Cynnes, dyfeisgar a blasus: tri pheth oedd angen i bryd bwyd Cymreig fod yn hanesyddol mewn cyfnod lle roedd nifer fawr o weithlu’r wlad yn treulio dyddiau hir a chaled yn y pyllau glo neu yn y caeau.
Ac hyd yn oed heddiw, mae’r tri chynhwysyn hyn yn parhau’n ganolog i rai o hoff brydau bwyd y genedl, sydd, ar ôl cael eu pasio i lawr drwy’r cenedlaethau, wedi troi o fod yn brydau bwyd teuluol yn y cartref i fod yn cael eu gweini mewn tafarndai a bwytai yng Nghymru.
Mae rhai danteithion, fel caws Caerffili neu selsig Morgannwg, wedi dod yn boblogaidd mewn bwytai tu draw i’r ffin, ond mae nifer o’r prydau hyn yn rhai y gallwch chi ond dod o hyd iddyn nhw yng Nghymru. P’un ai ydych chi’n gobeithio blasu pwdin cloddwyr y pyllau glo (teisen lap), neu beth allwn i ond ei alw yn gafiâr Cymreig (bara lawr), dyma rai o fwydydd hanfodol Gymreig.
Cawl
Yn dyddio o’r 14eg ganrif, mae cawl, neu ‘lobsgows’ fel mae’n cael ei alw mewn ardaloedd yng ngogledd Cymru, yn fath o stiw cartref o gig oen a llysiau tymhorol ac mae’n cael ei ystyried yn bryd bwyd cenedlaethol Cymru. Caiff ei weini fel arfer gyda thafelli trwchus o fara ffres ac mae’n bryd bwyd perffaith i’ch cynhesu yn ystod misoedd oer y gaeaf yng Nghymru.
Rarebit Cymreig
Does neb wir yn gwybod sut y cafodd y rarebit Cymreig ei enw anarferol – ond mae sôn ei fod wedi ei ddyfeisio fel enw sarhaus gan y Saeson er mwyn awgrymu na allai’r Cymry fforddio i dalu am gig cwningen go iawn, ac felly bod yn rhaid iddynt fwyta caws yn lle. Beth sy’n sicr, fodd bynnag, yw ei fod yn blasu’n arbennig: Caws Cymreig, fel arfer wedi cael ei gymysgu gyda mwstard (ac weithiau gwrw!), wedi ei daenu dros fara wedi ei grasu i greu’r pryd bwyd cysurus Cymreig gorau un.
Cocos
Mae pobl wedi bod yn bwyta cocos yng Nghymru ers cenedlaethau: wedi eu casglu â chribin ar draethau Gŵyr a’u cario ar gefn asyn i farchnadoedd Abertawe. Er bod yr asynnod wedi hen fynd, mae gweddill y broses wedi parhau ar hyd y blynyddoedd, ac mae’r molysgiaid bychain cragennog (nad ydynt yn rhy annhebyg i gregyn gleision) yn dal i fod yn boblogaidd ar stondinau marchnad – ar eu gorau yn rhan o ‘frecwast traddodiadol Cymreig’, neu mewn potyn fel byrbryd, gydag arllwysiad o finegr.
Selsig Morgannwg
Yn un o’r dyfeisiadau coginiol Cymreig sydd wedi bod yn llwyddiannus dros y ffin, mae’r ‘selsig’ llysieuol hwn yn cynnwys caws a chennin ac wedi ei orchuddio â briwsion bara. Cawsant eu gwerthu yn y lle cyntaf ym Mro Morgannwg a daethant yn boblogaidd pan oedd cig yn brin yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Heddiw, mae modd dod o hyd i selsig Morgannwg mewn archfarchnadoedd a bwytai ar draws y Deyrnas Unedig.
Bisgedi Berffro
Yn cystadlu am y fraint a’r anrhydedd o gael eu galw eu hunain yn fisgedi hynaf y Deyrnas Unedig, mae bisgedi Berffro yn fisgedi bara byr llawn menyn sy’n dod o bentref bychan Aberffraw (neu Berffro) yn Ynys Môn o’r 13eg ganrif. Mae sut cafodd y bisgedi eu siâp cragen nodedig yn fwy o ddirgelwch, fodd bynnag, ac mae cysylltiad posibl â phererindod y Camino de Santiago – sy’n defnyddio symbol siâp cragen gylchog fel arwydd o’r llwybr – wedi golygu bod y bisgedi hefyd yn cael eu galw’n gacennau Iago neu ‘James cakes’.
Bara brith
Does dim yn well i roi tamaid o egni i rywun na thafell o fara brith wedi ei iro â digon o fenyn. Mae’r bara, sydd wedi ei fwydo mewn te ac sy’n llawn ffrwythau sych, yn dyddio i’r 19eg ganrif ac mae’n dal i fod yn ddewis poblogaidd ar gownteri caffis a siopau coffi ar draws Cymru.
Ffagots
Er mai yng ngorllewin Lloegr yr oedd y rhain yn cael eu bwyta i ddechrau mae’n debyg, daeth ffagots yn bryd bwyd cyffredin yn ne Cymru yn y 19eg ganrif gan fod y pryd yn un rhad i’w wneud a’i fod yn llenwi rhywun. Mae’r peli cig mawr wedi eu gwneud o dorbrennau cig wedi eu minsio ac fel arfer yn cael eu gweini gyda thatws stwnsh a grefi. Maent yn dal i fod yn bryd cyffredin ar fwydlenni tafarndai yng Nghymru heddiw.
Cacennau cri neu bice ar y maen
Mae’n bosibl mai dyma’r danteithion Cymreig mwyaf poblogaidd, yn gacennau crwn a bach wedi eu gorchuddio â siwgr ac yn cyd-fynd yn berffaith â phaned o de. Mae pice ar y maen (wedi eu henwi ar ôl y badell fflat sy’n cael ei defnyddio’n draddodiadol i’w coginio nhw) fel arfer yn cynnwys syltanas, ond mae fersiynau yn cynnwys siocled hefyd yn gyffredin.
Bara lawr
Er ei hynodrwydd a’i hyfrydwch, teg dweud nad ydi bara lawr at ddant pawb. Caiff ei wneud o wymon wedi ei ferwi, sy’n tueddu i gael ei gymysgu â cheirch ac yna ei ffrio, gan roi ansawdd tebyg i bast trwchus iddo. Mae’n cael ei adnabod ar lafar fel ‘cafiâr y Cymro’, mae pobl wedi bod yn ei fwyta ers yr 17eg ganrif ac mae’n neilltuol o dda fel rhan o frecwast llawn ochr yn ochr â bacwn ac wy.
Cregyn gleision o’r Fenai
Mae bron i hanner holl gregyn gleision y Deyrnas Unedig yn dod o Afon Menai, y llif cul ond byrlymus hwnnw o ddŵr sy’n gwahanu arfordir gogleddol Cymru ac Ynys Môn, ac sy’n enwog am eu melyster ac am ba mor fawr ydyn nhw. Mae nifer o fwytai ar hyd y Fenai yn gweini powlenni poeth o’r pysgod cregyn, sydd wedi cael eu tynnu yn ffres o’r mor y diwrnod hwnnw.
Caws Caerffili
Mae’r caws sy’n dwyn enw tref Caerffili yn cael ei werthu heddiw drwy’r Deyrnas Unedig, ond os am flasu’r cynnyrch go iawn, bydd yn rhaid i chi ddod i Gymru. Mae’r fersiwn o’r caws sy’n cael ei gynhyrchu ar raddfa fawr, ac sy’n cael ei gynhyrchu mewn ffatrïoedd yn Lloegr, yn sych a briwsionllyd, tra bo’r fersiwn gwreiddiol o’r 19eg ganrif yn feddal ac yn hufennog. Er bod cynhyrchu caws Caerffili wedi peidio yn gyfan gwbl bron yng Nghymru, mae mwy a mwy o wneuthurwyr caws artisan wedi mynd ati i sicrhau bod y caws Cymreiciaf un yn parhau yn ei ffurf wreiddiol.
Oggie
Yn fersiwn Gymreig o bastai Cernyw, mae’r oggie yn bastai sawrus sydd fel arfer wedi ei lenwi â chynhwysion hanfodol Gymreig, sef cig oen a chennin. Unwaith yn ginio cyfarwydd i fwynwyr y pyllau glo, a allai eu bwyta’n ddidrafferth heb orfod defnyddio cyllyll a ffyrc, mae’r oggie bellach yn cael ei werthu mewn caffis ar draws y wlad, gan gynnwys y caffi ar gopa’r Wyddfa.
Cig oen Cymreig
Pan mae yma dair dafad am bob un person yng Nghymru, mae cig oen i’w weld yn gyson ar fwydlenni bwytai ac ar stondinau marchnad ar draws y wlad. Mae’n enwog am ei safon uchel a’i flas, a derbyniodd statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) yn gydnabyddiaeth am safon uchel y cynnyrch gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 2003.
Teisen lap
Yn fwyd Cymreig arall a gafodd ei greu gan ymateb i fywyd yn gweithio o dan y ddaear, y deisen lap oedd dewis pwdin y mwynwyr glo. Mae gan y gacen fawr, sydd fel arfer wedi ei phobi mewn plât, ansawdd llaith sy’n golygu nad oedd hi’n briwsioni mewn bocs bwyd. Mae’n debyg fod y ffaith ei bod yn flasus dros ben wedi cyfrannu at apêl y gacen ymhlith y mwynwyr, ac mae wedi sicrhau bod y gacen yn parhau’n boblogaidd.
Crempogau
Yn gefnder i’r crepe Ffrengig, ond yn llai ac yn fwy trwchus, mae crempogau Cymreig ar eu gorau wedi eu gweini mewn pentwr ac â surop neu fêl wedi ei dywallt yn hael drostynt. Caiff crempogau eu bwyta yn draddodiadol ar ddydd Mawrth Ynyd (Diwrnod Crempog), rhag blaen i gyfnod ymprydio y Grawys gan Gristnogion, ond cânt eu mwynhau drwy gydol y flwyddyn yng Nghymru fel rhywbeth melys.
Tatws pum munud
Cafodd sawl plentyn o Gymru ei fagu ar fowlenaid boeth a maethlon o datws pum munud. Mae’r botes o facwn, tatws a llysiau wedi parhau’n boblogaidd ar hyd y blynyddoedd yn y cartref gan ei fod yn rhad ac yn ddigon hawdd i’w wneud. Mae’r enw ‘tatws pum munud’ wrth gwrs yn cyfeirio at ba mor sydyn y mae modd paratoi’r pryd.