Porth Cymru

Mae Porth Cymru yn bortffolio o gynnwys digidol a gynhyrchir o dan faner brand Cymru gan sector marchnata Llywodraeth Cymru, gan gynnwys;

Disgwylir y caiff y portffolio hwn ei ehangu dros y blynyddoedd nesaf, er mwyn cynnwys gwefannau tradeandinvest.wales ynghyd â’u sianeli cyfryngau cymdeithasol perthnasol. Mae potensial hefyd i ychwanegu safleoedd pellach gan sectorau eraill yn y dyfodol.

Dylai’r cynnwys ar y safleoedd hyn ategu amcanion ehangach Llywodraeth Cymru, ond nid ydynt yn canolbwyntio ar negeseuon gan y Gweinidogion.

Mae’r arweiniad yn cwmpasu ein cynulleidfa ar draws y Deyrnas Unedig ar gyfer Croeso Cymru a’n marchnad ryngwladol ar gyfer Wales.com. Mae’n cynnwys crynodeb o’n gwerthoedd brand ac yn amlinellu pwrpas y gwefannau er mwyn eich helpu i ddeall pwy ydym ni a’r hyn rydyn ni’n ei wneud.

Pan fyddwch chi’n llunio cynnwys golygyddol ar gyfer Croeso Cymru a Wales.com, dylech hefyd gyfeirio at;

Cynulleidfa darged a thôn llais

Canllaw iaith ac arddull

Canllawiau brand Cymru

Mae'r holl farchnata yn dod o dan frand Cymru, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo Cymru yn y DU a thu hwnt fel lle i ymweld, buddsoddi, gweithio ac astudio. Mae'r brand, sydd wedi ennill gwobrau, yn drawiadol - ac mae'n cynnwys logo cyfarwydd y ddraig, ffont eiconig, ac arddull ffotograffiaeth gref.

Wrth greu cynnwys ar gyfer unrhyw un o’n sianelau, dylai ysgrifenwyr/cynhyrchwyr lynu at y gwerthoedd craidd canlynol o ganllawiau brand Cymru er mwyn cyfleu naws gwirioneddol am le.

Gwreiddiol

Gwlad go iawn, gwlad agored a gonest. Mae Cymru wedi’i chodi ar seiliau balch ei hanes a’i threftadaeth, ac wedi’i saernïo gan dirwedd hardd a thrawiadol. Mae cymuned, diwylliant a chynefin yn bwysig i ni ac rydyn ni am arwain y byd yn y ffordd rydyn ni’n eu gwarchod. Dyma’r adnoddau sy’n ein cynnal: twf gwyrdd, allforion creadigol byd-eang, atyniadau antur, cynnyrch lleol o safon. Ein gwreiddioldeb ni yw’r allwedd i’n dyfodol.

Creadigol

Creadigrwydd sydd wrth wraidd ein cenedl. Mae ein diwylliant cyfoethog a pharhaus yn ffynnu: ym myd cerddoriaeth, llenyddiaeth, celf, ffilm, teledu a theatr. Ond mae’n llawer mwy na hynny. Ble bynnag yr edrychwch chi yng Nghymru, mae syniadau newydd ar waith. Mae’n digwydd mewn stiwdios dylunio ac mewn cloddfeydd llechi, ffatrïoedd a labordai ar draws y wlad. Mae ysbryd mentrus ar droed.

Byw

Mae Cymru ar ei newydd wedd. Gyda’r gorffennol yn ysbrydoliaeth, rydyn ni’n edrych i’r dyfodol gyda chyfrifoldeb a chreadigrwydd. Mae ein tiroedd yn fyw o natur ac o antur. Mae dychymyg byw yn sail i’n diwylliant. Mae ein cymunedau’n fwrlwm o arloesi a chyfleoedd. Mae cenhedlaeth newydd yn buddsoddi mewn dyfodol disglair a chynaliadwy wedi’i bweru gan dalent a sgiliau. Egni byw.

Cofiwch y gwerthoedd brand pan fyddwch chi’n ysgrifennu copi i’r we. Dylai pob darn o gopi wireddu mwyafrif, os nad pob un o’r amcanion isod:

Ydy’r cynnwys:

  • yn dyrchafu statws Cymru?
  • yn syfrdanu ac yn ysbrydoli?
  • yn newid canfyddiadau?
  • yn gwneud pethau da, gan gyfrannu at fudd ehangach i Gymru?
  • yn teimlo’n unigryw i Gymru?

Strategaeth cynnwys – Adrodd straeon

Ein nod yw creu cynnwys difyr, llawn gwybodaeth sy’n ysbrydoli cynulleidfaoedd ac sy’n eu hannog i ystyried Cymru a’i dewis fe gwlad ddeniadol i ymweld â hi, i fuddsoddi ynddi, neu i astudio neu fyw ynddi.

Rydym am i’n gwefannau adrodd straeon pwerus sy’n adlewyrchu cenedl fodern, ac sy’n cael eu hadrodd mewn lleisiau sy’n cyfleu Cymru i’r dim; neu’n lleisiau sydd wedi profi agwedd arbennig ar fywyd yng Nghymru. Dylent fod yn ffynhonnell straeon y gellir eu defnyddio ar draws llu o weithgareddau gan gynnwys llwyfannau cymdeithasol a thrydydd parti.

Dylai’r rhan fwyaf o gynnwys y wefan fod yn gynnwys bytholwyrdd (cynnwys nad oes angen ei ddiweddaru neu sydd ond angen ei ddiweddaru yn achlysurol iawn). Caiff pob erthygl a gomisiynir ar gyfer/a gaiff ei chyhoeddi ar Wales.com neu croeso.cymru/visitwales.comei nodi fel un sy’n perthyn i un o’n llinynnau golygyddol.

Mae gweithio gyda llinynnau yn ein galluogi ni i:

  • ychwanegu cyflymder, amrywiaeth a diddordeb i’n safleoedd;
  • cynnig amrywiaeth ehangach o opsiynau wrth gomisiynu cynnwys;
  • creu cysylltiadau newydd rhwng meysydd pwnc gwahanol: yn ogystal â chysylltiadau ‘fertigol’ rhwng erthyglau ar bynciau tebyg, mae hefyd cysylltiadau ‘llorweddol’ i’w cael rhwng erthyglau yn yr un llinyn;
  • cynnig ffyrdd newydd i gynulleidfaoedd ddarganfod a mynd ar drywydd straeon am Gymru;
  • dod â gwell cysondeb ac effeithlonrwydd i’r broses gomisiynu, gan osgoi straeon ‘untro’.

Mae llinynnau Wales.com yn cynnwys Cyfarfod, Syniadau, Gwneud, Allan o'r Swyddfa, Y Stori Fawr a Croeso. Mae gennym hefyd linyn Trosolwg a ddefnyddir ar gyfer nifer fechan o erthyglau rhagarweiniol.

Mae llinynnau croeso.cymru yn cynnwys Teithiau, Rhestrau, Erthygl deithio, Drwy fy llygaid i, Fy lle i, Ymweliad rhithwir, Llefydd anhygoel a Tu ôl i'r llen.

Mae pob llinyn wedi’i gysylltu â’r math o gynnwys sydd fwyaf addas i bob safle. Mae llinyn tudalen ‘Gwybodaeth’ ychwanegol, a ddefnyddir ar y ddau safle ar gyfer amrywiaeth o erthyglau gwybodaeth. Creu fframwaith yw pwrpas y llinynnau, nid ydynt wedi’u bwriadu i gyfyngu’n ormodol ar gynnwys.

Dylai’r sawl sy’n cynhyrchu cynnwys geisio cadw at y fformat a bennir ar gyfer pob un, gan eu bod yn cynnig cyfeiriadau gwerthfawr i’r darllenydd ac yn clymu’r safle ynghyd. Serch hynny, os oes rhesymau pendant dros amrywio’r fformat ychydig, mae modd gwneud hynny o bryd i'w gilydd.

Geiriau a lluniau

Mae delweddau yn bwysig iawn i ni o ran ein cynnwys. Ein nod yw ‘dangos’ yn hytrach na ‘dweud’ gan ddefnyddio geiriau, lluniau a fideo.

Fe ddylech chi ddefnyddio delwedd gref fel y prif lun ar frig yr erthygl ac yna delweddau ategol i’r testun yng nghorff yr erthygl. Y brif ddelwedd fydd y ddelwedd ddiofyn a fydd yn cael ei defnyddio i gynrychioli’r erthygl ar y tudalennau adrannol ac mewn chwiliadau, felly fe ddylai grisialu hanfod yr erthygl.

Am ragor o ganllawiau ar arddull a gofynion manwl ein delweddau, trowch at Ganllawiau Ffotograffiaeth Brand Cymru (pdf).

Er mwyn gweld sut mae’r holl destun a’r delweddau yn gweithio gyda’i gilydd, ynghyd â chanllawiau arfer gorau, trowch at ein  canllaw arddull gweledol ar gyfer tudalennau erthyglau

Straeon cysylltiedig