Mae ein llais yn rhan bwysig o’n brand. Mae’n dangos pwy ydyn ni i’r byd, yn y ffordd y byddwn ni’n siarad ac yn ysgrifennu. Fel arfer, dyma’r peth cyntaf y bydd pobl yn ei weld neu’n ei glywed, felly mae’n bwysig ein bod yn gwneud hyn yn iawn ac yn creu argraff dda o’r cychwyn cyntaf.

Mae ein llais yn cynnwys y geiriau rydyn ni’n eu defnyddio, y geiriau rydyn ni’n eu hosgoi a’r ffordd y byddwn ni’n llunio ein brawddegau. Mae’n dod o’n personoliaeth. A daw hynny o’n gwerthoedd.

Y brand yn gryno

Gwerthoedd y brand, yn gryno, yw: Gwreiddiol; Creadigol; Byw.

Gwreiddiol: Gwlad go iawn, gwlad agored a gonest. Mae Cymru wedi’i chodi ar seiliau balch ei hanes a’i threftadaeth, ac wedi’i saernïo gan dirwedd hardd a thrawiadol. Mae cymuned, diwylliant a chynefin yn bwysig i ni ac rydyn ni am arwain y byd yn y ffordd rydyn ni’n eu gwarchod. Dyma’r adnoddau sy’n ein cynnal: twf gwyrdd, allforion creadigol byd-eang, atyniadau antur, cynnyrch lleol o safon. Ein gwreiddioldeb ni yw’r allwedd i’n dyfodol.

Creadigol: Creadigrwydd sydd wrth wraidd ein llwyddiant fel cenedl. Mae ein diwylliant cyfoethog a pharhaus yn ffynnu: ym myd cerddoriaeth, llenyddiaeth, celf, ffilm, teledu a theatr. Ond mae’n llawer mwy na hynny. Ble bynnag yr edrychwch yng Nghymru, mae syniadau newydd ar waith. Mae’n digwydd mewn stiwdios dylunio ac mewn hen loddfeydd llechi, ffatrïoedd a labordai ar draws y wlad. Mae ysbryd mentrus ar droed. Mae hyn yn fwy na breuddwydio – rydyn ni’n gwireddu ein breuddwydion.

Byw: Mae Cymru ar ei newydd wedd. Gyda’r gorffennol yn ysbrydoliaeth, rydyn ni’n edrych i’r dyfodol gyda chyfrifoldeb a chreadigrwydd. Mae ein tir yn fyw o natur ac o antur. Mae dychymyg byw yn sail i’n diwylliant. Mae’n cymunedau’n fwrlwm o arloesi a chyfleoedd. Mae cenhedlaeth newydd yn buddsoddi mewn dyfodol disglair a chynaliadwy wedi’i bweru gan dalent a sgiliau. Egni. Bywyd. 

Mae’r canllaw Cymraeg hwn wedi’i seilio ar fersiwn Saesneg Visit Wales: language and style guide ac yn cynnwys pwyntiau ychwanegol ar ramadeg, cystrawen a chywair a allai fod o gymorth wrth ddrafftio yn Gymraeg. Rydyn ni’n argymell Arddulliadur Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cyngor ac arweiniad manylach.

Gellir hefyd ddarllen am cynulleidfa darged a thôn llais Croeso.Cymru

Acronymau

Peidiwch â defnyddio atalnodau llawn mewn acronymau: BBC; UEFA.

Nid oes angen dilyn y Saesneg a defnyddio acronym yn y testun Cymraeg bob tro y ceir un yn Saesneg. Os na fydd yr acronym yn gyfarwydd, y peth gorau yw cynnig yr enw llawn y tro cyntaf a rhoi’r acronym ar ei ôl mewn cromfachau. Yn achos WG (Welsh Government) – yn hytrach na gorddefnyddio ‘LlC’, gellir rhoi ‘Llywodraeth Cymru’ am y tro cyntaf ac yna ‘y Llywodraeth’ wedyn (oni bai bod amwysedd).

Peidiwch â chreu acronymau Cymraeg ar gyfer enwau cyrff neu fudiadau os nad ydynt yn eu defnyddio eu hunain. Defnyddiwch yr enw llawn yn Gymraeg ond yr acronym Saesneg. (Ni fydd angen cynnwys y teitl llawn Saesneg hefyd er mwyn esbonio’r acronym.)

Peidiwch â threiglo llythyren gyntaf yr acronym. 

Dylid ysgrifennu 'pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig' yn hytrach na BAME. 

Osgowch ee - mae'n well ysgrifennu er enghraifft. 

Ampersand

Peidiwch â defnyddio ‘&’ mewn unrhyw destun Cymraeg (na Saesneg) oni bai ei fod yn rhan o enw cwmni (P&O).

Atalnodi, ffont a gofod

Atalnodau llawn: Peidiwch â defnyddio atalnodau llawn mewn talfyriadau – ‘ee’ a ‘hy’, nid ‘e.e.’ a ‘h.y.’. Dr Jones, nid Dr. Jones.

Pwyntiau bwled: Pan fyddwch chi’n defnyddio pwyntiau bwled dylech:

  • dreiglo llythyren gyntaf y pwynt bwled cyntaf ond peidio â threiglo’r gweddill;
  • defnyddio gwahannod yn lle pwynt bwled crwn;
  • dechrau’r pwyntiau bwled gyda llythrennau bach;
  • defnyddio hanner colon ar ddiwedd pob pwynt bwled; a
  • rhoi atalnod llawn ar ddiwedd y pwynt bwled olaf.

Ffont: Mae gan Croeso Cymru ei ffont ei hun ond ein tîm dylunio mewnol sy’n gosod y testun yn ei le gyda’r ffont hwn. Dylai pob dogfen fod mewn Arial 12.

Dyfynodau: Dylid defnyddio dyfynodau sengl ar ddechrau ac ar ddiwedd dyfyniad. Rhowch atalnodau llawn a chomas oddi mewn i’r dyfyniad os bydd y frawddeg gyfan yn ddyfyniad; fel arall mae’r atalnodi y tu allan – dywedodd Cerys: ‘mae angen i chi ddiweddaru’ch arddulliadur’.

Mewn penawdau a thestun arddangos, dyfynodau sengl ar gyfer unrhyw ddyfyniadau.

Gofod: Un bwlch ar ôl atalnod llawn, nid dau.

Bras ac italig

Defnyddiwch deip bras i dynnu sylw at enw’r person sy’n bwnc yr erthygl yn y paragraff cyntaf.

Peidiwch â defnyddio italig ar gyfer y paragraff sy’n cyflwyno’r erthygl.

Heblaw am yr uchod, fyddwn ni ddim yn defnyddio teip bras mewn testun cyffredin ar ein gwefannau.

Pan fyddan nhw’n gwella eglurder ac i helpu i dynnu sylw, byddwn ni’n defnyddio teip italig i bwysleisio geiriau mewn brawddeg, ond yn brin. Dyma enghraifft yn yr erthygl hwn am leoedd anarferol i aros:

“Nawr am ambell ddewis gwirioneddol wahanol. Yng ngwersyll Willows ar Ben Llŷn yng Ngogledd Cymru, sydd wedi ennill gwobrau, gallwch aros mewn Pabell Hobbit sydd wedi’i hinsiwleiddio’n llawn, sy’n ymdebygu i diwb pren crwn. Mae Glampio Penhein, sy’n fusnes teuluol yn harddwch Dyffryn Gwy yn cynnig ‘alachighs’ Persiaidd - pebyll â nenfwd cromennog uchel, gwelyau cyfforddus (rhai go iawn) a thanau stôf llosgi coed i’ch cadw’n glyd.”

Cynhwysiant

Mae’n bwysig ysgrifennu ar gyfer ac am bobl eraill mewn ffordd sy’n dosturiol, yn gynhwysol ac yn dangos parch.

Peidiwch â chyfeirio at oedran neu anabledd oni bai ei fod yn berthnasol i’r hyn sy’n cael ei ysgrifennu.

Osgowch iaith sy’n dangos rhywedd a defnyddiwch y ffurf unigol ‘nhw’.

Wrth ysgrifennu am unigolyn, defnyddiwch y rhagenw a ffafrir ganddynt; os nad yw hwn yn wybyddus, defnyddiwch eu henw yn unig.

I gael mwy o fanylion gweler y Canllaw Arddull Ymwybodol.

Hefyd, gweler y canllawiau pellach isod am fodel cymdeithasol anabledd.

Cynnyrch twristaidd

Mae Croeso.Cymru yn ffenest siop ar gyfer Cymru er mwyn tyfu ein heconomi a hybu ein cymunedau. Pwyslais y safle yw darganfod Cymru a’i rhanbarthau, nid hybu unrhyw fusnes unigol.

Wrth gynhyrchu cynnwys ein nod yw cael amrywiaeth ddaearyddol ar draws ein cynnwys i arddangos y gorau o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig ar lefel eang. Pan fyddwn ni’n defnyddio rhestrau, rhaid i ni gynnwys amrywiaeth ranbarthol dda a’u cyflwyno fel ‘rhaid gwneud’, ‘deg peth gwych’ neu ‘peidiwch â cholli’ yn hytrach na’ deg uchaf’ neu ‘pump o’r gorau’. Pan fydd erthyglau’n cael eu hawduro gan gyfranwyr allanol, byddwn ni’n parchu dewis golygyddol ac felly gall rhestrau mewn achosion o’r fath fod yn ddewisiadau personol a gefnogir gan brofiad.

Pan fydd cynnyrch yn cael ei drafod, er mwyn sicrhau ansawdd a diogelwch, rhaid i ni sicrhau fod gan fusnesau’r achrediad, gradd neu safonau diwydiant angenrheidiol er mwyn gallu’u cynnwys.

Ein dull o weithredu yw hybu unrhyw le caiff ei ystyried yn gryf i bwrpasau marchnata twristiaeth, ond dylem wneud pwynt o roi sylw i leoedd sy’n cynnig bwyd a diod o Gymru ble bynnag y gallwn.

Sut i wirio:

Mae pob llety, gweithgaredd, atyniad a digwyddiad a restrir ar fas data chwilio Visit Wales yn cwrdd â’r meini prawf gofynnol, felly'r ffordd hawsaf o wirio yw defnyddio’r swyddogaeth chwilio ar y safle.

Gellir dod o hyd i’r radd hylendid ar gyfer busnesau bwyd gan ddefnyddio’r swyddogaeth chwilio ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Gall tîm Bwyd a Diod Cymru roi help a chyngor o ran busnesau sy’n cynhyrchu ac yn gweini cynnyrch gwych o Gymru.

Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Ni ddylid defnyddio’r acronym ‘BAME’, yn hytrach dylid ysgrifennu’r ymadrodd yn llawn fel ‘Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig’. Ar gyfer unrhyw gyfeiriad dilynol yn yr un cyfathrebiad, dylid defnyddio ‘lleiafrif ethnig’ neu ‘cymunedau / staff lleiafrif ethnig’.

Enwau

Adeiladau: Os oes enwau Cymraeg swyddogol ar adeiladau, dylid eu defnyddio.

Os nad oes enwau Cymraeg swyddogol, mae’n dderbyniol eu cyfieithu oni bai bod yr enw Saesneg wedi’i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau, neu fod nod masnach arno, ee Celtic Manor Resort. Mewn achos o’r fath gellid defnyddio ‘gwesty’r Celtic Manor Resort’.

Afonydd: Gydag enwau afonydd, yr arferiad yn Saesneg yw gosod y fannod o flaen yr enw: the Taff neu the River Taff. Yn Gymraeg yr arferiad yw rhoi 'afon' yn unig: Afon Taf, Afon Teifi, Afon Ogwen, nid yr Afon ... .

Cenedl enwau: Weithiau bydd pobl yn cymysgu cenedl enwau a rhyw, ond label yw ‘gwrywaidd’ a ‘benywaidd’. Cysyniad gramadegol yw cenedl ac nid yw’n cyfleu rhyw, felly er mwyn cadw’n niwtral, defnyddiwch yr enw yn diweddu yn -ydd neu -wr: peidiwch â defnyddio -wraig. Gallwch geisio osgoi hyn drwy ddefnyddio ffurfiau lluosog, os yw’n swnio’n well.

Croeso Cymru (neu Visit Wales yn y fersiwn Saesneg) a ddefnyddir ar ein cyfer ni bob tro. Yr hashnodau yw #FyNghymru a #CroesoCymru 

Dyddiau/misoedd: Defnyddiwch briflythyren ar gyfer dyddiau’r wythnos, misoedd y flwyddyn a gwyliau crefyddol.

Er enghraifft: mis Medi, dydd Sadwrn

Ond nid: Mis Medi, Dydd Sadwrn

Autumn = yr hydref

October = mis Hydref

England and Wales: Cymru a Lloegr. Rydym yn rhoi blaenoriaeth i Gymru/llefydd yng Nghymru.

Gwlad - enw/ansoddair?

Yn draddodiadol rydym yn defnyddio enwau gyda'i gilydd i adlewyrchu perthynas, lle bydd Saesneg yn defnyddio ansoddeiriau: Senedd yr Alban – the Scottish Parliament, Pobl Ffrainc – the French People, Arfordir Cymru – the Welsh Coast, Bwydydd o Gymru – Welsh Foods.

Lleoedd yng Nghymru: Dylech wirio eich bod yn defnyddio ac yn sillafu enwau lleoedd yn gywir. Gallwch ddod o hyd i ffurfiau safonol enwau lleoedd ar wefan y Llywodraeth

Cofiwch wirio’r lleoliad penodol os ydych yn cyfieithu enwau fel Newport neu Newbridge, oherwydd mae mwy nag un ohonynt, ac mae eu henwau Cymraeg yn wahanol!

Teitlau arddangosfeydd, perfformiadau: Dylech ymchwilio i weld a oes teitl Cymraeg swyddogol ar gael a defnyddio hwnnw. Mae’n annhebygol y bydd teitl Cymraeg swyddogol ar ddigwyddiad mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig ond dylid chwilio rhag ofn.

Teitlau llyfrau a chylchgronau: Ni ddylid cyfieithu teitl os nad oes fersiwn Gymraeg ohono.

UK: Defnyddir y Deyrnas Unedig; y DU. Mae’r DU yn cynnwys Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. (Mae Prydain, neu ‘gwledydd Prydain’ yn cynnwys Cymru, Lloegr a’r Alban).

Y/Yr mewn teitl: Mae angen rhoi’r fannod o flaen enwau ieithoedd: y Gymraeg, y Saesneg, yr Eidaleg.

Mae angen rhoi y/yr o flaen teitl neu swydd: yr Athro, y Gweinidog.

Gyda llythyren fach yr ysgrifennir y fannod mewn teitlau neu enwau lleoedd yng nghanol brawddeg: roedd ffair yn y Bala ddoe, nid roedd ffair yn Y Bala ddoe.

Ond mae angen priflythyren mewn cyfeiriad: 25 Stryd y Bont, Y Barri

Ffont

I gefnogi’r ymdeimlad o le a’r profiad diwylliannol o Gymru, mae gennym gasgliad teip unigryw sy’n dilyn awgrym treftadaeth deipograffig y Gymraeg. Mae’r ffont yn gweithredu fel conglfaen i uno hunaniaeth y brand gweledol, gan gynrychioli Cymru gerbron y byd mewn modd dilys a chreadigol.

Rydym wedi adeiladu cyfres o glyffiau a diagraffau sy’n cefnogi’r ymdeimlad o le a chymeriad yn ôl y galw.

  • Defnyddir Cymru / Wales Sans fel ffont pennawd fel arfer
  • Defnyddir Cymru / Wales Serif ar draws copi cynnwys fel arfer

Cafodd ein ffontiau eu datblygu ar y cyd ag asiantaethau hygyrchedd i adolygu ac addasu’r ffont yn ôl y galw.

Defnyddir ffont Cymru ar draws holl deitlau safle Croeso.Cymru. Ar ein safleoedd mewn ieithoedd eraill, dylid ei ddefnyddio ar gyfer geiriau Cymraeg mewn penawdau H2. Ni ddylid ei ddefnyddio ar gyfer penawdau H3 ar y safleoedd hyn, nac mewn copi cyffredinol ar unrhyw safle.

Ffordd Cymru

Mae Ffordd Cymru’n deulu o dair ffordd, gwahanol ond cydweddus, sy’n rhoi mynediad i’r gorau o’n gwlad - Ffordd yr Arfordir, Ffordd Cambria a Ffordd Gogledd Cymru.

Dylid defnyddio prif lythrennau wrth eu defnyddio mewn copi.

Hygyrchedd

Rydym wedi gwneud pob ymdrech i wneud gwefannau Wales.com a Croeso.Cymru yn hawdd i’w defnyddio ac yn hygyrch i bawb. Ein nod fu peri i’r safleoedd lynu wrth ganllawiau WCAG Fersiwn 2 (AA). Gweler y Datganiad Hygyrchedd penodol ar gyfer pob safle, y dolennir iddo o droedlen y safle ar gyfer mwy o fanylion.

Mae ysgrifennu i fod yn hygyrch yn mynd y tu hwnt i wneud popeth ar y dudalen ar gael ar ffurf testun. Mae hefyd yn effeithio ar y modd caiff cynnwys ei drefnu. Torrwch destun yn baragraffau byr i’w gwneud yn hawdd i’w frasddarllen. Defnyddiwch is-benawdau a phwyntiau bwled i arwain darllenwyr drwy’r testun.

Dolenni

Defnyddiwch ddolenni ystyrlon sy’n helpu i ddweud wrth y defnyddiwr i beth yw’r cynnwys cysylltiedig - defnyddiwch enw’r busnes, y wefan neu disgrifiwch y cynnwys mewn geiriau. Peidiwch â defnyddio urls yn eu ffurf lawn, neu ddefnyddio geiriau fel “Cliciwch yma”, ‘Cliciwch am ragor o wybodaeth” neu ‘Darllenwch hwn’. Ysgrifennwch y frawddeg fel y byddech yn gwneud fel arfer a dolennwch eiriau allweddol perthnasol, ,Peidiwch byth â defnyddio llwybrau url fel https://www.sitename.com/ am fod hyn yn anodd i ddefnyddwyr a darllenwyr sgrin eu darllen.

Peidiwch â defnyddio’r fannod (y, yr, ’r) na rhagenwau (ein) wrth ddolennu testun. Er enghraifft:

Ie: Darllenwch y canllaw arddull gweledol i gael manylion.

Na: Darllenwch y canllaw arddull gweledol i gael manylion.

Os bydd dolen yn dod ar ddiwedd brawddeg neu o flaen atalnod, peidiwch â chynnwys yr atalnodi yn y ddolen.

Dylai dolenni cyfryngau cymdeithasol gynnwys enw llawn y cyfrif a’r llwyfan yn y ddolen, felly er enghraifft:

Nid "Gweler tudalen Facebook Croeso Cymru am fanylion”

Ond "Gweler tudalen Facebook Croeso Cymru am fanylion”

Ar gyfer arferion defnydd gweler y canllaw i ddolenni yn yr adran Atalnodi ac elfennau cynnwys isod.

Tagiau ‘Alt’

Mae testun ‘alt’ yn ddull o labelu delweddau. Mae’n arbennig o bwysig i’r bobl sydd ddim yn gallu gweld y delweddau ar ein gwefan ac sy’n dibynnu ar ddarllenwyr sgrin ddeall ein cynnwys. Dylai testun ‘alt’ ddisgrifio’r ddelwedd mewn brawddeg neu ddwy gryno. Dylai pobl sydd ddim yn gweld y ddelwedd fod wedi derbyn yr un wybodaeth â phe baen nhw wedi ei weld Does dim angen i chi ddweud ‘llun o…’ ar ddechrau eich disgrifiad.

Cyferbyniad

Os ydych chi’n creu delweddau â thestun arnyn nhw (e.e. sioe sleidiau delwedd ar gyfer sianelau cymdeithasol) sicrhewch fod digon o gyferbyniad ar y testun i’w wneud yn hawdd ei ddarllen. Defnyddiwch wiriwr cyferbyniad i sicrhau fod eich testun yn ddarllenadwy.

Iaith a Chywair

Acenion

Rhaid defnyddio acenion ar lythrennau lle bo’u hangen. Mae peidio â’u cynnwys nid yn unig yn golygu eich bod yn camsillafu, ond gall wneud yr ystyr yn aneglur.

Ansoddeiriau

Yr arfer yw peidio â defnyddio ffurfiau lluosog fel mawrion, ifainc ac ati, heblaw bod yr ymadrodd yn un cyfarwydd ee: gwartheg duon, mwyar duon, crysau cochion.

Dylid osgoi ffurfiau cymharol y rhan fwyaf o ansoddeiriau (dued, prydferthaf). Mae'r iaith lafar yn gyfarwydd â defnyddio 'mor', 'mwy' a 'mwyaf'.

Ceisiwch osgoi ffurfiau benywaidd ansoddeiriau (ee wen, werdd, lom) oni bai bod y defnydd yn un cyfarwydd iawn.

ar-lein/ar lein – ansoddair: ar-lein (ee holiadur ar-lein); adferfol: ar lein (mynd ar lein)

Berfau

Mae ffurfiau cryno’r ferf fel ‘clywodd y plant’, ‘penderfynodd yr aelodau’ yn ddigon cyfarwydd a syml felly does dim rheswm dros eu hosgoi a defnyddio ffurfiau fel ‘ fe wnaeth y plant glywed’ a ‘fe wnaeth yr aelodau benderfynu’. Ond er mwyn osgoi ffurfiau orlenyddol o’r ferf, defnyddiwch, er enghraifft, ‘fe wnaethon nhw wrthod’ yn hytrach na ‘gwrthodasant’. Dylech osgoi’r ffurfiau ‘bu inni’ ac ati. Mae ‘fe wnaethon ni fwynhau ein hunain’ yn well na ‘bu inni fwynhau ein hunain’.

Mae’r geiryn ‘fe’ yn gweithio’n dda weithiau i helpu llif y frawddeg neu i gryfhau ystyr y ferf sy’n dilyn, ee ‘fe gewch chi ddewis helaeth o westai’.

Cymraeg/Cymreig

Cofiwch mai ystyr Cymraeg yw rhywbeth sy’n ymwneud â'r iaith. Er enghraifft ‘diwylliant Cymraeg' yw'r diwylliant a geir yn yr iaith a 'chaneuon Cymraeg' yw caneuon sydd â geiriau Cymraeg.

Rhywbeth Cymreig yw rhywbeth sy'n perthyn i Gymru ond heb fod o reidrwydd yn yr iaith nac ynghylch yr iaith. ‘Caneuon Cymreig' fyddai caneuon o Gymru heb fod y geiriau iddynt yn Gymraeg o reidrwydd. Pan ddefnyddir ‘Welsh’ ar gyfer unrhyw beth nad yw’n ymwneud â’r iaith o gwbl, defnyddir ‘Cymreig’, ‘gwartheg duon Cymreig’, ond mae’n well defnyddio ‘o Gymru’ fel arfer, er enghraifft ‘Bwydydd o Gymru’ ‘Hanes Cymru’.

Yn aml, wrth ysgrifennu neu gyfieithu ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, gellid hepgor unrhyw ansoddair i gyfleu 'Welsh'. Er enghraifft: ‘This song is based on the Welsh legend of Cantre'r Gwaelod’ - ‘Mae'r gân hon yn seiliedig ar chwedl Cantre'r Gwaelod’.

Cysylltnodau

Yn gyffredinol, mae angen cysylltnod mewn cyfansoddeiriau pan fo’r ail elfen yn air unsill. Yn gyffredinol, nid oes angen y cysylltnod mewn cyfansoddeiriau pan fo’r ail elfen yn cynnwys mwy nag un sill, er enghraifft, di-waith, diweithdra; ail-greu, ailadrodd.

Rhowch gysylltnod gyda chysyllteiriau sy’n cynnwys y rhagddodiad ‘e’ i gyfleu electronig: e-bost, e-bostio, e-lywodraeth, e-fasnach.

Cywair

Yn gyffredinol mae Llywodraeth Cymru fel corff yn mabwysiadu cywair ffurfiol gyda dogfennau fel adroddiadau a phapurau. Bydd wedyn yn defnyddio cywair llai ffurfiol gyda datganiadau i’r wasg, posteri ac ymgyrchoedd cyhoeddus, er enghraifft. Felly o ran gwaith Croeso Cymru mae cywair anffurfiol yn gweddu i’r dim i’n negeseuon a’n deunydd i’r cyhoedd. Yn bennaf oll, y nod yw iaith glir a syml gydag ystwythder a naws agos atoch. Cofiwch:

  • Byddwch yn fyr ac yn gryno;
  • Defnyddiwch iaith a chystrawen syml;
  • Byddwch yn gyson gyda’r cywair (ee peidiwch â chymysgu pethau fel Rwyf i/Rydw i);
  • Ceisiwch beidio â defnyddio gormod o ferfau amhersonol;
  • Rhannwch frawddegau aml-gymalog yn frawddegau llai;
  • Peidiwch â glynu’n rhy gaeth wrth gystrawen y Saesneg.

Dyma enghreifftiau o gywair anffurfiol:

Rydw i/Dydw i ddim

Rwy’n

Dw i/Dw i ddim

Rwyt ti/Dwyt ti ddim

Mae e/Dydy e ddim

Dyw e ddim

Mae hi/Dydy hi ddim

Dyw hi ddim

Rydyn ni/Dydyn ni ddim

Maen nhw/Dydyn nhw ddim

  • Nhw yn lle ‘hwy’.
  • Arddodiaid: ata i, atat ti, ato fe, ati hi, aton ni, atoch chi, atyn nhw
  • Yma – mae’n iawn defnyddio ‘yma’ weithiau yn hytrach na ‘hwn’, ‘hon’ neu ‘hyn’ (ee, yr wythnos yma).
  • Mae modd defnyddio ‘sydd ddim/sydd heb’ yn lle ‘nad ydynt’, er mwyn sicrhau eglurder, ee, ‘i’r rhai sydd heb fod i’r atyniad, yn lle ‘i’r rhai nad ydynt wedi bod i’r atyniad.

Dolenni: Pan geir dolen i wefan neu ddogfen ar y rhyngrwyd yn y fersiwn Saesneg, mae angen gwirio a oes un cyfatebol yn y Gymraeg a chynnwys honno.

etc: Peidiwch â defnyddio ‘ayb’ neu ‘ayyb’. Gallwch ddefnyddio etc neu ac yn y blaen neu ac ati yn llawn.

fe’i: Nid oes angen treiglo ar ôl fe’i: fe’i gwelwyd e, nid ‘fe’i welwyd e’. Ond mae angen ychwanegu ‘h’ o flaen llafariaid: ‘fe’i hanafwyd e’.

Frequently Asked Questions (FAQs): Cwestiynau Cyffredin (nid ‘Cwestiynau a Ofynnir yn Aml)

Gwrywaidd/benywaidd?

Mae’n hawdd drysu rhwng pa eiriau sy’n fenywaidd a pha eiriau sy’n wrywaidd. Cofiwch wirio. 

i mewn – nid ‘i fewn’

lle/ble – defnyddir ‘ble’ (sef ‘pa le’) i ofyn cwestiwn: Ble alla i weld y ffilm?

Defnyddir ‘lle’ mewn brawddeg er enghraifft: Y dref lle mae’r siopau gorau.

maen nhw – nid ‘mae’n nhw’ na ‘mae nhw’

nepell – mae angen defnyddio’r negydd gyda’r ansoddair ‘nepell’. Er enghraifft:

Yng Nhwmffrwd roedd e’n byw, nid nepell o Gaerfyrddin.

Nid yw’r orsaf nepell o ganol y dref.

pobl – defnyddiwch pobl yn lle ‘personau’ am ‘persons’.

Tafodiaith

Mae tafodiaith yn amrywio’n fawr o un ardal i’r llall. Mae’n bwysig safoni a cheisio defnyddio geirfa nad yw’n ffafrio un rhan o Gymru yn ormodol heblaw eich bod yn cyfleu llais rhywun mewn cyfweliad neu’n dyfynnu rhywun mewn erthygl.

Treiglo

bod – does dim angen treiglo ar ôl berfenw, ee credu bod, dweud bod.

Does dim angen treiglo ar ôl y canlynol: er bod, rhaid bod, oherwydd bod.

Mae angen treiglo ar ôl efallai: efallai fod

enwau sefydliad neu frand – does dim rheolau cadarn, ond dyma’r hyn rydym yn ei argymell:

  • Ceisio osgoi’r broblem, drwy aildrefnu’r frawddeg neu roi enw o flaen yr enw priod: Cafodd y noson ei threfnu gan elusen Tŷ Hafan
  • Treiglo enwau sy’n dechrau â disgrifiad, ee cymdeithas, parc:

Mae’n gweithio i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

  • Peidio â threiglo enwau nad ydynt yn dechrau â gair disgrifiadol:

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ganolfannau ymwelwyr ym mhob cwr o Gymru

  • Peidio â threiglo enwau masnachol a brandiau:

Mae cangen newydd o Tesco wedi agor ar y stryd fawr

‘ll’ a ‘rh’ – nid oes angen treiglo ‘ll’ a ‘rh’:

  • ar ôl ‘y’ – y llwyfan, y rhodfa
  • ar ôl ‘un’ – un llwy, un rhosyn
  • ar ôl ‘yn’ – yn llwyddiannus, yn rhydlyd
  • ar ôl ‘mor’ – mor llewyrchus, mor rhwydd

neu – nid yw ffurfiau cryno berfau’n treiglo ar ôl ‘neu’: galwch heibio neu trefnwch gyfarfod

unrhywunrhyw beth, unrhyw un, nid ‘unrhywbeth’, ‘unrhywun’

defnyddiwch: nid oedd neb wedi gwneud cwyn

yn hytrach na: nid oedd unrhyw un wedi gwneud cwyn

Model cymdeithasol anabledd

Yn Croeso Cymru rydym ni’n defnyddio model cymdeithasol anabledd o ran iaith ac arfer.

Seiliwyd y dull hanesyddol o ymdrin ag anabledd yn y DU ar y Model Meddygol o Anabledd (ble gwelir amhariad person fel y peth sy’n eu hanablu). Mae Model cymdeithasol anabledd yn gwahaniaethu rhwng ‘amhariad’ ac ‘anabledd’. Mae’n cydnabod bod pobl ag amhariadau’n cael eu hanableddu gan rwystrau cyffredin mewn cymdeithas.

I’w roi’n syml, mae Model Cymdeithasol Anabledd yn dweud wrthym y gall fod gan unigolion amhariad neu wahaniaeth, ond mai cymdeithas sy’n peri iddynt fod yn anabl drwy gyfrwng y rhwystrau caiff eu rhoi o’u blaenau. Er enghraifft:

  • Bydd person ag amhariad symudedd sy’n defnyddio cadair olwyn yn cael ei anableddu gan adeilad nad yw’n cynnwys lifftiau, rampiau na thoiledau hygyrch.

Terminoleg gysylltiedig

Amhariad yw’r peth am rywun sy’n wahanol. Nid yw amhariad ac anabledd yn golygu’r un peth.

Anabledd yw’r pethau y mae cymdeithas, yr amgylchedd, neu bolisi yn ei wneud i berson ag amhariad, sy’n eu rhoi dan anfantais.

Defnyddiwch amhariad anweledig yn hytrach nag anabledd anweledig.

Defnyddiwch 'person nad yw’n anabl' yn hytrach na 'pherson abl'.

Defnyddiwch anghenion addysgol ychwanegol neu anghenion mynediad (gan ddibynnu ar y cyd-destun) yn lle anghenion arbennig.

Peidiwch â defnyddio bregus i gyfeirio at bobl ag amhariad (‘pobl anabl’). Gall unrhyw un ddod yn fregus am resymau gwahanol ar adegau amrywiol yn eu bywydau. Disgrifir pobl ag amhariad fel bregus yn aml, ac mae hyn yn aml yn anghywir, ac nid yw’n gwneud dim i hybu cydraddoldeb.

Defnyddio terminoleg Model Meddygol

Mae’n bosib y gwelir termau Model Meddygol o Anabledd ar ein gwefannau. Byddwn ni’n defnyddio’r rhain i helpu pobl ddarganfod y cyd-destun y maen nhw’n chwilio amdano wrth chwilio am rai termau. Er enghraifft, efallai y byddwn ni’n dal i ddefnyddio ymadroddion fel ‘gwyliau i bobl anabl’ mewn erthygl neu ei feta ddata am mai dyna mae pobl yn chwilio amdano wrth ddefnyddio safleoedd chwilio.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chyngor ar dudalen gwe Model Cymdeithasol Anabledd Anabledd Cymru.

Gallwch hefyd wylio animeiddiad 'Let's Raise the Roof' sy’n darlunio’r Model Cymdeithasol o Anabledd.

Pellterau

Rydym ni’n defnyddio systemau ymerodrol a metrig wrth sôn am bellterau. Dyma’r arferiad:
Byddwn ni’n defnyddio milltiroedd yn hytrach na chilomedrau, ond ble bo’n bosib, ychwanegwch y trosiad i km mewn cromfachau ar ôl milltiroedd i’w gwneud hi’n haws i ymwelwyr ddeall y pellter. Er enghraifft: 50 milltir (80 km).

Byddwn ni’n defnyddio metrau ar gyfer pellterau llai.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ysgrifennu milltiroedd / metrau / miliynau fel geiriau llawn i osgoi dryswch. Gellir talfyrru mesuriadau eraill, cyhyd â’i bod eu hystyr yn glir (er enghraifft - km ar gyfer cilometrau).

Penawdau

Oni bai eich bod yn enwi peth ag enw, ee. Llwybr Arfordir Cymru, defnyddiwch arddull brawddeg ar gyfer pob teitl gan gynnwys:

  • Teitlau golygyddol
  • H1
  • H2 / H3 (teitlau ar y dudalen)
  • Teitlau tudalen tag meta

Rhowch eich geiriau allweddol tua’r dechrau a cheisiwch gadw penawdau’n fyr (llai na 75 nodyn os yw’n bosib).

Derbyniol: Yn dod cyn bo hir i Gaerdydd: Cynghrair Pencampwyr UEFA

Gwell: Cynghrair Pencampwyr UEFA’n dod i Gaerdydd cyn bo hir.

Defnyddir ffont Cymru ar draws pob teitl ar safle Croeso.Cymru. Ar ein safleoedd mewn ieithoedd eraill dylai gael ei ddefnyddio ar gyfer geiriau Cymraeg mewn penawdau H2. Ni ddylid ei ddefnyddio ar gyfer penawdau H3 ar y safleoedd hyn, na mewn copi cyffredin.

 

Priflythrennau

Defnyddir priflythrennau ar gyfer:

  • enwau sefydliadau (Llywodraeth Cymru, Croeso Cymru);
  • llyfrau, ffilmiau, gwaith celf. Dylid ysgrifennu teitlau llyfrau a ffilmiau mewn italig ond NID YDYM yn ysgrifennu teitlau cylchgronau mewn italig (Conde Nast Traveller);
  • enwau sefydliadau i ddechrau (Amgueddfa Genedlaethol Cymru) ond wedyn bydd y testun dilynol yn sôn am yr amgueddfa;
  • rhanbarthau Cymru, Y Canolbarth, y Gogledd, y De (noder does dim angen ychwanegu Cymru yn y Gymraeg oni bai bod amwysedd). Ond llythyren fach wrth siarad yn gyffredinol am ardal ddaearyddol, ee gogledd Ceredigion;
  • cestyll a henebion: Castell Rhaglan, ond y castell yn Rhaglan.

Nid oes angen priflythrennau ar gyfer:

  • maes awyr (heblaw mewn teitl, er enghraifft Maes Awyr Caerdydd, ond y maes awyr ger Caerdydd);
  • nodweddion daearyddol: afon, ynys, penrhyn oni bai mai enw penodol ar le neu ardal ydyw;
  • pdf nid PDF;
  • y tymhorau: gwanwyn, haf, hydref (ond mis Hydref), gaeaf.

Rhanbarthau Cymru

Dylai rhanbarthau Cymru - De Cymru, Canolbarth Cymru, Gogledd Cymru a Gorllewin Cymru fod mewn prif lythrennau bob amser, ac ni ddylid defnyddio heiffen.

Ni ddylid defnyddio prif lythrennau wrth ddefnyddio rhanbarthau fel pwyntiau ar y cwmpawd e.e. ‘gyrru tua’r gogledd ar Ffordd Cambria’. Mae cyfeiriadau trefniannol mewn llythrennau bach ac wedi’u hysgrifennu’n llawn; gogledd-ddwyrain, de-ddwyrain, de-orllewin a gogledd-orllewin. Nid Gogledd Ddwyrain na GDd. E.e. I’r de-orllewin mae Fforest Fawr.

I bwrpasau ein gwefannau, rhennir pedwar rhanbarth Cymru yn ôl yr ardaloedd marchnata twristiaeth fel a ganlyn:

Mae Gogledd Cymru’n cynnwys -

  • Llandudno a Bae Colwyn
  • Gogledd Ddwyrain Cymru
  • Mynyddoedd Eryri a’r Arfordir
  • Ynys Môn

Mae Canolbarth Cymru’n cynnwys -

  • Ceredigion/ Bae Ceredigion
  • Canolbarth Cymru a Bannau Brycheiniog

Mae Gorllewin Cymru’n cynnwys -

  • Sir Gaerfyrddin
  • Sir Benfro
  • Bae Abertawe, y Mwmbwls, Penrhyn Gŵyr, Afan a Chwm Nedd

Mae De Cymru’n cynnwys

  • Caerdydd (prifddinas Cymru)
  • Cymoedd De Cymru
  • Dyffryn Gwy a Dyffryn Wysg
  • Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Rhifau

Dyddiadau: Y drefn ar gyfer dyddiadau yw: 1 Ionawr 2020 (dim coma), nid ‘1af Ionawr 2020’ na ‘Ionawr 1, 2020.

Cyn 2000, defnyddiwch ym 1999 ac yna ar ôl 2000: yn 2001.

Cofiwch hefyd mae’n anghywir defnyddio’r arddodiad ‘ar’ wrth gyfeirio at ddiwrnod penodol: Cynhelir y sioe ddydd Sadwrn 12 Hydref.

(Ond wrth gyfeirio at ddiwrnod cyffredinol, mae angen ‘ar’: cynhelir y farchnad ar ddydd Gwener (hynny yw, bob dydd Gwener, neu unrhyw ddydd Gwener).

Nid oes angen y priflythyren yn ‘Ddydd’, ee: ‘Cynhelir y gwasanaeth ddydd Gwener, 30 Mai’, nid ‘Cynhelir y gwasanaeth Ddydd Gwener, 30 Mai’.

Ysgrifennwch enwau canrifoedd fel ‘21ain ganrif’ nid yn llawn ee yr unfed ganrif ar hugain.

Degawdau: Rhowch rifolion ar gyfer degawdau ond geiriau ar gyfer cyfnodau:

Y 1960au, nid ‘y 60au’, nac ‘y chwedegau’.

‘dyn yn ei bumdegau’

Rhifau: Wrth ysgrifennu, rhowch y rhifau ‘un’ i ‘naw’ mewn geiriau a defnyddiwch rifolion ar gyfer y rhifau o 10 ymlaen, heblaw am bellteroedd, pwysau, mesuriadau a dyddiadau. Felly: dau fachgen; plant o dan bump OND 3 milltir, 1km, 8kg.

Serch hynny, dylech ysgrifennu ‘rhwng 8 ac 16 oed’ nid ‘rhwng wyth ac 16 oed’.

Peidiwch â dechrau brawddeg gyda rhifolyn, defnyddiwch y gair ei hun: Ugain mlynedd yn ôl.

Miliwn a biliwn: Defnyddiwch rifolion gyda miliwn a biliwn, ee 5 miliwn, £1 biliwn. Mae angen gofal wrth drafod miliynau a biliynau er mwyn osgoi amwysedd wrth dreiglo’n feddal. Peidiwch felly â threiglo ‘biliwn’, ee £1 filiwn, £1 biliwn.

y tair’, ‘y pedair’ sy’n gywir – does dim treiglad.

Ffracsiynau: Mewn testunau nad ydynt yn rhai mathemategol, gallwch ysgrifennu ffracsiynau syml yn llawn, ond defnyddiwch rifolion ar gyfer ffracsiynau mwy cymhleth ee dwy ran o dair, un o bob chwech, 5½, 7⅛

Y cant: Defnyddir ‘y cant’ yn y testun, byth %

Amser: Defnyddiwch am a pm, nid ‘yb’ ac ‘yp/yh’; 10am, ac nid 10 am.

Hanner dydd a hanner nos (nid 12am na 12pm)

Mae’r wythnos yn dechrau ar ddydd Llun, ond mae straeon a gaiff eu cyhoeddi ar ddydd Sul yn cyfeirio at yr wythnos i ddod fel ‘yr wythnos hon’.

Adnoddau pellach

Straeon cysylltiedig