Sefydliad Cenedlaethol Ieuenctid Gwirfoddol yw Urdd Gobaith Cymru gyda dros 55,000 o aelodau rhwng 8-25 oed. Ers 1922, mae'r mudiad wedi cynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau profiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae tîm o 210 o staff a 10,000 o wirfoddolwyr yn darparu cyfleoedd celfyddydol, chwaraeon a chymdeithasol i blant a phobl ifanc Cymru.

Mae'r Urdd wedi bod yn rhan o fy mywyd i erioed. O ganu unawdau Cerdd Dant i gystadlu yn yr Ŵyl Ban Geltaidd Ryngwladol. O ddefnyddio fy llais ar fforwm ieuenctid Môn i roi llais i aelodau fel llywydd. O Baris i Batagonia, mae'r rhestr o gyfleoedd mae'r Urdd wedi rhoi i mi yn ddiddiwedd. Wrth dyfu fyny, o'n i'n swil ac yn fewnblyg, ond mae'r hyder dwi wedi ei ddatblygu, diolch i'r Urdd, wedi siapio fy nyfodol.

Roeddwn yn falch o fod yn rhan o dîm a oedd yn gyrru'r Urdd i ganrif newydd wrth i 2022 nodi Canmlwyddiant y Mudiad. Mae 55,000 o bobl ifanc yn aelodau o'r Urdd - dyma fudiad ieuenctid mwyaf Ewrop. Mae’r ethos a sefydlwyd nôl yn 1922 yr un mor gryf heddiw – yn syml, mwynhewch gyfoeth o gyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg gan gofio rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.

Mae'r ganolfan breswyl yng Nghaerdydd wedi bod yn gartref i deuluoedd ffoaduriaid o Afghanistan yn ddiweddar. Ym mis Mawrth 2022, trefnwyd cynhadledd yn galw am gydraddoldeb i ferched mewn chwaraeon. Erbyn hyn mae dros hanner aelodau'r Urdd yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Mae'r Urdd ar ras i'r ganrif nesaf ac yn chwalu pob rhwystr ar hyd y ffordd.

 

Dyn yn dal plentyn bach, y ddau yn gwenu.
Plant o Afghanistan a fu'n byw yng Nghanolfan Breswyl Caerdydd yr Urdd am bum mis

O Gymru i'r byd

Ar 18 Mai bob blwyddyn, mae pobl ifanc Cymru yn anfon neges heddwch ac ewyllys da i bobl ifanc ledled y byd. Dyma'r unig neges o'i bath yn y byd - ac fe'i cyflwynir mewn 65 o ieithoedd. Dros y blynyddoedd mae pynciau’r Neges wedi cynnwys y bom atomig, ffoaduriaid, tlodi, rhyfel a thrais ac eleni mae’r neges yn canolbwyntio ar yr argyfwng hinsawdd. Mae cyrhaeddiad y neges bellach yn anghredadwy diolch i'r cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r Urdd wedi sefydlu partneriaeth trawsatlantig gydag Alabama hefyd. Roeddwn yn un o’r rhai lwcus a fu ar ymweliad yno fis Ebrill a chefais y cyfle i berfformio a dysgu mwy am hanes hawliau sifil a diwylliant canu efengylaidd. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd Côr Gospel Birmingham, Prifysgol Alabama yn gallu teithio i Gymru i berfformio yn 2023.

Gwersylloedd haf

Mae drysau pedair canolfan breswyl yr Urdd ar agor i bawb. O deuluoedd i grwpiau o ffrindiau, i'r rhai sy'n chwilio am brofiadau anturus. Wedi’u lleoli mewn lleoliadau hardd ledled Cymru, o arfordir Ceredigion i lannau Llyn Tegid a phrofiad yng nghanol y ddinas ym Mae Caerdydd – mae gwyliau’r Urdd yn cynnig rhywbeth at ddant pawb.

Agorwyd gwersyll amgylcheddol cyntaf Cymru ym Mhentre Ifan, Sir Benfro yn 2022.

Dihangfa ddigidol yw Pentre Ifan sy’n annog pobl ifanc i gysylltu â’u tirwedd amgylcheddol a diwylliannol a phrofi ffordd fwy cynaliadwy o fyw. Roedd pobl ifanc yn tyfu ac yn cynaeafu eu bwyd o gegin yr ardd gan goginio yn y gegin awyr agored ynni gwyrdd.

Menyw yn eistedd ar ganŵ ar y dŵr.
Bwrdd hir wedi'i osod gyda phlatiau cinio
Pobl yn eistedd ar soffa ac yn siarad gyda llosgwr boncyff yn y cefndir.
Gwersylloedd Glan Llyn a Glan Llyn Isa, Y Bala, Gogledd Cymru

Triongl y Triban

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop gyda dros 15,000 o blant a phobl ifanc yn cystadlu bob blwyddyn. Ond mae mwy i'r Eisteddfod na chystadlu yn unig, gyda llond gwlad o gigs, gweithdai a pherfformiadau acwstig i ddiddanu. Ychwanegiad cyffrous eleni yw Gŵyl Triban ar benwythnos olaf yr Eisteddfod gyda bandiau, bwyd stryd a bar.

Grŵp mawr o bobl yn gwenu i’r camera
Twrnament Rygbi 7 bob ochr yr Urdd

Straeon cysylltiedig