Mae rhai edrychiadau yn eiconig: ffrog wen Marilyn Monroe, James Bond yn ei siwt dwt, ac, wrth gwrs, y Gymraes draddodiadol mewn het ddu uchel a siôl wlân goch.

Er y byddai’n anodd dod o hyd i unrhyw un yn gwisgo gwn nos ar strydoedd Caerdydd y dyddiau hyn, mae gwisg genedlaethol Cymru yn parhau i fod yn rhan bwysig o'n treftadaeth, ac yn cael ei gwisgo'n falch gan filoedd o blant ysgol bob blwyddyn yn ystod dathliad ein nawddsant, Dydd Gŵyl Dewi. Ond o ble yn union y daeth?

Gwisg genedlaethol Gymreig – y steil

Mae'r wisg sy'n cael ei hystyried heddiw yn wisg genedlaethol Cymru yn seiliedig ar y dillad a wisgwyd gan ferched oedd yn gweithio yn byw yng nghefn gwlad Cymru yn ystod y 19eg ganrif.

Ei chydran fwyaf adnabyddus yw'r het ddu uchel, sy'n edrych fel fersiwn hirgul o het bowler draddodiadol. Mae'r dilledyn trawiadol wedi ymwreiddio cymaint yn hunaniaeth hanesyddol Cymru fel ei fod yn cael ei adnabod heddiw yn syml fel "het Gymreig". Yn wahanol i agweddau eraill o’r wisg genedlaethol, dim ond yng Nghymru y’i gwisgwyd – er bod sut y daeth yn ffasiynol yn ystod y 19eg ganrif yn parhau i ddrysu haneswyr.

Mae’r dewis nodedig hwn o benwisg fel arfer yn cael ei baru â siôl a wisgir o amgylch yr ysgwyddau, a Phais a Betgwn – sgert bwff, tebyg i bais, a gŵn (a elwir hefyd yn Betgwn. Gall y gŵn amrywio o ran steil o hir a thynn i fyr a rhydd, ond mae wastad yn agor yn y blaen.

Mae elfennau ychwanegol y wisg yn cynnwys capan gwerin cotwm neu liain, ynghyd â ffedog a hosanau, sydd, mewn fersiynau modern o'r wisg, yn tueddu i fod yn wyn. Mae clogyn gwlân hefyd fel arfer yn cael ei ystyried yn rhan o'r ensemble, wedi'i wisgo o amgylch yr ysgwyddau.

Gwraig yn gwisgo gwisg draddodiadol Gymreig yn eistedd yn canu telyn
Tair gwraig yn gwisgo gwisg draddodiadol Gymreig
Enghreifftiau o wisg draddodiadol Gymreig

Oedd Cymry wir yn gwisgo fel hyn?

Er bod y wisg wedi’i hysbrydoli gan wisg wledig Gymreig y 19eg ganrif, roedd steiliau’n mynd a dod drwy gydol y cyfnod hwn – ni chyrhaeddodd yr het Gymreig, er enghraifft, tan y 1840au – sy’n golygu bod y wisg rydyn ni’n ei hadnabod heddiw yn fwy o gyfuniad o wahanol steiliau yn hytrach na darlun cywir o wisg a wisgwyd yn ystod un eiliad arbennig mewn hanes.

Yn ogystal, doedd dim un arddull o wisg ledled Cymru ychwaith, fel yr eglura Michael David Freeman, cyn-guradur Amgueddfa Ceredigion, sydd hefyd yn rhedeg gwefan am y wisg draddodiadol Gymreig.

'Er bod y rhan fwyaf o'r eitemau yn y wisg i'w cael ledled Cymru, a thu hwnt, roedd amrywiadau rhanbarthol, yn enwedig yn y gŵn a'r gŵn nos,' meddai Michael.

'Nodwedd amlycaf y rhan fwyaf o'r gwisgoedd Cymreig yw ei bod wedi'i gwneud o wlân lleol, yn hytrach na chotwm,' ychwanega.

Heddiw, mae fersiynau o'r wisg glasurol yn tueddu i fod yn goch yn bennaf, lliw a gysylltir yn gryf â Chymru, yn rhannol oherwydd y ddraig goch sydd ar ein baner genedlaethol. Fodd bynnag, roedd fersiynau'r 19eg ganrif o'r eitemau dillad yn las fel arfer, yn ôl adroddiadau a phaentiadau cyfoes. Yn y cyfamser, roedd gan siolau mwyaf poblogaidd y cyfnod batrwm paisli, a oedd yn tarddu o Kashmir yn India.

Sut y cafodd y wisg ei phoblogeiddio

Ar ddiwedd y 19eg ganrif roedd ofnau cynyddol yng Nghymru ynghylch y canfyddiad o golli hunaniaeth genedlaethol, a chredwyd, ynghyd â hyrwyddo’r iaith Gymraeg, y gallai creu ‘gwisg genedlaethol’ adnabyddadwy helpu i unioni’r broblem hon. Er nad oedd gynau nos a hetiau uchel mewn ffasiwn erbyn hyn, roedd amlygrwydd y wisg y trwy y wlad yn y gorffennol, a'i phresenoldeb mewn darluniau, yn ei gwneud yn ymgeisydd cryf. Daeth â manteision eraill hefyd, fel yr eglura Michael David Freeman.

'Erbyn y 1870au roedd diddordeb mewn cadw'r iaith Gymraeg a'i diwylliant ac roedd rhai dosbarthiadau canol bonedd yn ymddiddori yn ei gwisgo mewn digwyddiadau arbennig. Roedd hyn hefyd yn rhannol i gefnogi diwydiant gwlân Cymru,' meddai Michael.

Un o'r rhai oedd yn cefnogi’r syniad o wisg genedlaethol i Gymru oedd Augusta Hall, aeres wladgarol a chyfoethog i stad Llanofer yn Sir Fynwy. Dywedir i Arglwyddes Llanofer annog ei ffrindiau a’i staff i wisgo’r wisg draddodiadol Gymreig, ac enillodd gystadleuaeth Eisteddfod yn 1834 gyda thraethawd gosod ar fanteision gwarchod yr iaith Gymraeg a gwisg genedlaethol Cymru – gwobr a dderbyniodd yn gwisgo gwisg draddodiadol Gymreig.

Llwyddodd dyfodiad twristiaeth dorfol i Gymru yn ystod y cyfnod hwn hefyd i gadarnhau'r wisg fel rhan o ddiwylliant Cymru. Roedd y wisg yn ymddangos ar lestri cofrodd, printiau, a chardiau post di-ri o'r amser hwnnw, gan ei stereoteipio fel gwedd swyddogol y wlad. Y datblygiad hwn, efallai yn fwy na dim, a seliodd y wisg i mewn i hunaniaeth Cymru, a sicrhau y byddwch yn dal i weld yr hetiau du a’r siolau gwlân yn ystod dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yng Nghymru ar y cyntaf o Fawrth.

Mwy o wybodaeth:

Sublime Wales (gwefan sy’n cael ei rhedeg gan Michael David Freeman, yn ymchwilio i sylwadau ar ddiwylliant materol Cymru gan dwristiaid i Gymru, 1700-1900)

Amgueddfa Werin Sain Ffagan (rhan o Amgueddfa Cymru)

Straeon cysylltiedig