Mae'r canllaw arddull gweledol hwn wedi'i greu i ddangos sut y dylai cydrannau testun a chyfryngau gael eu defnyddio i greu tudalennau erthyglau ar gyfer gwefannau Wales.com a Croeso Cymru. Dylid dilyn y canllawiau isod er mwyn sicrhau ansawdd a chysondeb ar draws ein cynnwys.

Dylech gyfeirio hefyd at y canllaw tôn llais a’r gynulleidfa darged a'r canllaw iaith ac arddull wrth greu cynnwys golygyddol. 

Elfennau erthyglau safonol

Mae System Rheoli Cynnwys Porth Cymru yn defnyddio nifer o flociau, neu gydrannau cynnwys testun a chyfryngau i adeiladu tudalennau erthyglau. Defnyddir enghreifftiau isod gyda chanllawiau arfer gorau ar sut i'w defnyddio.

Mae'r dull adeiladu cydrannol o greu erthyglau yn caniatáu hyblygrwydd i ddefnyddio cyfuniadau gwahanol o gydrannau i arddangos cynnwys mewn nifer o ffyrdd, ond yr eitemau sydd wedi'u marcio gyda * yw'r gofynion sylfaenol ar gyfer pob tudalen erthygl a gyhoeddir.

Metadata*

Teitl tudalen meta*

Mae'r testun hwn yn ymddangos yn y bar teitl ym mhorwr gwe ymwelwyr pan fyddant yn edrych ar y dudalen. Gellir ei ddefnyddio hefyd fel teitl y dudalen pan fydd ymwelydd yn rhoi nod llyfr ar y dudalen neu'n ei nodi fel ffefryn, neu fel teitl y dudalen mewn canlyniad peiriant chwilio.

Dylai'r fformat bob amser ddilyn y patrwm yma - Teitl y dudalen | Enw’r safle

Mae modd llunio’r teitl mewn un neu ddwy ran er mwyn disgrifio'r dudalen  yn well – Beth i’w wneud yn Aberystwyth | Croeso Cymru, neu Teithio Cymru | Sut i gyrraedd Cymru | Wales.com

Dylai'r teitl llawn, gan gynnwys enw'r safle, fod mewn llythrennau bach yn dilyn priflythyren ac ni ddylai fod yn fwy na 66 o nodau, gan gynnwys bylchau.

Disgrifiad meta*

Mae’r disgrifiad meta yn cael ei ddefnyddio gan beiriannau chwilio i arddangos pwt am y dudalen yn y canlyniadau chwilio. Mae angen iddo fod yn grynodeb byr a chryno o gynnwys y dudalen fel bod defnyddwyr yn gwybod beth i’w ddisgwyl os bydd yn clicio i ymweld â’r dudalen. Ni ddylai'r disgrifiad fod yn fwy na 160 o nodau, gan gynnwys bylchau.

Teitl H1 *

Mae'r teitl H1 yn cael ei ddefnyddio gan beiriannau chwilio i ddeall beth yw'r cynnwys, felly defnyddiwch eiriau allweddol ac iaith ddisgrifiadol.

Mae'n ymddangos ar y dudalen o fewn y faner liw, uwchben y testun rhagarweiniol. Anelwch am 20-70 o nodau, gan gynnwys bylchau.

Rhaid i'r H1 weithio gyda'r teitl golygyddol heb ei ddyblygu, gan fod y ddau yn ymddangos ar dudalen yr erthygl gyda'i gilydd. Rhaid iddo hefyd weithio gyda'r testun allanol, heb ei ddyblygu, gan fod y ddau yn ymddangos gyda'i gilydd yn y canlyniadau chwilio ac ar dudalennau pwnc awtomataidd (a gynhyrchir gan dagiau).

Testun allanol*

Mae’r testun hwn yn ymddangos ar y dudalen hafan, tudalennau adran a rhestrau erthyglau cysylltiedig. Defnyddir hwn i hyrwyddo'r erthygl. Anelwch am 70-100 o nodau.

Dylai'r copi fod yn apelgar, gan ddefnyddio galwad i weithredu a geiriau allweddol disgrifiadol e.e. "Dewch i wybod mwy am sut mae cenhadaeth werdd Riversimple yn ceisio newid y ffordd rydyn ni'n gyrru."

Tagiau*

Ni ddylech ddefnyddio mwy na phump o dagiau ar gyfer y cynnwys, gan ddewis y tagiau mwyaf perthnasol i ddisgrifio'r dudalen.

Proffil yr awdur

Pan fydd awdur yn llunio erthyglau yn y person cyntaf dylid cynnwys proffil awdur. Mae hwn yn cael ei greu ar wahân yn y System Rheoli Cynnwys ac mae'n cael ei ddangos yn y faner liw ar ochr dde uchaf y dudalen.

Mae proffil yr awdur yn cynnwys:

  • llun pen - lliw, o’r pen neu’r pen ac ysgwyddau. Lle nad oes delwedd ar gael dylid defnyddio 'Noprofileimage.jpg';
  • enw – dylid cynnwys teitl os yw’n berthnasol – yr Athro/Dr, enw cyntaf a chyfenw. Defnyddiwch briflythyren dim ond ar ddechrau’r frawddeg i fewnbynnu, ond bydd yr holl beth yn ymddangos ar y dudalen mewn priflythrennau;
  • bywgraffiad byr - disgrifiad un neu ddwy frawddeg – anelwch am 30-40 o eiriau – gan esbonio pwy yw'r awdur, canolbwyntio ar y profiad neu'r sgiliau sy'n ei wneud yn llais awdurdodol ar y pwnc dan sylw. Dylid osgoi dyblygu'r enw yn y copi bywgraffyddol.

Lleoliad

Os yw’ch erthygl yn ymwneud â lleoliad penodol, dewiswch un lleoliad o'r gwymplen.

Nid oes opsiwn ar gyfer cynnwys Cymru gyfan neu gynnwys aml-leoliad. Os yw eich erthygl yn erthygl Gymru gyfan neu'n aml-leoliad, gadewch y maes hwn yn wag.

Mae nam ar hyn o bryd yn yr adran hon ar Wales.com YN UNIG felly nid yw'r lleoliadau'n ymddangos yn y gwymplen. Rydym yn mynd i’r afael â hyn a chaiff ei diweddaru unwaith y byddwn wedi datrys y broblem.

Teitl golygyddol*

Dylai'r teitl golygyddol ennyn chwilfrydedd, dylai fod yn ddeniadol a dylai wneud i'r defnyddiwr fod eisiau darllen mwy. Ond ni ddylai fod mor annelwig fel ei fod yn ddryslyd. Mae'n ymddangos ar dudalen dros y brif ddelwedd ar frig yr erthygl. Anelwch am 20-50 o nodau, gan gynnwys bylchau. Defnyddiwch briflythyren ar ddechrau’r frawddeg bob tro ond peidiwch ag ychwanegu atalnod llawn ar y diwedd.

Testun rhagarweiniol*

Mae'r testun rhagarweiniol yn ymddangos yn y faner liw o dan y teitl H1, ar frig tudalen yr erthygl. Dylai grynhoi hanfod yr erthygl. Os yw'r copi'n cynnwys enw person sy'n ymddangos yn yr erthygl, dylai fod mewn print trwm, ond heb ei italeiddio. Ni ellir cynnwys dolenni. Anelwch am 180-250 o nodau.

Prif ddelwedd meta (map)

Os yw erthygl yn ymwneud ag un rhanbarth o Gymru, defnyddiwch  ddelwedd y map rhanbarthol perthnasol. Mae delwedd y map yn ymddangos ar ochr dde uchaf y pennawd, uwchben y tagiau.

Defnyddiwch naill ai fersiwn gwyn neu ddu’r map i gyd-fynd â lliw testun y teitl a sicrhau'r cyferbyniad gorau posibl ar gyfer hygyrchedd.

Nid oes delwedd map ar gyfer Cymru gyfan, os yw eich erthygl yn ymwneud â Chymru gyfan, peidiwch â chynnwys prif ddelwedd meta.

Arddull thema*

Dylai'r arddull thema a ddewiswyd ar gyfer y faner ategu’r brif ddelwedd, gan ddewis lliw pwyslais, yn hytrach na defnyddio prif liw y ddelwedd ei hun.

Mae yna 12 o liwiau thema i ddewis ohonynt. 

  • Fagddu
  • Llechen sych (llwyd)
  • Llechen wlyb (brown)
  • Glas Portmeirion (glas golau)
  • Cors Penclawdd (gwyrdd golau)
  • Gwyrdd Pumlumon (gwyrdd llachar)
  • Aur Dolgellau (oren)
  • Porffor Epynt (llachar)
  • Porffor Penrhyn (porffor dwfn)
  • Glas Abereiddi (glas dwfn)
  • Oren Porth Dinllaen (llachar)
  • Draig Goch

Cynnwys yr erthygl*

Caiff prif destun yr erthygl a ddangosir ar y dudalen erthygl ei 'adeiladu' gan ddefnyddio blociau cydrannol. Gellir ychwanegu cydrannau 'testun cyfoethog/rich text' gydag is-benawdau 'H2/H3 ', 'Dyfyniadau/Quotes', 'Google Maps' (un lleoliad yn unig), a phostiadau cyfryngau cymdeithasol wedi'u mewnosod (Twitter, Facebook ac Instagram).

Gall erthyglau ddefnyddio testun, penawdau a pharagraff esboniadol; dilyn fformat cwestiwn - ateb neu fformat rhestru. Bydd hyd a fformat yr erthygl yn dibynnu ar y math o gynnwys a phwnc yr erthygl. 

Dylai mapiau, delweddau, fideo, dyfyniadau a mewnbynnau cyfryngau cymdeithasol bob amser ddod ar ôl bloc testun cyfoethog, nid yn syth ar ôl pennawd/is-bennawd.

Testun cyfoethog*

Testun o fewn bloc testun cyfoethog ac sy’n gwneud defnydd o fformatio sylfaenol gan gynnwys:

  • print trwm;
  • italig;
  • tanlinellu;
  • pwyntiau bwled.

a

  1. bwledi wedi'u rhifo
  2. xx
  3. xx

Dylid ychwanegu dolenni mewnol ac allanol at gopi testun cyfoethog, gan ddefnyddio'r fformatau canlynol:

  • mewnol - dolen rhwng tudalennau drwy ddefnyddio'r nod (/nod/xxxxxx)
  • allanol - dolen i safle allanol gan ddefnyddio'r url llawn (https://xxx).

Gweler yr adran 'Hygyrchedd' yn y canllaw iaith ac arddull ar gyfer y canllawiau arfer gorau ar ychwanegu dolenni at gorff y testun.

Defnyddir ffont Cymru ar gyfer penawdau, oni bai bod gair Saesneg (enw person neu cwmni) yn y pennawd. 

Peidiwch â defnyddio'r opsiwn 'drop cap' ar ddechrau paragraffau.

Cyfeiriwch at y canllaw iaith ac arddull er mwyn sicrhau defnydd cyson o arddull iaith a fformatio.

Penawdau: Mae penawdau H2 yn edrych fel hyn

Mae penawdau H3 yn edrych fel hyn

Dylid defnyddio priflythyren ar ddechrau brawddeg bob tro ar gyfer teitlau, penawdau ac isdeitlau.

Defnyddiwch y Confensiwn H2/3 canlynol ar gyfer cysondeb a hygyrchedd:

  • defnyddio H2 ar gyfer penawdau;
  • defnyddio H3 ar gyfer unrhyw is-benawdau o dan bennawd H2.

Dyfyniadau o’r erthygl

Gellir defnyddio dyfyniad o’r erthygl i amlygu dyfyniadau uniongyrchol yn y person cyntaf, neu erthyglau llais Cymru (3ydd person).

Dylid cadw dyfyniadau'n fyr a'u cyfyngu i un neu ddwy frawddeg. Dylid defnyddio'r gydran dyfyniad i grisialu’r erthygl. Dylai'r testun a ddyfynnir ailadrodd copi o'r testun cyfoethog fel dyfyniad, yn hytrach na’i ddefnyddio fel rhan o’r prif destun.

Mae dyluniad y dyfyniad yn cynnwys dyfynodau dwbl ar ddechrau ac ar ddiwedd y testun a ddyfynnir. Dylid ychwanegu llinell enw’r awdur hefyd ar gyfer pob dyfyniad.

Bydd angen i chi hefyd ddewis arddull/lliw cefndir ar gyfer y dyfyniad. Dylai hyn ategu neu gydweddu â’r arddull thema/lliw a ddewiswyd ar gyfer y brif faner.

Dylid cadw dyfyniadau'n fyr a'u cyfyngu i un neu ddwy frawddeg.”

Google Maps

Mae mapiau Google yn ychwanegu ‘naws am le' ac yn ffordd dda o ddarparu cyd-destun daearyddol defnyddiol i erthygl ar gyfer y darllenydd.

Dylech ond ychwanegu un map at dudalen gan eu bod yn cyfrannu'n sylweddol at bwysau'r dudalen a chyflymder y llwytho.

Ar hyn o bryd, mae ond yn bosibl cynnwys un lleoliad ar fap, ond mae mapiau aml-leoliad wrthi'n cael eu datblygu.

Wrth ddefnyddio map mewn erthygl, dylech ei gynnwys naill ai:

  • o dan yr eitemau perthnasol mewn rhestr, neu;
  • yn agos i ddechrau'r erthygl/uwchben y paragraff agoriadol (os yw'n ymwneud â'r erthygl gyfan).

51.481581, -3.17909

Calendr

Gellir defnyddio'r botwm Calendr i alluogi defnyddwyr i ychwanegu manylion digwyddiad yn hawdd i'w calendr digidol personol (Calendr Apple, Calendr Google, Calendr Outlook, Calendr Yahoo ac ati).

Dylid ychwanegu is-bennawd a thestun uwchben y botwm calendr gyda gwybodaeth am y digwyddiad. Dylid ychwanegu enw, dyddiad ac amser y digwyddiad, y lleoliad a'r testun disgrifiad ym motwm y calendr.

Ychwanegir y manylion yng nghalendr y defnyddwyr pan fyddant yn clicio ar y botwm i ychwanegu'r digwyddiad at eu calendr.

Dyma'r botwm calendr

Cliciwch ar y botwm i'w ychwanegu i'ch calendr

Mewnosod negeseuon cyfryngau cymdeithasol

Gellir ymgorffori negeseuon Twitter, Facebook neu Instagram mewn erthygl i ychwanegu dyfnder a diddordeb ychwanegol, drwy ddefnyddio URL y neges unigol.

Peidiwch â chynnwys unrhyw god mewnosod ychwanegol. Dylai'r URL fod yn y fformat canlynol:

Twitter: https://twitter.com/accountname/status/postid e.e. https://twitter.com/visitwales/status/1192523378479058945

Instagram: https://www.instagram.com/p/postid/e.e. https://www.instagram.com/p/B4k37dWhsMw

  • Sicrhewch fod gan y neges Facebook ganiatâd 'Cyhoeddus' - wedi'i nodi gan eicon glôb wrth ymyl y'r amser / dyddiad postio;
  • Dewiswch negeseuon gan sefydliad/digwyddiadau/cyfrifon cynnyrch sydd wedi'u dilysu neusy’n swyddogol, lle bynnag y bo modd, yn hytrach na chyfrifon gan unigolion;
  • Dylid gwirio sylwadau ar negeseuon i sicrhau nad ydynt yn rhai amhriodol;
  • Dylid osgoi defnyddio delweddau o blant lle nad oes gennym ganiatâd penodol gan rieni/warcheidwaid;
  • Dylid defnyddio blociau o destun cyfoethog rhwng mewnosodiadau i greu gofod a gwahaniaethu rhwng negeseuon/sianeli.

Mewnosod fideo allanol

Caiff fideo ei ychwanegu gan ddefnyddio'r gydran fideo allanol. Rhaid bod y fideo wedi ei gynnal ar YouTube a'i ychwanegu at y llyfrgell cyfryngau Drupal (y System Rheoli Cynnwys) cyn y gellir ei ymgorffori o fewn erthygl.

Wrth fewnosod fideo allanol (YouTube) mewn erthygl, dylech ei gynnwys naill ai:

  • o dan yr eitem berthnasol mewn rhestr, neu;
  • yn agos i ddechrau'r erthygl/uwchben y paragraff agoriadol (os yw'n ymwneud â'r erthygl gyfan).

Nid yw’r testun disgrifiadol yn cael ei gymryd yn awtomatig o YouTube felly dylid ei ychwanegu yn y System Rheoli Cynnwys. Anelwch am 70-100 o nodau, gan gynnwys bylchau, a defnyddiwch atalnod llawn ar y diwedd.

Mae'r disgrifiad yn ymddangos yma. Anelwch am 70-100 o nodau gan gynnwys bylchau ac atalnod llawn ar y diwedd.

Delweddau*

Mae delweddau yn hynod o bwysig i'n cynnwys. Ein nod yw 'dangos' yn hytrach na dweud gyda geiriau yn ogystal â delweddau a fideo.

Mae'n rhaid i bob delwedd gydymffurfio â Chanllawiau Ffotograffiaeth Brand Cymru a chael eu cyflwyno i’r tîm cymorth delweddau, ynghyd â metadata, cliriad hawlfraint a ffurflenni caniatâd, i'w storio a’u mynegeio yn Llyfrgell Asedau Digidol Cymru Wales, cyn y gellir eu defnyddio mewn erthyglau ar y we.

Mae angen prif ddelwedd gref o ansawdd rhagorol er mwyn ei harddangos ar frig yr erthygl, ynghyd â delweddau ategol ar gyfer corff y testun. Bydd y brif ddelwedd yn cael ei harddangos ar dudalen hafan/adran, ynghyd â'r teitl golygyddol a chopi testun allanol, i arddangos yr erthygl ar dudalennau adrannol ac yn y canlyniadau chwilio, felly dylai grisialu hanfod yr erthygl.

Mae'n rhaid i ddelweddau i'w defnyddio ar y wefan ddilyn y cyfarwyddiadau yma:

  • isafswm o 1920px (lled neu uchder, yn dibynnu ar ba ffordd y dangosir y llun)
  • Maint mwyaf y ffeil yw 4mb, anelwch am lai na 2mb i leihau pwysau’r dudalen ac amser llwytho.

Dylai erthyglau gynnwys o leiaf tair delwedd ategol – mwy yn ddelfrydol, wedi'u rhannu drwy'r erthygl i ddangos y 'stori' gan ychwanegu diddordeb a dyfnder at y testun.

Peidiwch â defnyddio ffotograffiaeth wedi’i dyddio gan y bydd hyn yn amharu ar ansawdd yr erthygl.

Sicrhewch fod y canolbwynt gorau wedi'i ddewis, gan ddefnyddio'r offeryn dewis canolbwynt o fewn y System Rheoli Cynnwys, i sicrhau'r golwg gorau o'r ddelwedd ar sgriniau o bob maint. 

Defnyddiwch gymysgedd da o luniau sengl, portread, tirwedd a lluniau sy’n llifo i ymylon y dudalen lle bo'n briodol. Mae yna 10 arddull arddangos delwedd gwahanol, ac mae enghraifft o bob un isod.

Arddull arddangos delweddau

adeilad gydag ysgrifen a thŵr gyda drychau (Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd).
1 image - 16:9 - Large, full bleed
adeilad gydag ysgrifen a thŵr gyda drychau (Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd).
1 image - 16:9 - Medium size
adeilad gydag ysgrifen a thŵr gyda drychau (Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd).
1 image - 4:3 - Medium size
adeilad gydag ysgrifen a thŵr gyda drychau (Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd).
1 image - 16:9 - Small size
adeilad gydag ysgrifen a thŵr gyda drychau (Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd).
1 image - 4:3 - Small size
pobl yn cerdded ar lwybr bordiau gyda dŵr a chychod yn y cefndir.
adeilad gydag ysgrifen a thŵr gyda drychau (Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd).
2 images - portrait
adeilad gydag ysgrifen a thŵr gyda drychau (Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd).
pobl yn cerdded ar lwybr bordiau gyda dŵr a chychod yn y cefndir.
2 images - Landscape 
adeilad gydag ysgrifen a thŵr gyda drychau (Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd).
pobl yn cerdded ar lwybr bordiau gyda dŵr a chychod yn y cefndir.
Tu allan i Gastell Caerdydd yn y nos
3 images - Portrait

Manylion cydnabyddiaeth delweddau*

Dylai lluniau Cymru Wales i gyd ddefnyddio cydnabyddiaeth ddwyieithog yn unol â’r fformat canlynol:

© Hawlfraint y Goron/Crown Copyright

Dylai delweddau trydydd parti ddefnyddio'r fformat canlynol:

© ac yna enw perchennog yr hawlfraint

Os oes angen, dylai ffotograffwyr gael eu cydnabod cyn perchennog yr hawlfraint:

Enw'r ffotograffydd/© enw perchennog yr hawlfraint

Capsiynau/disgrifiadau asedau cyfryngau*

Rhaid i bob delwedd fod â disgrifiadau testun amgen ‘alt text’ ar gyfer hygyrchedd.

Mae angen pennawd disgrifiadol a fydd yn ymddangos ar y dudalen ar gyfer delweddau a hefyd ar gyfer fideo YouTube sydd wedi'i fewnosod. Dylech gynnwys lleoliad lle bynnag y bo'n bosibl i roi cyd-destun ac ymdeimlad o le.

Cynnwys cysylltiedig

Dylid cynnwys dolenni i gynnwys cysylltiedig o fewn copi testun cyfoethog yr erthygl lle bynnag y bo'n berthnasol ond yn arbennig tua’r diwedd, er mwyn arwain defnyddwyr at fwy o'n cynnwys, neu at safle allanol os yw'n berthnasol.

Er enghraifft: Dysgwch fwy am yr uchafbwyntiau a'r anturiaethau sydd i’w cael ar hyd Ffordd y Gogledd.

Ewch i AdventureSmart UK  i gael gwybodaeth am sut i aros yn ddiogel ar eich anturiaethau yng Nghymru.

Cydrannau erthyglau cysylltiedig

Mae'r bloc 'Straeon cysylltiedig', sy'n ymddangos ar waelod pob tudalen erthygl, yn cael ei boblogi'n awtomatig gydag erthyglau mewnol/o’r un safle sydd â’r un tagiau pwnc. Mae modd dethol erthyglau golygyddol o’ch dewis chi i ymddangos gan ddefnyddio'r gydran 'erthyglau cysylltiedig/related articles'.

Gellir dewis uchafswm o bedair erthygl, a dylid eu hychwanegu yn y drefn resymegol a chyson ganlynol:

  • yr erthyglau mewnol/o’r un safle mwyaf perthnasol;
  • yr erthyglau mewnol-chwaer safleoedd mwyaf perthnasol;
  • erthyglau safle allanol mwyaf perthnasol.

Ceisiwch osgoi ailadrodd dolenni o destun y corff mewn detholiad golygyddol.

Pan fo llai na phedair erthygl wedi'u dewis yn olygyddol bydd y bylchau sy'n weddill yn poblogi'n awtomatig gydag erthyglau mewnol/o’r un safle gyda'r un tagiau pwnc.

Straeon cysylltiedig