl dyfnder cyfoethog o flas, fel cig carw Gelli Aur gyda gellyg a chaws Perl Las, cimwch Oxwich neu gawl pwmpen fferm Paviland. Yn bendant, peidiwch â cholli cig oen morfa heli Penrhyn Gŵyr – trysor cenedlaethol.
A sôn am drysorau, llongyfarchiadau mawr i enillydd mawr diweddaraf Cymru, SY23. Yr enw yw cod post yr ardal o gwmpas Aberystwyth, felly gadewch i google maps wneud y gwaith ar gyfer rhan yma eich taith. Peidiwch â synnu os cewch eich swyno gan dirwedd gorllewin gwyllt Cymru. Hon oedd seren ddiamheuol y ddrama drosedd Y Gwyll, llwyddiant rhyngwladol ar Netflix, felly mae’n bendant werth y daith! Ac wrth sôn am lwyddiannau rhyngwladol, dyfarnwyd nid yn unig seren Michelin i SY23, ond hefyd deitl y bwyty newydd gorau i agor yn y DU ac Iwerddon eleni.
Mae’r cod post yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am genhadaeth SY23, fel llysgennad gastro balch dros ranbarth Ceredigion. Fel yr eglura’r Chef Nathan Davies, ‘mae’n ymwneud â gweini’r cynnyrch lleol gorau wedi’i goginio’n syml dros dân’. Pwy allai wrthod y fath wledd o flasau myglyd fel torbwt, merfog y môr a chig oen mynydd Cymreig? Yn sicr nid fi! Roeddwn wrth fy modd yn dychwelyd i ‘Aber’, cartref fy alma mater; mae’n ganolfan ddysgu Gymreig ac mae ganddo ddiwylliant caffi gwych. Mae ar lan y môr, a nawr mae’n gartref i seren Michelin! A dim rhyfedd. Mae’n teimlo fel bod cyfrinach oedd yn cael ei gwarchod yn dda newydd gael ei darganfod – mae’n gyfnod cyffrous iawn i Geredigion.
Ond fyddai dim SY23 heb Ynyshir – ‘alma mater’ y Chef Nathan Davies. Dyna seren fwyd Ceredigion, ychydig i’r gogledd o Aber yn Eglwys Fach. Mae’n brofiad i’w werthfawrogi; 30 cwrs (am £350 y pen) o flasau cryf yn atyniad dwy seren Michelin Cymru. Mae'r profiad pum awr yn llawer mwy na chinio ffansi; mae'n noson o sioc a syndod. Mae hon yn bererindod fwyd i dicio oddi ar eich rhestr, ac ymhlith y gwesteion mae cogyddion rhyngwladol.
Rydych chi'n teithio i leoliad cudd i gyrraedd cyrchfan über-cŵl. Wir, bydd ein ‘likes’ yn mynd yn wallgof ar instagram! Byddwch yn barod am lawer o hwyl, ond hefyd myfyrio ystyriol; mae'r math hwn o fwyd yn gofyn am eich holl sylw! Meddyliwch am flasau o’r dyfodol sy'n teimlo nad ydyn nhw wedi'u darganfod eto, ond hefyd fersiynau chwareus o bleserau cyfarwydd, gyda'r dwyster yn cyrraedd un ar ddeg allan o ddeg. A sôn am faint, mae yna hefyd ddimensiwn pêl disgo. Gadewch i’r blasau anhygoel fynd â chi ar daith fythgofiadwy i ateb coginio Cymru i Berghain neu Studio 54.
I gael profiad ‘neuadd wledig’ ‘ychydig’ yn fwy traddodiadol, ewch draw i Palé Hall. Mae’r lleoliad cain hwn yn atgoffa rhywun o ‘Downton’, ond yn llawer mwy diymhongar. Cewch gyfoeth a mawredd a chroeso cynnes bendigedig yn un o westai mwyaf godidog Cymru. Gwnewch y gorau o'ch arhosiad trwy grwydro mynyddoedd y Berwyn, gan y bydd danteithion godidog yn eich disgwyl ar ôl i chi ddychwelyd.
Mae bwydlen y Chef Gareth Stevenson (£80-£100) ym mwyty Henry Robertson yn rhamantus a moethus. Ac mae’r blasau’n hollol leol – o’r fferm drws nesaf i’r bwrdd! Fferm Cae Pant, Llandderfel yw honno (i enwi un o nifer), yn ogystal â gerddi Palé Hall ei hun a’r cigydd lleol yn y Bala – un o drefi harddaf Cymru. Yn wir, mae ymrwymiad y bwyty i gynhwysion tymhorol wedi sicrhau seren werdd Michelin i Palé eleni. Mae'r fwydlen flasu yn brofiad i'w werthfawrogi, o'r focaccia cartref i'r bara brith, caws a chracers. Ac os ydych chi eisiau dysgu am win Cymreig, mae’r Montgomery Rondo yma yn disgleirio; mae iddo’r un cyfoeth ffrwythus a dimensiynau rhyfeddol â gwibdaith gaeafol i Gymru!
Yn olaf, ond nid yn lleiaf, anelwch am Fôn mam Cymru. Yn draddodiadol, Ynys Môn oedd cartref y derwyddon, tra bod y Rhufeiniaid yn ei hystyried yn ‘fasged fara’ Cymru. Y dyddiau hyn mae'r ynys gyfoethog hon yn atyniad gwyliau mawr, diolch i'w thraethau a'i bwyd a diod cartref. Un o'r rhai sydd wedi bod yn arwain y ffordd dros y blynyddoedd diwethaf yw'r Chef Steven Stevens yn Sosban and the Old Butchers ym Mhorthaethwy.
Mae’n dref fach hyfryd gyda boutiques annibynnol i’w crwydro, gan gynnwys gwerthwr caws & Caws a deli Dylan’s a bwyty/bar coctels gwych gerllaw. Ac ar y groesffordd, mae hen siop gigydd y dref wedi’i thrawsnewid yn ffatri syniadau sy’n gwthio ffiniau. Mae’r cogydd yn mynnu eich sylw yng nghanol yr ystafell, yn cynhyrchu creadigaethau nad ydych erioed wedi’u dychmygu (£175). Mae’n brofiad hypnotig, gwylio artist wrth ei waith, a’r hyn sydd hyd yn oed yn well yw ei fod yn arbrofi gyda blasau eiconig Cymru. Ymhlith uchafbwyntiau fy ymweliad diweddar roedd llysiau’r oen gyda chwstard cregyn gleision, yn ogystal â chrofen penfras, llyrlys y graig gyda thro o fanana cyri!
Codais fy ngwydr i Chef Stevens – yn hyfryd, yr Ancre Hill arobryn o Sir Fynwy oedd gen i – ac rwy’n codi gwydryn i bob un o’n cogyddion seren Michelin Cymreig. Maen nhw i gyd yn codi'r safon, ac yn ein hatgoffa pwy ydyn ni, ond hefyd yn denu ymwelwyr o bell. Os hoffech chi ‘ddarganfod’ ein bwyd cyfoes, dewch draw i Gymru y gaeaf hwn.